Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yr ymddiheuriadau fel y nodir hwy uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:-
Gwnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 11.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.
Gwnaeth y Rheolydd Datblygu Cynllunio ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â cheisiadau 11.3 ac 11.5 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arnynt.
Gwnaeth y Swyddog Pwyllgor ddatganiad o ddiddordeb yng nghais 12.5 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.
Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 11.1. Nododd nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Ebrill, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar newid i eiriad 7.2 a 12.2 i nodi fod y Cynghorydd Ann Griffith wedi bod yn siarad fel eiriolydd yn hytrach na chefnogydd i’r ddau gais. |
|
Ymweliad Safleoedd Ni chafwyd ymweliad safleoedd yn dilyn cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymweliadau â safleoedd yn dilyn cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd bod siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â chesiadau 7.1, 7.3, 11.4 a 12.7. |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni oedd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
7.1 33C304B/ECON – Cyffordd 7 o’r A55 wrth ymyl Cefn Du, Gaerwen 7.2 33C295B – 4 Nant y Gors, Pentre Berw 7.3 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 33C304B/ECON – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dymchwel y fferm gyfredol, codi parc gwyddoniaeth, creu maes parcio a mynedfa newydd i gerbydau ar Gyffordd 7 yr A55 (ger Cefn Du), Gaerwen
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Einion Parry Williams, Is-Gadeirydd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ysgeifiog i annerch y pwyllgor fel gwrthwynebydd i’r cais. Dygodd Mr. Williams sylw at bryderon a fynegwyd gan drigolion lleol fel a ganlyn yn ystod cyfarfod cyhoeddus yn y pentref ym mis Chwefror 2015:-
· Lleoliad – bydd yn dinistrio treftadaeth leol pentref Gaerwen; · Carthffosiaeth – dim digon o gapasiti carthffosiaeth ar gael; · Cludiant - byddai’n cael effaith andwyol ar draffig yn y Gaerwen.
Gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor sawl cwestiwn i Mr. Williams er eglurhad mewn perthynas â lleoliad y safle a’r rhesymau pam mae’r trigolion lleol yn gwrthwynebu.
Ymatebodd Mr Williams fod y cais yn golygu dymchwel adeiladau allanol hanesyddol y fferm a bod hynny’n annerbyniol. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau ynghylch materion carthffosiaeth a draenio. Ymatebodd Mr Williams fod y safle’n llawn dop o ddŵr glaw yn ystod tywydd gwlyb a bod y priffyrdd cyfagos yn gorlifo fel arfer ar y fath adegau. Gofynnodd yr Aelodau ragor o gwestiynau mewn perthynas â materion traffig a godwyd gan y trigolion. Ymatebodd Mr Williams trwy ddweud fod traffig trwm yn parhau i fynd trwy bentref Gaerwen er gwaethaf adeiladu’r A55. Nododd bod y Stad Ddiwydiannol yn cynhyrchu traffig di-baid trwy’r pentref.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Pryderi ap Rhisiart annerch y cyfarfod I gefnogi’r cais. Roedd yn cynrychioli Prifysgol Bangor a nododd fod Ms Hayley Knight o Bilfinger GVA ar gael i ateb unrhyw gwestiynau technegol y byddai’r Pwyllgor yn dymuno cael eglurhad yn eu cylch. Dygodd Mr Pryderi ap Rhisiart sylw at y materion a ganlyn:-
· Mae Parc Gwyddoniaeth yn wahanol i barciau busnes a stadau diwydiannol. Mae Parc Gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar rannu cyfleusterau ac yn aml yn denu busnesau bychan a chanolig eu maint h.y. busnesau ymchwil; · Bydd y Parc Gwyddoniaeth yn cynnig cyfleon cyflogaeth i bobl ifanc leol a swyddi o safon; · Fel y rhan fwyaf o Barciau Gwyddoniaeth, byddai gan y cynnig hwn gysylltiadau cryf gyda Phrifysgol Bangor. Bydd y ffocws ar dechnoleg amgylcheddol a sefydliadau carbon isel sy’n adlewyrchu cryfderau’r Brifysgol ynghyd â’r cysylltiadau amlwg gyda Rhaglen Ynys Ynni’r Cyngor; · Dewiswyd y safle oherwydd mai hwn yw’r lleoliad gorau oherwydd maint y tir oedd ar gael a’i agosrwydd i’r A55 a Phrifysgol Bangor. Roedd nifer o safleoedd eraill yn Ynys Môn a Gwynedd wedi cael sylw hefyd. Hwn fydd yr unig safle dynodedig yn Ynys Môn fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol; · Mae nifer o faterion technegol wedi cael eu hasesu’n ofalus sy’n cynnwys priffyrdd, perygl o lifogydd, effaith weledol, ecoleg a’r effaith economaidd. Mae'r Cyngor a’r cyrff statudol wedi derbyn yr adroddiadau technegol; · Er mai cynnig amlinellol yw hwn ar hyn o bryd, ymgynghorwyd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am dy fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
10.1 45C9G – Awel Menai, Penlon, Niwbwrch 10.2 45C207H/VAR – Abernant, Penlon Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 45C9G – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Awel Menai, Penlon, Niwbwrch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Ynys Môn ond yn un y gellir ei gefnogi’n unol â’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod llythyr o wrthwynebiad wedi dod i law gan Gyngor Cymuned Rhosyr wedi i raglen y cyfarfod gael ei chwblhau a bod y llythyr yn sôn am effaith y datblygiad ar yr AHNE a phryderon ynglŷn â’r fynedfa gul i’r safle. Dywedodd bod safle’r cais yn un ‘mewnlenwi’ yn ymyl y rhan honno o’r pentref bychan gwledig sydd wedi ei ddatblygu’n unol â'r ddarpariaeth ym Mholisi HP5.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu pwerau dirprwyedig i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a nodir ac wedi i’r cyfnod ar gyfer hysbysu’r cymdogion ddod i ben ac wedi ystyried unrhyw sylwadau eraill a fydd wedi dod i law erbyn hynny.
10.2 45C207H/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amodau (02) a (03) ar ganiatâd cynllunio cyfeirnod 45C207G (cais amlinellol i godi annedd) er mwyn ymestyn cyfnod amser y caniatâd cynllunio ar dir ger Abernant, Penlon
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Ynys Môn ond yn un y gellir ei gefnogi’n unol â’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais yn un ‘mewnlenwi’ sydd yn ymyl y rhan honno o’r pentref bychan gwledig sydd wedi ei ddatblygu a hynny’n unol â’r ddarpariaeth ym Mholisi HP5. Nid oedd y Cyngor Cymuned Lleol wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Nododd fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle hwn a bod y cais hwn yn gofyn am gael ymestyn cyfnod y caniatâd cynllunio.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD caniatáu pwerau dirprwyedig i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a nodir ac wedi i’r cyfnod ar gyfer hysbysu’r cymdogion ddod i ben ac wedi ystyried unrhyw sylwadau eraill a fydd wedi dod i law erbyn hynny. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 930 KB 11.1 16C197A – Dridwen, Bryngwran 11.2 19C1140/CA/ENF – 4 & 5 Pentre Pella, Mynydd, Caergybi 11.3 23C323 – 1 Penbonc, Talwrn 11.4 33C258C/RUR – Cefn Poeth, Llangefni 11.5 36C338 – Henblas School, Llangristiolus 11.6 48C182A/DA – 2 Bryn Twrog, Gwalchmai Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 16C197A – Cais llawn i ddymchwel y sied bresennol ynghyd â chodi annedd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dridwen, Bryngwran
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Gynghorydd fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Anerchodd y Cynghorydd Dylan Rees y cyfarfod fel Aelod Lleol a gofynnodd am ymweliad safle oherwydd bod deiliaid eiddo cyfagos o’r farn y câi’r cais effaith andwyol ar eu heiddo.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle’n unol â chais yr aelod lleol.
11.2 19C1140/CA/ENF – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle yn 4 a 5 Pentre Pella, Mynydd Twr, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Gynghorydd fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mae eiddo yng nghanol teras yw’r eiddo yn Ardal Gadwraeth ddynodedig Pentre Pella, Caergybi. Mae’r safle hefyd yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gwneir y cais ôl-ddyddiedig ar gyfer dymchwel yn rhannol yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.3 23C323 – Cais llawn ar gyfer gwaith altro ac ehangu yn 1 Penbonc, Talwrn
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn gyfaill agos i berson sy’n gweithio yn yr Adran Gynllunio. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.4 33C258C/RUR – Cais llawn i godi annedd amaethyddol, adeiladu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Cefn Poeth, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn ‘swyddog perthnasol’ fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Miss Alaw Griffith i annerch y cyfarfod fel un sy’n cefnogi’r cais.
Dywedodd Miss Griffith y caniatawyd cais amlinellol ym mis Hydref 2014 a bod egwyddor y datblygiad o’r herwydd, eisoes wedi’i gymeradwyo. Cyflwynwyd y cais llawn i’r Pwyllgor heddiw oherwydd bod mwy o fanylion ar ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |
|
12.1 12C266P/FR – Penrhyn Safnas, Biwmares 12.2 12C266Q/FR – ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Biwmares 12.3 14LPA1010/CC – Cefn Trefor, Trefor 12.4 17C476A – 13 Glyn Garth Court, Glyn Garth 12.5 19C690C – 14 Cae Braenar, Caergybi 12.6 19C1156 – 74 Queens Park, Caergybi 12.7 32C193 – 7 Tre Ifan, Caergeiliog 12.8 34LPA1009/CC – Saith Aelwyd, Rhosmeirch Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 12C266P/FR – Cais llawn i godi is-orsaf newydd ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 12C266Q/FR – Cais llawn i altro’r fynedfa bresennol, ynghyd ag adeiladu maes parcio newydd yn ABC Power Marine, Biwmares
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 14LPA1010/CC – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir yn Cefn Trefor, Trefor
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan yr Awdurdod Lleol a’r Cyngor sydd biau’r tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gwybodaeth ychwanegol wedi dod i law gan yr ymgeisydd a chynigiodd y dylid gohirio’r cais tan y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
12.4 17C476A – Cais llawn i ail-leoli ffenestri yn 13 Glyn Garth Court, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.
Dywedodd yr Is-gadeirydd ei bod yn gwrthwynebu’r cais oherwydd llythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd mewn perthynas â’r cais hwn a nododd y byddai’n pleidleisio yn ei erbyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 19C690C – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ehangu yn 14 Cae Braenar, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr aelod lleol wedi gofyn am ymweliad safle oherwydd materion yn ymwneud ag edrych drosodd, colli preifatrwydd a lefelau amrywiol y tir ar y stad.
Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones y dylid ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle’n unol â chais yr aelod lleol.
12.6 19C1156 – Cais llawn i ymestyn y cwrtil ynghyd â gwaith altro ac ehangu yn 74 Queen’s Park, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid cefnogi’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 32C193 – Cais llawn i ymestyn cwrtil 7 Stad Tref Ifan, Caergeiliog
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Rhoes y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 20C265E/SCR – Gorsaf Bwer Wylfa, Tregele Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 20C265E/SCR – Barn sgrinio ar gyfer codi Canolfan Amgen ar gyfer Rheoli Argyfyngau (AECC) a Labordy Arolwg Lleol (DSL), lleoli is-orsaf drydan a gwaith cysylltiedig ar dir yng Ngorsaf Bŵer Wylfa, Tregele
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er mwyn rhoddi i’r Aelodau’r diweddaraf am yr holl faterion sy’n gysylltiedig â datblygiad Wylfa Newydd.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
|