Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Medi, 2017 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel a nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd T.Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.3.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 270 KB

Cyflwyno i’w cymeradwyo, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2017.

4.

Ymweliadau Safle

Ni chynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 26 Gorffennaf, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymweliadau safle’n dilyn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2017.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw siaradwyr cyhoeddus yn y cyfarfod.

6.

Ceisiadau a ohiriwyd pdf eicon PDF 292 KB

6.1 13C195A – Gate Farm, Trefor

 

6.2 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 13C195A – Cais llawn ar gyfer sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd â chreu pwll slyri a datblygiad cysylltiedig yn Gate Farm, Trefor

 

Oherwydd maint, natur a lleoliad y datblygiad, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle cyn ystyried y cais hwn.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y Swyddog.

 

6.2 20C310B/EIA/RE – Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod yr apêl a gyflwynwyd ar sail y ffaith nad oedd penderfyniad wedi cael ei wneud ar y cais, wedi cael ei thynnu’n ôl. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2017, penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i ohirio’r cais er mwyn ystyried y cynnig yn erbyn y polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a hynny ar ôl derbyn adroddiad cyfrwymol yr Arolygwyr ar 30 Mehefin, 2017.  Roedd yr asiant wedi darparu datganiad yn cefnogi’r cais ac wedi cyfeirio’n arbennig at Bolisi ADN1A (sydd bellach yn Bolisi ADN2 yn y CDLl ar y cyd) sy’n delio’n benodol gyda datblygiadau solar dros 5MW.  Nododd y cafwyd gwrthwynebiad mewn perthynas â sŵn posibl o’r safle a bod yr Adain Iechyd Amgylcheddol wedi adolygu asesiad sŵn yr ymgeisydd a bod raid i’r ymgeisydd gyflwyno mesurau lliniaru sŵn o ganlyniad. Bydd angen cyfnod o ymgynghori cyhoeddus wedi i’r manylion hyn ddod i law gan yr ymgeisydd. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr argymhelliad yn un o ohirio’r cais. 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 499 KB

7.1 24C345 – Tregarth, Llaneilian

 

7.2 46C578 – Y Pafiliwn, Lôn Isallt, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 24C345 – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir ger Tregarth, Llaneilian, Amlwch

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffiths, fel Aelod Lleol, ei fod ef o’r farn mai cais mewnlenwi oedd hwn ac na fyddai’n niweidio mwynderau cymdogion cyfagos. Nid oedd y Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r cais. Gofynnodd y Cynghorydd Griffiths i’r Pwyllgor ystyried ymweld â’r safle cyn penderfynu ar y cais. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi ei leoli mewn Ardal Dirwedd Arbennig yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a’i bod yn ymyl yr AHNE. Ystyrir y byddai’r cynnig yn arwain at ddatblygiad rhubanaidd a fyddai’n creu nodwedd a fyddai’n anghydnaws â chymeriad a mwynderau’r ardal o’i gwmpas. Ystyrir y byddai’r datblygiad yn groes i’r darpariaethau yn y CDLl ar y Cyd a fabwysiadwyd, sef Polisi TAI 6 ‘Tai mewn Clystyrau’. Nid yw Pengorffwysfa wedi ei nodi fel Clwstwr yma ac o’r herwydd, byddai’n cael ei hystyried fel cefn gwlad agored yn y CDLl ar y Cyd. Dywedodd hefyd bod y cais wedi cael ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2017 er mwyn disgwyl i weld a fyddai Cynghorau Ynys Môn a Gwynedd yn mabwysiadu’r CDLl ar y Cyd a fyddai’n disodli’r cynlluniau datblygu cyfredol. Nid oedd y cais yn cynnwys manylion am faterion priffyrdd a draenio ond roedd yr ymgeisydd bellach wedi cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol ac roedd yr Awdurdod Priffyrdd a’r Adain Ddaenio’n fodlon gyda’r cynnig. Yn ogystal, derbyniwyd Adroddiad Ecolegol sy’n dwyn sylw at Bolisi AMG5 y CDLl ar y Cyd o ran yr effaith ar Fioamrywiaeth; byddai’n cael effaith ar gynefin a flaenoriaethir ar y safle hwn a byddai hynny hefyd yn cryfhau’r achos dros wrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

7.2  46C578 – Cais llawn i addasu ac ehangu’r Pafiliwn, Lôn Isallt, Trearddur

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn ymwneud â thir sydd ym meddiant y Cyngor. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd ymateb i wrthwynebiad Cyfoeth Naturiol Cymu (CNC) mewn perthynas â’r asesiad o risg llifogydd ar y safle. Mae’r ymgeisydd wedi ymateb i bryderon CNC ond nid yw’r ymateb yn ddigonol iddynt dynnu eu gwrthwynebiad yn ôl oherwydd nid yw’n dangos y gellir rheoli canlyniadau llifogydd yn dderbyniol yn unol â TAN15.  Mae’r ymgynghorai statudol yn argymell gwrthod y cais yn unol â pholisïau cynllunio cenedlaethol. Fodd bynnag, dywedodd bod dyluniad yr estyniadau i adeilad y pafiliwn yn dderbyniol a bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Dafydd R. Thomas bod defnydd adloniadol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un cais ei ystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un cais ei ystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un cais ei ystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un cais ei ystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 443 KB

12.1 15C224/AD – Hermon

 

12.2 15C225/AD – Maes Parcio Malltraeth

 

12.3 46C572 – Glan Traeth, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 15C224/AD – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ar dir y tu cefn i’r gilfan yn Hermon

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf, 2017.  Fodd bynnag, cyn gwneud penderfyniad, hysbyswyd yr Awdurdod Cynllunio mai trydydd parti sydd biau’r tir ble bwriedir lleoli’r bwrdd arddangos ac nid y Cyngor fel y dywedwyd yn wreiddiol. Mae’r bwrdd arddangos wedi cael ei ail-leoli ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 15C225/AD – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ar dir ym Maes Parcio Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mae’r bwrdd arddangos cymunedol arfaethedig ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.

 

Er bod y bwrdd arddangos wedi ei leoli yn yr AHNE, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad ystyrir y byddai’n cael effaith andwyol ar fwynderau’r ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  46C572 – Cais llawn i addasu adeiladau allanol yn dair annedd, gosod paced trin carthffosiaeth ynghyd â gwella’r fynedfa yn Glan Traeth, Trearddur

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei gymeradwyo yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2016  yn amodol ar ddatrys y materion draenio a godwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru; hyd yma, nid yw’r ymgeisydd wedi gweithredu ar ofynion CNC. Oherwydd bod y ddau gyngor wedi mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar gyfer Môn a Gwynedd ar 31 Gorffennaf 2017, mae’r polisïau mewn perthynas ag addasu adeiladau allanol wedi newid a bod yr argymhelliad yn awr yn un o wrthod oherwydd Polisi TAI 7 y Cynllun Datblygu. Mae’r ymgeisydd wedi cael y cyfle i ymateb i’r newidiadau y mae’r polisi’n mynnu arnynt ac i ddarparu tystiolaeth o gydymffurfiaeth gyda TAI 7, ond ni chafwyd unrhyw ymateb.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion eraill i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.