Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Chwefror, 2015 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn:

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Owain Jones ddatganiad o ddiddordeb yng nghais 12.1.

 

Gwnaeth y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddatganiadau o ddiddordeb mewn perthynas â chais 6.3 oherwydd y cyfeiriad at Dyrbinau Gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru ond dywedasant y byddant yn cadw meddwl agored mewn perthynas â’r cais.

3.

Cofnodion Cyfarfod 7 Ionawr, 2015 pdf eicon PDF 316 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2015.

4.

Ymweliad Safle 21 Ionawr, 2015 pdf eicon PDF 67 KB

Cyflwyno cofnod o’r ymweliad safle a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2015.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2015.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod siaradwyr cyhoeddus wedi cofrestru i siarad ar gais 12.5.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 469 KB

6.1  33C304B/ECON – Cyffordd 7 o’r A55 wrth ymyl Cefn Du, Gaerwen

 

6.2  34C553ATy’n Coed, Llangefni

 

6.3  41C66G/RE – Marchynys, Penmynydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 – 33C304B/ECON - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer dymchwel y fferm bresennol, codi parc gwyddoniaeth, creu maes parcio ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yng Nghyffordd 7 yr A55 (ger Cefn Du), Gaerwen.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2       34C553A -  Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.3 41C66G/RE - Cais llawn ar gyfer codi un tyrbin gwynt gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 24.8m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 19.2m ac uchder blaen unionsyth hyd at uchafswm o 34.5m, creu trac mynedfa ynghyd â chodi cabinet storio offer ar dir yn Marchynys, Penmynydd.

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.

Ceisiadau'n Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw gais yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw gais yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw gais yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau sy'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw gais yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 198 KB

11.1  14C164E – Tryfan, Trefor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1    14C164E – Cais llawn i godi pâr o anheddau, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc trin carthffosiaeth ar dir ger Tryfan, Trefor.

 

Cyflwynir adroddiad ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mae’r ymgeisydd yn gyfaill iswyddog perthnasolfel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan y paragraff hwnnw.

 

Dyweodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor y cafwyd llythyr arall o wrthwynebiad gan ddeiliaid yr annedd gyfagos ond nad ydynt yn codi unrhyw faterion nad ydynt eisoes wedi cael sylw yn yr adroddiad ysgrifenedig.  Dywedodd y Swyddog bod y materion allweddol sy’n gysylltiedig â’r cais yn ymwneud â chydymffurfiaeth â pholisïau cyfredol; ei effaith ar eiddo cyfagos; ei effaith ar y dirwedd o’i amgylch a diogelwch ar y ffordd fawr. Cafodd y cais ar ei ffurf amlineddol ei ganiatáu ym mis Medi 2014 ac oherwydd na fu unrhyw newidiadau o bwys ers hynny, mae’n cwrdd â’r gofynion o ran polisi. Ni ystyrir y byddai’r cynnig yn cael unrhyw effaith arwyddocaol ar fwynderau eiddo cyfagos oherwydd tybir bod y datblygiad fel y caiff ei gynnig yn ddigon pell oddi wrth yr eiddo hynny ac ni fyddai ychwaith yn niweidio’r ardal o’i gwmpas. Mae’r Gwasanaeth Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon gyda’r cynnig o ran diogelwch ar y ffyrdd ac mae’r argymhelliad felly’n un o ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1  17CC44M/MIN – 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan

 

12.2  19C608PTyddyn Bach, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

 

12.3  19C1147St.David’s Priory, Ffordd Llanfawr, Caergybi

 

12.4  24C268F/VAR – Plot 1 Glanllyn, Cerrigman, Penysarn

 

12.5  31C419AHafod y Bryn, Llanfairpwll

 

12.6  33LPA995/CC – Tyddyn Rhydd, Pentre Berw

 

12.7  34LPA791C/CC/ECON – Canolfan Fusnes Môn, Llangefni

 

12.8  36C32QLlys Tregeirian, Llangristiolus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    17C44M/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol  dan ganiatâd cynllunio 17C44J i amrywio amod (10) fel y gellir cyflwyno manylion am sgrîn ar gyfer y balconi cyn bod neb yn symud i fyw yn yr annedd yn 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan.

 

Cyflwynir adroddiad ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd Lewis Davies, fel Aelod Lleol.

 

Gan fod y Cynghorydd R O Jones wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Oherwydd pryderon yn ardal Llandegfan, dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies yr hoffai i’r Pwyllgor ymweld â’r safle fel y gallai’r Aelodau weld effaith y cynnig ar ddeiliaid eiddo cyfagos ac ar fwynderau’r ardal a gwnaeth gynnig i’r perwyl hwnnw ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad cais am ganiatâd cynllunio oedd hwn ond, yn hytrach, gais dan Adran 96A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 am fân newid i gynllun a gymeradwywyd eisoes dan ganiatâd cynllunio 17C44J i godi annedd; felly, nid oedd rhinweddau’r cais ar gyfer codi’r annedd neu ddarparu balconi dan drafodaeth ac ni fedrir eu hailasesu. Proses newydd yw hon ar gyfer delio gyda mân newidiadau i gynlluniau sydd wedi cael eu cymeradwyo’n barod a chais yw hwn i ddiwygio gofynion amod (10) y caniatâd cynllunio fel y gellir cyflwyno manylion am ddull sgrinio’r balconi cyn i neb symud i mewn i’r annedd yn hytrach na chyn cychwyn ar y gwaith adeiladu fel y nodwyd yn yr amod gwreiddiol. Mae’r gwaith datblygu wedi cychwyn o ran codi’r annedd a hynny heb yn gyntaf gyflwyno cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a chael ei ganiatâd o ran manylion sgrinio’r balconi a hynny’n groes i amod (10). Ym marn y Swyddog, nid oedd unrhyw faterion o ran preifatrwydd ac edrych drosodd yn debygol o ddigwydd hyd oni fydd yr annedd wedi’i chwblhau a rhywun yn byw ynddi ac o’r herwydd, ystyrir bod diwygio geiriad yr amod yn unol â’r cais yn rhesymol ac yn dderbyniol ac ni fydd yn arwain at unrhyw newid mawr i’r cynllun a gymeradwywyd eisoes. O’r herwydd, roedd yr argymhelliad yn un i gymeradwyo’r cais. Fodd bynnag, os oedd y Pwyllgor am ymweld â’r safle, yna dylai’r ymweliad hwnnw fod ar sail y cais fel y cafodd ei gyflwyno ac nid ar sail y cais gwreiddiol.

 

Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn cytuno gyda’r Swyddog ac o’r farn na fyddai unrhyw bwrpas defnyddiol i ymweliad safle gan mai cais ydoedd hwn am fân newid i’r caniatâd gwreiddiol. Cynigiodd y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies drachefn ei fod o’r farn ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor ymweld â’r safle i weld yr effaith wirioneddol a gaiff y balconi ar fwynderau eiddo cyfagos ac effeithiau caniatáu’r cynnig hwn yn y lle cyntaf oherwydd yr oedd ef o’r farn y câi’r balconi effaith negyddol ar ddeiliaid eiddo  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.