Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

There were no apologies for absence.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd W.T.Hughes a’r Cynghorydd Richard Owain Jones ddatgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 6.1 ar yr agenda.

 

Gan mai dyma ei chyfarfod olaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, manteisiodd y Cynghorydd Ann Griffith ar y cyfle i ddiolch i’r holl Swyddogion a oedd wedi’i chefnogi hi a’r Pwyllgor yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd. Diolchodd hefyd i’w chyd-aelodau o’r Pwyllgor am eu cyfraniadau yn ystod y cyfnod hwn.   

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 141 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 5 Ebrill, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Ebrill, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 16 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 19 Ebrill, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 19 Ebrill, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd bod siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.5 a 12.2.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 174 KB

6.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.120C310B/EIA/RE Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Yn dilyn datgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorwyr W.T.Hughes a Richard Owain Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater.  

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod canllawiau cenedlaethol yn cynghori y dylid osgoi adrodd ar, ystyried a phenderfynu ar faterion cynhennus yn ystod y cyfnod cyn etholiad. Gan i’r cyfnod cyn-etholiad gychwyn ar 21 Mawrth, 2017 cyn yr etholiadau llywodraeth leol ac oherwydd y gellir ystyried y cais hwn fel un cynhennus ac anarferol, argymhellwyd y dylid gohirio rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i’r cais hwn tan ar ôl yr etholiad.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1  12C49P/DEL – Casita, Biwmares

7.2  15C30H/FR – Pen y Bont Farm, Malltraeth

7.3  18C225B – Bron Castell, Llanfairynghornwy

7.4  33C190Q/VAR – Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen

7.5  34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

7.6  47C153 – Plas Newydd, Llanddeusant

7.7  47C154 – Plas Newydd, Llanddeusant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1       12C49P/DEL - Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2017 fe benderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Mae’r cais yn cael ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfnod statudol o fis ar gyfer “cnoi cil”.   

Nododd yr Arweinydd Tîm Datblygiadau Cynllunio y gwrthodwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Ebrill 2017 gan na ystyriwyd fod y cynnig yn bodloni anghenion yr ardal leol, a bod angen tai o’r math hwn er mwyn bodloni anghenion pobl hŷn. Roedd adroddiad ysgrifenedig pellach y Swyddog yn cyfeirio at y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor am wrthod y cais. Yn ychwanegol at hynny, roedd gohebiaeth wedi’i chyflwyno gan asiant yr ymgeisydd yn nodi, ers cwymp y farchnad dai yn 2008, bod prynwyr posibl wedi bod yn amharod i brynu eiddo sydd ag unrhyw fath o gyfyngiadau oherwydd y goblygiadau wrth ail-werthu sydd felly yn codi amheuon am ddichonoldeb y prosiect. Mae’n rhaid i’r amod hefyd fodloni’r prawf yn y ddeddfwriaeth gynllunio o ran ei fod yn angenrheidiol, yn rhywbeth y gellir ei orfodi a’i fod yn fanwl gywir; rhaid gallu dangos bod rhesymau cynllunio dros osod cyfyngiad ar oedran y preswylwyr. Dywedodd y Swyddog, yn dilyn ymgynghori â’r Adran Dai, y cadarnhawyd nad oes unrhyw wir angen yn lleol am dai â chyfyngiad oedran ar gyfer preswylwyr dros 55 oed. 

    

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle ar y sail nad yw hwn yn ddatblygiad arferol.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio na fyddai ymweliad safle yn debygol o gynorthwyo’r Pwyllgor gan nad yw hwn yn ddatblygiad newydd ond yn gais i gael gwared ar amod penodol ar ganiatâd cynllunio sydd eisoes wedi’i roi ar gyfer codi 35 o fflatiau preswyl. Cefnogodd y Swyddog Cyfreithiol sylwadau’r Swyddog a chynghorodd na fyddai ymweliad safle yn cynorthwyo yn yr achos hwn. O ganlyniad, tynnodd y Cynghorydd Lewis Davies ei gais am ymweliad safle yn ôl. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau hynny a oedd yn erbyn y cais at y ffaith bod nifer sylweddol o bobl dros 55 oed yn byw yn yr ardal ac roeddent yn bryderus, heb y cyfyngiad oedran, y gallai’r safle gael ei ddatblygu mewn ffordd wahanol iawn i’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol ac na fyddai modd i’r boblogaeth leol fforddio eu prynu. Mae safle’r cais mewn ardal hynod ddeniadol sydd â photensial sylweddol y gallai’r datblygwr efallai geisio manteisio arno. Tynnwyd sylw at y ffaith hefyd fod y farchnad dai wedi gwella er 2008 a bod Ynys Môn yn ardal lle mae prisiau eiddo wedi cynyddu.

  

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio fod angen ystyried a oes rhesymau cynllunio dilys dros gadw’r cyfyngiad oedran dros 55 oed. Mae’r safle o fewn ffin anheddiad Biwmares fel y’i nodir yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 285 KB

8.1  34C705/ECON – Ysgol y Graig, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1 34C705/ECON - Cais llawn i ddymchwel yr ysgol bresennol, codi archfarchnad newydd, gwelliannau i'r fynedfa bresennol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar hen safle Ysgol y Graig, Llangefni.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad yn un sy’n cynnwys tir sy’n berchen i’r Cyngor. 

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio bod y cais wedi bod yn destun y broses gyhoeddusrwydd newydd cyn cyflwyno cais cynllunio lle mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal cyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Gwasanaeth Cynllunio; mae tri llythyr o gefnogaeth ac un llythyr o wrthwynebiad wedi dod i law. Mae’r uned newydd arfaethedig yn llawer mwy o ran maint na’r uned adwerthu bresennol; mae’r ymgeisydd wedi ymgymryd â phrawf dilyniannol yn ôl yr angen o ran polisi cynllunio a Pholisi Cynllunio Cymru sydd wedi cynnwys ystyried yr opsiwn o ddymchwel yr hen siop ac ailddatblygu’r safle. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau’r safle presennol o ran ei gapasiti i ddarparu siop fwy a’r ffaith nad yw safleoedd eraill yn addas o ran y meini prawf angenrheidiol ar gyfer model busnes yr ymgeisydd, mae safle’r cais yn cael ei ffafrio ar gyfer y siop newydd. Dywedodd y Swyddog bod yr adroddiad hefyd yn dangos, o ran capasiti, na fyddai’r cais yn achosi unrhyw niwed i brysurdeb na hyfywedd y siopau presennol yng nghanol y dref.  

 

Roedd y Pwyllgor yn ffafrio’r cynnig yn amodol ar gadarnhau y cedwir y llwybr troed presennol a’r fynedfa iddo o Stad Tan Capel drwy’r ddau gae yn y cefn a hen safle’r ysgol i lawr i’r stad ddiwydiannol; bod yr oriau gwaith yn cael eu rheoleiddio er mwyn atal niwsans sŵn gan fod cwynion wedi eu derbyn yn lleol am y gwaith ar yr adnodd gofal ychwanegol cyfagos, ac yn amodol ar gadarnhad bod unrhyw lwyni a choed sy’n cael eu plannu yn cael eu cynnal am gyfnod o 10 mlynedd yn hytrach na 5 mlynedd. Dywedodd y Swyddog y gellir edrych ar statws y llwybr; y bydd cynllun rheoli’r amgylchedd yn cael ei weithredu er mwyn delio â thraffig, sŵn a llygredd ac ati gydag amod na fydd gwaith yn dechrau ar y safle cyn 8:00am. O ran cynnal a chadw’r llwyni a'r coed a blennir fel rhan o’r cynllun tirlunio, dywedodd y Swyddog mai’r cyfnod cynnal a chadw a awgrymwyd gan y Swyddog Coed a Thirlunio yw 5 mlynedd; fodd bynnag, gellir rhoi ystyriaeth i ymestyn y cyfnod hwnnw.  

 

Nododd y Pwyllgor ei siom nad oedd unrhyw fuddion cymdeithasol yn codi o’r cynllun.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

9.

Ceisidadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau’n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 177 KB

11.1  13C194 – Llwyn Llinos, Bodedern

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1. 13C194 Cais amlinellol ar gyfer codi tri annedd fforddiadwy sy'n cynnwys manylion mynedfa, edrychiad, gosodiad a graddfa, ar dir gyferbyn â Llwyn Llinos, Bodedern.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Mae ffeil y cais a’r adroddiad wedi eu hadolygu gan y Swyddog Monitro yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais amlinellol gwreiddiol gyda’r holl faterion wedi’u cadw yn ôl ar gyfer datblygu tri thŷ fel safle eithriadol ar gyfer tai fforddiadwy. Mae’r cais diwygiedig yn cynnig tri byngalo ar ran o gae sy’n mewnlenwi rhwng y fynwent bresennol a’r byngalo cyfagos yn Rhoslyn. Cafwyd tri llythyr o wrthwynebiad mewn perthynas â’r cais gwreiddiol a gyflwynwyd; ni chafwyd unrhyw ohebiaeth bellach ers rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais o’r newydd yn dilyn derbyn y manylion a ddiwygiwyd. Mae’r Gwasanaeth Tai wedi cadarnhau’r angen am dri byngalo dwy ystafell wely ym Modedern ac mae’r cynllun yn adlewyrchu’r angen hwn o ran dyluniad a fforddiadwyedd. Mae’r Awdurdod Priffyrdd yn awgrymu cymeradwyaeth amodol gan gynnwys gosod pafin ar hyd tu blaen y safle. Ystyrir y cynllun yn dderbyniol yn nhermau polisi ac mae’n cael ei argymell ar gyfer cymeradwyaeth yn amodol ar fanylion draenio a chytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau bod yr anheddau yn parhau fel rhai fforddiadwy am eu hoes.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a oedd arolwg traffig wedi’i gynnal gan yr ystyrir bod y rhan hon o’r pentref yn ardal brysur iawn. Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd, er nad oedd arolwg traffig wedi’i gynnal, bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi mynnu ar y safonau uchaf posib mewn perthynas â chyfyngiadau cyflymder a bod y cynnig yn cydymffurfio â nhw. Mae Swyddogion Priffyrdd bellach yn fodlon â’r lefel o welededd ac mae’r fynedfa wreiddiol wedi ei symud er mwyn darparu llain gwelededd o 90 metr i’r ddau gyfeiriad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar dderbyn manylion draenio boddhaol yn ogystal â chytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau bod yr anheddau yn parhau i fod yn rhai fforddiadwy am eu hoes.   

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 895 KB

12.1  12LPA1032/CC – 1-17 Bryn Tirion, Biwmares

12.2  12C479B – Rose Hill, Biwmares

12.3  19C98D – 2 Stryd Stanley, Caergybi

12.4  45C480 – Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch

12.5  46C254B – Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 12LPA1032/CC – Cais llawn ar gyfer adnewyddu edrychiad allanol y tai, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â chreu ardal barcio o fewn y safle yn 1-17 Bryn Tirion, Biwmares

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd W.T. Hughes. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.2 12C479B – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir safle’r hen farchnad garddio y tu ôl i Rose Hill, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Alwyn Rowlands, i’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn i’r Aelodai allu cael gwell dealltwriaeth o’r datblygiad arfaethedig o fewn ei gynefin ac er mwyn gallu asesu unrhyw effaith a allai godi gan fod y safle o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylai’r Pwyllgor ymweld â safle’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3 19C98D – Cais llawn ar gyfer gosod ffenestr gromen ynghyd ag addasu blaen y siop a chodi polyn 6m o uchder ar gyfer ail-leoli CCTV yn 2 Stryd Stanley, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan ohono ar dir sy’n berchen i’r Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.4 45C480 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir tu cefn i  Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais er mwyn siarad fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er bod yr annedd arfaethedig yn gorwedd o fewn ffin setliad Niwbwrch, mae mynedfa’r safle yn gorwedd y tu allan i’r ffin datblygu. Dywedodd y Swyddog , er bod yr egwyddor o ddatblygiadau preswyl yn dderbyniol o dan bolisïau cynllunio, fe ystyrir, oherwydd y pellteroedd gwahanu perthnasol, y bydd y cais yn cael effaith ar y mwynderau sy’n cael eu mwynhau ar hyn o bryd gan drigolion yr eiddo cyfagos o ran gweld yr eiddo. Mae’r Swyddog yn casglu yn ei adroddiad y byddai’r cynnig yn golygu mewnlenwi ansensitif a fyddai allan o gymeriad gyda’r ardal gyfagos mewn ffordd sy’n groes i bolisi. Yr argymhelliad felly yw un o wrthod y cais.  

 

Dywedodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.