Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel a nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 1 Tachwedd, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2017 fel rhai cywir. |
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd a gafwyd ar 15 Tachwedd, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2017 fel rhai cywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.7 a 12.1. |
|
Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
7.1 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch 7.2 20C313A – Ffordd y Felin, Cemaes 7.3 24C300A/ECON – Tyn Rhos Fawr, Dulas 7.4 28C472E – Cartref, Ffordd y Stesion, Rhosneigr 7.5 38C180F/VAR – Gilfach Glyd, Mynydd Mechell 7.6 39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy 7.7 46C168D/DA – Trearddur House, Trearddur Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 20C310B/EIA/RE – Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan i’r Pwyllgor, yn y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2017, benderfynu gwrthod y cais yn groes i argymhellion y Swyddog ar y sail nad yw’r cais yn eithriad digonol i ganiatáu gwyro oddi wrth bolisi ADN 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Ynys Môn a Gwynedd).
Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffiths, Aelod Lleol, ei fod yn annerch y Pwyllgor er mwyn gwrthwynebu’n gryf i’r cais hwn; roedd hefyd yn cynrychioli trigolion lleol Llanbadrig sydd â phryderon sylweddol mewn perthynas â’r cais hwn yn Rhyd y Groes. Nododd fod trigolion lleol yn cefnogi prosiect Wylfa Newydd ond y byddai’r datblygiad sylweddol hwn, sef fferm arae solar yn yr ardal yn rhoi straen gormodol ar y gymuned. Mae’r Cynghorau Cymuned lleol hefyd yn gwrthwynebu’r datblygiad hwn. Aeth ymlaen i ddweud bod amheuaeth am y pŵer a gaiff ei gynhyrchu gan y datblygiad hwn; mae’r ymgeisydd wedi dweud y bydd y capasiti o 49.9MW yn pweru 15,500 o gartrefi. Bydd y datblygiad arfaethedig, os caiff ei gymeradwyo, yn creu traffig trwm i ac o’r safle. Mynegodd y dylai’r panelau solar hyn fod ar doeau tai ac eiddo masnachol ac nid ar dir amaethyddol ac yn sicr nid mewn cymunedau gwledig. Gofynnodd y Cynghorydd Griffiths i’r Pwyllgor wrando ar bryderon trigolion lleol Llanbadrig ac i gadarnhau ei benderfyniad i wrthod y cais.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y rhesymau dros wrthod y cais yn y cyfarfod blaenorol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Nododd bod llythyrau o gefnogaeth hefyd wedi dod i law gan Gyfeillion y Ddaear a pherchnogion tir Rhyd y Groes. Roedd llythyrau gwrthwynebu pellach hefyd wedi eu derbyn gan drigolion Buarth y Foel a gan Gyngor Diogelu Cymru Wledig. Mae barn gyfreithiol annibynnol ar y penderfyniad i wrthod y cais yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn wedi cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd ac yn benodol ynghylch a yw’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi ADN2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais a bod yr apêl yn y broses o gael ei dilysu cyn cael ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Nodwyd bod gan yr Awdurdod gyfnod o bedair wythnos er mwyn penderfynu ar y cais, unwaith y bydd yr apêl wedi’i dilysu, cyn iddi gael ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio i’w phenderfynu. Nododd ymhellach ei bod yn bwysig adrodd bod yr ymgeisydd wedi gofyn am Wrandawiad gan yr Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â’r cais a’u bod wedi nodi y byddant yn gwneud cais am gostau yn erbyn y Cyngor, ac y gallai’r costau hynny fod yn fod yn sylweddol.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach bod cyfarfod blaenorol y cyfarfod hwn ond wedi rhoi un rheswm dros wrthod sef nad yw’r cais yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
10.1 19C587E – 1/3 Parc Felin Ddŵr, Caergybi 10.2 42C258A – Tyddyn Orsedd, Rhoscefnhir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 19C587E – Cais llawn i godi annedd a garej ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir yn 1/3 Parc Felin Ddŵr, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisȉau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylied ei ganiatȧu.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu Cynllunio ei bod yn dymuno diwygio’r adroddiad gan fod y cais wedi’i ‘alw i mewn’ gan y Cynghorydd Shaun Redmond ac nid y Cynghorydd Glyn Haynes. Dywedodd fod dyluniad y cais hwn yn wahanol i ddyluniad sydd eisoes wedi’i gymeradwyo ar y safle ond yr argymhelliad yw un o gymeradwyo’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond ei fod yn cefnogi’r cais ond bod angen gosod amod yghlwm ag unrhyw ganiatâd a roddir i’r cais yn nodi y dylid defnyddio’r garej ar y safle at ddefnydd preifat yn unig. Cynigiodd y Cynghorydd Redmond y dylid caniatȧu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD caniatȧu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag amod ychwanegol bod y garej ar y safle er defnydd preifat yn unig.
10.2 42C258A – Cais llawn i godi annedd y tu cefn i Tyddyn Orsedd, Rhoscefnhir
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes I bolisȉau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid ei ganiatȧu.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, bod Rhoscefnhir wedi ei adnabod fel ‘setliad clwstwr’ lle mae’n rhaid i unrhyw annedd newydd fod ar gyfer angen lleol fforddiadwy ar safle mewnlenwi. Roedd y cynllun ganiatawyd yn flaenorol ar y safle ar gyfer dwy annedd ac felly mae’n lleihau graddfa a maint llawr y safle. Mae’r argymhelliad yn un o gymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.
PENDERFYNWYD caniatȧu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 428 KB 12.1 19C1207 – Pentowyn, Caergybi 12.2 19LPA1037/CC – 9a Cil Peibio, Caergybi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 19C1207 – Cais llawn i ddymchwel annedd a garej ac i godi annedd newydd sy'n cynnwys balconi a garej newydd yn Pentowyn, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Dywedodd Mr Tudur Thomas (o blaid y cais) bod Pentowyn wedi bod yn wag ers o leiaf 2014 ac yn dilyn cyngor proffesiynol ei fod yn glir mai’r unig opsiwn ymarferol a chost effeithiol oedd dymchwel yr adeilad presennol ac adeiladu adeilad newydd yn ei le. Does dim gwrthwynebiad yn lleol wedi bod i’r datblygiad ac nid oedd gan Gyngor Tref Caergybi unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Medi, 2017. Yn dilyn cyfarfod â Swyddogion Cynllunio, penderfynwyd lleihau maint dyluniad yr annedd arfaethedig a olygodd ostyngiad o 20%. Mae Pentowyn wedi’i leoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae llawer o ystyriaeth wedi’i roi i’r dyluniad a’r lleoliad er mwyn sicrhau nad yw’r cais yn cael unrhyw effaith andwyol ar yr ardal leol. Bydd yr annedd arfaethedig rŵan yn cael ei gorffen â deunyddiau naturiol, llechi, cladin pren a charreg.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer dymchwel annedd bresennol a chodi annedd newydd yn ei lle. Mae’r safle o fewn AHNE a ger Llwybr yr Arfordir. Mae’r cynlluniau gwreiddiol a gyflwynwyd wedi eu diwygio ac wedi lleihau o ran graddfa. Mae’r balconi llawr cyntaf ar ochr ogledd ddwyreiniol talcen yr annedd arfaethedig bellach wedi’i ddisodli gan garej gysylltiedig sy’n cynnwys ardal teras fel lefel llawr cyntaf tu ôl i do llechi. Fel rhan o'r cynllun diwygiedig mae gwaith cerrig wedi’i gynnig ar gyfer rhan o’r drychiad blaen yn ogystal â rendrad llyfn wedi’i baentio a chladin fertigol a llechi naturiol ar gyfer to’r annedd. Cynigir codi gwrychyn ar hyd y ffin er mwyn iddo integreiddio yn dda gyda’r hyn sydd o’i amgylch. Mae’r Swyddog AHNE bellach wedi cyflwyno ei sylwadau mewn perthynas â’r cynlluniau diwygiedig i leihau ôl-troed yr annedd, nododd y byddai graddfa lai’r datblygiad yn golygu y bydd yn integreiddio’n well ac yn gwella harddwch naturiol yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond bod ôl-troed y datblygiad arfaethedig yn rhannol ar ôl-troed yr adeilad presennol a’i fod wedi’i osod yn ôl ymhellach yn ardal yr ardd; mae hyn yn groes i bolisi TAI13 – Ail-adeiladu Tai. Cyfeiriodd hefyd at faint yr annedd arfaethedig ac y byddai’n edrych dros faes carafanau sydd eisoes yn bodoli. Tra ei fod yn gwerthfawrogi bod maint a dyluniad yr annedd arfaethedig wedi ei leihau, bydd y drychiad cefn yn 7.3 metr o derfyn y safle carafanau. Mae’r Dyluniad SPG fel arfer yn gofyn am 10.5 metr ond mae hyn i’w weld yn dderbyniol gan y Swyddog Cynllunio. Holodd a fyddai caniatáu gostyngiad yn y pellter hwn yn gosod cynsail ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, o ran ôl troed yr annedd arfaethedig ar y safle, ei fod yn rhannol ar ôl-troed yr eiddo presennol. Ystyrir y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 11LPA101N/1/LB/CC – Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch 13.2 34C614/ECON – Burgess Ltd., Stryd y Bont, Llangefni 13.3 36C351B/MIN – Tyn Llwyd, Rhostrehwfa 13.4 45C467D/MIN – Pen Parc, Penlon Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 11LPA101N/1/LB/CC – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod drysau newydd a drysau tân yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch
PENDERFYNWYD nodi y bydd y cais yn cael ei anfon ymlaen at Weinidogion Llywodraeth Cymru i'w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
13.2 34C614/ECON – Cais amlinellol i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad defnydd cymysg sy'n cynnwys defnyddiau A1, A2, A3, ynghyd â 45 o fflatiau preswyl yn Burgess Cyf, Stryd y Bont, Llangefni
Nodi bod y cais wedi'i dynnu'n ôl gan yr asiant.
13.3 36C351B/MIN – Mân newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 36C351 er mwyn diwygio gorffeniad yr annedd, ynghyd â gosod ffenestri ychwanegol yn y garej yn Tyn Llwyd, Rhostrehwfa
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cafwyd cais am fân newid i gynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan gais cynllunio cyfeirnod 36C351A/VAR. Y newidiadau a oedd yn cael eu ceisio oedd i ddiwygio deunyddiau’r gorffeniad drwy ddisodli’r cladin cerrig a gymeradwywyd gyda brics a gosod brics ar wyneb/drychiad ochr y garej arfaethedig a gosod ffenestri velux yn nrychiad blaen y garej arfaethedig a gosod ffenestr yn nrychiad ochr y garej. Mae’r awdurdod cynllunio lleol wedi penderfynu ar y cais ac ystyriwyd nad oedd y gwelliannau arfaethedig yn rhai perthnasol.
PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth.
13.4 45C467D/MIN – Mân newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio 45C467B/DA er mwyn diwygio gorffeniad yr annedd o bren i rendr ar dir ger Pen Parc, Penlon.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod cais am fân newidiadau wedi ei dderbyn ar gyfer mân newidiadau i’r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol yn 45C467B/DA. Y gwelliannau a oedd yn cael eu ceisio oedd i ddiwygio deunyddiau’r gorffeniad yn y talcenni pen (drychiadau gogledd a de) o gladin pren i rendrad. Mae’r awdurdod cynllunio lleol wedi penderfynu ar y cais ac ystyriwyd nad oedd y gwelliannau arfaethedig yn rhai perthnasol.
PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth.
|