Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel yr uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim wedi eu derbyn. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 10 Ionawr, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2018. |
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliad Safle a gafwyd ar 17 Ionawr, 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion yr ymweliadau safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2018. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.1. |
|
Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio PDF 179 KB 6.1 39C285D – Lôn y Gamfa, Porthaethwy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 39C285D – Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Swyddog yn argymell y dylid gohirio’r drafodaeth ar y cais hyd oni fydd adroddiad wedi dod i law yn dilyn y llifogydd yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwy. |
|
7.1 19LPA1038/CC – Maes yr Ysgol, Caergybi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 19LPA1038/CC – Cais llawn i ddymchwel garejis a chodi 4 annedd un person gyda lle parcio cysylltiedig ym Maes yr Ysgol, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2018, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 17 Ionawr 2018.
Dywedodd Mr Mike Jones (yn gwrthynebu’r cais) ei fod wedi bod yn byw ym Morawelon am 68 o flynyddoedd. Dechreuwyd codi tai ym Morawelon yn y 1950au a bryd hynny, roedd yno ardaloedd gwyrdd a llecynnau agored. Dywedodd mai ychydig iawn o bobl ar stad Morawelon oedd â cheir bryd hynny ond dros y blynyddoedd, mae mwy a mwy o bobl yn berchen ar gar ac mae gwneud i ffwrdd â garejis a llecynnau parcio yn ychwanegu at nifer y ceir sy’n cael eu parcio ar y pafinau ac ar y ffordd fawr. Cyfeiriodd at y cais ym Maes yr Ysgol i ddymchwel y garejis presennol. Yn ei farn ef, byddai codi 4 annedd yn eu lle yn arwain at gynnydd yn y traffig yn yr ardal. Byddai colli’r lle parcio yn ymyl y garejis yn golygu y byddai’n rhaid i berchenogion y cerbydau sy’n cael eu parcio yno’n barod, barcio mewn llefydd eraill. Dywedodd Mr Jones bod angen dybryd am gyfleusterau parcio ym Morawelon.
Holodd y Pwyllgor Mr Jones yngylch materion sy’n ymwneud â’r ysgol gynradd sydd gerllaw safle’r cais a gofynnwyd a oedd y problemau parcio’n waeth ar yr adegau hynny y mae’r plant yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol. Roedd Mr Jones yn cytuno bod lefel y traffig yn uchel pan mae’r plant yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol gynradd; mae’r ffordd yn gul ac mae lorïau sy’n teithio i’r ffatri gyfagos yn gorfod mynd ar y cyrbin er mwyn pasio’r cerbydau sydd wedi parcio yno.
Dywedodd Mr Ned Michael (o blaid y cais) fod y Cyngor Sir wedi datblygu cynllun datblygu tai er mwyn codi tai cymdeithasol ar yr Ynys. Dywedodd mai’r cynllun hwn ym Maes yr Ysgol yw’r cynllun cyntaf y mae’r Cyngor Sir wedi ei gyflwyno yn y 40 mlynedd ddiwethaf. Mae’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy ac i leihau nifer y bobl ifanc ddigartref yng Nghymru. Llwyddodd y Cyngor Sir i gael grant gan Lywodraeth Cymru tuag at ei raglen i ddatblygu tai cymdeithasol. Cyfeiriodd at y cais a oedd gerbron y Pwyllgor a dywedodd bod 24 o garejis ar safle’r cais a bod 12 o’r rheiny’n cael eu defnyddio. Mae 7 o’r garejis hyn yn cael eu rhentio gan bobl sy’n byw ar Stad Morawelon. Mae’r cais gerbron y Pwyllgor yn un i ddymchwel y garejis a chodi 4 o anheddau unllawr i bobl sengl. Dywedodd Mr Michael fod 43 o bobl ar y rhestr dai ar hyn o bryd am anheddau i bobl sengl yng Nghaergybi. Dywedodd ymhellach y byddai hyd at 10/11 o lecynnau parcio ar gael ar y safle.
Dywedodd y Cynghorydd R ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
10.1 15C29M/VAR – Hen Feudy, Fferam Bailey, Trefdraeth 10.2 21C38G/VAR – Canolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel 10.3 43C195F/VAR – Y Granar, Rhoscolyn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 15C29M/VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (02) (cyflwyno manylion am y modd y bwriedir trin y ffiniau, dulliau amgáu a marcio cyn cychwyn defnyddio’r safle yn hytrach na cyn i’r gwaith ddatblygu gychwyn ynghyd â chaniatáu i’r gwaith gael ei gwblhau cyn pen 12 mis i gychwyn ei ddefnyddio) o benderfyniad apêl cyfeirnod APP/L6805/A/12/2194277 (troi adeilad allanol yn annedd) yn Hen Feudy, Fferam Bailey, Trefdraeth
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar Cyd ond bod y Pwyllgor Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i amrywio amod (02) mewn perthynas â’r modd y bwriedir trin y ffiniau cyn cychwyn ar y gwaith addasu yn Hen Feudy, Fferam Bailey, Trefdraeth. Nododd bod y gwaith addasu eisoes wedi’i wneud a bod rhywun yn byw yn yr annedd ar hyn o bryd. Nid oedd y manylion angenrheidiol a nodwyd yn yr amodau a oedd ynghlwm wrth y caniatâd gwreiddiol ar gyfer y cais wedi cael eu cyflwyno ac mae’r cais hwn yn mynd i’r afael â’r materion hynny, h.y. codi waliau cerrig a ffensio. Mae’r cais yn groes i bolisi TAI7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond oherwydd bod yr adeilad wedi cael ei addasu i ddibenion preswylio, roedd yr Awdurdod Cynllunio â’i fryd ar gymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 21C38G/VAR – Cais o dan Adran 73 ac Adran 73A ar gyfer amrywio amod (16) (cynlluniau a gymeradwywyd) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 21C38D (codi 4 annedd a mynediad newydd i gerbydau) er mwyn diwygio dyluniad y 4 annedd ar dir hen Ganolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod y Pwyllgor Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i amrywio amod (16) y cais cynllunio a gymeradwywyd yn ddiweddar mewn perthynas â diwygio dyluniad y 4 annedd yn hen Ganolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel. Mae’r diwygiadau y gofynnir amdanynt yn ymwneud â newid y ffenestri, y drysau a’r ystafelloedd haul yn yr anheddau. Roedd y cais a gymeradwywyd 7.7 metr o uchder, fodd bynnag mae wedi ei ostwng bellach i 7.3 metr gan gynnwys yr uchder i grib y to. Nododd fod rhan fechan o ffordd y stad y tu allan i’r ffin ddatblygu a dyma’r rheswm am gyflwyno’r cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Fodd bynnag, gan fod y gwaith eisoes wedi cychwyn ar y safle, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ganiatáu’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
12.1 11LPA1039/CC/TPO – Maesllwyn, Amlwch 12.2 14C83D – Cae’r Delyn, Bodffordd 12.3 19LPA434E/CC – Canolfan Jessie Hughes, Caergybi 12.4 20LPA1040/CC – Traeth Mawr, Cemaes 12.5 28LPA1035A/CC – Ffordd Llechi, Rhosneigr 12.6 34LPA1013C/CC – Stâd Ddiwydiannol Llangefni, Llangefni 12.7 39LPA589Q/CC – Ysgol David Hughes, Porthaethwy 12.8 39C592 – 2 Glanrafon, Lôn Cei Bont, Porthaethwy 12.9 45C313E – Stâd Ty Gwyn, Niwbwrch Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 11LPA1039/CC/TPO – Cais am waith i goed pisgwydd, ynn a masarn a ddiogelir gan Orchymyn Cadw Coed ym Maesllwyn, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o’r cais ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod nifer o goed ym Maesllwyn, Amlwch wedi cael eu difrodi yn ystod storm fawr yn 2017 ac y bydd angen gwneud gwaith diogelu ynghyd â thorri 2 goeden. Mae’r coed mewn grŵp clos iawn ac nid oes digon o oleuni i blannu coed newydd rhyngddynt ac o’r herwydd nid yw ail-blannu’n cael ei argymell ac nid oes amod ychwaith i’r perwyl hwnnw.
Gofynnodd y Cynghorydd Richard O Jones a fyddai modd hefyd clirio’r llwybr ger safle’r cais oherwydd mae tyfiant o safle’r cais wedi achosi difrod i’r llwybr.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai’n trosglwyddo’r cais hwnnw i’r ymgeisydd.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard O Jones y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 14C83D – Cais llawn i godi dwy annedd ac adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir ger Cae'r Delyn, Bodffordd
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyflwynwyd y cais yn wreiddiol yn 2015 dan Bolisi 50 y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r Awdurdod Cynllunio wedi bod yn disgwyl am fanylion ynghylch materion draenio a pherchenogaeth y tir gan yr ymgeisydd ond ni chafwyd unrhyw ymateb. Nododd fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi cael ei fabwysiadu erbyn mis Gorffennaf 2017 ac nad yw’r cais hwn bellach yn cydymffurfio gyda pholisi TAI15 o ran y ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Dywedodd fod pryderon yn lleol o ran cyfleusterau parcio ar y safle ynghyd â phryderon am y modd y bydd y dŵr yn llifo oddi ar y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Richard O Jones.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
12.3 19LPA434E/CC – Cais llawn i godi ffens yng Nghanolfan Jessie Hughes, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n ei gyflwyno. Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 20LPA1040/CC – Cais llawn ar gyfer lleoli dau fwi morwrol ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys plinth cerrig a seddi - Traeth Mawr, Cemaes
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n ei gyflwyno.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r ymgynghoriad cyhoeddus yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |