Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 103 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Hydref, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Hydref, 2017 fel rhai cywir.

 

YN CODI

 

10.4 28C373G – Cais llawn i godi 3 tŷ tref tri llawr sy’n cynnwys balconȉau ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd ar dir yn Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio eu bod wedi delio â’r cytundeb Adran 106 i atal gallu gweithredu’r caniatâd blaenorol ar y safle trwy sod amod ar y caniatâd. 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 14 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd a gafwyd a gafwyd ar 18 Hydref, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus yn bresennol ar gyfer ceisiadau 7.1, 7.3. 7.4 a 7.5.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni d ystyriwyd unrhyw rai gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 959 KB

7.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

7.2  30C180F/VAR – Gilfach Glyd, Mynydd Mechell

7.3  45C482 – Cae Gors, Niwbwrch

7.4  46C569A/ENF – Moryn, Bae Trearddur

7.5  48C202A -   Penrallt Bach, Gwalchmai

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y tro cyntaf ar 27 Gorffennaf, 2016; roedd yr adroddiad yn nodi hanes y cais mewn perthynas â’r ffaith iddo gael ei ohirio sawl gwaith yng nghyfarfodydd y Pwyllgor. Cyflwynwyd apêl oherwydd diffyg penderfyniad ond fe’i tynnwyd yn ôl tra oedd yr Ymgeisydd yn gweithio i ddatrys y materion sy’n weddill gyda’r Cyngor. Cafodd cais i alw’r cais i mewn am benderfyniad gan Weinidogion Cymru ei wrthod mewn llythyr dyddiedig 7 Mawrth, 2017.  Cafodd y cais ei ohirio yn y cyfarfod ym mis Medi, 2017 i roi amser i’r ymgeisydd gyflwyno manylion lliniaru rhag sŵn – mae’r rhain wedi’u derbyn bellach ac mae’r ymgynghoriad angenrheidiol wedi digwydd.

 

Dywedodd Mr. Gordon Warren (yn erbyn y cynnig) ei fod yn darllen datganiad ar ran Mr. Roger Dobson o Gemaes. Mae Mr. Dobson yn byw yng Nghemaes lle mae’n Gynghorydd Cymuned. Mae’r datganiad hefyd ar ran trigolion Cemaes, pobl Gogledd Ynys Môn fel y cânt eu cynrychioli gan chwe Chyngor Cymuned, ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Dywedai’r datganiad nad oeddynt yn erbyn ynni adnewyddadwy a phŵer solar, fodd bynnag, roeddynt yn credu mai’r lle gorau i bŵer solar oedd yn yr amgylchedd adeiledig yn agos at lle byddai’n cael ei ddefnyddio h.y. ar doeau adeiladau neu ar safleoedd tir llwyd, ac nid ar dir amaethyddol da sy’n bell o’r defnyddwyr a lle byddai colledion o ganlyniad i drosglwyddo aneffeithlon. Mae’r ymgeisydd yn dadlau y bydd gan y cynllun hwn gapasiti o 49.9MW ac y bydd yn cyflenwi pŵer i 15,500 o gartrefi ond nid ydynt yn cyfaddef y byddai’r allbwn defnyddiadwy yn llai na 10% o’r ffigwr hwnnw. Ar y diwrnod mwyaf heulog ym mis Mehefin bydd paneli solar yn cynhyrchu ynni pan fo’i angen leiaf, ond ar y nosweithiau tywyll yn y gaeaf pan mae’r mwyaf o angen am bŵer, ni fyddant yn cynhyrchu dim. Fodd bynnag, i roi hyn mewn cyd-destun, byddai angen oddeutu 500 o ffermydd solar 50MW yn gorchuddio hanner arwynebedd tir Ynys Môn i amnewid Wylfa Newydd.

 

Mae’r datblygiad wedi’i gynllunio mewn ardal sy’n gyfoeth o olion archeolegol. Mae’r Awdurdod Cynllunio wedi gadael allan o’r adroddiad yr hyn a ysgrifennodd Gwasanaeth Archeolegol Gwynedd ‘… heb ymchwiliad pellach – hynny yw, Agor Ffosydd treial, ni fydd gennych ddealltwriaeth ddigonol o’r amgylchedd hanesyddol i ddarparu sail deallus i’ch penderfyniad’. Mae’r ymgeisydd yn honni na fyddai unrhyw effaith sylweddol ar fwynderau’r dirwedd neu fwynderau gweledol ac mai effaith fach fyddai yna ar eiddo preswyl, fodd bynnag mae trigolion lleol wedi dangos bod hyn yn anghywir yn ogystal â’r honiad gan yr ymgeisydd gan yw’r datblygiad yn amlwg o’r A5025. Cwestiynir beth yw pwynt cael Cynllun Datblygu ar y Cyd os yw’n cael ei anwybyddu am resymau amheus ychydig fisoedd ar ôl ei fabwysiadu. Mae’r datblygwr yn ansensitif ac mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 310 KB

8.1  19C842E/1/TR/ECON – Parc Cybi, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1  19C842E/1/TR/ECON – Cais llawn ar gyfer codi gwesty newydd, isadeiledd cysylltiedig a gwaith gwrthglawdd ym Mharc Cybi, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i’r cynllun datblygu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer codi gwesty yn Stad Ddiwydiannol Parc Cybi. Mae safle’r cais o fewn ardal AHNE ac mae Maen Hir Tŷ Mawr a Siambr Gladdu Trefignath wedi eu lleoli i’r de-ddwyrain ac maent wedi eu gwahanu o’r safle gan ardal o dyfiant a llwybr. Mae’r eiddo preswyl agosaf wedi’u lleoli ger y B545, Ffordd Trearddur. Er bod safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin y setliad, mae polisi CYF1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn nodi bod tir ac unedau ar safleoedd cyflogaeth presennol megis Parc Cybi wedi eu diogelu ar gyfer mentrau cyflogaeth/busnes. Mae Polisi CYF5 ‘Defnyddiau amgen o safleoedd cyflogaeth cyfredol’ yn caniatáu defnyddiau amgen mewn amgylchiadau arbennig ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r meini prawf a restrir. Nododd fod prawf dilyniannol wedi’i gynnal sy’n dangos nad oes safle addas arall ar gael ar gyfer datblygiad o’r fath. Nododd ymhellach y bydd y datblygiad angen 15 o staff amser llawn a 15 o staff rhan-amser i weithio yn y gwesty. Mae’r Uned Datblygiad Economaidd yn cefnogi’r cais yn amodol ar gais bod yr ymgeisydd yn cefnogi codi bwrdd gwybodaeth i annog twristiaeth, yn bodloni gofynion iaith Gymraeg o ran arwyddion ac yn creu swyddi lleol yn yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen gosod amodau ychwanegol ar unrhyw ganiatâd cynllunio o ran materion lliniaru a godwyd gan ymgyngoreion statudol fel y nodwyd yn yr adroddiad a bydd angen cynnal trafodaethau pellach â’r datblygwr cyn rhyddhau unrhyw ganiatâd cynllunio.      

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R. Thomas, Aelod Lleol ei fod yn cefnogi’r cais ond pwysleisiodd yr angen am arwyddion dwyieithog yn y gwesty ac y dylid cael arwyddion yn cynnwys gm wybodaeth hanesyddol y tu allan i’r datblygiad. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd T.L. Hughes MBE y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K.P.Hughes. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r 4 amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar y trafodaethau pellach sydd i’w cynnal rhwng Swyddogion a’r Ymgeisydd mewn perthynas ag amodau ychwanegol i’w hatodi i’r cais.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 192 KB

10.1  28C472E – Cartref, Ffordd y Stesion, Rhosneigr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  28C472E Cais llawn ar gyfer codi 2 annedd (un sydd yn cynnwys balcony) ar dir ger Cartref, Ffordd y Stesion, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisȉau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid ei ganiatiau.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod llythyr wedi dod i law mewn perthynas â’r cais hwn a oedd yn codi materion y byddai angen eu hystyried.  Roedd hi felly o’r farn bod angen gohirio’r mater.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn dilyn derbyn gohebiaeth a fydd angen sylw’r Swyddogion Cynllunio.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 226 KB

12.1  46C168D/DA – Trearddur House, Bae Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  46C168D/DA – Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys balcony ar dir yn Trearddur House, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod yr Aelodau Lleol wedi gwneud cais am ymweliad safle o ganlyniad i effaith y datblygiad ar y tirlun, a mwynderau a thrigolion lleol a’r ffaith bod y safle o fewn ardal sensitive.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cynnal ymweliad safle ar sail y materion a godwyd gan yr Aelodau Lleol.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd. 

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 152 KB

13.1  12C49P/DEL – Casita, Biwmares

 

13.2  Gorchymyn Rheoli Traffig ar gyfer Niwbwrch a Phenlon

 

Cyflwynoadroddiad gan y Pennaeth Priffydd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas a’r uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  12C49P/DEL – Cais dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y

preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Ebrill, 2017 wedi gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Mae apêl wedi’i chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio a gofynnir i’r Pwyllgor enwebu 2 Aelod i gymryd rhan yn yr apêl ar ran y Cyngor. Nid yw'r Cynghorydd Lewis Davies, a gynigiodd y dylid gwrthod y cais, bellach yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r Cynghorydd John Griffith yw’r unig Aelod o’r Pwyllgor a bleidleisiodd i wrthod y cais.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gofyn i’r Cynghorydd Lewis Davies a fyddai’n fodlon cyfrannu at yr apêl ar ran y Cyngor gan ei fod yn Aelod Lleol ar gyfer yr ardal. Yn ogystal, enwebodd John Griffith fel yr ail Aelod i gyfrannu at yr apêl.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’n rhoi ei henw ymlaen pe na fyddai’r Cynghorydd Lewis Davies yn gallu cynrychioli’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Darganfod yn y lle cyntaf a yw’r Cynghorydd Lewis Davies (cyn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac Aelod Lleol) yn fodlon cyfrannu at yr apêl ar ran y Cyngor ar y cyd â’r Cynghorydd John Griffiths.

 

·           Y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cyfrannu at yr apêl ar y cyd â’r Cynghorydd John Griffiths os nad yw’r Cynghorydd Lewis Davies ar gael.

 

13.2  Gorchymyn Rheoli Traffig ar gyfer Niwbwrch a Phenlon.

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas â’r Gorchymyn Rheoli Traffig ar gyfer Niwbwrch a Phenlon.

 

Adroddodd yr Uwch Beiriannydd (Traffig a Pharcio) y cynigiwyd y Gorchymyn mewn ymateb i gwynion a gafwyd mewn perthynas â pharcio a thagfeydd traffig yn Niwbwrch ynghyd â phryderon ynghylch diogelwch y ffordd ar hyd yr A4080 yn ardal Penlon. Cyflwynwyd y Gorchymyn arfaethedig ym Mawrth 2017, a oedd yn cynnwys darparu llinellau melyn dwbl o amgylch cylchfan Penlon a llinellau dwbl melyn yn lle’r llinellau melyn sengl tymhorol ym mhentref Niwbwrch a newidiadau i’r cyfyngiadau stopio tu allan i siopau’r pentref. Dywedodd bod nifer o wrthwynebiadau wedi dod i law mewn perthynas â’r Gorchymyn a oedd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad. Cynhaliwyd cyfarfod â Chyngor Cymuned Rhosyr a’r Aelodau Etholedig Lleol ac ystyriwyd y dylid diwygio’r cynnig gwreiddiol ac mai dim ond y llinellau melyn sengl tymhorol presennol y dylid eu newid yn llinellau dwbl ac eithrio’r rhai y tu allan i’r siop Pysgod a Sglodion, er mwyn gwella llif y traffig allan o Stryd yr Eglwys i Stryd y Capel ac i’r amser hiraf y caniateir aros yn y llecynnau amser cyfyngedig ger y sgwâr gael ei ostwng o 30 munud i 20 munud (mae’r Gorchymyn Rheoliad Traffig diwygiedig wedi’i nodi yn 3.1 yr adroddiad)      

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith a oedd cyfleusterau parcio ar gael i drigolion Niwbwrch o ganlyniad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.