Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr ymddiheuriad am absenoldeb ei gyflwyno a’i nodi.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

Cofnodion Cyfarfod 6 Rhagfyr, 2017 pdf eicon PDF 349 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2017 fel rhai cywir.

4.

Ymweliad Safle 20 Rhagfyr, 2017 pdf eicon PDF 182 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, 2017 ac fe’u cadarnhawyd fel cofnod cywir yn amodol ar nodi y cyflwynodd y Cynghorydd John Griffith ymddiheuriad am absenoldeb o ganlyniad i’r ffaith ei fod i ffwrdd ar fusnes y Cyngor ar y pryd. 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 178 KB

6.1 39C285D – Lôn y Gamfa, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1       39C285D – Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Swyddog yn argymell gohirio gwneud penderfyniad ar y cais tan y ceir adroddiad ar ddigwyddiad llifogydd a gafwyd yn ddiweddar.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 253 KB

7.1 28C472E – Cartref, Ffordd Stesion, Rhosneigr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1       28C472E – Cais llawn ar gyfer codi 2 annedd (un sydd yn cynnwys balconi) ar dir ger Cartref, Station Road, Rhosneigr

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu leol ar y Cyd (JLDP) ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cafodd y drafodaeth ar y cais ei gohirio yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor ym mis Rhagfyr, 2017 fel y gallai’r ymgeisydd gyflwyno rhybudd o’r cais ar berchennog y tir lle mae’r ffordd fynediad i safle’r cais wedi ei lleoli. Mae’r tystysgrifau perchnogaeth perthnasol bellach wedi eu cyflwyno. Mae’r cais fel y’i cyflwynir ar gyfer dyluniad diwygiedig i gynllun sy’n cynnwys codi dwy annedd ar y safle a gymeradwywyd yn flaenorol ym Medi 2015 o dan y cyfeirnod cynllunio 28C472B; dyma’r sefyllfa wrth gefn. Mae gwrthwynebiadau i’r cais ac mae crynodeb ohonynt i’w gweld yn yr adroddiad ysgrifenedig. Hefyd, mae llythyr ychwanegol wedi dod i law gan ddeiliaid yr annedd y cyfeirir ati fel Cartref ac sy’n ailadrodd y gwrthwynebiadau blaenorol a godwyd yn ogystal â dwyn sylw at bryderon am agosrwydd y tanc storio nwy, sy’n gwasanaethu Cartref, i’r datblygiad. Tynnodd y Swyddog sylw'r Pwyllgor at y ffaith bod caniatâd cynllunio yn amodol ar wneud gwaith sgrinio ar hyd ffin safle’r datblygiad gyda’r eiddo cyfagos gan gynnwys Cartref. Mae Swyddogion yn disgwyl y bydd rheoliadau Iechyd a Diogelwch perthnasol yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud y gwaith sgrinio.  

   

Dywedodd y Swyddog, o ran polisi, nad yw’r cais yn cydymffurfio’n ddigonol â pholisïau presennol y JLDP, yn enwedig Polisi TAI 5 sy’n nodi mai dim ond tai marchnad leol y gellir eu cefnogi mewn ardaloedd a nodir fel Canolfannau Gwasanaeth Lleol a bod Rhosneigr wedi’i adnabod fel Canolfan o’r fath. Hefyd, lle mae datblygiad yn cynnwys dau neu fwy o dai, rhaid cael darpariaeth tai fforddiadwy fel rhan o’r cynllun. Fodd bynnag, o ystyried bod caniatâd Cynllunio yn bodoli am annedd ar y safle ac mai’r tebygolrwydd yw y bydd hyn yn cael ei weithredu, ynghyd â’r ffaith yr ystyrir bod y newidiadau arfaethedig yn well na’r cynllun a gymeradwywyd yn wreiddiol, argymhelliad y Swyddog yw y dylid cymeradwyo’r cais.

 

Mewn ymateb i’r sicrwydd a geisiwyd gan y Pwyllgor fod y mater o berchnogaeth tir bellach wedi’i ddatrys, cadarnhaodd y Swyddog, fel rhan o’r broses o ddilysu cais bod rhybuddion priodol yn gorfod cael eu rhoi i’r perchnogion tir perthnasol; mae hynny bellach wedi’i wneud mewn perthynas â’r cais o dan sylw. Mewn ymateb i gais y Pwyllgor am gadarnhad ar y sefyllfa tai fforddiadwy, dywedodd y Swyddog, o ystyried y bod caniatâd cynllunio am ddwy annedd eisoes ar y safle ac y gallai’r caniatâd hwnnw fodd wedi’i weithredu, na fydd yr Awdurdod Cynllunio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 318 KB

10.1 17C503B/VAR – Rhos Bella, Llansadwrn

 

10.2 25C259B/VAR – Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.2 17C5O3B/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (04) (gwaith datblygu i gael ei wneud yn gwbl unol â’r cynllun(iau) a gyflwynwyd ar 01/12/2015 a 19/01/2016 a’r arolwg o rywogaethau a ddiogelir dyddiedig 21/06/2015) o ganiatâd cynllunio rhif 17C503 (addasu, addasu ac ehangu fferm adfeiliedig) fel y gellir cyflwyno cynlluniau diwygiedig yn Rhos Bella, Llansadwrn.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu lleol ar y Cyd (JLDP) ond yn un y mae’r Awdurdod lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i amrywio amod (04) ar ganiatâd cynllunio a ryddhawyd yn 2016 ar gyfer addasu hen fferm i fod yn annedd fel y gellir cyflwyno cynlluniau diwygiedig. Mae’r gwelliannau a gynigir yn gysylltiedig â deunyddiau a dyluniadau ac nid ydynt yn cael eu hystyried yn sylweddol ac yn ogystal, maent yn well na’r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol. Dywedodd y Swyddog mai’r dyddiad terfynol ar gyfer derbyn ymatebion oedd 9 Ionawr, 2018; ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau'r naill fordd na’r llall. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn disgwyl am arolwg rhywogaethau a warchodir fel rhan o’r cais; bydd hefyd angen sicrhau bod mesurau lliniaru yn cael eu gweithredu cyn i unrhyw waith trawsnewid gael ei gwblhau. Bydd y rhain yn cael eu cynnig fel amodau ychwanegol yn unol â threfniadau Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd y Swyddog, er bod y cais yn groes i Bolisi TAI7 y JLDP o ran ei fod yn ymwneud ag addasu adeilad traddodiadol ar gyfer defnydd preswyl yn hytrach na chyflogaeth ac o ystyried bod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer addasu ac ehangu adeilad allanol i fod yn annedd a bod y cynllun diwygiedig yn well na’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol, argymhelliad y Swyddog yw un o ganiatáu.    

 

Nododd y Pwyllgor mai newydd ddod i ben oedd y cyfnod ymgynghori y diwrnod cynt ac nad oedd hynny’n rhoi amser realistig ar gyfer ystyried unrhyw adborth a allai fod wedi’i gyflwyno ar y pryd gan fod yr adroddiad ysgrifenedig wedi’i baratoi cyn y dyddiad cau. Holodd y Pwyllgor a yw hyn yn cyfleu difaterwch mewn perthynas â’r broses ymgynghori.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, oherwydd natur y system gynllunio a’r amserlenni perthnasol, fod hyn yn digwydd o bryd i’w gilydd. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn ceisio dod â cheisiadau i’r Pwyllgor yn brydlon ac yn unol â’r amserlen dynn ar gyfer delio â cheisiadau. Petai gwrthwynebiadau i’r cais neu unrhyw adborth arall wedi dod i law, byddai’r Pwyllgor wedi derbyn diweddariad ar lafar yn y cyfarfod hwn. Petai unrhyw fater wedi cael ei godi na chafodd sylw yn adroddiad y Swyddog yna byddai argymhelliad wedi’i wneud i ohirio’r cais er mwyn rhoi amser i ddod ag adroddiad pellach i’r cyfarfod er mwyn sicrhau bod yr holl faterion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 709 KB

12.1 11LPA657/CC – Tŷ’r Warden, Amlwch

 

12.2 19LPA1038/CC – Maes yr Ysgol, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    11LPA657/CC – Cais llawn i addasu ac ehangu Tŷ’r Warden, Amlwch.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan yr Awdurdod ar dir y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un ar gyfer estyniad cymharol fychan i’r ystafell hawul fel y gellir ei defnyddio fel ystafell gymunedol yn adeilad Tŷ’r Warden. Bydd deunyddiau’r to a’r ffenestri yr un fath â rhai’r adeilad presennol. Ystyrir bod y cynllun yn dderbyniol ac ni fydd ei weithredu yn achosi unrhyw effaith andwyol i’r ardal na’i thrigolion. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2    19LPA1038/CC – Cais llawn i ddymchwel y modurdai presennol ynghyd â chodi 4 annedd i bobl sengl yn cynnwys lle parcio ym Maes yr Ysgol, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n ei gyflwyno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Shaun Redmond, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, y dylai Aelodau’r Pwyllgor ymweld â’r safle fel y gallant ystyried materion diogelwch priffyrdd a allai godi o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig oherwydd ei leoliad ger ysgol gynradd. 

 

Eiliwyd y cais am ymweliad safle gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd y dylid ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod lleol a hynny am y rheswm a roddwyd. 

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.