Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 1af Mawrth, 2017 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â cheisiadau 7.2 a 7.6 ar yr agenda.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Owain Jones ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.3 ar yr agenda.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Jeff Evans ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.2 ar yr agenda.

 

Gwnaeth y Swyddog Priffyrdd, Mr J. Alwyn P. Rowlands ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 7.7 ar yr agenda.

3.

Cofnodion Cyfarfod 1 Chwefror, 2017 pdf eicon PDF 84 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1, Chwefror 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliadau Safle 15 Chwefror, 2017 pdf eicon PDF 13 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd bod Siaradwyr Cyhoeddus wedi eu cofrestru i siarad ar geisiadau 7.3, 7.4, 7.6, 7.7, 8.1, 12.1 a 12.4 ar yr agenda.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 339 KB

6.1 25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llanerchymedd

 

6.2 34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1       25C242 – Cais i gadw pwll, ynghyd â gwaith draenio yn Tyn Cae, Coedana, Llannerch-y-medd.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog tan y derbynnir rhagor o fanylion i gefnogi’r cais.

 

6.2       34C304K / 1 / EIA / ECON - Cais Hybrid am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer canolfan beirianneg newydd, maes parcio, ardal chwarae i blant a gwaith cysylltiedig ac am  ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw’n ôl ar  gyfer datblygiad preswyl o 157 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod, ynghyd â maes parcio cysylltiedig â gwaith ar dir yng Ngholeg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog o ganlyniad i natur a graddfa’r cais.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1  15C30H/FR – Fferm Pen y Bont,  Malltraeth

 

7.2  17C226H – Gernant, Lôn Ganol, Llandegfan

 

7.3  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

7.4  20C313A – Ffordd y Felin, Cemaes

 

7.5  21C58H – Parc Eurach, Llanddaniel Fab

 

7.6  23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch

 

7.7  47C149 – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1       15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais fel y gallai siarad fel Aelod Lleol. Aeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd R O Jones, i’r gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 16 Tachwedd, 2016. Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y rheswm nad oedd yn teimlo bod y risg o lifogydd ar raddfa a oedd yn cyfiawnhau ei wrthod ac oherwydd na fyddai’r cais yn cael effaith andwyol ar ecoleg Cors Ddyga. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, cynghorwyd y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfarwyddyd dal ar y cais tra bo Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn penderfynu a oeddent am alw’r cais i mewn i’w benderfynu. Hysbyswyd y Pwyllgor fod ganddynt ddau opsiwn, un ai gohirio’r cais neu ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog; penderfynodd y Pwyllgor ohirio’r cais tan i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddod i benderfyniad a ddylid galw’r cais i mewn ai peidio. 

 

Cynghorodd y Prif Swyddog Cynllunio mai dyma’r sefyllfa o hyd a’i fod yn agored i’r Pwyllgor yn y cyfarfod hwn ohirio’r cais neu ei wrthod yn unol ag argymhellion y Swyddog.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ann Griffith, wrth siarad fel Aelod Lleol, i’r Pwyllgor unwaith eto ohirio’r cais tan y ceir cadarnhad gan Weinidogion Cymru a ydynt yn bwriadu galw’r cais i mewn ai pheidio. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid gohirio’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.2       17C226H – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau i Gernant, Lôn Ganol, Llandegfan

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2017, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y Swyddog gan ei fod o’r farn y byddai’r cais yn gwella edrychiad yr annedd presennol yn sylweddol a gan ei fod yn ystyried bod Polisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn yn cefnogi cynigion o’r fath.

 

Wedi gwneud datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd John Griffith y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Nododd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymateb i’r rhesymau a nodwyd uchod ar gyfer cymeradwyo’r cais, fod y Swyddog yn parhau i fod o’r farn nad yw’r cais yn cydymffurfio ag ysbryd Polisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn na Pholisi HP8 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd gan fod y nifer o estyniadau a gynigir yn mynd ymhell  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 212 KB

8.1  45C84R/ECON – Caffi’r Marram Grass, White Lodge, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1 45C84R/ECON - Cais llawn ar gyfer codi adeilad oergell, adeilad achlysur, ac adeilad seminar ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau gyda maes parcio i gwsmeriaid, maes parcio cymunedol ac ardal hamdden a dymchwel adeilad allanol ar dir yn gyferbyn â’r Marram Grass Cafe, White Lodge, Niwbwrch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais fel y gallai siarad fel Aelod Lleol. Aeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd R O Jones, i’r gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ann Griffith i’r Pwyllgor ymweld â’r safle gan ei bod yn dymuno i Aelodau weld safle’r cais gan ei fod yn pontio’r AHNE ac yn ardal tirlun arbennig a gan ei bod yn dymuno iddynt weld drostynt eu hunain yr effaith drefoli bosibl y gallai’r cynnig ei chael ar y tirlun cyfagos yn ogystal â’r effaith bosibl ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal ac ar amwynderau preswyl. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylai’r Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1  18C225B – Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

12.2  19C1198 – Pafiliwn Parc Caergybi, Caergybi

 

12.3  29LPA1008F/CC/VAR – Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu

 

12.4  38C324 – Alma Hall, Carreglefn

 

12.5  46C582/AD – Maes Parcio Y Range, Penrhosfeilw, Caergybi

 

12.6  46C583/AD – Maes Parcio  Pysgotwyr, Penrhosfeilw, Caergybi

 

12.7  47C153 – Plas Newydd, Llanddeusant

 

12.8  47C154 – Plas Newydd, Llanddeusant

 

12.9  48C202 – Penrallt Bach, Gwalchmai

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  18C225B Cais llawn i godi annedd newydd a chreu mynedfa ynghyd â gosod paced  trin carthffosiaeth ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn i Aelodau gael gwell dealltwriaeth o safle’r cais o ran ei gyd-destun a’i berthnasedd i’r pentref.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylai’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd ymgymryd ag ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2    19C1198 – Cais llawn i newid defnydd adeilad o bafiliwn i gaffi ym Mhafiliwn  Parc Caergybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un a wneir ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Jeff Evans ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais; arhosodd yn y cyfarfod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad yn amodol ar yr amodau a nodir ynddo.

 

12.3    29LPA1008F/CC/VAR - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (10) o ganiatâd cynllunio rhif 29LPA1008A/CC (codi ysgol gynradd newydd) er mwyn caniatáu rhywfaint o oleuni i lifo o'r safle dros y ffiniau yn Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr amod gwreiddiol (10) ar y caniatâd ar gyfer yr ysgol newydd yn nodi y dylai unrhyw gynllun goleuni gael ei ddylunio fel nad oes unrhyw ollyngiad goleuni yn digwydd y tu hwnt i ffiniau’r safle. Fodd bynnag, nid yw wedi bod yn bosibl dylunio cynllun sy’n bodloni gofynion diogelwch goleuni ond nad yw’n golygu bod rhywfaint o oleuni’n gollwng i’r tir cyfagos. Mae cynllun goleuni newydd wedi’i ddylunio sy’n bodloni anghenion y Swyddogion Iechyd Amgylcheddol ond sy’n golygu peth gollyngiad i eiddo preswyl cyfagos. Mae’r Swyddogion Iechyd Amgylcheddol wedi cadarnhau bod y lefelau golau yn rhai na fyddant yn achosi niwsans yn yr ardal; yn ychwanegol at hynny fe gynigir cynllun rheoli caeth a fydd yn nodi pryd y caniateir defnyddio’r goleuadau ac mai dim ond yn ôl yr angen y bydd hynny’n digwydd. Mae buddion diogelwch i’r goleuadau ac mae Swyddogion yn fodlon nad yw’r effeithiau’n ddigonol i gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad gyda’r amodau a nodwyd ynddo.

 

12.4    38C324 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir yn Alma Hall, Carreglefn

 

Cyflwynwyd y cais i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 689 KB

13.1 GTP/TVG01/2014 – Traeth y Newry a’r Grinoedd, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 GTP/TVG01/2014 – Cais i gofrestru tir fel Grîn Tref neu Bentref (GTB) yn Nhraeth y Newry a’r Grinoedd, Caergybi

 

Cyfeiriwyd y mater at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r Awdurdod Cofrestru ar gyfer yr ardal at ddibenion Deddf Tiroedd Comin 2006. Yr Awdurdod Cofrestru sy’n gyfrifol am benderfynu ar geisiadau i gofrestru tir fel grinoedd tref neu bentref (GTB) o dan y Ddeddf. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, mae’r Cyngor llawn wedi dyrannu;’r cyfrifoldeb am benderfynu ceisiadau GTB i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

 

Adroddodd y Swyddog Cyfreithiol bod hanes y cais a’r modd yr ymdriniwyd ag ef yn cael ei grynhoi yn adroddiad y Swyddog. Gan fod y gyfraith yn ymwneud â GTB yn arbenigol a chymhleth, cafodd swyddogion yr Awdurdod gyngor gan Mr Jeremy Pike, bargyfreithiwr sydd ag arbenigedd yn y maes. Ar 31 Mawrth, 206 rhoddodd Mr Pike gyngor ysgrifenedig i’r Awdurdod Cofrestru ar y cais, y gwrthwynebiadau a wnaed iddo a’r cyflwyniadau pellach a dderbyniwyd gan yr Ymgeisydd (Waterfront Action Group) a’r prif wrthwynebwyr (Stena Line Ports Ltd a Conygar Stena Line Limited). Cynghorodd Mr Pike nad oedd y cais yn gwneud achos prima facie ar gyfer cofrestru; cynghorodd Mr Pike hefyd na ddylai’r Awdurdod Cofrestru wneud penderfyniad ar y Cais tan fod tystiolaeth a’r dadleuon ar faterion penodol a nodwyd yn ei gyngor, wedi eu clywed. Wrth dderbyn y cyngor hwn, rhoddodd yr Awdurdod Cofrestru gyfarwyddyd i Mr Pike weithredu fel Archwiliwr mewn ymchwiliad cyhoeddus anstatudol i’r Cais ac yna i baratoi adroddiad gydag argymhelliad o ran sut y dylai’r Awdurdod Cofrestru benderfynu ar y Cais. Roedd yr adroddiad gan Mr Pike yn cynnwys, fel atodiad i adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth, dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 3 a 7 Hydref, 2016 yn Neuadd y Dref, Caergybi.  

 

Roedd yr adroddiad gan Mr Pike yn crynhoi ym mharagraff 296 “that use of the Land was ‘by right’ and not ‘as of right’ for the whole of the Relevant Period because the Council held it and had made it available for such use; and  because until 2007 the whole of the Land was subject to the Byelaws, which either caused any sports and pastimes on the Land to be unlawful rather than lawful, or alternatively when considered in conjunction with the lease to the Council gave rise to the grant of permission to the public to use the Land.” Ei argymhelliad felly oedd na fedrir cofrestru’r tir ar hyn o bryd a bod yn rhaid gwrthod y cais. Mae’r Swyddog yn argymell y dylid derbyn argymhelliad a chasgliadau Mr Pike ac y dylai’r Awdurdod Cofrestru wrthod y cais.

 

Rhoddodd y Swyddog Cyfreithiol wybod i’r Pwyllgor yn dilyn cael adroddiad Mr Pike gan y Cyngor, bod yr Athro Emeritus Terence Looker ar ran y Waterfront Action Group wedi anfon e-bost ar 23 Chwefror,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.