Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 27ain Gorffennaf, 2016 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

Yn absenoldeb yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Richard Owain Jones, penderfynodd y Pwyllgor ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn ac fe etholwyd y Cynghorydd Nicola Roberts i’r swydd.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb isod:

 

Datganodd y Cynghorydd W.T.Hughes ddiddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â cheisiadau 6.1 a 7.2

Datganodd y Cynghorydd T.Victor Hughes ddiddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.1

Datganodd y Cynghorwyr Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 7.2 oherwydd y cyfeiriad a wneir at Dyrbinau Gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru.

3.

Cofnodion Cyfarfod 6 Gorffennaf, 2016 pdf eicon PDF 402 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2016 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

4.

Ymweliadau Safle 20 Gorffennaf, 2016 pdf eicon PDF 120 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau â Safleoedd a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai aelodau o’r cyhoedd yn siarad ar geisiadau 7.2, 12.1 a 12.2

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 233 KB

6.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

6.2  39C561/FR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1       20C310B/EIA/RE – 20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer cysylltiedig, isadeiledd a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn, aeth y Cynghorydd W.T.Hughes allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2       39C561/FR/TR – Cais llawn ar gyfer codi Canolfan Zorb ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir yn Ffordd Caergybi, Porthaethwy.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 992 KB

7.1  19C1174/FR – Enterprise Park, Caergybi

 

7.2   20C102L/EIA/RE – Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

7.3   28C257A – Bryn Maelog, Llanfaelog

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1       19C1174/FR – Cais llawn i newid defnydd tir i osod 103 o gynwysyddion i ddibenion storio ym Mharc Menter, Caergybi

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod safle’r cais yn rhan o dir y mae’r Cyngor yn berchen arno. 

 

Yn ei gyfarfod ar 6 Gorffennaf 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais ac fe ymwelwyd â’r safle ar 20 Gorffennaf, 2016.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllun wrth y Pwyllgor fod Dŵr Cymru, ers yr ymweliad, wedi cyflwyno sylwadau ynghylch lleoliad y cynwysyddion arfaethedig o ystyried lleoliad y prif gyflenwad dŵr. Mae trafodaethau ar y gweill ynghylch lleoliad y cynwysyddion a chan gymryd i ystyried y cynllun cyfredol a’r lle y mae Dŵr Cymru ei angen o gwmpas ei bibellau cyflenwi dŵr, mae angen ystyried y cynllun ymhellach cyn cynnig argymhelliad i’r Pwyllgor. O’r herwydd argymhellwyd bod y cais yn cael ei ohirio hyd oni fydd canlyniadau’r trafodaethau hynny’n hysbys.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2       20C102L/EIA/RE – Cais llawn i godi 11 o dyrbinau gwynt gyda 6 thyrbin gwynt hyd at 900kw gydag uchafswm uchder hwb o hyd art 55m, diameter rotor o hyd at 52m, ac uchafswm uchder i ben y llafn o hyd at 79m, a 3 tyrbin gwynt hyd at 900kw gydag uchder hwb o hyd at 45m, diameter rotor o hyd at 52m ac uchder mwyaf i flaen y llafn o hyd at 70m, a 2 dyrbin gwynt hyd at 900kw gydag uchder hwb o hyd at 45m, diameter rotor o hyd at 52m, ac uchder mwyaf i flaen y llafn o hyd at 66m uwchben y ddaear ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i’r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrit (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt presennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Mae’r cais yn un i ail-bweru’r fferm wynt gyfredol yn Rhyd y Groes. Mae’r cais yn un am Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd ac o’r herwydd, rhaid ei gyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am benderfyniad.

 

Bu oedi gyda chyflwyno’r cais i’r Pwyllgor er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd ymateb i’r gwrthwynebiadau a cheisiadau am wybodaeth bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru, y Cyngor, y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r materion a amlinellwyd yn yr adroddiad. Mae ymateb yr ymgeisydd wedi arwain at ddiwygio’r cynllun a derbyniwyd datganiad diwygio cynllun ym mis Mehefin 2016 sy’n gwneud i ffwrdd â thyrbinau 12 a 13 ar ochr ddwyreiniol y safle ac yn gostwng uchder tyrbinau 3, 4 ac 11.

Dywedodd Mr Roger Dobson, siaradwr cyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r cais, ei fod yn siarad dros nifer o drigolion yng Ngogledd Ynys Môn,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 229 KB

11.1  36C338A - Ysgol Henblas, Llangristiolus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 36C338A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd a garej ar wahân ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn gweithio yn adran gynllunio’r Cyngor Sir. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio bod y broses gyhoeddusrwydd, yn dilyn derbyn cynllun diwygiedig mewn perthynas â lleoliad y garreg, wedi cael ei hail-adrodd ac mai’r dyddiad diwethaf ar gyfer derbyn sylwadau oedd 2 Awst, 2016. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, roedd dau lythyr yn gwrthwynebu’r cais a phump o’i blaid wedi dod i law. Cadarnhaodd y Swyddog fod llythyr pellach o wrthwynebiad wedi’i dderbyn a bod y gwrthwynebwyr yn codi materion ynghylch addasrwydd y cynnig ym mhentref Llangristiolus o ystyried ei faint a fforddiadwyedd. Ym marn y Swyddog, ystyrir bod codi’r annedd arfaethedig yn y lleoliad hwn yn dderbyniol; mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda pholisi ac ni fydd yn cael effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos. Mae caniatâd amlinellol eisoes wedi ei roi ar safle’r cais. Yr argymhelliad felly yw un o ganiatáu’r cais.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Victor Hughes at fater yn ymwneud ag edrych drosodd a gofynnodd am eglurhad o’r canllawiau sy’n ymwneud â phellteroedd gwahanu a ffenestri ystafelloedd gwely. Yn siarad fel Aelod Lleol, cyfeiriodd y Cynghorydd Victor Hughes at lythyr o wrthwynebiad a gyflwynwyd gan ddeilydd eiddo cyfagos lle dygir sylw at bryderon ynglŷn â’r llain welededd a’r ffaith fod dŵr yn sefyll ar y plot yn enwedig ar adegau o law trwm.  Mae Llangristiolus yn ardal lle mae’r graig yn agos iawn at wyneb y tir. Cyfeiriodd y Cynghorydd Victor Hughes at brawf mandylledd a gomisiynwyd gan yr ymgeisydd a dywedodd i’r prawf gael ei gynnal mewn tywydd sych. Bwriedir hefyd lleoli ffos gerrig yn y rhan wlypaf o’r safle wrth y wal derbyn gydag eiddo’r gwrthwynebwr. Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes fod perchennog y tir wedi gwrthwynebu cais a gyflwynwyd yn 2009 gan gymydog ar safle cyfagos oherwydd bod y safle, yn hanesyddol, yn dueddol o gael ei effeithio gan lifogydd a dyfynnodd o’r ohebiaeth a gyflwynwyd ar y pryd. Cyfeiriodd hefyd at e-bost dyddiedig Mai 2015 gan Swyddog o Adran Ddraenio’r Cyngor yn gofyn am fanylion y trefniadau i gael gwared ar ddŵr wyneb. Yn wyneb y wybodaeth hon, dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod o’r farn nad oedd y problemau draenio wedi cael sylw digonol a chynigiodd y dylai’r cais gael ei ohirio hyd oni fyddai’r materion hyn ynghyd â’r pryderon ynglŷn â’r fynedfa, wedi cael eu datrys. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio fod yr ymgeisydd wedi comisiynu adroddiad gan ymgynghorwyr proffesiynol ynghylch mandylledd a bod y prawf mandylledd wedi cael ei gynnal ar 2 Ionawr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 699 KB

12.1 10C130 – Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw

 

12.2 10C131 – Maes Parcio Broad Beach, Rhosneigr

 

12.3 18C224A – Fron Hendre, Llanfairynghornwy

 

12.4 25C255A – Tan Rallt, Carmel

 

12.5 19LPA1028/CC – 5//5a Stanley Crescent, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 10C130 – Cais llawn ar gyfer lleoli peiriant talu am barcio ym Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod aelod lleol wedi ei alw i mewn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd y teimladau cryf yn y gymuned leol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor er mwyn siarad ar y cais fel Aelod Lleol. Aeth yr Is-Gadeirydd i’r gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Siaradodd Ms Sioned Edwards, Siaradwraig Gyhoeddus o blaid y cais a dywedodd bod y cais yn un i leoli peiriant talu am barcio 1.9 metr o uchder a 0.4 metr o led ym maes parcio Porth Trecastell. Er mwyn lliniaru effaith weledol y peiriant talu am barcio ar y dirwedd o’i gwmpas sydd wedi’i dynodi’n AHNE,  bydd y peiriant yn cael ei osod yn ymyl strwythurau eraill megis arwydd ‘tir preifat’ a biniau gwastraff. Bydd y peiriant wedi’i sgrinio o’r dirwedd ehangach gyda thwyni tywod a llystyfiant. Bydd y peiriant yn y maes parcio sydd ym mherchenogaeth breifat Stad Bodorgan a bydd yn cael ei reoli gan y Stad. Nid oes wnelo’r cais â newid defnydd tir a bydd y tir yn parhau i gael ei ddefnyddio fel maes parcio. Ni fydd unrhyw newidiadau ychwaith i’r oriau y bydd y maes parcio ar gael i’w ddefnyddio. Mae’r egwyddor o godi am barcio mewn maes parcio yn ymyl traethau yn un sydd wedi’i derbyn mewn nifer o leoliadau ar hyd a lled Ynys Môn gan gynnwys Llanddwyn a Benllech. Mae Stad Bodorgan wedi ymgynghori ar y bwriad i godi tâl am barcio yn ystod Haf 2015; bydd yr incwm a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr yn yr ardal, gan gynnwys y fynedfa i’r traeth a’r llwybr arfordirol. Mae’r Adran Briffyrdd wedi dweud y bydd yn gwahardd parcio ar y briffordd. Yn y llythyrau o wrthwynebiad a gafwyd, mynegwyd pryderon y bydd y maes parcio ar gau dros nos. Nid yw hynny’n rhan o’r cais. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers fel Aelod Lleol a phwysleisiodd rinweddau Stad Bodorgan fel perchennog tir o ran y modd y mae’n gwasanaethu ei gymunedau ac mai awydd i wella safonau yw’r rheswm dros gyflwyno’r cais. Nid yw’r Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu’r cais. Un o’r problemau mwyaf yw'r carafannau’n gwersylla yno dros nos ac am gyfnodau estynedig a’r llanast y mae hynny’n ei achosi; mae Stad Bodorgan yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwnnw a gwella pethau i ymwelwyr. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad 12 mis yn ôl gyda nifer o bartïon â diddordeb.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol hefyd, cadarnhaodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod wedi galw’r cais i mewn oherwydd y pryderon niferus a fynegwyd ynglŷn â’r cais gan bobl leol a chan bobl o bellach draw sy’n defnyddio’r traethau. Yr oedd hefyd wedi gofyn am sylwadau drwy Facebook ac yn sgil hynny, cafwyd 8 o ymatebion hwyr ac anfonwyd y rheiny ymlaen i’r Adran Gynllunio. Esboniodd y Cynghorydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw faterion eraill eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.