Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Ebrill, 2018 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 36 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliad Safle a gafwyd ar 21 Mawrth, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 196 KB

6.1  39C285D – Lôn y Gamfa, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  39C285D Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr argymhellir y dylid gohirio ystyried y cais tan y ceir yr adroddiad disgwyliedig yn dilyn achos o lifogydd yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 274 KB

7.1  19C452F – Canada Gardens, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  19C452F – Cais llawn ar gyfer codi 15 o anheddau 2 llofft ac 10 o fflatiau 1 llofft ar dir yn Canada Gardens, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth, 2018 penderfynwyd cynnal ymweliad safle. O ganlyniad, ymwelwyd â’r safle ar 20 Mawrth 2018. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais gwreiddiol ar y safle yn un ar gyfer 28 o unedau preswyl a oedd yn cynnwys 16 o dai dwy ystafell wely a 12 o fflatiau 1 ystafell wely. Yn dilyn trafodaeth â’r Swyddogion fe leihawyd nifer yr unedau i 25 gyda mynedfa newydd i’r datblygiad oddi ar Morrison Crescent. Nododd fod y cais wedi’i alw i mewn gan Aelod Lleol o ganlyniad i bryderon y trigolion lleol am faterion rheoli traffig a gor-ddatblygiad yn yr ardal.    

 

Cyfeiriodd y Swyddog at hanes cynllunio’r safle a dywedodd y gwrthodwyd cais am ddatblygiad preswyl ar y safle ar ddiwedd 2008 ond y cafodd ei ganiatáu yn dilyn apêl ym mis Tachwedd 2009 gan nad oedd yr Arolygydd Cynllunio ar y pryd yn ystyried materion priffyrdd fel ffactor ar gyfer gwrthod y cais. Mae’r cais presennol gerbron y Pwyllgor hwn yn cydymffurfio â chanllawiau cynllunio ac ystyrir bod dwyster y datblygiad ar y safle yn addas o fewn yr ardal. Nododd fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle ar gyfer 18 eiddo ond fod y cais hwn ar gyfer 7 annedd ychwanegol ar y safle. 

 

Mae gwaith ymgynghori yn digwydd ar hyn o bryd o ran y cyfraniad ariannol tuag at adnoddau addysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Kingsland ac Ysgol Uwchradd Caergybi. Mae’r datblygwr wedi nodi ei fod yn derbyn yr egwyddor y disgwylir cyfraniad tuag at gyfleusterau addysgol yn yr ardal ond nid oes swm penodol wedi’i gytuno arno hyd yma. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu yn amodol ar gwblhau cytundeb cyfreithiol fel bod 10% o safle’r datblygiad yn dai fforddiadwy a bod manylion y cyfraniad ariannol tuag at gyfleusterau addysgol yn cael ei gytuno arno cyn cadarnhau’n derfynol unrhyw ganiatâd ar gyfer y cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond fod gwir angen am dai yn yr ardal hon ond bod trigolion lleol yn bryderus mai nifer cyfyngedig o fannau croesi sydd yn ardal Ffordd Llundain. Budd angen i drigolion y datblygiad hwn ac eiddo eraill sydd eisoes yn bodoli groesi i ardal Morawelon er mwyn mynd â’u plant i’r ysgol gynradd leol ac i ardal Kingsland. Holodd y Cynghorydd Redmond a fyddai modd i’r Awdurdod Priffyrdd ofyn am fan croesi arall gan y datblygwr gan mai ychydig iawn ohonynt sydd yn ardal Morawelon. Ymatebodd y Swyddog Priffyrdd nad oes trafodaeth wedi’i chynnal â’r datblygwr mewn perthynas â mannau croesi ychwanegol fel rhan o’r cais gan na ystyriwyd y bydd y datblygiad hwn o 25 uned yn creu nifer sylweddol uwch o gerddwyr yn yr ardal er mwyn gallu cyfiawnhau angen i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am dy fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 448 KB

10.1  36C344B/VAR – Ysgol Henblas, Llangristiolus

10.2  46C402F/VAR – Pendorlan, Lôn Isallt, Trearddur

10.3  47C149B/VAR – Hen Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  36C344B/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01)(Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 36C344A/DA(Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd) er mwyn ymestyn yr ystafell haul a chodi garej ar wahân ar dir ger Ysgol Henblas, Llangristiolus.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu.  

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cymeradwywyd y cais yn wreiddiol yn 2016 o dan bolisi 50 o’r Cynllun Datblygu lleol ond ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fod y datblygiad bellach y tu allan i ffin pentref Llangristiolus. Dywedodd ei bod yn ystyried na fyddai’r cais yn cael effaith negyddol ar amwynderau’r eiddo cyfagos. Dywedodd y Swyddog hefyd bod yr Awdurdod Priffyrdd bellach wedi ymateb gan ddweud nad oes ganddynt wrthwynebiad i’r cais ond y bydd angen gosod amodau ychwanegol er mwyn adlewyrchu’r caniatâd blaenorol.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd nad yw’r cyfnod ymgynghori statudol mewn perthynas â’r cais yn dod i ben tan 6 Ebrill 2018.   

 

Cynigiodd Eric W Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

          PENDERFYNWYD: -

 

·        Cymeradwyo’r cais a rhoi’r hawl i weithredu i Swyddogion yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus;

·        Bod amodau ychwanegol yn cael eu hatodi i ganiatâd y cais er mwyn adlewyrchu’r caniatâd blaenorol.

 

10.2  46C402F/VAR – Cais o dan Adran 73 A i ddiwygio amodau (05) (mynediad i'r safle presennol), (06) (ffordd y stad a llwybrau troed), (09) (system ddraenio) a (10) (cadw man glaswelltog) o ganiatâd cynllunio rhif 46C402D (cais llawn i godi 13 o dai, cau’r fynedfa bresennol i Pendorlan a gwella fynedfa i Fflatiau’r Cliff) er mwyn caniatáu mynediad i gerddwyr/beicwyr oddi ar Lôn Isallt, creu mynediad i erddi cefn tai A1 i A4, cwblhau ffordd y stad a’r llwybrau fesul dipyn a chwblhau’r system ddraenio fesul dipyn wedi i’r gwaith gychwyn ar y safle yn Pendorlan, Lôn Isallt, Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i Bolisi TAI 5 (Tai Marchnad Lleol) o’r Cynllun Datblygu Lleol a’i fod yn gyfystyr â chais sy’n groes i bolisi y mae’r Awdurdod Cynllunio lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu. 

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hanes cynllunio’r cais a dywedodd, fel rhan o’r cais cynllunio blaenorol, bod y fynedfa gerbydau i’r safle ym Mhendorlan wedi’i chau gan fod ei lleoliad ar dro cul ar ffordd yr arfordir ym Mae Trearddur. Sicrhawyd caniatâd cynllunio gyda mynedfa newydd i’w ffurfio drwy’r ffordd fynediad i Westy’r Cliff er mwyn gwella gwelededd o’r safle. Gosodwyd amod cynllunio ar y pryd y dylai’r fynedfa newydd gael ei chwblhau cyn i’r datblygiad ddechrau ond yr amrywiad i’r amod hwnnw sydd gerbron y Pwyllgor hwn yw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 147 KB

11.1  13C183E/ENF – Bodlas, Bodedern

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 13C183E/ENF – Cais llawn i gadw carafán sefydlog ar gyfer defnydd preswyl gan weithiwr menter wledig am gyfnod dros dro o 3 blynedd ar dir yn Bodlas, Bodedern.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn ‘swyddog perthnasol’ fel y diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae’r cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro yn ôl yr angen ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad. 

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais cynllunio yn un ar gyfer cadw defnydd carafán sefydlog at ddibenion preswyl gan weithiwr menter wledig am gyfnod dros dro o 3 blynedd. Nododd mai nod tymor hir yr ymgeisydd yw sicrhau caniatâd cynllunio am annedd barhaol ar y safle ar gyfer gweithiwr menter wledig ar sail llawn amser. Mae Ymgynghorwyr Amaethyddol yr Awdurdod wedi trafod y cais ond hyd yma nid ydynt yn gallu bodloni eu hunain y byddai’r cais yn cynnal gweithiwr menter wledig amser llawn. Fodd bynnag, os yw’r busnes yn datblygu yn unol â’r Cynllun Busnes a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, byddai’n cynnal gweithiwr menter wledig ar sail llawn amser. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod wedi’i gadarnhau yn y cais bod rhywun yn byw yn y garafán ar y safle ers Rhagfyr 2016 ac y bydd angen cymryd y cyfnod hwn i ystyriaeth wrth benderfynu ar hyd y caniatâd dros dro a roddir. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu ar gyfer cyfnod dros dro o 2 flynedd a fydd yn caniatáu digon o amser i’r ymgeisydd ddangos angen am annedd barhaol ar y safle yn unol ag anghenion TAN 6 fel y nodwyd yn yr adroddiad.     

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn cefnogi’r cais ond bod unrhyw fenter amaethyddol angen amser priodol er mwyn i fenter o’r fath sefydlu ei hun. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid cymeradwyo’r cais am gyfnod o 3 blynedd o ddyddiad y cyfarfod hwn. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r argymhelliad yw i gymeradwyo’r cais am 2 flynedd yn seiliedig ar y ffaith bod y fenter amaethyddol wrthi cael ei sefydlu ar hyn o bryd a bod y garafán sefydlog wedi bod ar y safle ers dros 12 mis. Mae TAN 6 yn glir mai cyfnod o 3 blynedd y dylid ei ganiatáu mewn cais o’r fath.    

 

Holodd y Cynghorydd Shaun Redmond a oedd y Cynllun Busnes a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn rhoi hyder y bydd y busnes yn gallu ymestyn i fynd i’r afael â’r gofynion am annedd barhaol am safle ar gyfer gweithiwr menter wledig gan fod yr ymgeisydd yn cael ei gyflogi’n llawn amser yn rhywle arall. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, petai’r busnes yn datblygu yn unol â’r Cynllun Busnes yna fe ddylai’r fenter wledig allu cynnal gweithiwr amser llawn a fyddai’n cydymffurfio â chanllawiau cynllunio yn TAN 6.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y dylid cymeradwyo’r cais fel y nodwyd yn yr adroddiad. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 476 KB

12.1  14C47R/ENF – 19 Cae Bach Aur, Bodffordd

12.2  19LPA1023B/CC – Safle’r Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

12.3  46C88K/AD – Canolfan Ymwelwyr RSPB, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

12.4  46C612A/AD – Tŵr Elin, Ynys Lawd, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.114C47R/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi porth car yn 19 Cae Bach Aur, Bodffordd.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cafwyd cais ôl-weithredol gan yr ymgeisydd yn dilyn ymchwiliad gorfodaeth. Mae dau lythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn sy’n awgrymu nad yw’r strwythur yn cyd-fynd â’r eiddo cyfagos o ran ei uchder a’i ymddangosiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol, bod yr eiddo cyfagos yn ystyried bod dyluniad a maint y porth car allan o gymeriad gyda gweddill y stad a gofynnodd i’r Pwyllgor ymweld â’r Safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid ymweld â’r Safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

          PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2 19LPA1023B/CC – Cais llawn ar gyfer codi 10 uned busnes (Dosbarth B1, B2 a B8) ar dir ar hen Safle’r Heliport, Stad Diwydiannol Penrhos, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod eiddo adwerthu yn ffinio’r safle ar hyn o bryd. Mae caniatâd eisoes wedi’i gymeradwyo yn 2015 ac mae’r safle bellach wedi’i adnabod o fewn ffin setliad Caergybi o dan ddarpariaethau polisïau cynllunio’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae safle’r cais hefyd wedi’i ddynodi fel cynnig C10 o dan ddarpariaethau CYF 1 y Cynllun Datblygu Lleol sy’n diogelu tir at ddibenion cyflogaeth diwydiannol; bydd y datblygiad yn creu hyd at 44 o gyfleoedd cyflogaeth 

 

Nododd hefyd fod y safle ger ffin yr AHNE a bod amod ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd o’r cais er mwyn lliniaru unrhyw effaith ar yr AHNE. Mae Datganiad Iaith Gymraeg wedi’i gyflwyno fel rhan o’r cais ac fe’i ystyrir yn dderbyniol gan Swyddog iaith Gymraeg yr Awdurdod. Rydym yn disgwyl datganiad Rheoli Carbon a Gwarchod Ynni yn ogystal ag Adroddiad Gwarchodaeth Dŵr. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. 

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.   Yn amodol ar dderbyn datganiadau fel a nodwyd.

 

12.3 46C88K/AD – Cais i leoli dau arwydd heb eu goleuo ynghyd â gosod dau fesurydd parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr RSPB, Ffordd Ynys Lawd,        Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol. 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Aelodau Lleol wedi gofyn am gynnal ymweliad â safle’r cais. Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes ei fod yn ystyried y bydd materion priffyrdd yn codi, a fydd yn effeithio ar drigolion lleol, mewn perthynas â’r cais hwn. Dywedodd hefyd nad oedd rhannau o’r safle ym mherchnogaeth yr ymgeiswyr ac felly roedd yn argymell y dylid ymweld â’r safle. Eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Shaun Redmond. 

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4 46C612A/AD – Cais  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 360 KB

13.1  12LPA1042D/LB/CC – 1 Green Edge, Biwmares

13.2  12LPA1042E/LB/CC – 2 Green Edge, Biwmares

13.3  30C246K/VAR – Tyn Pwll, Benllech

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 12LPA1042D/LB/CC – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer ail doi ynghyd â newid ffenestri ac ail rendro yn 1 Green Edge, Biwmares.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer caniatâd am addasiadau gan gynnwys ail-doi, gosod ffenestri newydd a gwneud gwaith ar y  simnai wedi ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir sy’n berchen i’r Cyngor. Mae’r cais wedi’i gyfeirio at Adran Gynllunio Llywodraeth Cymru i’w benderfynu.  

 

          PENDERFYNWYD nodi y bydd y cais yn cael ei anfon ymlaen i Adran Gynllunio Llywodraeth Cymru i’w benderfynu.

 

13.2 12LPA1042E/LB/CC – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer ail doi ynghyd â newid ffenestri ac ail rendro yn 2 Green Edge, Biwmares.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer caniatâd am addasiadau gan gynnwys ail-doi, gosod ffenestri newydd a gwneud gwaith ar y  simnai wedi ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir sy’n berchen i’r Cyngor. Mae’r cais wedi’i gyfeirio at Adran Gynllunio Llywodraeth Cymru i’w benderfynu.  

 

          PENDERFYNWYD nodi y bydd y cais yn cael ei anfon ymlaen i Adran Gynllunio Llywodraeth Cymru i’w benderfynu.

 

13.3 30C246K/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (12) o ganiatâd cynllunio rhif 30C246H (codi tri annedd) er mwyn symud lleoliad un annedd (P1) ar dir gyferbyn â Tyn Pwll, Benllech.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 4 Hydref, 2017 lle penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn amodol ar gytundeb Adran 106 i wahardd gweithredu’r caniatâd blaenorol sydd â chyfeirnod 30C246H.  Fodd bynnag, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi gallu rhoi’r caniatâd hwn yn amodol ar amod yn atal gweithrediad y caniatâd blaenorol gan osgoi’r angen am gytundeb cyfreithiol Adran 106. 

 

          PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.