Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd uchod.
Yn absenoldeb yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Richard Owain Jones, penderfynodd y Pwyllgor ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn ac fe etholwyd y Cynghorydd Nicola Roberts i’r swydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Victor Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 6.2 a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn cyngor gan Adran Gyfreithiol y Cyngor a Swyddfa Ombwdsman y Gwasanaethau Cyhoeddus ei bod hi’n briodol iddo gyfrannu ar y mater hwn.
Hefyd, datganodd y Cynghorydd Victor Hughes ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1. |
|
Cofnodion Cyfarfod 7 Medi, 2016 PDF 375 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2016 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir yn amodol ar newid brawddeg olaf y trydydd paragraff ar dudalen 3, o dan eitem 7.1 i ddarllen mae’r argymhelliad felly’n parhau’n un o ganiatáu. |
|
Ymweliadau Safle 21 Medi, 2016 PDF 271 KB Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Medi, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau â Safleoedd a gynhaliwyd ar 21 Medi, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd Kenneth Hughes wedi cyflwyno ymddiheuriad am ei absenoldeb. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai aelodau o’r cyhoedd yn siarad ar geisiadau 7.1 a 7.3. |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 362 KB 6.1 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch
6.2 36C338A – Ysgol Henblas, Llangristiolus
6.3 39C561/FR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer cysylltiedig, isadeiledd a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn gallu asesu ymhellach y wybodaeth a dderbyniwyd gan yr Asiant.
6.2 36C338A – Cais llawn i godi annedd ynghyd â chodi modurdy ar wahân ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y gellir cynnal proses ymgynghori a chyhoeddusrwydd statudol mewn perthynas â’r wybodaeth gefnogol ychwanegol a dderbyniwyd.
6.3 39C561/FR/TR – Cais llawn ar gyfer codi Canolfan Zorb ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir dros y ffordd i’r Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe’i tynnwyd oddi ar amserlen y Pwyllgor tan y bydd mwy o eglurder am y cynnig. |
|
7.1 17C226G – Ger y Nant, Llandegfan
7.2 25C255A – Tan Rallt, Carmel
7.3 44C102A – Hazelbank, Rhosybol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 17C226G – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Ger y Nant, Llandegfan. Llandegfan
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2016 penderfynodd y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle ac fe’i cynhaliwyd ar 21 Medi, 2016.
Siaradodd yr ymgeisydd, Mr Arwyn Williams, o blaid y cais. Pwysleisiodd fod Ger y Nant yn fyngalo tair llofft, un llawr a brynwyd gyda’r bwriad o’i droi yn gartref tymor hir ar ei gyfer o, ei wraig a’i 3 o blant a fyddai’n ei alluogi i fyw yn ei fro enedigol yn Ynys Môn a chyfrannu tuag at gymuned Llandegfan. Nid ffordd o wneud elw yw hyn. Roedd wedi ymgynghori’n agos â’r gwasanaeth cynllunio ar yr argymhelliad ac wedi ceisio ymateb i’r cyngor a roddwyd a hynny wedi arwain at y cynllun presennol sydd, ym marn y Swyddogion Cynllunio yn welliant. Mae’r adeilad ei hun yn un eithaf di-nod o ran pensaernïaeth a does ganddo ddim nodweddion hanesyddol sydd angen eu gwarchod. Nid adeilad traddodiadol mohono. Fe wnaeth gydnabod nad yw’r cais yn un du a gwyn a bod yn rhaid rhoi ystyriaeth i bolisïau cyfredol. Fodd bynnag, roedd o’r farn bod amgylchiadau arbennig yn yr achos hwn. Dywedodd Mr Williams ei fod wedi rhoi ystyriaeth lawn i ofynion Polisi 55 wrth benderfynu ar y dyluniad arfaethedig ac, yn groes i farn y Swyddog, ei fod yn credu bod y cais yn cadw at ysbryd Polisi 55. Dyfynnodd y meini prawf ar gyfer Polisi 55 a dangosodd sut yr oedd o’r farn, bod y cynnig, lle mae hynny’n briodol, yn cydymffurfio â’r meini prawf hynny. Pwysleisiodd Mr Williams mai cais am dŷ addas i’r teulu oedd hwn a fydd yn cael ei gyflawni drwy lenwi bwlch, rhywbeth na fydd yn effeithio ar unrhyw un arall yn yr ardal. Holodd y Pwyllgor Mr Arwyn Williams am faint y cynnig sydd, yn ôl adroddiad y Swyddog, yn gynnydd o 125% yn arwynebedd llawr yr adeilad presennol sydd yn fwy na’r hyn a nodir ym meini prawf Polisi 55.
Cadarnhaodd Mr Arwyn Williams y byddai’r estyniadau arfaethedig yn llenwi bwlch rhwng y byngalo presennol a’r garej ddwbl gan olygu cynnydd o rhwng tua 50% a 60%, bod canran y cynnydd a nodwyd gan Swyddogion yn cynnwys pethau a wnaed yn y gorffennol nad ydynt yn gysylltiedig o gwbl â’r datblygiad hwn.
Siaradodd y Cynghorydd Carwyn Jones fel Aelod Lleol a phwysleisiodd fod y cais yn un sy’n bodloni anghenion teulu ac nad yw’n un gan ddatblygwr sydd â’r nod o wneud elw - mae’r Pwyllgor yn y gorffennol wedi cydnabod pwysigrwydd annog a galluogi teuluoedd i ymgartrefu o fewn cymunedau. Mae’r cais hwn yn un a wneir mewn modd gonest, sydd wedi golygu cyfaddawdu ac yn un nad yw’n cael effaith ar unrhyw un arall. Mae’n gynnig i lenwi bwlch ar raddfa sy’n agosach i gynnydd o 50% i 60% yn hytrach na’r 125% a nodir yn adroddiad y Swyddog ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu Gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 765 KB
12.1 15C215C – Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr
12.2 34C703 – Aldi, Llangefni
12.3 45C84M/ENF – Pendref, Penlon, Niwbwrch
12.4 46C530B – Yr Hen Dy Cychod, Lôn Isallt, Trearddur Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 15C215C – Cais llawn i godi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr.
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais, nid oedd y Cynghorydd Victor Hughes yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater.
Gofynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Ann Griffith a’r Aelod Lleol mewn perthynas â’r cais hwn am ymweliad safle er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor gael gwell dealltwriaeth o’r effaith bosibl y gallai’r datblygiad ei gael ar yr ardal gyfagos sydd wedi’i dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
Penderfynwyd y dylid cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.2 34C703 – Cais llawn i ddymchwel y swyddfa bresennol ynghyd â chreu estyniad i faes parcio’r archfarchnad gyfagos yn Aldi, Llangefni.
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad yn cynnwys tir sy’n berchen i’r Cyngor.
Nododd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu (MD) fod y cynnig yn cynnwys dymchwel hen swyddfeydd Cyngor ac adeiladu maes parcio arno ynghyd ag ailddatblygu’r maes parcio presennol at ddefnydd Aldi Stores Ltd. Bydd y cynnig yn darparu 50 o fannau parcio ychwanegol gan roi cyfanswm o 133 a bydd yn cynnwys torri rhai coed, rhywbeth nad yw Adain yr Amgylchedd Adeiledig yn ei wrthwynebu. Dywedodd y Swyddog mai’r bwriad yn wreiddiol oedd y byddai yna gyfyngiad o 2 awr ar barcio ond mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau ers hynny na fydd cyfyngiad o’r fath yn bodoli. Nid yw adeilad presennol y Cyngor yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall ac o ganlyniad does dim gwrthwynebiad, yr argymhelliad felly yw cymeradwyo’r cais. Dywedodd y Swyddog y byddai biniau ailgylchu’r Cyngor sydd wedi eu lleoli ar y maes parcio presennol yn cael eu symud gan nad ydynt yn ffurfio rhan o’r cais; mae eu hadleoliad yn fater i’r Adran Eiddo.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
12.3 45C84M/ENF - Cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir i fod yn gae chwarae ynghyd â chreu mynedfa newydd ym Mhendref, Penlon, Niwbwrch.
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Hysbysodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu (NJ) y Pwyllgor, er bod Siaradwr Cyhoeddus wedi’i gofrestru i siarad yn y cyfarfod hwn mewn perthynas â’r cais, chafodd yr ymgeisydd, yn anfwriadol, mo’r cyfle hwnnw. Argymhellir felly er mwyn gallu rhoi ystyriaeth deg i’r cais y dylid gohirio ystyried y cais er mwyn rhoi’r un cyfle i’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un mater arall ei ystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|