Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 26ain Gorffennaf, 2017 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel y rhestrir nhw uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, er nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwn, wedi datgan diddordeb mewn perthynas â cheisiadau 12.6, 12.7 a 12.8.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 5 Gorffennaf, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir ar yr amod y nodir bod y Cynghorydd John Griffith wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.3 a’i fod wedi gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad yn ei gylch.

4.

Ymweliad Safleoedd

None.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ymweliadau â safleoedd yn dilyn y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2017.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

‘Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 10.1, 11.2, 12.1, 12.3, 12.4 a 12.7.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 217 KB

6.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1     20C310B / EIA / RE - Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod yr ymgeisydd bellach wedi cyflwyno apêl ar sail methiant i benderfynu. Ar hyn o bryd, mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn asesu dilysrwydd yr apêl. Bwriedir adrodd ar y cais i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi yn amodol ar gadarnhau’r apêl neu fel arall.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog.

7.

Ceisiadau yn Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 195 KB

10.1 34C556B – Gwernhefin, Glanhwfa Road, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 34C556B - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â manylion llawn am y fynedfa ar dir ger Gwernhefin, Ffordd Glanhwfa, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu er ei fod yn tynnu’n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor ei bod wedi cael gwybod gan y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol, ei fod yn gofyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle. Gwahoddodd y Cynghorydd Dylan Rees i roi ei resymau am ofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees fod trigolion yn yr ardal gyfagos, er nad oedd ganddynt wrthwynebiad i'r datblygiad ei hun, wedi cysylltu ag ef oherwydd pryderon am y fynedfa i safle’r datblygiad arfaethedig oddi ar Ffordd Glanhwfa. ‘Roedd dau gais blaenorol ar y safle hwn wedi cael eu gwrthod oherwydd materion diogelwch priffyrdd; felly ‘roedd yn ystyried ei fod yn bwysig bod Aelodau'r Pwyllgor yn gweld y fynedfa drostynt eu hunain i asesu a yw'r amodau a gynigir yn yr adroddiad yn ddigonol i fynd i'r afael â materion priffyrdd posib.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, a oedd hefyd yn siarad fel Aelod Lleol, ei bod o farn wahanol a’i bod yn ystyried bod yr amodau a amlinellir yn adroddiad y Swyddog yn ddigonol er mwyn sicrhau diogelwch y briffordd, gan olygu felly nad oedd angen ymweld â’r safle. Bydd y datblygiad arfaethedig yn cael ei wasanaethu gan y fynedfa sydd yno ar hyn o bryd ac sydd eisoes yn cael ei defnyddio.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd bod y fynedfa yn fater o bryder oherwydd gwelededd is-safonol i'r Gogledd Ddwyrain.  Fodd bynnag, mae’r caniatâd a roddwyd ar gyfer safle cyfagos Parc Mount yn amodol ar sicrhau y cedwir y ffin ddim uwch nag 1m ac na chaiff dim o fewn 1m i'r ffin fod yn uwch nag 1m ar unrhyw adeg.  Mae hwn yn fater gorfodaeth a ddylai sicrhau llain welededd foddhaol i'r cyfeiriad hwnnw. Nid yw’r Awdurdod Priffyrdd felly yn codi unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, er gwaethaf y ffaith fod caniatâd wedi ei roi, nad oes unrhyw sicrwydd y bydd y datblygiad yn Parc Mount yn mynd yn ei flaen nac y byddai’r gwelededd yn cael ei wella i gydymffurfio â gofynion y Gwasanaeth Priffyrdd o ganlyniad. Mae hon yn ystyriaeth y mae angen i'r Pwyllgor ei chadw mewn cof.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes, gyda’r Cynghorydd John Griffith yn eilio, fod y Pwyllgor yn bwrw ymlaen i benderfynu ar y cais. Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, gyda’r Cynghorydd Dafydd Roberts yn eilio, y dylid ymweld â’r safle yn unol â’r cais a wnaed gan yr Aelod Lleol. Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig i benderfynu’r cais ei gario.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

Siaradodd Mrs Rhian Williams (o blaid y cynnig) ar ran ei mab, sef yr ymgeisydd a gafodd ei eni a'i fagu yn Llangefni ac a oedd yn rhedeg busnes bach sy'n cyflogi chwech o ddynion ifanc  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 473 KB

11.1 31C10K – Tyn Lon Garage, Llanfairpwll

11.2 36C228A – Shop Sharpe, Llangristiolus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 31C10K - Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn Garej Tyn Lôn, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i "swyddog perthnasol" fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol o ran dyluniad, maint, effeithiau a’r deunyddiau.

 

Cynigodd y Cynghorydd John Griffith, gyda’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2 36C338C - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir y tu cefn i Siop Sharpe, Llangristiolus.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i "swyddog perthnasol" fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad. Yn ogystal, galwyd y cais i mewn gan un o'r Aelodau Lleol ar y pryd.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr P. Antrobus (yn erbyn y cynnig) am bryderon ynghylch gorddatblygu, maint ac effeithiau. Byddai'r cynnig yn cael effaith andwyol annerbyniol ar yr eiddo cyfagos a’r ardal o gwmpas oherwydd edrych drosodd, colli preifatrwydd a thrwy fod yn weledol ormesol. Mae allan o gymeriad ac yn fwy nag eiddo eraill yn y cyffiniau. Soniodd Mr Antrobus am faterion dŵr wyneb a draenio yn ogystal â materion sy’n ymwneud â'r fynedfa i gerbydau, gan nodi bod damweiniau bron wedi digwydd  sawl gwaith wrth y plot gyferbyn ag Ysgol Henblas.

 

Dywedodd Mr Owain Evans (o blaid y cynnig) yr argymhellir gwrthod y cais ond nid ar sail lleoliad, golwg nac edrych drosodd, ond ar sail y CDLl ar y Cyd newydd sydd, o ran ei amseriad, yn anlwcus i'r ymgeisydd a dyna’r unig reswm pam mae’r Swyddog yn gwrthwynebu'r cynnig.  Dywedodd Mr Evans fod y swyddog wedi argymell cymeradwyo cais ar gyfer annedd drws nesaf yn ôl ym mis Ionawr, 2017 oherwydd ystyriwyd ei fod yn dderbyniol o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn fel datblygiad mewnlenwi.  Rhoddwyd mwy o bwys ar y Cynllun Lleol bryd hynny er bod y cynnig y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref o dan y CDU a stopiwyd. Mae'r cynnig dan sylw yn ddatblygiad mewnlenwi hefyd. Er y gellir rhoi pwys sylweddol ar y CDLl ar y Cyd, nid yw’n glir faint o bwysau y gellir rhoi arno o gymharu â’r cynlluniau eraill, a hynny oherwydd nad yw wedi ei fabwysiad eto. Yng nghanol mis Mehefin,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 17C518 - Penterfyn, 24 Frondeg, Llandegfan

12.2 19C1204 – 3 Ffordd Jasper, Holyhead

12.3 24C345 – Tregarth, Llaneilian

12.4 28C541/ENF – Glyn Garth, 10 Ffordd y Traeth, Rhosneigr

12.5 33C315 – Tros y Marian, Lôn Groes, Gaerwen

12.6 46C52D – Tir Nant, Lôn St Ffraid, Trearddur

12.7 46C254C – Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Trearddur

12.8 46C578 – The Pavilion, Lôn Isallt, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 17C518 - Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau sy’n cynnwys balconi yn Penterfyn, 24 Fron Deg, Llandegfan

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn gan ddau Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Siaradodd Mrs E A Morris (yn erbyn y cynnig) yn benodol yn erbyn y rhan o'r cais a fyddai'n cynnwys drysau dwbl yn agor allan o'r ystafell wely arfaethedig uwchben y garej i falconi. Byddai'r balconi yn edrych yn syth i lawr dros ei heiddo a ffenestr ei hystafell wely a byddai’n amharu ar ei phreifatrwydd yn llwyr. Pe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai'n gosod cynsail peryglus iawn i eraill ei ddilyn. O ran yr eiddo o’r enw Penmaen sydd â balconi ar hyn o bryd, nid yw’r eiddo hwn yn cael ei gyfrif fel un sydd o fewn stad Fron Deg. Nid oedd y cais dan sylw yn gydnaws ag unrhyw un o'r eiddo ar stad Fron Deg o fyngalos. Dywedodd Mrs Morris bod ffenestr yn y groglofft eisoes yn amharu ar ei phreifatrwydd a phe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo byddai lefel a graddfa’r fath amhariad ar ei phreifatrwydd a’r edrych drosodd yn dyblu.

 

Holodd y Pwyllgor Mrs Morris am yr edrych dros ei heiddo o eiddo cyfagos a chanddo falconi sydd yn sylweddol fwy na'r un a gynigir gan y cais hwn yn ôl adroddiad y swyddog.  Dywedodd Mrs Morris bod yr eiddo hwnnw o’r enw Penmaen yn annibynnol sydd y tu allan i stad Fron Deg; mae gan yr eiddo falconi erioed ac nid yw'n amharu ar ei phreifatrwydd. Eglurodd ei bod wedi tyfu a chynnal ei gwrych ar lefel benodol ac felly nid yw’r balconi yn broblem. Ni allai weld y balconi o'i heiddo ei hun er y gallai trigolion Penmaen yn ôl pob tebyg weld to ei heiddo hi yn 26 Fron Deg o'u balconi.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod dau o'r Aelodau Lleol wedi galw’r cais i mewn  oherwydd materion preifatrwydd ac oherwydd eu bod yn ystyried y byddai'r bwriad yn amharu ar gymeriad yr ardal. Nid yw'r Swyddog o'r farn y bydd y balconi yn cael effaith annerbyniol ar yr eiddo yn 26 Fron Deg  oherwydd bod digon o bellter rhwng y ddau eiddo yn ogystal â ffordd y stad. Cynigir amod sgrinio i leddfu effaith unrhyw edrych drosodd a allai ddigwydd ar eiddo cyfagos. Nid yw'r Swyddog yn ystyried y byddai'r estyniadau a’r newidiadau arfaethedig yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos nac ar unrhyw un o'r eiddo cyffiniol i'r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith, gyda’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 19C1204 - Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn 3 Ffordd Jasper, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 178 KB

13.1 13C194 – Llwyn Llinos, Bodedern

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 13C194 - Cais amlinellol ar gyfer codi tair annedd fforddiadwy sy'n cynnwys manylion am fynediad, golwg, gosodiad a maint yr anheddau ar dir gyferbyn â Llwyn Llinos, Bodedern

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r cais yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2017 gydag amodau a chytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau datblygiad tai fforddiadwy i gwrdd ag anghenion lleol. Nid yw Adroddiad yr Arolygydd mewn perthynas â'r CDLl ar y Cyd yn cynnig unrhyw newid i ffin y pentref ac mae'r cais yn parhau i gael ei ystyried yn safle eithriad.

 

Mae'r datblygwr wedi gwneud ymholiadau gyda'r Awdurdod Priffyrdd ynghylch yr angen i ddarparu troedffordd o flaen yr eiddo. Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad yw darparu palmant fel y gofynnwyd i’r datblygwr ei wneud o’r blaen yn angenrheidiol gan fod palmant ar ochr arall y ffordd ac am fod y cais yn un am dai fforddiadwy lle byddai costau darparu’r palmant yn afresymol.  Fodd bynnag, pery’r angen i osod ffryntiad y safle yn ôl i led palmant er mwyn sicrhau diogelwch cerddwyr. Mae'r cytundeb Adran 106 yn cael ei baratoi a bwriedir diwygio'r amodau yn unol â hynny.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch amseriad y cais o ystyried bod palmant gyferbyn â’r safle eisoes pan gymeradwywyd y cynllun a phan ofynnwyd am balmant gan yr Awdurdod Priffyrdd.

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd er y byddai darparu palmant yn fuddiol, mae’r achos dros fynnu arno’n wan pe bai’n destun her. Ar y pryd fe gynigiodd y datblygwr resymau dros beidio gorfod darparu palmant. Cadarnhaodd y Swyddog bod y gwelededd yn foddhaol ac yn darparu'r uchafswm 90m ar y naill ochr a’r llall.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, gyda’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn eilio, fod yr amodau yn cael eu diwygio yn unol ag adroddiad y Swyddog.

 

Penderfynwyd diwygio’r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd yn unol ag adroddiad y Swyddog.