Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn -
Datganodd y Cynghorwyr Glyn Haynes a Shaun Redmond ddiddordebau personol ond nad oeddent yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.2
Datganodd y Cynghorydd Robin Williams ddiddordeb personol ond nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.5 |
|
Cofnodion Cyfarfod 7 Chwefror, 2018 PDF 100 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Ymweliad Safle 21 Chwefror, 2018 PDF 12 KB Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 343 KB 6.1 19C452F – Canada Gardens, Caergybi
6.2 39C285D – Lôn y Gamfa, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 19C452F - Cais llawn i godi 15 o dai 2 ystafell wely ynghyd â 10 o fflatiau 1 ystafell wely ar dir yn Canada Gardens, Caergybi
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai barn y Swyddog yw bod angen i Aelodau'r Pwyllgor weld y cynnig a'i gyd-destun cyn penderfynu ar y cais; felly argymhellir ymweld â’r safle.
Penderfynwyd ymweld â safle'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
6.2 39C285D - Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr argymhellir gohirio ystyried y cais hyd nes y derbynnir adroddiad y disgwylir amdano yn dilyn digwyddiad llifogydd diweddar.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd. |
|
7.1 39C592 – 2 Glanrafon, Lôn Cei Bont, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 39C592 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir gerllaw 2 Glanrafon, Lôn Cei Bont, Porthaethwy
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel y gofynnwyd gan Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 7 Chwefror 2018, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn penderfynu ar y cais. Ymwelwyd â'r safle wedyn ar 21 Chwefror, 2018.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais amlinellol yw’r cynnig ar gyfer codi annedd o fewn ardal gadwraeth ddynodedig. Fodd bynnag, cyflwynwyd manylion am faint y datblygiad gyda'r cais hwn. O dan gynllun diwygiedig, mae dimensiynau'r tŷ arfaethedig wedi gostwng ac ni fydd yr annedd ddim mwy nag 8 metr o hyd yn lle 10 metr a dim mwy na 7.5 metr o led yn lle 10 metr o led. Mae uchder y grib yn gostwng o 14 metr i 10 metr. Cyflwynwyd cynllun gosodiad safle gyda’r cais sy'n dangos lleoliad y cynnig yng nghyd-destun yr eiddo o boptu. Bydd yr annedd arfaethedig bellach yn cael ei gwasanaethu gan fynedfa yn rhan ogledd-orllewinol y safle i briffordd ddiddosbarth yn hytrach nag yn rhan dde-ddwyreiniol y safle o Lôn Cei Bont fel y cynigiwyd yn wreiddiol. Dywedodd y Swyddog y derbyniwyd tri llythyr arall yn gwrthwynebu’r cais yn ogystal ag un llythyr ychwanegol o gefnogaeth a anfonwyd gan y datblygwr. Yn dilyn derbyn cynllun diwygiedig sy'n symud y fynedfa, mae'r Adain Amgylchedd Adeiledig a'r Awdurdod Priffyrdd ill dau wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â'r cynnig. Gan nad ystyrir y bydd y datblygiad arfaethedig yn niweidio mwynderau'r ardal na’r eiddo cyfagos i’r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais, mae'r argymhelliad yn un o ganiatau.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod wedi galw’r cais i mewn oherwydd ei fod yn dymuno amlygu pryderon y Cyngor Tref ynglŷn â gorddatblygu ac mai’r farn leol oedd nad oedd dim mwy o le bellach yn yr ardal ar gyfer adeiladu datblygiadau preswyl, a phryderon hefyd bod y fynedfa i safle'r cais yn gul ac yn gyfyng gan olygu bod manwfro yn anodd, ac y gallai effeithio ar fynediad rhwydd ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys. Er ei fod yn cydymdeimlo â'r gymuned o safbwynt y sefyllfa draffig nad yw'n ddelfrydol, dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ei fod yn cytuno â’r Swyddog bod y cynnig yn dderbyniol yn gyffredinol ac felly cynigiodd y dylid cymeradwyo'r cais. Eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
10.1 46C14Y/1/VAR - Lleiniau 20-22, Canolfan Wyliau Cliff, Bae Trearddur
10.2 46C14Z/1/VAR - Lleiniau 8-13, Canolfan Wyliau Cliff, Lôn Isallt, Bae Trearddur
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 46C14Y/1/ VAR - Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (01) (gweithredu’n unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) yng nghaniatâd cyfeirnod 46C14S/1/ MIN (diwygiadau i gynlluniau a gymeradwywyd eisoes) er mwyn diwygio'r dyluniad ar Blotiau 20-22 Cliff Holiday Centre, Trearddur
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwrthdaro â Pholisi TAI 5 Tai Marchnad Leol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac felly’n gais sy’n tynnu’n groes i bolisi ond un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer gwelliannau mewnol ac allanol i blotiau 20 i 22 ar stad o 33 o unedau. Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn 2011 ac mae’r caniatâd hwnnw wrthi’n cael ei weithredu. Derbyniwyd y cais am ddiwygiadau ym mis Chwefror, 2017 ac fe'i penderfynwyd dan bwerau dirprwyo fel cais derbyniol o dan y polisïau oedd yn bodoli ar y pryd ond yn amodol ar Weithred Amrywio mewn perthynas â chytundeb Adran 106 sy'n darparu tai fforddiadwy. Nid yw'r Weithred Amrywio wedi ei chwblhau hyd yma , ond oherwydd y newid o bwys yn y cyd-destun polisi, adolygwyd y cais. Yn unol â Pholisi TAI 5 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd mae’n rhaid i’r holl dai a gyflenwir yn Nhrearddur fod yn dai marchnad leol yn unol â'r meini prawf a osodir yn y polisi. Mae'r unedau tai a adeiladwyd eisoes ar y safle hwn ac sydd wrthi’n cael eu hadeiladu yn gymysgedd o dai marchnad agored a thai fforddiadwy o dan y polisïau yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a oedd mewn grym bryd hynny. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa wrth gefn a'r gwaith adeiladu sylweddol a wnaed ar y safle eisoes, nid ystyrir ei bod yn rhesymol mynnu cydymffurfiaeth â’r polisi cyfredol. Felly, er bod y cynnig yn groes i ddarpariaethau Polisi TAI 5, o gofio mai rhai cymharol fychan yw’r newidiadau arfaethedig, eu heffaith gyfyngedig a’r sefyllfa wrth gefn, argymhellir caniatáu'r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, mewn perthynas â’r cynnig hwn a’r un ar ei ôl, yr ymddengys bod ceisiadau i amrywio amodau ar ôl rhoi caniatâd cynllunio yn digwydd yn dra aml, yn enwedig yn yr ardal hon.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar Weithred Amrywio mewn perthynas â thai fforddiadwy a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 46C14Z/1/VAR - Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (01) yng nghaniatâd cyfeirnod 46C14S/1/MIN er mwyn diwygio dyluniad yr anheddau a ganiatawyd dan ganiatâd cynllunio 46C14H/1 Plotiau 8-13, Cliff Holiday Centre, Lôn Isallt, Trearddur.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwrthdaro â Pholisi TAI 5 Tai Marchnad Leol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac felly’n gais sy’n tynnu’n groes i bolisi ond un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.
Dywedodd y Rheolwr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 186 KB 11.1 49C219A – 44 Parc Newlands, Y Fali
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 49C219A - Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn 44 Newlands Park, y Fali
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10 yng Nghyfansoddiad y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer newidiadau ac estyniad yng nghefn 44 Newlands Park. Bydd yr estyniad yn ffurfio ystafell haul newydd a fydd yn edrych dros ardd yr ymgeisydd a'r cae gwag y tu ôl i’r annedd. O'r herwydd nid ystyrir y bydd y cynllun arfaethedig yn effeithio ar unrhyw eiddo cyfagos i'r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais. Nid ystyrir ychwaith y bydd maint a dyluniad y cynnig yn cael effaith ar gymeriad yr annedd bresennol, yr ardal gyfagos na'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 949 KB 12.1 12LPA1042C/CC – 1, 1A, 1B & 2 Greenedge, Biwmares
12.2 19LPA89Q/CC – Ysgol Uwchradd Caergybi, South Stack Road, Caergybi
12.3 34LPA791D/VAR/CC – Canolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni
12.4 34LPA1015C/MIN/CC – Yr Hen Safle Hyfforddiant Môn, Llangefni
12.5 39LPA589R/CC – Ysgol David Hughes, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy
12.6 42C268 - Arfryn, Mwyn Awel a Groeslon, Rhoscefnhir
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 12LPA1042C/CC - Cais llawn i ail-doi ynghyd â newid y ffenestri ac ailrendro yn 1, 1A 1B a 2 Greenedge, Biwmares
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor Sir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer gwaith ail-doi ynghyd â gwaith i frest y simnai a’r nwyddau dŵr glaw. Gan fod yr adeilad yn adeilad rhestredig Gradd II * ac wedi'i leoli o fewn Ardal Gadwraeth ddynodedig, ymgynghorwyd â'r Ymgynghorydd Treftadaeth ac mae'n cadarnhau nad oes unrhyw bryderon gyda manylion y cynllun a’i fod yn dderbyniol. Dywedodd y Swyddog fod y cynllun yn ceisio gwella cynaliadwyedd hirdymor yr eiddo trwy wella iechyd/diogelwch y to a chynyddu lefelau effeithlonrwydd ynni trwy osod deunydd inswleiddio. Ystyrir y bydd y gwaith yn gwella cymeriad yr adeilad tra'n parhau i gydweddu â chymeriad y teras ac ardal ehangach Biwmares a'i hasedau treftadaeth. Dywedodd y Swyddog ymhellach nad oedd y cyfnod ar gyfer derbyn sylwadau yn dod i ben tan 14 Mawrth ac felly y bydd unrhyw ganiatâd ar yr amod na chodir unrhyw faterion newydd cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod hefyd na cheir unrhyw sylwadau cyn i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben sy’n codi materion nad oeddent eisoes wedi cael sylw yn adroddiad y Swyddog.
12.2 19LPA89Q / CC - Cais llawn i godi ffens a giât ar dir yn Ysgol Uwchradd Caergybi, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw perchennog y tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y ffens arfaethedig yn amrywio o ffens 4 medr o uchder rhwng yr ysgol a'r eiddo ar New Park Road – i rwystro peli pêl-droed rhag mynd dros y wal i mewn i erddi anheddau yn New Park Road, a ffens 2.4 metr o uchder rhwng yr ysgol a Ffordd Ynys Lawd – i rwystro peli pêl-droed rhag mynd drosodd i’r ffordd a tharo cerddwyr a cheir. Bydd y ffens arfaethedig yr un fath â’r ffens sydd yn Ysgol Uwchradd Caergybi ar hyn o bryd. Barn y Swyddog yw bod y ffens yn cydymffurfio â'r holl bolisïau perthnasol ac na fydd yn cael effaith negyddol ar yr ardal gyfagos, asedau treftadaeth nac eiddo cyfagos. Argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 34LPA791D/VAR/CC - Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod(au) (02) (rhaid cwblhau'r lle parcio yn unol â'r manylion a gyflwynwyd cyn i'r defnydd a ganiateir drwy hyn gychwyn a rhaid ei gadw wedyn ar gyfer y dibenion hynny’n unig) a (04) (rhaid gweithredu’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw faterion eraill gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |