Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi eu derbyn.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

To receive any declaration of interest by any Member or Officer in respect of any item of business.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn:-

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ann Griffith ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.2 ar y rhaglen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.4 ar y rhaglen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard O. Jones ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1 ar y rhaglen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.T. Hughes ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1 ar y rhaglen.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 181 KB

To submit, for confirmation, the minutes of the Planning and Orders Committee held on 1st March, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar1 Mawrth, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar newid o dan eitem 7.4, tudalen 5 ‘Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yn ymwybodol o’r cais.’ Ymddiheurodd y Cadeirydd, roedd y Cynghorydd R.O. Jones wedi gofyn am ymweliad safle cyn y cyfarfod ar ran y Cynghorydd A.M. Jones, Aelod Lleol.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 19 KB

To present the minutes of the Planning Site Visits held on 15 March, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2, 7.5, 7.7, 7.8 a 7.9.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 372 KB

6.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

6.2 34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  20C310B/EIA/RE –Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, aeth y Cynghorwyr W.T. Hughes a R.O. Jones allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

6.2  34C304K/1/EIA/ECON - Cais hybrid am ganiatâd cynllunio llawn i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a gwaith cysylltiedig â chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd a lle parcio cysylltiedig â gwaith ar dir yng Ngholeg Menai, Ffordd y Coleg, Langefni.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1  15C30H/FR – Fferm Pen y Bont, Malltraeth

7.2  18C225B – Bron Castell, Llanfairynghornwy

7.3  21C58H – Parc Eurach, Llanddaniel Fab

7.4  23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch

7.5  25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llanerchymedd

7.6  38C324 – Alma Hall, Carreglefn

7.7  45C84R/ECON – Caffi’r Marram Grass, White Lodge, Niwbwrch

7.8  47C153 – Plas Newydd, Llanddeusant

7.9  47C154 – Plas Newydd, Llanddeusant

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 7.1 15C30H/FR - Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm, Touring and Camping, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth ar y cais hwn er mwyn siarad fel Aelod Lleol. Aeth y Cynghorydd Richard O. Jones, Is-gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem.

 

Yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 16 Tachwedd, 2016. Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y rheswm nad oedd yn teimlo bod y risg o lifogydd ar raddfa a oedd yn cyfiawnhau ei wrthod ac oherwydd na fyddai’r cais yn cael effaith andwyol ar ecoleg Cors Ddyga. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, dywedwyd wrth yr Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwydd i ohirio’r cais tra yr oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn penderfynu a fyddent yn galw’r cais i mewn ar gyfer penderfynu arno ai peidio. Yn y cyfarfod hwnnw, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod ganddynt ddau opsiwn, naill ai i ohirio’r cais neu ei wrthod yn unol ag argymhelliad y swyddog; penderfynodd y Pwyllgor ohirio’r cais hyd oni fyddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi penderfynu a fyddai’n galw’r cais i mewn ai peidio. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai dyma yw’r sefyllfa o hyd, mae’n agored i’r Pwyllgor yn y cyfarfod hwn ohirio’r cais neu ei wrthod yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd W.T. Hughes.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rheswm a roddwyd.

 

7.2  18C225B - Cais llawn i godi annedd newydd, chreu mynedfa ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod ar 1 Mawrth 2017, penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 15 Mawrth 2017.

 

Siaradodd Mrs. Elen Pritchard, yr ymgeisydd, o blaid ei chais. Dywedodd Mrs. Pritchard eu bod, fel teulu ifanc, yn dymuno dychwelyd i Lanfairynghornwy lle cawsant eu magu ac i fagu eu teulu eu hunain yn niwylliant gwledig y cefn gwlad.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn dymuno ymddiheuro i’r Cynghorydd Llinos M. Huws, Aelod Lleol, bod yr ymweliad safle ar gyfer y cais hwn wedi’i gynnal awr yn gynt na’r disgwyl ar ddiwrnod yr ymweliadau safle ar 15 Mawrth 2017. Rhoes i’r Aelod Lleol y cyfle i egluro’r cais yn fanwl petai’n dymuno gwneud hynny. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos M. Huws bod y cais hwn, yn ei barn hi, yn un mewnlenwi ym mhentref Llanfairynghornwy.  Cyfeiriodd at yr anheddau a’r eglwys yn ymyl safle’r cais ac roedd o’r farn bod adroddiad y Swyddog yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am dy fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 343 KB

11.1  14C164F – Tryfan, Trefor

11.2  15C108B – Dryll, Bodorgan

11.3  47C157 – Plas Newydd, Llanddeusant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1      14C164F – Cais i ymestyn cwrtil preswyl y tai newydd ger Tryfan, Trefor.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn ffrind i 'swyddog perthnasol'. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai cais yw hwn i gadw'r estyniad i gwrtil preswyl y ddau eiddo ac oherwydd bod y cwrtil estynedig y tu cefn i’r eiddo ac yn ymestyn ymhellach i mewn i'r cae ni fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos.

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd W.T. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2   15C108B – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol yn annedd ynghyd ag addasu ac ehangu a chreu mynedfa newydd i geir yn Dryll, Bodorgan

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn ffrind i 'Gynghorydd cyfredol'. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd  y Cynghorydd Ann Griffith y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch.

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Jeffrey M. Evans y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.3   47C157 – Cais ôl-weithredol i greu mynedfa  newydd i geir ynghyd â chau’r fynedfa bresennol yn Plas Newydd, Llanddeusant.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn ffrind i 'swyddog perthnasol'. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Cynigiodd y Cynghorydd T V Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 590 KB

12.1  12C49P/DEL – Casita, Biwmares

12.2  33C190Q/VAR – Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen

12.3  34LPA1033/CC – 6-29 Llawr y Dref, Llangefni

12.4  48C203 – 31 Maes Meurig, Gwalchmai

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 12C49P/DEL –Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.

         

          Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai cais yw hwn i ddileu amod (09) o ganiatâd cynllunio 12C49M / VAR sy'n nodi mai dim ond pobl dros 55 oed y caniateir iddynt fyw yn yr unedau.  Gosodwyd yr amod yn wreiddiol am fod yr  ymgeiswyr yn arbenigo mewn darparu ar gyfer pobl dros 55 oed. Fodd bynnag, o ganlyniad i newidiadau yn y farchnad ac ansicrwydd ynghylch a fyddai’r  unedau yn cael eu prynu, byddai dileu'r amod yn caniatáu ar gyfer ystod ehangach o ddarpar brynwyr ac yn cynyddu tebygolrwydd y datblygiad. Mewn perthynas â thai fforddiadwy, cytunwyd ar gyfraniad o £100,000 yn y Cytundeb   Adran 106 blaenorol a osodwyd fel amod gyda chymeradwyo’r cais. Mae'r ddarpariaeth tai fforddiadwy yn cael ei thrafod ar hyn o bryd gyda'r ymgeisydd a chaiff y mater hwn ei gynnwys mewn cytundeb newydd. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio hefyd fod angen cwblhau gwaith i sefydlogi’r ddaear cyn dechrau unrhyw waith arall fel yn y cais blaenorol, a bod yr amod hwn yn parhau i fod yn rhan o’r cais.

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies, fel un o’r Aelodau Lleol, fod y cais o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a bod y gwaith sefydlogi tir yn achos pryder i'r trigolion lleol ac i Gyngor Tref Biwmares. Roedd o'r farn y dylid cadw’r cyfyngiad oed. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais ac eiliodd y Cynghorydd T.V. Hughes y cynnig.

Cynigiodd y Cynghorydd Jeffrey M. Evans y dylid gohirio rhoi sylw i’r cais er mwyn caniatáu i'r Swyddog gael gwybod gan y datblygwr pam fo eisiau dileu'r amod cyfyngiad oed mewn perthynas â datblygu'r safle. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig i ohirio rhoi sylw i’r cais.

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith a T.V. Hughes i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeffrey M. Evans, K.P. Hughes, W.T. Hughes a Nicola Roberts i ohirio ystyried y cais. Gwrthodwyd y cais ar  bleidlais fwrw'r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyriwyd nad yw’r cais yn bodloni anghenion yr ardal leol a bod angen datblygiad o’r fath ar gyfer pobl dros 55 oed.

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).

 

12.2 33C190Q/VAR –Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (03) o ganiatâd cynllunio cyf 33C190 (Adolygiad o amodau cynllunio yn unol á Deddf yr Amgylchedd 1995) er mwyn cael defnyddio’r fynedfa wreiddiol ar gyfer cerbydau i'r safle yn Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 268 KB

13.1  21LPA727A/CC – Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel

13.2  48C202 – Penrallt Bach, Gwalchmai

 

Gweddill y Ceisiadau

 

CAIS HWYR A GYMERADWYD I’W DRAFOD GAN Y CADEIRYDD

 

13.5  10LPA1031/CC – Maes Llewelyn, Aberffraw

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1      21LPA727A/CC – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu i greu adnoddau newydd yn cynnwys dosbarth; creu man parcio newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â newid gosodiad a man parcio presennol a chreu cilfan yn Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cais hwn wedi ei gymeradwyo’n flaenorol yn y cyfarfod ym mis Ionawr, 2017.  Dygwyd y cais yn ôl i'r Pwyllgor i roi gwybod iddo fod cynlluniau diwygiedig wedi dod i law. Mae'r cynlluniau’n dangos llwybr cerdded cyson sy’n 1.8m o led, ynghyd â chroesfan i gerddwyr a chadarnhad y bydd polyn telegraff ger y fynedfa yn aros lle mae.  Nid oes unrhyw newidiadau i'r estyniadau a gymeradwywyd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

13.2 48C202 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Penrallt Bach, Gwalchmai.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cais uchod wedi ei dynnu’n ôl. 

 

Nodi fod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

 

CAIS HWYR A GYMERADWYWYD I’W DRAFOD GAN Y CADEIRYDD

 

Gweddill y Ceisiadau

 

13.3  10LPA1031/CC – Cais llawn ar gyfer gosod deunydd inswleiddio waliau allanol yn 3, 16, 27, 28, 29, 30, 32, 33, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41 a 42 Maes Llewelyn, Aberffraw

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr eitem wedi ei chyflwyno gan y Cadeirydd i'w hystyried fel eitem frys. Nid oedd rhywfaint o'r gwaith a gontractiwyd sydd eisoes wedi ei wneud angen caniatâd cynllunio ond mae angen caniatâd ar gyfer gwaith arall sydd heb ei wneud hyd yma ar gladin allanol yr anheddau a byddai unrhyw oedi yn golygu costau uwch i bwrs y wlad.

 

Cytunodd y Cadeirydd i ganiatáu cyflwyno’r adroddiad fel eitem hwyr a brys gan y byddai oedi cyn gwneud penderfyniad yn arwain at gostau ychwanegol i'r pwrs cyhoeddus.

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.