Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Ionawr, 2016 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr ymddiheuriadau fel y nodir nhw uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorwyr Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola

Roberts ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 12.3

oherwydd y cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym maniffesto Plaid Cymru ond

dywedasant y byddent yn ystyried y cais yn ôl ei rinweddau ei hun.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ann Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol mewn

perthynas â chais 12.7 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

 

Gwnaeth y Cynghorydd T. V. Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol a

rhagfarnus mewn perthynas â chais 10.2 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y

drafodaeth a'r bleidlais.

 

Er nad oedd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, gwnaeth y

Cynghorydd Alun Mummery ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 12.5. Dywedodd y câi siarad fel Aelod Lleol mewn perthynas â chais 12.5 ar ôl cael cyngor cyfreithiol, ond gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 30 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar ychwanegu enw'r Cynghorydd K. P. Hughes at yr aelodau oedd yn bresennol yn yr ymweliad safle ynghyd â

chynnwys enw'r Cynghorydd Alwyn Rowlands ymysg yr aelodau lleol oedd yn

bresennol yn ystod yr ymweliad safle â 1 Hampton Way, Llanfaes, Biwmares.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 10.1, 12.1 a 12.7.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 258 KB

6.1  42C127B/RUR – Ty Fry Farm, Rhoscefnhir

6.2  44C250A – Council Houses, Four Crosses, Rhosgoch

6.3  45LPA605A/CC – Dwyryd, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 42C127B/RUR Cais llawn i godi annedd amaethyddol ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth breifat ar dir yn Fferm Tŷ Fry, Rhoscefnhir.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y

Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2 44C250A Cais amlinellol i godi annedd gan gynnwys manylion llawn am addasu’r fynedfa amaethyddol bresennol ar dir gyferbyn â’r Tai Cyngor, Four Crosses, Rhosgoch

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais oherwydd y bydd y mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym mis Chwefror.

 

6.3 45LPA605A/CC Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi 17 annedd newydd, dymchwel y bloc toiledau presennol ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dwyryd, Niwbwrch

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y

Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 200 KB

7.1  12C463/ENF – 1 Hampton Way, Llanfaes

7.2  40C58L/RE –  Maes Carafannau Tyddyn Isaf, Dulas

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 12C463/ENF Cais ôl-weithredol i gadw stabl / storfa gardd ynghyd ag estyniad i'r cwrtil yn 1 Hampton Way, Llanfaes, Beaumaris

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Ynei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2015 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a gwnaed hynny ar 16 Rhagfyr, 2015.

 

Darllenodd y Cynghorydd T. V. Hughes ddatganiad gan y Cynghorydd Lewis Davies, aelod lleol a oedd wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

Ymataliodd y Cynghorydd Ann Griffith ei phleidlais ar y cais hwn.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2 40C58L/RE Cais llawn i osod arae ffotofoltäig 100kW ar dir ym Mharc Carafanau Tyddyn Isaf, Dulas

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Ynei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2015 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a gwnaed hynny ar 16 Rhagfyr, 2015.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod cwestiynau wedi’u codi yn ystod yr ymweliad safle ynghylch rheoli traffig yn ystod cyfnod adeiladu'r datblygiad. Osrhoddir caniatâd nodwyd y bydd amod yn cael ei osod bod Cynllun Rheoli Traffig yn cael ei weithredu. Mae'r ymgeisydd wedi nodi y bydd cerbydau adeiladu yn teithio trwy'r parc carafanau yn Nhyddyn Isaf. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach fod y safle yn gymharol ynysig heb unrhyw anheddau preswyl yn agos i’r datblygiad ac y dylai hynny leddfu pryder lleol mewn perthynas â niwed i fwynderau’r ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. V. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 351 KB

10.1  40C154A – Stâd Nant Bychan, Moelfre

10.2  42C237D/VAR – Plas Tirion, Helens Crescent, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 40C154A Cais amlinellol i godi 5 annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â manylion llawn am y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Nant Bychan, Moelfre

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond gellir ei gefnogi dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Estynodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rhys Davies annerch y cyfarfod fel cefnogwr i'r cais. Dywedodd Mr Davies fod y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais ac yn croesawu’r ffaith y bydd un o'r tai yn fforddiadwy. Mae aelod lleol hefyd yn cefnogi'r cais gan fod y tir wedi ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Dywedodd Mr Davies nad oedd llawer o dai wedi cael eu hadeiladu ym Moelfre dros y blynyddoedd diwethaf. Cyfeiriodd at sylwadau'r gwrthwynebydd ynghylch problemau draenio yn yr ardal a nododd fod yr ymgeisydd wedi treulio llawer o arian dros y blynyddoedd diwethaf yn lliniaru problemau draenio yn yr ardal.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Mr Davies ynghylch elfen fforddiadwyedd yr anheddau arfaethedig a dyluniad y tai. Atebodd Mr Davies fod un annedd wedi ei chynnig fel fforddiadwy; bydd 2 annedd yn dai pâr gyda dwy ystafell wely; bydd un annedd yn un 4 ystafell wely a bydd gan y llall dair ystafell wely.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod llythyr ychwanegol o wrthwynebiad wedi dod i law a roddai gyfanswm o 15 o lythyrau oedd yn gwrthwynebu’r cais hwn. Nododd bod sail polisi i gefnogi'r cais hwn gan fod y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd wedi adnabod yr ardal ar gyfer datblygiad.  Oherwydd y pellter rhwng yr anheddau arfaethedig a'r eiddo cyfagos ni ragwelir y bydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach pe byddai'r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai

amod ychwanegol yn cael ei osod ynghylch tirlunio rhai o ffiniau'r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 42C237D / VAR Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (07) (yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio 42C237 er mwyn diwygio'r cynllun gosodiad ym Mhlas Tirion, Helen’s Crescent, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes i bolisi ond yr argymhellir ei ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr ac Aelodau

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  10C118F/RE – Tyn Dryfol, Soar

12.2  19C1038F – Ffordd Tyn Pwll, Caergybi

12.3  25C227C/RE – Cwyrt, Llanerchymedd

12.4  25C254 – Ysgol Gynradd Llanerchymedd , Llanerchymedd

12.5  31C431 – Borthwen, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

12.6  36C344 – Ysgol Gynradd Henblas, Llangristiolus

12.7  44C320 – Gorslwyd Fawr, Rhosybol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 10C118F / RE Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 2.5MW ar dir ger Tyn Dryfol, Soar

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr George Meyrick annerch y cyfarfod fel cefnogwr i'r cais. Gwnaeth Mr Meyrick y pwyntiau canlynol:-

 

· Dywedodd Mr Meyrick bod y cais hwn yn ddatblygiad llawer llai na'r fferm arae solar a gymeradwywyd eisoes yn yr ardal. Roedd yn ystyried y byddai ganddo lai o effaith ar yr ardal;

·  Roedd yn cydnabod bod cludo deunyddiau i'r ddwy fferm solar a

gymeradwywyd yn flaenorol wedi achosi problemau mewn perthynas â difrod i'r priffyrdd;

· Byddai’r cyfnod cludo deunyddiau ar gyfer y datblygiad hwn yn 2/3 wythnos o gymharu â’r 2/3 mis ar gyfer y ceisiadau blaenorol a gymeradwywyd;

· Cynigir Buddion Cymunedol i'r cymunedau cyfagos yn unol ag ymrwymiadau cyfredol Stad Bodorgan. Mae £45k wedi cael ei ymrwymo mewn perthynas â’r ddwy fferm arae solar a gymeradwywyd eisoes ac mae £19k eisoes wedi’I rannu rhwng Cloc Coffa Gwalchmai, cyfleuster Maes Chwarae Llangristiolus a Neuadd Gymuned Aberffraw;

· Mae Llywodraeth y DU bellach wedi newid y rheolau o ran rhyddhad treth effaith gymdeithasol ar ffermydd solar o'r fath;

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Mr Meyrick ynghylch pa lonydd yr oedd y datblygwr yn bwriadu eu defnyddio i gludo deunyddiau i'r safle.Nododd Mr Meyrick drac ar y map a ddangoswyd i'r Pwyllgor a fydd yn cael ei ddefnyddio i gludo deunyddiau. Holwyd ynghylch maint y Budd Cymunedol a ragwelir yn wyneb y ffaith bod y datblygiad hwn yn llai. Atebodd Mr Meyrick y bydd y Budd Cymunedol yn cael ei gyfrifo ar sail pro-rata mewn cysylltiad â maint y fferm solar arfaethedig yn Tyn Dryfol, Soar ac y gallai fod o gwmpas pedwar i bum mil o bunnoedd. Holwyd a oedd modd gorfodi’r hawliau pori’r tir yn Tyn Dryfol. Atebodd Mr Meyrick nad oedd yn gallu gorfodi hawliau pori ar y tir ond roedd yn cadw’r hawl pori ar ran Stad Bodorgan fel y tirfeddiannwr.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau pellach i Mr Meyrick ynghylch sylwadau'r gwrthwynebydd am y difrod sylweddol a wnaed i’r priffyrdd pan adeiladwyd ffermydd solar yn yr ardal o’r blaen, ynghyd â'r anghyfleustra a’r anhwylustod I drigolion lleol yn ystod y cyfnod adeiladu. Atebodd Mr Meyrick y bydd Stad Bodorgan yn ymdrechu i bwyso ar y datblygwr i leihau i’r eithaf unrhyw ddifrod i'r isadeiledd priffyrdd yn yr ardal. Os oes difrod i'r priffyrdd yn parhau yn dilyn adeiladu’r ddwy fferm arae solar eisoes yn yr ardal bydd yn cysylltu â'r Awdurdod Priffyrdd i drafod y mater a chywiro’r diffygion.

 

 

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd, sy'n aelod lleol, nad oedd wedi derbyn unrhyw

wrthwynebiadau i'r cais hwn yn Tyn Dryfol, Soar ond ei bod wedi derbyn nifer o gwynion yn y 12 mis diwethaf ynghylch y ddwy fferm arae solar a gymeradwywyd eisoes yn yr ardal. Mynegwyd cwynion am y difrod i wrychoedd, ffosydd a phriffyrdd. Dywedodd y bydd yn croesawu cynllun priffyrdd cadarn mewn perthynas â'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.