Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 2ail Mawrth, 2016 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodir yr ymddiheuriadau uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd W.T. Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yng nghais 6.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddatganiadau o ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 6.1 oherwydd y cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym maniffesto Plaid Cymru.  Dywedodd yr Aelodau y byddent yn cadw meddwl agored ac y byddent yn penderfynu pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Ann Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 6.2.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu yng nghais 6.2.  Dywedodd ei bod wedi cysylltu â’r Adain Gyfreithiol am gyngor gan ei bod wedi cael ei lobio gan Aelod Lleol, a gadawodd y cyfarfod yn ystod drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem. 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 231 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar gynnwys rhan yn nodi bod yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ann Griffith wedi gwrthwynebu bod Aelod Lleol yn tynnustumiau’ pan oedd y Pwyllgor yn trafod cais 7.5 – Gorslwyd Fawr, Rhosybol.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 13 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 17 Chwefror, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Chwefror, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd na fyddai unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 201 KB

6.1  20C102L/EIA/RE – Fferm Wynt Rhyd y Groes,  Rhosgoch

6.2  44C320Gorslwyd Fawr, Rhosybol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  20C102L/EIA/RE – Cais llawn i godi 13 o dyrbinau gwynt gyda 9 tyrbin gwynt 900kw hyd at 55m o uchder at yr hwb, rotor o hyd at 52m ar ei draws, ac uchder i ben y llafn o hyd at 79m, a 4 tyrbin gwynt 900kw hyd at 45m o uchder at yr hwb, rotor o hyd at 52m ar ei draws ac uchder i ben y llafn o hyd at 70m, ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i'r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrid (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt bresennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2  44C320 – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar dir ger Gorslwyd Fawr, Rhosybol.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ar gais yr ymgeisydd gan eu bod yn dymuno ystyried materion a godwyd yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Chwefror, 2016.

 

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 499 KB

7.1  14C171H/ENF – Fferm Stryttwn, Ty’n Lon

7.2  28C116U – Canolfan Arddio Maelog, Llanfaelog

7.3  39C561/FR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  14C171H/ENF – Cais ôl-weithredol i godi llety gwyliau o’r newydd yn Ffarm Stryttwn, Ty’n Lôn.

 

Adroddir ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror 2016, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm ei fod yn ystyried bod y caniatâd presennol ar y safle i greu uned breswyl ar yr un ôl-troed â’r cynnig presennol yn gorbwyso’r polisïau a’r canllawiau penodol y mae swyddogion wedi eu defnyddio i asesu’r cais. Ni fyddai’r effaith ar yr amgylchedd yn ddim mwy na phetai’r adeilad presennol wedi cael ei addasu a’i ymestyn, fel y cymeradwywyd yn flaenorol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE, fel Aelod Lleol, ac fel yr oedd wedi’i adrodd yn y cyfarfod blaenorol, fod yr ymgeisydd wedi gweithredu yn unol â chyngor swyddog proffesiynol i gario ymlaen gyda’r gwaith ar ôl i’r wal stabl gwympo yn ystod gwaith adeiladu. Cyfeiriodd at y ffaith nad yw’n ystyried bod y cais yn ddim gwahanol i’r hyn y rhoddwyd caniatâd iddo’n flaenorol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig. 

 

Yn dilyn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

7.2  28C116U – Cais dan Adran 73 i amrywio rhag-amodau (05), (06), (11), (12), (13), (14), (15) ar benderfyniad apêl rhif cyfeirnod APP\6805\A\07\2053627 fell y gellir eu rhyddhau ar ôl cychwyn gwaith ar y safle ynghyd â dileu amod (16) yng Nghanolfan Arddio Maelog, Llanfaelog.

 

Adroddir ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror 2016, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm bod angen amlwg am dai fforddiadwy yn yr ardal leol ac nad yw’r achos a roddwyd ymlaen gan yr ymgeisydd yn ateb yr angen hwn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio eu bod wedi derbyn gohebiaeth oddi wrth asiant yr ymgeisydd yn datgan y byddent yn apelio yn erbyn y penderfyniad petai’r cais yn cael ei wrthod. Nododd ymhellach fod yr Ymgynghorydd Tai Fforddiadwy wedi cadarnhau, yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn y Gwerthusiad Hyfywedd, fod yr ymgeisydd wedi profi’n ddigon da na fyddai’r datblygiad yn hyfyw petai’r gofyniad i ddarparu 30% o dai fforddiadwy yn aros.

 

Dywedodd y Cynghorydd R.A. Dew, Aelod Lleol, nad oedd yn gwrthwynebu i amrywio rhag-amodau (05), (06), (11), (12), (13), (14), (15) ar benderfyniad apêl cyfeirnod APP/6806/A/07/2053627 fel y gellir eu dileu. Fodd bynnag, roedd yn gwrthwynebu’r cais i dynnu’r amod mewn perthynas â 30% o dai fforddiadwy. Pwysleisiodd bod angen dybryd am dai fforddiadwy yn yr ardal.

 

Cytunodd aelodau’r Pwyllgor y dylai elfen tai fforddiadwy y cais aros, ond roeddent yn cytuno na ddylid herio’r cais i amrywio’r rhag-amodau eraill petai’r ymgeisydd yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

9.

Ceisidadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

10.

Ceisiadau’n Gwyro pdf eicon PDF 358 KB

10.1  38C223A – Pen y Bont, Ffordd y Mynydd, Llanfechell

10.2  41C132/RUR – Cae Isaf, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  38C223A – Cais llawn i godi 21 o anheddau ar dir ger Pen y Bont, Ffordd y Mynydd, Llanfechell

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i bolisi ond yn gais y dymuna’r Awdurdod Cynllunio Lleol ei gymeradwyo, ac fe’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor hefyd ar gais Aelod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn ffurfio rhan o’r cae a oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio’n flaenorol am 19 o anheddau. Bydd y rhan sy’n weddill o’r cae yn cael ei ddatblygu ar gyfer 7 o anheddau fel y cymeradwywyd yn flaenorol. Bydd safle’r cais presennol am 21 uned ar dir sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio ac a fyddai wedi cynnwys 12 o unedau fel rhan o gynllun blaenorol. Bydd gan y cynllun felly 28 o unedau ar y safle cyfan gyda’r gofyn i ddarparu 9 o unedau fforddiadwy. Mae’r ymgeisydd wedi cynnwys lle parcio i 5 o geir ar hyd y briffordd i helpu tagfeydd traffig wrth yr ysgol, a bydd llwybr troed yn cael ei adeiladu hefyd.

 

Nododd y Cynghorydd Llinos M. Huws, Aelod Lleol, y bu pryderon difrifol yn y gymuned leol ynglŷn â’r cais hwn yn 2008 pan gafodd y cais cyntaf ei gyflwyno, gan eu bod yn ystyried nad oedd unrhyw ofyn am ddatblygiad o’r fath ym mhentref Llanfechell. Mae’r cais bellach am 28 o anheddau ac ystyrir y bydd hyn yn estyniad niweidiol i bentref bychan fel Llanfechell. Mae gan y Cyngor Cymuned bryderon difrifol am yr effaith ar ysgol y pentref gan fod y safle yn ffinio â’r ysgol; mae pryderon wedi’u mynegi hefyd ynglŷn â’r effaith ar yr iaith Gymraeg.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Griffith, Aelod Lleol, at bryderon y Cyngor Cymuned ynghylch y cais hwn a’r cais yn 2008 oherwydd yr angen yn yr ardal am ddatblygiad o’r fath. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod wedi adnabod y safle fel safle posib i ddatblygu tai.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  41C132/RUR – Cais llawn i godi dwy annedd amaethyddol, gosod pecyn offer trin carthion ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir yng Nghae Isaf, Pentraeth

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymgeisydd wedi tynnu’r cais yn ôl.

 

Nodwyd bod y cais wedi cael ei dynnu’n ôl.

 

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 249 KB

11.1  19C1175 – 17 Lon Newydd, Llaingoch, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  19C1175 –Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn 17 Lon Newydd, Llaingoch, Caergybi

 

Adroddir ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn berson perthnasol fel y diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben tan 3 Mawrth, 2016. Nid oedd unrhyw sylwadau wedi dod i law hyd yma yn yr adran.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ac i roi’r grym i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 666 KB

12.1  12C390G – 34 Ffordd y Castell, Biwmares

12.2  12C390H/LB – 34 Ffordd y Castell, Biwmares

12.3  19C608R – Tyddyn Bach, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

12.4  34LPA982B/CC – Maes Parcio Iard Stesion, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  12C390G – Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol yn y cefn ynghyd â chodi ystafell gynhyrchu yn ei le yn 34 Stryd y Castell, Biwmares

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y gwaith yn cynnwys dymchwel adeilad sy’n ffinio â therfyn tir sydd ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  12C390H/LB – Cais am ganiatâd adeilad rhestredig i ddymchwel yr adeilad presennol yn y cefn ynghyd â chodi ystafell gynhyrchu yn ei le yn 34 Stryd y Castell, Biwmares

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y gwaith yn cynnwys dymchwel adeilad sy’n ffinio â therfyn tir sydd ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  19C608R – Cais llawn i ddiwygio cynlluniau plotiau 8-17, 29, 31, 37, 38, 44-45, 52-56, 72-74, 78, 82-83, 85-87, 89, 92, 96, 101-122 ynghyd â newid cynllun y maes parcio o’r cais a gymeradwywyd yn flaenorol o dan gyfeirnod 19C608K/DA (Cais manwl i godi 123 o dai ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr) ar dir yn Tyddyn Bach, Ffordd South Stack, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn am ddyluniad diwygiedig a mân newidiadau i osodiad y plotiau ar gyfer 59 o’r unedau hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  34LPA982B/CC - Cais i newid defnydd o dir gwag i bum lle parcio ym Maes Parcio Iard y Stesion, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 126 KB

13.1  21C162 – Parciau, Llanddaniel

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  21C162 – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl i godi dwy annedd gyda manylion llawn am y fynedfa ynghyd â dileu defnydd cyfreithlon o dir fel Iard Lo a gymeradwywyd o dan gais cynllunio llawn rhif A/2792 yn Parciau, Llanddaniel

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.