Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Hydref, 2017 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel y rhestrir nhw uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ddiddordeb personol a rhagfarnus yng nghais 7.1.

 

Roedd y Cynghorydd Shaun Redmond yn dymuno nodi ei fod, cyn iddo gael ei ethol yn gynghorydd, wedi cynorthwyo gwrthwynebydd trwy roi cyngor ar sut i wrthwynebu ar faterion  cynllunio ond nad oedd wedi mynegi unrhyw farn bersonol ar y mater.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 383 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6ed Medi, 2017.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 181 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 20fed Medi, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod Siaradwyr Cyhoeddus wedi cofrestru i siarad ar geisiadau 10.2 a 12.1.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 373 KB

6.1 – 13C195A – Gate Farm, Trefor

6.2 – 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

6.3 – 45C482 – Cae Gors, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1     13C195A – Cais llawn i godi sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd ag adeiladu pwll slyri a datblygiad cysylltiedig yn Gate Farm, Trefor

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Aelodau'r Pwyllgor wedi ymweld â safle'r cais ar 20 Medi, 2017. Mae'r cais hefyd wedi'i sgrinio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel un y  bydd angen Datganiad Amgylcheddol ar ei gyfer o dan y Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol; mae’r ymgeisydd wedi derbyn hynny. O dan yr amgylchiadau hyn, argymhellir bod y cais yn cael ei dynnu oddi ar y rhaglen gan nad yw'n debygol y bydd adroddiad arno yn y dyfodol agos.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais a'i dynnu oddi ar raglen y Pwyllgor am y tro, a hynny’n unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.2     20C310B/EIA/RE – Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99 MW ynghyd â chyfarpar, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at hanes y cais a dywedodd y gohiriwyd rhoi sylw iddo mewn nifer o gyfarfodydd am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. Gohiriwyd ystyried y cais yng nghyfarfod mis Medi, 2017 i ganiatáu i'r ymgeisydd gyflwyno manylion ynghylch lliniaru sŵn. Er nad oedd y manylion hynny ar gael ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, maent bellach wedi dod i law a byddant yn destun ymgynghoriad pellach. Gan mai dyna oedd y sefyllfa, argymhellwyd y dylid gohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu i'r ymgynghoriad hwnnw ddigwydd.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.3     45C482 – Cais llawn ar gyfer codi tŵr latis 21m o uchder gydag offer cysylltiedig ar dir i'r gogledd-ddwyrain o Cae Gors, Niwbwrch

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir bod angen ymweld â’r safle er mwyn i'r Aelodau weld y cynnig yn ei gyd-destun cyn penderfynu ar y cais.

Penderfynwyd ymweld â safle'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

Penderfynwyd ymweld â safle'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 333 KB

7.1 – 46C578 – Y Pafiliwn, Lôn Isallt, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1     46C578 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau i'r Pafiliwn, Lôn Isallt, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor. Yn ei gyfarfod ar 6 Medi, 2017, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r cynnig ar gyfer yr estyniad i adeilad y pafiliwn yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ond hefyd, yn groes i argymhelliad y Swyddog, cymeradwyodd ddatblygu maes parcio a mynedfa oherwydd bod maes parcio gyferbyn â'r safle datblygu arfaethedig ac ‘roedd o'r farn nad yw'r cynllun arfaethedig yn adeilad y pafiliwn ddim gwahanol i hyn.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymgynghorwyd ymhellach gyda Cyfoeth Naturiol  Cymru (CNC) a bod yr ymgynghorai statudol, ar ôl codi gwrthwynebiadau i'r maes parcio a’r fynedfa oherwydd y perygl o lifogydd, wedi datgan ei bryder bod penderfyniad y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn tynnu’n groes i'r polisïau cenedlaethol ar lifogydd. Er bod CNC wedi cynnig amod, fel ffordd ymlaen, na ddylid defnyddio'r maes parcio os bydd rhybudd o lifogydd, dywedodd y Swyddog y byddai'n anodd gorfodi amod o'r fath. O ganlyniad, nid yw argymhelliad y Swyddog wedi newid, sef bod y cais mewn perthynas â'r estyniadau i'r adeilad pafiliwn yn cael ei gymeradwyo ac y dylid gwrthod y cynnig i greu mynedfa a maes parcio newydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cadarnhau penderfyniad gwreiddiol y Pwyllgor i gymeradwyo dwy elfen y cais, sef yr estyniadau i’r adeilad a chreu maes parcio a mynedfa newydd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Shaun Redmond welliant, sef bod y caniatâd yn cynnwys yr amod a gynigiwyd gan CNC. Pwysleisiodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio eto mai barn y Swyddog yw na ellir gorfodi'r amod, ond ei bod yn fater i'r Pwyllgor benderfynu a ddylid ei osod ar y caniatâd er gwaethaf hynny. Ni chafwyd eilydd i'r cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts welliant pellach, sef bod amod ynghlwm wrth y caniatâd ar gyfer y maes parcio bod raid codi arwydd penodol i rybuddio defnyddwyr am y perygl posib o lifogydd. Cadarnhaodd y Swyddog fod amod i'r perwyl yn dderbyniol. Eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig.

Wedi hynny, tynnodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ei gynnig yn ôl o blaid y gwelliant.

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor, sef

 

           Cymeradwyo'r cais i ymestyn adeilad y pafiliwn  yn unol ag argymhelliad y Swyddog a,

           Cymeradwyo'r cais i greu mynedfa a maes parcio newydd yn groes i argymhelliad y Swyddog, a chydag amodau i'w penderfynu gan y Swyddogion, gan gynnwys amod y dylid codi arwydd i rybuddio am y perygl o lifogydd.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 692 KB

10.1 – 17C513B – Bryn, Llansadwrn

10.2 – 23C262B/VAR - Nyth Clyd Capel, Talwrn

10.3 – 25C240C/VAR – Pen Parc, Carmel

10.4 – 28C373G – Ffordd Stesion, Rhosneigr

10.5 – 30C246K/VAR – Tyn Pwll, Benllech

10.6 – 38C180F/VAR – Gilfach Glyd, Mynydd Mechell

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 17C513B – Cais llawn am newidiadau i gais A/289A a gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer codi annedd a garej ar dir yn Bryn, Llansadwrn

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er bod safle'r cais yn y cefn gwlad agored ac  felly’n groes i Bolisi PCYFF1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fod cais manwl wedi ei gymeradwyo o dan gyfeirnod A/289A ar dir yn Bryn, Llansadwrn. Cyflwynwyd tystysgrif cyfreithlondeb dan gais cyfeirnod 17C51A/LUC a ddarparodd dystiolaeth bod y sylfeini ar gyfer byngalo wedi cael eu cloddio. Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd wedi diogelu'r caniatâd a gymeradwywyd o dan gais A/289. O gofio bod y dystysgrif yn gyfreithlon, ystyrir bod yr egwyddor o newid dyluniad yr annedd yn dderbyniol. Nid ystyrir y bydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar yr eiddo cyfagos a adwaenir fel ‘Bryn’. Rhoddir amod ar y caniatâd fel y bydd ffenestri'r llawr cyntaf yn y drychiad gogledd-ddwyreiniol yn rhai â gwydr aneglur, a hynny er mwyn lliniaru unrhyw edrych drosodd i eiddo cyfagos. Mae'r Cyngor Cymuned wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y cais. O ystyried y ffaith fod gan safle'r cais ganiatâd cynllunio eisoes, sy’n opsiwn wrth gefn, ynghyd â’r ystyriaethau perthnasol eraill, mae'r argymhelliad yn un o ganiatáu. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r  amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb Adran 106 i atal gweithredu’r  caniatâd blaenorol.

 

10.2 23C262B/VAR – Cais o dan Adran 75 i amrywio amod (11) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 23C262A (Rhaid gweithredu’r datblygiad yn gwbl unol â'r hyn a ddangosir yn y cynlluniau a gyflwynwyd o dan gyfeirnod 23C262A) er mwyn addasu  ac ymestyn ysgubor i greu annedd 3 ystafell wely yn Nyth Clyd Capel, Talwrn

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cynnig yn tynnu’n  groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr egwyddor o ddatblygu'r safle eisoes wedi'i sefydlu dan gais cynllunio 23C262A lle rhoddwyd caniatâd ar 13 Mai, 2013 i addasu ac ymestyn ysgubor i greu annedd 3 ystafell wely yn Nyth Clyd, Talwrn. Mae'r CDLl ar y Cyd yn datgan na chaniateir addasu adeiladau traddodiadol er defnydd preswyl ac eithrio at  ddibenion cyflogaeth neu, os nad yw hynny'n opsiwn, er mwyn darparu uned fforddiadwy. Fodd bynnag, o gofio bod gan safle'r cais ganiatâd cynllunio eisoes i addasu adeilad allanol yn annedd, ac yn wyneb y ffaith yr ystyrir bod y gwelliannau a gynigir o dan y cais cyfredol yn welliant ar y cynnig gwreiddiol gan eu bod yn gostwng nifer yr estyniadau i'r adeilad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 161 KB

11.1 – 36C351A/VAR – Ty Llwyd, Rhostrehwfa

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 36C351A/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (12) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 36C351 (rhaid gweithredu’r datblygiad a ganiateir yma yn gwbl  unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd) er mwyn caniatáu codi'r lefelau llawr gorffenedig yn Llwyd, Rhostrehwfa

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn gyfaill agos i swyddog perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Craffwyd ar y cais gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol dan y paragraff hwnnw.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygwr, ar ôl cychwyn gwaith ar y safle, wedi gweld bod y manylion a gyflwynwyd fel rhan o'r cais cynllunio 36C351 yn anghywir ac y dylai lefel llawr gorffenedig yr annedd arfaethedig fod yn 77.15m AOD ac nid 76.15m AOD fel y nodwyd ar y cynlluniau a gymeradwywyd. Cyflwynwyd y cais hwn er mwyn cywiro'r anghysondeb ac i sicrhau nad yw lefel llawr gorffenedig yr annedd arfaethedig yn is na'r lefel daear arfaethedig. Mae gwaith i weithredu'r caniatâd gwreiddiol wedi dechrau ac mae wedi datgelu craig solet ar safle’r cais a byddai angen gwneud gwaith clirio sylweddol i’w thynnu oddi yno er mwyn gostwng lefel y ddaeardyna’r rheswm am y cynnig i godi lefel llawr yr annedd arfaethedig.  Ym marn y Swyddog, er y bydd y cynnydd yn uchder lefel llawr gorffenedig yr annedd arfaethedig yn gwneud yr annedd ychydig bach yn fwy amlwg, ni fydd yn niweidio'r dirwedd gyfagos i’r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir o (02) ymlaen yn yr adroddiad ysgrifenedig [nid oes angen amod (01) erbyn hyn.]

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 386 KB

12.1 – 46C569A/ENF – Moryn, Trearddur

12.2 – 48C202A – Penrallt Bach, Gwalchmai

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 46C569A/ENF – Cais ôl-weithredol i gadw trac preifat ar dir gerllaw Moryn, Trearddur

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE fel Aelod Lleol, y dylid ymweld â'r safle er mwyn i'r Aelodau weld drostynt eu hunain natur y gwaith a wnaed a'r effeithiau posib o fewn eu cyd-destun.

 

Eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cynnig i ymweld â’r safle.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

12.2 40C202A – Cais llawn i godi annedd ar dir ger Penrallt Bach, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn gan Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd R G Parry, OBE, FRAgS am ymweliad safle gan fod nifer o Aelodau newydd ar y Pwyllgor, fel y gallant weld y safle a lleoliad y cynnig drostynt eu hunain ac i asesu unrhyw effeithiau posib ar fwynderau.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr argymhellir gwrthod y cais ar sail ei effaith ar fwynderau ac oherwydd yr ystyrir ei fod yn fewnlenwi ansensitif. Mae deiliad yr eiddo cyfagos wedi cadarnhau trwy lythyr nad yw’n gwrthwynebu ac mae llythyr gan asiant yr ymgeisydd yn dweud bod y cynnig yn cydweddu â'r ardal gyfagos ac y cynigir mesurau i liniaru unrhyw effaith ar fwynderau. Fodd bynnag, ni fu newid sylweddol yn y cynnig ers tynnu'r cais blaenorol yn ôl ym mis Mawrth, 2017.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid ymweld â safle'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 149 KB

13.1 – 12LPA1032A/CC/MIN – Bryn Tirion, Biwmaris

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 12LPA102A/CC/MIN – Mân newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio 12LPA1032/CC er mwyn gostwng nifer y llecynnau parcio a lleihau’r ardal tarmac yn Bryn Tirion, Biwmares

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod cais mân newidiadau wedi dod i law mewn perthynas â'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol i adnewyddu tai cyngor yn stad Bryn Tirion, Biwmares ac i ddarparu man parcio lle nad oedd un o'r blaen. Mae'r newidiadau  arfaethedig yn golygu gostwng nifer y mannau parcio ceir o 22 i 11 a lleihau'r ardal tarmac; mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi penderfynu’r cais oherwydd ystyrir nad oedd y diwygiadau arfaethedig yn rhai sylweddol.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth.