Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Ebrill, 2016 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb isod –

 

Datganodd y Cynghorydd W T Hughes ddiddordeb rhagfarnus yng nghyswllt cais 6.1

 

Datganodd y Cynghorydd Ann Griffith ddiddordeb mewn perthynas â chais 6.1 ar sail y cyfeiriad a wneir at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru. Yn ogystal, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 7.1 a diddordeb personol a rhagfarnus yng nghais 7.2

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb mewn perthynas â chais 6.1 ar sail y cyfeiriad a wneir at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru yn ogystal â diddordeb personol a rhagfarnus yng nghais 7.1

 

Datganodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, a Vaughan Hughes ddiddordeb yng nghyswllt cais 6.1 ar sail y cyfeiriad a wneir at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru.

3.

Cofnodion Cyfarfod 2 Mawrth, 2016 pdf eicon PDF 208 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2ail o Fawrth, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2016 yn amodol ar nodi bod yr Is-Gadeirydd wedi gofyn i gofnodion y cyfarfod blaenorol (sef y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror) gael eu diwygio o dan gais 7.5 - Gorslwyd Fawr, Rhosybol - i gynnwys ei sylwadau yn llawn, sef ei bod yn anhapus bod Aelod Lleol yn "gwneud ystumiau, yn gweiddi allan ac yn rhoi pwysau" ar Aelodau'r Pwyllgor pan oedd y cais yn cael ei ystyried.

4.

Ymweliadau Safle

Ni chynhaliwyd ymweliad safle.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd yr un ymweliad safle.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwyr Cyhoeddus yng nghyswllt cais 11.2.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 215 KB

6.1 20C102L/EIA/RE – Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

6.2 39C561/FR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1     Cais llawn i godi 13 o dyrbinau gwynt gyda 9 tyrbin gwynt 900kw hyd at 55m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws, ac uchder i frig y llafn o hyd at 79m, a 4 tyrbin gwynt 900kw hyd at 45m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws ac uchder i frig y llafn o hyd at 70m, ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i'r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrid (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt bresennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch.

 

 Wedi datgan ddiddordeb rhagfarnus yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd W T Hughes, Cadeirydd, allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad yn ei gylch. Aeth y Cynghorydd Ann Griffith i’r gadair ar gyfer yr eitem.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymweliad safle a drefnwyd ar gyfer 16 Mawrth, 2016 wedi cael ei ohirio ar gais yr ymgeisydd oherwydd y disgwylir canlyniad trafodaethau gydag Adnoddau Naturiol Cymru i gytuno ar fesurau posibl ar gyfer lliniaru’r effeithiau ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyfagos. Mae'r trafodaethau'n parhau ac ni ragwelir y byddant yn dod i gasgliad mewn pryd i ganiatáu ymweliad safle ym mis Ebrill. Oherwydd y gall y trafodaethau hynny arwain at newidiadau sylweddol i'r cais, ystyrir ei bod yn synhwyrol felly i ohirio ymweliad safle ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd gohirio'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn aildrefnu'r ymweliad safle.

 

6.2     39C561 / FR / TR - Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir  yn The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 238 KB

7.1 44C320 – Gorslwyd Fawr, Rhosybol

 

7.2 45LPA605A/CC – Dwyryd, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1     44C320 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Gorslwyd Fawr, Rhosybol

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Wedi datgan diddordeb rhagfarnus yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd Nicola Roberts allan o’r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad yn ei gylch.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio pan ystyriwyd y cais yn wreiddiol gan y Pwyllgor ym mis Ionawr, 2016, argymhelliad y Swyddog oedd gwrthod y cais oherwydd lleoliad y cynnig. Penderfynodd y Pwyllgor  ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog a phan gafodd y cais ei ailgyflwyno yng nghyfarfod y mis canlynol yn unol â thelerau Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd ei ohirio er mwyn ymweld â’r safle yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor ac fe’i gohiriwyd eto ym mis Mawrth, 2016 ar gais yr ymgeiswyr er mwyn rhoi rhagor o amser iddynt roi sylw i faterion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor . Mae'r ymgeiswyr bellach wedi cadarnhau erbyn hyn mai'r rheswm am ohirio oedd er mwyn ymchwilio yn llawn i faterion a oedd yn ymwneud â chysylltu i'r carthffosydd cyhoeddus presennol cyn symud ymlaen. Dywedodd y Swyddog bod yr ymgeiswyr ers hynny, ac yn dilyn yr ymchwiliadau, wedi cadarnhau nad yw cysylltu i’r carthffosydd cyhoeddus presennol yn opsiwn ymarferol am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. Nid yw'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn newid argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais a hynny am y rheswm y bydd y safle’r cais yn nodwedd ynysig yn y dirwedd ac ni fydd yn ffurfio rhan annatod o'r rhan honno o’r pentref sydd eisoes wedi ei datblygu.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones nad oedd yn credu y byddai'r datblygiad arfaethedig yn arbennig o weladwy ac na fyddai'n ychwanegu at yr effaith bresennol y mae dau dŷ yn y cyffiniau eisoes yn ei chreu. Dywedodd ei fod felly yn cefnogi'r cynnig. Cytunodd y Cynghorydd Jeff Evans gyda'r Aelod Lleol a dywedodd fod asesu a yw datblygiad arfaethedig yn ffurfio estyniad bychan rhesymol i'r pentref yn fater o farn a’i fod ef yn credu bod hynny’n wir yn yr achos hwn ac y gellir ei ystyried felly ac na fyddai’r datblygiad yn ymwthio’n annymunol i'r dirwedd. O ystyried bod Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai pob cais gael ei ystyried ar ei rinweddau ei hun, nid oedd yn credu y byddai'r cynnig o reidrwydd yn gosod cynsail ar gyfer cynigion pellach yn y dyfodol. Cynigiodd y dylid cadarnhau penderfyniad gwreiddiol y Pwyllgor a chymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Roedd y Cynghorydd Kenneth Hughes hefyd o blaid y cynnig am yr un rhesymau ac oherwydd ei fod o’r farn na fyddai'n niweidiol i gymeriad yr ardal, ac na fyddai'n ei gwneud yn anodd i wrthod cynigion datblygu yn y dyfodol yn yr ardal honno. Ar yr amod fod polisi cynllunio yn caniatáu, ac roedd ef o’r farn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried y cyfarfod hwn.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried y cyfarfod hwn.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried y cyfarfod hwn.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 323 KB

11.1 28C186C – Ty Newydd, Llanfaelog

 

11.2 45C83E – Tre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 28C186C - Cais llawn i newid defnydd adeiladau allanol presennol yn dair annedd yn Ty Newydd, Llanfaelog

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y'i diffinnir gan baragraff 4.6.10.2 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol dan y paragraff perthnasol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y bwriad i addasu’r adeiladau allanol i greu tair  annedd yn cael ei gefnogi gan y polisi a bod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer y cynnig yn 2009 ond ei fod bellach wedi dod i ben. Ni fu unrhyw newidiadau perthnasol yn y polisïau lleol a chenedlaethol sy'n rheoli’r math hwn o ddatblygiad yn y cyfamser ac ‘roedd y  Swyddog o’r farn bod dyluniad y cynnig yn parchu cymeriad ac edrychiad yr adeilad presennol ac na fyddai’n cael effaith niweidiol ar fwynderau eiddo cyfagos, yr ardal o'i gwmpas na diogelwch y briffordd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ymataliodd y Cynghorydd Ann Griffith ei phleidlais)

 

11.2 45C83E - Cais llawn i addasu’r gweithdy presennol yn dair annedd yn Tre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan Swyddog Monitro'r Cyngor.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Mr Gwyndaf Rowlands fel Siaradwr Cyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r cais ac fel rhesymau dros wrthwynebu soniodd am yr effeithiau ar gymeriad yr ardal sydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; gosod cynsail newydd ar gyfer yr ardal hon; gorddatblygu a materion mynediad.

 

Siaradodd Mr Richard Owen ar ran ei rieni, yr ymgeiswyr, o blaid y cynnig a dywedodd fod y bwriad yn cydymffurfio â pholisi ac y gwneir pob ymdrech i sicrhau ei fod yn gweddu gyda'r ardal o'i gwmpas drwy wneud cyn lleied o newidiadau â phosibl i edrychiad yr adeilad presennol. Nid yw’r Adain Tirwedd yn gwrthwynebu ac ni fydd y effeithio ar fwynderau’r tai sydd yno ar hyn o bryd.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor o ran pwy y byddai'r tair annedd yn darparu ar eu cyfer, eglurodd Mr Owen, er y byddent yn sicrhau y gallai cenhedaethau o'r teulu aros o fewn y gymuned yn y dyfodol, gellid eu gosod yn y cyfamser fel llety gwyliau.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig i'r cynnig ar wahân i wrthwynebiad amhenodol gan y Cyngor Cymuned. O ran yr egwyddor datblygu, mae’r polisi’n cefnogi’r math hwn o ddatblygiad ac nid yw’n gosod unrhyw gyfyngiad ar y defnydd.Mae'r cynllun yn cadw cymeriad a ffurf yr adeilad presennol ac nid ystyrir y bydd yn arwain  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 562 KB

12.1 16C202 – Capel Salem, Bryngwran

 

12.2  31C210H – Graig, Lôn Graig, Llanfairpwll

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 16C201 - Cais llawn i newid defnydd o gapel i greu dwy annedd sy'n cynnwys balconi yng Nghapel Salem, Bryngwran

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

Gofynnodd Aelod Lleol, y Cynghorydd R G Parry OBE, am i’r Pwyllgor ymweld â’r safle oherwydd pryderon parcio a diogelwch y briffordd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â’r safle ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd ymweld â safle’r yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.2 21C210H - Cais llawn i godi annedd sy'n cynnwys balconi, codi garej ar wahân ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Graig, Lôn Graig, Llanfairpwllgwyngyll.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

 

Gofynnodd Aelod Lleol, y Cynghorydd R Meirion Jones, am i’r Pwyllgor ymweld â’r safle fel y gallai Aelodau gael gwell dealltwriaeth o’r pryderon lleol mewn perthynas â’r effaith weledol a’r effaith ar fwynderau a diogelwch y briffordd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â’r safle ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

Penderfynwyd ymweld â safle’r yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw faterion eraill eu hystyried yn y cyfarfod hwn.