Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Mawrth, 2015 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

To receive any declartion of interest by any Member or Officer in respect of any item of business.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-

 

Datganodd y Cynghorydd R. O. Jones ddiddordeb mewn cysylltiad â cheisiadau 7.1 a 10.1.

 

Datganodd y Cynghorydd T. V. Hughes a’r Cynghorydd W. T. Hughes ddiddordeb yng nghyswllt cais rhif 12.3.

 

Datganodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddiddordeb yng nghyswllt cais 7.4 oherwydd y cyfeiriad at Dyrbinau Gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru ond dywedodd pob un ohonynt y byddent yn cadw meddwl agored mewn perthynas â’r cais.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 203 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2015.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 19 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safleoedd a gafwyd ar 18 Chwefror, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2015.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd bod aelodau o’r cyhoedd yn dymuno siarad yng nghyswllt ceisiadau 7.2 a 7.4

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 278 KB

6.1  33C304B/ECON – Cyffordd 7 o’r A55 wrth ymyl Cefn Du, Gaerwen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 33C304B/ECON – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer dymchwel y fferm bresennol, codi parc gwyddoniaeth, creu maes parcio ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yng Nghyffordd 7 yr A55 ger Cefn Du, Gaerwen

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 895 KB

7.1  17C44M/MIN – 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan

7.2  31C419A – Hafod y Bryn, Llanfairpwll

7.3  34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

7.4  41C66G/RE – Marchynys, Penmynydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 7.1  17C44M/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol dan ganiatád cynllunio 17C44J i amrywio amod (10) fel y gellir cyflwyno manylion mewn perthynas â’r sgrîn ar gyfer y balconi cyn bod neb yn byw yn yr annedd yn 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan

 

          Roedd y Cynghorydd R. O. Jones wedi datgan diddordeb yn y cais hwn; aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno.

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd Lewis Davies fel Aelod Lleol.   Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2015 fe benderfynwyd ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 18 Chwefror 2015.

 

          Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn dan Adran 96A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i wneud newid nad oedd yn un sylweddol i gynllun a gafodd ei ganiatáu yn flaenorol dan gais cynllunio rhif 17C44J i godi annedd.

 

          Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn credu ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn gweld y safle er mwyn gwerthuso effeithiau’r cynnig ar fwynderau eiddo cyfagos.  Dywedodd na fyddai’n pleidleisio ar y cais hwn ac roedd yn credu bod yr annedd yn un sylweddol o ran maint a’i bod yn cael effaith ar anheddau cyfagos.

 

          Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2   31C419A – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 2 annedd ar dir yn Hafod y Bryn, Llanfairpwll

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd A. M. Mummery fel Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2015, fe benderfynwyd ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 18 Chwefror 2015.

 

          Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Gerallt Parry i siarad gerbron y cyfarfod fel un oedd yn gwrthwynebu’r cais.  Gwnaeth Mr. Parry y pwyntiau canlynol:

 

·         Cafodd cais tebyg i godi dwy annedd ei wrthod ym mis Hydref 2014 oherwydd materion priffyrdd.

·         Mae’r cul-de-sac yn Trem Eryri yn gul a byddai adeiladu 2 annedd arall yn cynhyrchu mwy o broblemau traffig.  Mae lorïau sbwriel eisoes yn gorfod mynd ar y palmant i basio cerbydau sydd wedi parcio yno.

·         Mae dau lecyn parcio i’r anabl yn Trem Eryri a byddai’r cynnydd mewn traffig yn achosi problemau traffig yn y stad.

·         Byddai’r datblygiad ar lefel uwch ac ni fyddai’n gweddu gyda’r anheddau presennol.

·         Mae mynedfa yn barod ar gyfer yr annedd yn Hafod y Bryn ac fe ddylai’r datblygiad ddefnyddio’r fynedfa hon yn hytrach na mynd trwy stad Trem Eryri.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor holi Mr. Parry.  Holodd y Cynghorydd Lewis Davies a fyddai cerbydau argyfwng yn ei chael yn anodd i gael i mewn i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 390 KB

10.1  24C288B – Hafod y Grug, Penysarn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  10.1  24C288B – Cais llawn i ail-leoli'r annedd a gymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio rhif 24C288A ynghyd â newidiadau i edrychiad yr annedd ar dir ger Hafod y Grug, Penysarn

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond gallai gael ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

          Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr annedd wedi ei chodi i lefel y slab pan gynhaliwyd ymchwiliad yr Adran i anghysonderau o safbwynt ei osodiad.  Roedd lefel y llawr wedi ei ostwng gan tua 1 metr oddi wrth Hafod y Grug o gymharu â’r annedd a ganiatawyd yn flaenorol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd T. V. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 996 KB

12.1  25C247 – Cae Tan Parc, Stryd Coedwig, Llanerchymedd

12.2  33C295B – 4 Nant y Gors, Pentre Berw

12.3  33C3036 – Ysgol Esgeifiog Gaerwen, Lôn Groes, Gaerwen

12.4  34LPA1006A/CC – Fflatiau Glan Cefni, Llangefni

12.5  45C452 – Stâd Berllan, Llangaffo

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  25C247 – Cais llawn i greu llwybr troed o gwmpas y cae pêl droed presennol yn Cae Tan Parc, Coedwig Street, Llannerch-y-medd

           

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y safle ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. V. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd wedi’u rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  33C295B - Cais llawn i godi annedd newydd ynghyd ag addasu'r fynedfa bresennol ar dir ger 4 Nant-y-Gors, Pentre Berw

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

          Cynigiodd y Cynghorydd T. V. Hughes fel Aelod Lleol y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Pwyllgor weld y fynedfa i’r safle.  Eiliodd y Cynghorydd R. O. Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais  yn unol â chais gan Aelod Lleol.

 

12.3  33C306 – Cais llawn i godi adeilad ysgol meithrinfa/cylch/clwb ar dir yn Ysgol Esceifiog, Gaerwen, Lôn Groes, Gaerwen

 

          (Datganodd y Cynghorwyr T. Victor Hughes ac W. T. Hughes ddiddordeb a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater).  Aeth yr Is-Gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y safle ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r defnydd o’r tir gyda’r cais hwn ond ers paratoi’r adroddiad, mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am fwy o wybodaeth yng nghyswllt y cynnydd yn lefel y traffig i’r safle.  Awgrymodd y gallai’r Pwyllgor roi hawl i weithredu i’r swyddogion i drafod pryderon yr Awdurdod Priffyrdd.

 

          Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu gan roi hawl i weithredu i’r Swyddogion i drafod pethau ymhellach gyda’r Awdurdod Priffyrdd.  Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl  i weithredu i’r Swyddog yn dilyn ymgynghori gyda’r Awdurdod Priffyrdd ynglŷn â lefel y traffig a fyddai’n mynd i mewn i’r safle.

 

12.4  34LPA1006A/CC – Cais llawn ar gyfer altro ac ehangu, dymchwel y modurdy presennol, codi modurdy newydd ynghyd â gwaith tirlunio yn Fflatiau Glan Cefni, Llangefni

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y safle ar dir y Cyngor.

 

          Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am i Gynllun Rheoli Traffig gael ei atodi i’r cais. 

 

          Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  45C452 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa ar dir ger Stad Berllan, Llangaffo

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 271 KB

13.1     37LPA857A/CC – Fodol, Llanedwen

 

13.2    Rhybudd Trwsio a Phryniant Gorfodol – Hen Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mewn perthynas â’r uchod.

 

13.3      Gorchymyn Rheoli Traffig (Amryfal Leoliadau yn Llangefni) 2015 Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Beiriannydd mewn perthynas â’r uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  37LPA857A/CC - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer storio bwyd anifeiliaid, gwair a pheiriannau ar dir yn Fodol, Llanedwen

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio iddo gael ei benderfynu nad oedd angen caniatâd blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y datblygiad uchod a’i fod yn cyfateb i ddatblygiad a ganiateir.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

13.2  Rhybudd Trwsio a Phryniant Gorfodol – Hen Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi

 

          Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Prosiect (Cynllun Treftadaeth Caergybi) mewn perthynas â’r uchod.

 

          Dywedodd y Rheolwr Prosiect (Treftadaeth Caergybi) bod adeilad Neuadd y Farchnad wedi dirywio o ran ei gyflwr ers 2001, fel y cafodd ei fonitro gan arolwg cenedlaethol CADW o adeiladau mewn risg.  Bu’r adeilad yn rhannol wag ers 1999 ac yn hollol wag ers 2005, roedd ei gyflwr yn dirywio’n barhaol a heb gymryd camau mae tebygrwydd y bydd yn dymchwel a hynny’n arwain at golled o ran arwyddocâd a chymeriad yr adeilad.  Nodwyd y bydd y costau sy’n gysylltiedig â’r rhybudd atgyweirio a gorchymyn pryniant gorfodol yn cael ei dalu trwy gyllid Menter Treftadaeth Treflun/Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

 

          Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans bod Neuadd y Farchnad yn adeilad allweddol yng Nghaergybi ac y gadawyd iddo waethygu a’i fod bellach mewn cyflwr peryglus. Roedd yn hollol gefnogol i’r Swyddogion yng nghyswllt y rhybudd atgyweirio a rhybudd pryniant gorfodol wedi hynny i’r perchnogion.

 

          Holodd y Cynghorydd Nicola Roberts pwy fydd yn gorfod cynnal a chadw Neuadd y Farchnad yn y dyfodol gan god y Cyngor eisoes yn gwerthu asedau  Dywedodd y Rheolwr Prosiect mai mater i’r Pwyllgor Gwaith fyddai penderfynu hynny ond mae cynllun cynnal a chadw 25 mlynedd wedi ei gynnwys o fewn cynigion busnes y cynllun ac wedi’u costio’n llawn.

 

          Dywedodd y Cynghorydd T. Ll. Hughes, Aelod Lleol bod Caergybi wedi derbyn grant LlLlLlA o £7m i adfywio’r dref.  Os gadewir i Neuadd y Farchnad ddirywio ymhellach mae’n debygol y bydd yn beryglus i’r cyhoedd.  Roedd y mater wedi codi eisoes yn y dref ac roedd hen Fwyty’r Crown wedi ei gymryd drosodd gan Fenter Treftadaeth Treflun Caergybi oherwydd ei gyflwr gwael.

 

          Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts y byddai’n atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Rhoi’r awdurdod, yn unol ag adran dan 3.4.3.8 y Cyfansoddiad, i’r Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol ar gyfarwyddyd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i brynu’r hen Neuadd y Farchnad (yn amodol ar Weithdrefnau Rheoli Asedau’r Cyngor) gan y perchennog presennol drwy negodi, fel adeilad rhestredig sydd angen ei atgyweirio dan Adran 52 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

·           Rhoi’r awdurdod, yn unol ag adran 3.4.3.8 y Cyfansoddiad, i’r  Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfarwyddiadau’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, i gyflwyno Rhybudd Atgyweirio, dan Adran 48 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ar gyfer cadwraeth briodol hen Neuadd y Farchnad, Caergybi, sef Adeilad Rhestredig Graddfa II.

·           Oni fydd camau rhesymol i fynd i’r afael â'r gwaith yn y Rhybudd Atgyweirio yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.