Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-
Gwnaeth y Cynghorydd W.T. Hughes ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1.
Gwnaeth y Cynghorydd R.O. Jones ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â cheisiadau 6.1 a 7.4.
Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1.
Gwnaeth y Swyddog Priffyrdd ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.9.
|
|
Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 18 Ionawr, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 18 Ionawr a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yna siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 12.1 a 12.5. |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 591 KB
6.1 20C313A – Ffordd y Felin, Cemaes 6.2 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch 6.3 25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llannerch-y-medd 6.4 34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 20C313A - Cais llawn ar gyfer codi 14 o dai fforddiadwy, creu mynedfa newydd a ffordd fewnol ynghyd â gorsaf bwmpio carthffosiaeth ar dir oddi ar Ffordd y Felin, Cemaes.
PENDERFYNWYD o ganlyniad i natur a graddfa’r cais, y dylid cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.2 20C310B/EIA/RE Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorwyr W T Hughes ac R O Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem hon.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag
argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad
ysgrifenedig.
6.3
25C242 - Cadw pwll, ynghyd â gwaith draenio yn
Tyn Cae, Coedana, Llannerch-y-medd. 6.4 34C304K / 1 / EIA / ECON - Cais Hybrid am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer canolfan beirianneg newydd, maes parcio, ardal chwarae i blant a gwaith cysylltiedig ac am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 157 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod, ynghyd â maes parcio cysylltiedig a gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
7.1 14C171J/ENF – Stryttwn Farm, Tynlon 7.2 15C30H/FR – Pen y Bont Farm, Malltraeth 7.3 23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch 7.4 34C681 – Stad Ty’n Coed,Llangefni 7.5 45C468 – Bodrida Bach, Brynsiencyn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 14C171J/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw a chwblhau llety gwyliau newydd ynghyd â newid defnydd tir i ddibenion marchogaeth cysylltiedig yn Stryttwn Farm, Tynlon.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 18 Ionawr, 2017.
Yn siarad fel Aelod Lleol, fe atgoffodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgs y Pwyllgor am gefndir y cais a bwriad yr ymgeisydd i osod yr adeilad allanol a addaswyd i ymwelwyr i ddibenion marchogaeth penodol, sef gweithgaredd gwledig yn ei hanfod, a chyfleuster i dwristiaid. Dywedodd bod y cais hwn yn un anodd gan fod yr ymgeisydd wedi cael ar ddeall gan Arolygwyr Cynllunio bod y rhan fwyaf o waliau cynnal yr adeilad allanol yn is-safonol ac o’r herwydd fe aeth rhagddo i ddymchwel rhai ohonynt. Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio drwy ddweud bod yr ymgeisydd wedi cael ei gynghori gan Arolygwyr Adeiladu i gysylltu gyda’r Adran Gynllunio cyn cychwyn ar y gwaith o ddymchwel waliau’r adeiladau allanol.
Ailadroddodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgs fod yr ymgeisydd wedi gwario arian sylweddol yn gwella’r adeilad. Roedd y Cynghorydd Parry o’r farn bod angen cyfleuster o’r fath ar yr Ynys a’i fod yn haeddu cael ei gymeradwyo.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y cafodd y cais blaenorol am ganiatâd ôl-weithredol ar gyfer llety gwyliau ei wrthod yn 2016 am fod y safle mewn cefn gwlad agored mewn ardal wledig anghysbell. Mae’r cais yn un am gyfleuster marchogaeth i dwristiaid a bod polisïau cynllunio i gefnogi menter o’r fath. Fodd bynnag, mae safle’r cais mewn lleoliad gwledig agored ac nid yw’r Swyddogion Cynllunio wedi’u hargyhoeddi bod cyfleuster o’r fath yn briodol yn y lleoliad hwn a bod yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac fel eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 16 Tachwedd, 2016. Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y rheswm nad oedd yn teimlo bod y risg o lifogydd ar raddfa a oedd yn cyfiawnhau ei wrthod ac oherwydd na fyddai’r cais yn cael effaith andwydol ar ecoleg Cors Ddyga. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, dywedwyd wrth yr Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwydd i ohirio’r cais. Penderfynodd aelodau’r Pwyllgor ohirio’r cais.
Safodd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
12.1 17C226H – Gernant, Lôn Ganol, Llandegfan 12.2 17C511 – Hen Ysgol, Bro Llewelyn, Llandedgan 12.3 17C512 – Neuadd Llansadwrn, Llansadwrn 12.4 19C845K – Clwb Peldroed Holyhead Hotspur, Canolfan Hamdden Caergybi 12.5 21C58H – Parc Eurach, Llanddaniel Fab 12.6 39LPA1014B/CC – Ysgol Feithrin, Porthaethwy 12.7 39C295B/LB – Swyddfa Docynnau’r Pier, Ffordd Cynan, Porthaethwy 12.8 46C570 – Mast Cysylltiadau, Ynys Lawd, Caergybi 12.9 47C149 – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 17C226H – Cais llawn i addasu ac ehangu Gernant, Lôn Ganol, Llandegfan
Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd John Griffith y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau aelod lleol.
Siaradodd Mr. Arwyn Williams, yr ymgeisydd, o blaid ei gais. Dywedoddy cafodd ei gais i altro ac ymestyn Gernant ei wrthod yn Hydref 2016 oherwydd pryderon ynghylch y cynnydd ym maint yr adeilad allanol gwreiddiol. Mae o wedi rhoi sylw i bryderon y Pwyllgor ac wedi gostwng maint yr estyniad ac ystyrir ei fod yn dderbyniol i deulu o bump. Cyfeiriodd Mr Williams at adroddiad y Swyddog a ddywed ‘nid ystyrir y byddai’r cynnig yn cael effaith negyddol ar fwynderau eiddo preswyl cyfagos’ a ‘tra’n derbyn y gellir dadlau bod y cynigion cyfredol yn gwella edrychiad yr adeilad’, mae hyn yn bwysig o safbwynt Polisi Cynllunio 55. Dywedodd bod tri o’r Aelodau Lleol yn cefnogi’r cais ynghyd â’r Cyngor Cymuned lleol; mae’r Aelod Cynulliad yntau’n cefnogi’r cais.
Dywedodd Mr. Williams bod ei eiddo ef, sef Gernant, wedi ei leoli rhwng dwy annedd fawr ac na fyddai ei gais ef yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos; mae digon o dir rhwng Gernant a’r briffordd sydd gerllaw. Nododd mai llenwi bwlch yn unig rhwng y tŷ a’r garej fyddai’r cais hwn.
Siaradodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Lleol, o blaid y cais. Dywedodd bod angen cefnogi pobl leol oherwydd mae’r ymgeisydd wedi cyfaddawdu o ran maint yr addasiadau a’r estyniad i’w eiddo. Nododd mai cais ar gyfer teulu ifanc o 5 yw hwn. Mae’r Cyngor Cymuned yn cefnogi’r cais. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod y cais yn haeddu cael ei gefnogi fel y gellir darparu cartref digonol ar gyfer teulu ifanc.
Roedd y Cynghorydd Lewis Davies, Aelod Lleol ac Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cytuno gyda’i gyd Aelod etholedig nad oedd y cais hwn yn niweidio mwynderau eiddo cyfagos a’r AHNE. Roedd o’n gwbl gefnogol i’r cais ac o’r farn y gellid ei gymeradwyo o fewn Polisi Cynllunio 55. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai’r rheswm dros wrthod y cais oedd y cynnydd yn arwynebedd y llawr sydd y tu hwnt i feini prawf y polisïau cynllunio ac mae wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored. Roedd yn argymell gwrthod y cais.
Dyma oedd y bleidlais:-
I ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog:-
Y Cynghorwyr Lewis Davies a Vaughan Hughes. Cyfanswm 2
Ymatal rhag pleidleisio :-
Y Cynghorwyr K.P. Hughes, T. Victor Hughes, W.T. Hughes, R.O. Jones Cyfanswm 4
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y Swyddog gan yr ystyriwyd y byddai’r cais yn gwella cyd-destun gweledol yr annedd, rhywbeth y gellir ei gymeradwyo o dan Bolisi 55. (Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|