Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed y datganiadau canlynol o ddiddordeb : -
Datganodd y Cynghorydd W T Hughes ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1.
Datganodd y Cynghorydd R O Jones ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1.
Datganodd y Cynghorydd T V Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 6.2 ond nododd ei fod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol a chyngor gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â'r cais ac y caniateir iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais a phleidleisio arno.
Datganodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â cheisiadau 6.2 a 7.3.
|
|
Cyflwyno, i’w cadranhau, cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y Ymweliadau Safle a gafwyd ar 17 Awst, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Awst 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw siaradwyr cyhoeddus. |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 398 KB
6.1 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch 6.2 36C338A – Henblas School, Llangristiolus 6.3 39C561/FR – The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 20C310B / EIA / RE - Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
(Ar ôl datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd W T Hughes a'r Cynghorydd R O Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad ar y cais).
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.2 36C338A - Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus
(Ar ôl datgan diddordeb yn y cais, gadawodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.3 39C561 / FR / TR - Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir yn The Lodge, Ffordd Caergybi, Caergybi
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Applications Arising PDF 672 KB 7.1 10C130 – Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw 7.2 19C1174/FR – Enterprise Park, Caergybi 7.3 25C255A – Tan Rallt, Carmel Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 10C130 - Cais llawn i osod mesurydd parcio ym Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw
Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cais hwn er mwyn rhoi sylw i'r mater fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is-Gadeirydd.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd teimladau cryf o fewn y gymuned leol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod llythyr ychwanegol yn cefnogi’r cais hwn wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf. Nododd bod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2016, wedi penderfynu gwrthod y cais, a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog. Y rheswm dros wrthod oedd y pryderon am yr effaith negyddol ar bobl leol ac ar dwristiaeth yn Ynys Môn. Pwysleisiodd mai cais yw hwn i osod mesurydd parcio yn y maes parcio yn hytrach na phenderfynu ar yr egwyddor o ddefnyddio'r maes parcio neu’r egwyddor o godi tâl am barcio. Ystyrir y byddai gosod mesurydd parcio yn cael effaith niwtral ar y dirwedd gyfagos ac y byddai’r mesurydd wedi ei sgrinio'n ddigonol. O’r herwydd, roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod.
Siaradodd y Cynghorydd Ann Griffith fel Aelod Lleol gan ddweud ei bod yn deall barn y Swyddogion Cynllunio a'r angen am resymau cynllunio digonol mewn perthynas â'r cais. Fodd bynnag, dywedodd fod codi tâl ar bobl leol i barcio ar y safle yn annerbyniol. Anogodd yr ymgeisydd i ystyried trefniadau arbennig ar gyfer pobl leol fel y rheini sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar Draeth Llanddwyn. Dywedodd y Cynghorydd Griffith mai ei phryderon hi oedd y materion parcio ar y briffordd a'r materion posib o ran diogelwch y ffyrdd dros fisoedd yr haf.
Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers fel Aelod Lleol a dywedodd mai cais i leolimesurydd yn unig yw hwn. Nododd bod yr ymgeisydd yn dymuno gwella’r profiad i ymwelwyr â’r ardal a’i fod yn derbyn argymhelliad y Swyddog.
Dywedodd y Cynghorydd R A Dew, sef Aelod Lleol ar gyfer ardal etholiadol gyfagos, nad oedd wedi newid ei farn na’i safbwynt mewn perthynas â'r cais hwn ac ‘roedd yn cwestiynu addasrwydd lleoli mesuryddion parcio o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; nid oes cyfleusterau ar gael yn y maes parcio. Mae pobl leol ac ymwelwyr wedi mwynhau gweithgareddau hamdden yn yr ardal ers nifer o flynyddoedd ac mae pobl sy'n ymweld â'r Heneb yn yr ardal wedi bod yn parcio yn y maes parcio. Mae Cyngor Cymuned Llanfaelog yn gwrthwynebu'r cais hwn. Cyfeiriodd y Cynghorydd Dew at y problemau parcio ar y briffordd leol ger y safle pan fydd y maes parcio'n llawn; 'roedd o'r farn y gallai'r rhain waethygu os cymeradwyir codir tâl am barcio. Mae'r A4080 yn ffordd brysur a hon yw’r brif lôn i Drac Rasio Ty Croes. Holodd pam nad yw'r ymgeisydd yn ystyried caniatáu parcio am ddim ar y safle ar gyfer trigolion ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau am dai fforddiadwy yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
10.1 24C261B – Dafarn Drip, Penysarn 10.2 45C467 – Penparc, Niwbwrch Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 24C261B - Cais llawn i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Dafarn Drip, Penysarn
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn un sy’n tynnu’n groes i Gynllun Lleol mabwysiedig Ynys Môn ond y gellir ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 45C467 - Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw’n ôl ar gyfer codi annedd ar dir ger Penparc, Niwbwrch
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn un sy’n tynnu’n groes i Gynllun Lleol mabwysiedig Ynys Môn ond y gellir ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ardal wedi ei dynodi’n Bentrefan a Chlwstwr Cefn Gwlad o dan bolisi HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a gellir cefnogi’r cais fel safle mewnlenwi sydd yn union gyfagos i ran ddatblygedig y pentrefan gwledig.
Mynegodd y Cynghorydd T V Hughes ei bryderon bod caniatáu anheddau dros y blynyddoedd yn yr ardal hon - sydd wedi ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol - wedi troi ardal Penlon i fod yn bentref ynddo’i hun a bod hynny wedi newid cymeriad yr ardal. Cyfeiriodd at faterion llifogydd yng nghyffiniau'r cais. ‘Roedd y Cynghorydd Hughes yn gwrthwynebu’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig i ganiatáu.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw gynigion o’r fath yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 354 KB 12.1 17C226G – Ger y Nant, Llandegfan 12.2 44C102A – Hazelbank, Rhosybol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 17C226G - Cais llawn i wneud gwaith altro ac estyniadau yn Ger y Nant, Llandegfan
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.
Fel Aelod Lleol, gofynnodd y Cynghorydd Lewis Davies am ymweliad â’r safle er mwyn i'r Aelodau gael gweld faint y gwaith altro a’r estyniadau arfaethedig ac effaith hynny ar fwynderau eiddo cyfagos. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.2 44C102A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir y tu cefn i Hazelbank, Rhosybol
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Fel Aelod Lleol, gofynnodd y Cynghorydd W T Hughes am ymweliad â’r safle er mwyn i'r Aelodau gael gweld cyd-destun safle'r cais o’i gymharu ag eiddo cyfagos. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
|
|
13.1 39LPA1014A/CC – Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 39LPA1014A/CC – Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod cais wedi dod i law i ddymchwel yr adeiladau presennol ond nododd nad oedd angen caniatâd cynllunio i wneud hynny.
PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth.
|