Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel a nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb canlynol:-

 

Bu’r Cynghorydd K.P. Hughes ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1 ar yr agenda.

 

Bu’r Cynghorydd R.O. Jones ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.2 ar yr agenda.

 

Bu’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb personol a datganiad a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 10.1 ar yr agenda.

 

Bu’r Cynghorydd John Griffith ddatgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â cheisiadau 11.3 a 13.3 ar yr agenda.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 477 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd a ganlyn :-  

 

·         Cofnodion Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 26 Ebrill, 2017.

·         Cofnodion Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 31 Mai, 2017.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion eu cyflwyno a’u cadarnhau fel rhai cywir:-

 

·           Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 26 Ebrill, 2017

·           Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 31 Mai, 2017

 

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 29 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 9 Mehefin, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2017 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel rhai cywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwr cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.1.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 258 KB

6.1  34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1          34C304K/1/EIA/ECON - Cais hybrid am ganiatâd cynllunio llawn i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a gwaith cysylltiedig a chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd â lle parcio cysylltiedig a gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni.

 

Bu’r Cynghorydd K.P. Hughes ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.

 

Yng nghyfarfod 1 Mawrth, 2017, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Mawrth, 2017. Yn ychwanegol at hynny, er budd aelodau etholedig newydd y Pwyllgor, ymwelwyd â’r safle eto ar 9 Mehefin, 2017.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod gwybodaeth ychwanegol wedi’i derbyn fel rhan o’r cais ac mae’r gwaith ymgynghori bellach yn mynd rhagddo.  

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

 

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 591 KB

7.1  12C479B – Rose Hill, Biwmares

7.2  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

7.3  45C480 – Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1   12C479B – Cais llawn ar gyfer codi annedd yn hen safle’r farchnad arddio ar dir tu ôl i Rose Hill, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill, 2017, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 9 Mehefin, 2017.

 

Dywedodd Mr. Berwyn Owen (a oedd yn cefnogi’r cais) ei fod o’r farn bod adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor yn anghywir, roedd am i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol yr ymgynghorwyd â Swyddog Cadwraeth y Cyngor yn helaeth mewn perthynas â’r cais hwn. Nododd fod Adroddiad Asesiad Effaith ar Dreftadaeth wedi’i lunio a’i fod wedi’i asesu gan y Swyddog Cadwraeth. Mae’r Swyddog Cadwraeth wedi mynegi ei gefnogaeth i’r cais. Dywedodd Mr Owen hefyd y byddai’r annedd arfaethedig yn gartref i bobl ifanc a bod y cais yn haeddu cefnogaeth.   

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio bod 5 llythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn mewn perthynas â’r cais hwn a bod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r cais o ganlyniad i faterion parcio ac y byddai’r datblygiad yn arwain at ymwthiad anghydnaws yn yr ardal leol. Mae 2 lythyr o gefnogaeth wedi eu derbyn sy’n nodi y byddai datblygiad o’r fath yn gwella’r safle a’r ardal gyfagos. Nododd bod y Swyddog Cadwraeth yn cefnogi’r cais a bod Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi mynegi y dylid rhoi amod archeolegol ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd i’r cais. Fodd bynnag, nodwyd bod y Swyddog Cynllunio o’r farn nad yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’r pellteroedd angenrheidiol oddi wrth eiddo cyfagos fel y nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Agosrwydd Datblygiadau. Mae’r canllawiau’n nodi y dylai prif ffenestri’r llawr gwaelod fod wedi’u lleoli o leiaf 10.5 metr o’r terfyn.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

7.2   20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Bu’r Cynghorydd Richard O. Jones ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.

 

Yn ei gyfarfod ar 27 Gorffennaf, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 17 Awst, 2016. Cafwyd penderfyniad pellach yng nghyfarfod 1 Mawrth, 2017 i ymweld â’r safle a cynhaliwyd yr ymweliad safle hwnnw ar 15 Mawrth, 2016. Yn ychwanegol ar hynny, er budd yr aelodau etholedig newydd, ymwelwyd â’r safle eto ar 9 Mehefin, 2017.   

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod cais wedi’i dderbyn gan 2 siaradwr cyhoeddus, sy’n gwrthwynebu’r cais, i annerch y cyfarfod. Nododd fod y protocol yn y Cyfansoddiad yn rhoi’r disgresiwn i’r Cadeirydd ganiatáu i fwy nag un siaradwr annerch y cyfarfod os ystyrir hynny’n briodol lle mae cais sylweddol yn cael ei ystyried. Nodwyd,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 406 KB

8.1  34LPA1034/CC/ECON – Parc Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

8.2  45LPA1029A/ECON – Morawelon, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1         34LPA1034/CC/ECON – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dau blot, sef defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) ac i’w defnyddio fel warws ac i ddosbarthu (Dosbarth B8) fel estyniad i’r parc busnes ar dir Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un a wneir gan y Cyngor. 

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y cais amlinellol ar gyfer 7 uned sydd wedi’u cynnwys ar 3 llain o dir ac a fydd yn cael eu croesi gan Ffordd Gyswllt Llangefni. Nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cais am roi amod ychwanegol ar unrhyw ganiatâd a roddir mewn perthynas â gwarchod unrhyw rywogaethau sydd ar y tir a bod angen cynnal asesiad mewn perthynas â llygredd a draeniad ar y tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â gwarchod rhywogaethau ar y tir ac y cynhelir asesiad anghenion o ran llygredd a draeniad y tir. 

 

8.2         45LPA1029A/CC/ECON – Cais llawn ar gyfer codi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Morawelon, Niwbwrch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un a wneir gan y Cyngor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, fel Aelod Lleol, y dylid ymweld â’r safle gan ei fod tu allan i’r ffin datblygu a gan fod y safle wedi’i leoli dros y ffordd i eiddo preswyl. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T.Ll Hughes. 

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd. 

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 280 KB

10.1  31C170E – Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1      31C170E – Cais llawn i godi 16 annedd (10 annedd gyda 2 ystafell wely, 4 annedd gyda 3 ystafell wely a 2 annedd gyda 4 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

 

Bu’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn wahanol i’r cynllun datblygu y mae’r awdurdod lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu. Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor gan y Aelodau Lleol hefyd.

 

Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts, o ganlyniad i bryderon lleol am y cais ei bod hi’n cynnig y dylid ymweld â’r safle. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R.O.Jones. 

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais y Cadeirydd a hynny am y rhesymau a roddwyd. 

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 399 KB

11.1  21C76G – 4 Maes y Coed, Llanddaniel

11.2  36C351 – Ty Llwyd, Rhostrehwfa

11.3  41C99W/LUC – Nant y Felin, Bryn Gof, Star

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1      21C76G – Cais llawn ar gyfer ail-leoli’r sied ardd bresennol, addasu ac ehangu

ynghyd â chodi ffens newydd ar y ffin yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol. Mae’r cais wedi ei graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â’r angen a nodir ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

11.2      36C351 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle, codi garej a storfa offer, cau’r fynedfa gerbydau sy’n gwasanaethu’r annedd bresennol, estyniad i’r cwrtil, addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol er mwyn gwasanaethu’r annedd arfaethedig a chreu mynedfa amaethyddol newydd i’r cae cyfagos yn Ty Llwyd, Rhostrehwfa.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn ffrind agos i swyddog perthnasol. Mae’r cais wedi ei graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â’r angen a nodir ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor hefyd gan fod y tir yn berchen i’r Cyngor.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, fel Aelod Lleol, y dylid ymweld â’r safle er mwyn gallu asesu effaith y datblygiad ar fwynderau lleol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T.Ll Hughes.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd. 

 

11.3      41C99W/LUC – Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer codi estyniad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer dan Ddosbarth A, Rhan 1 Atodlen 2 o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad A Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013 yn  Nant y Felin, Bryn Gof, Star.

 

Bu’r Cynghorydd John Griffith ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol. Mae’r cais wedi ei graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â’r angen a nodir ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  19LPA1025E/CC/VAR – Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi

12.2  31C79H – 3 Mulcair House, Llanfairpwll

12.3  37C197B – Cyfleusterau Cyhoeddus, Brynsiencyn

12.4  37C198 – Fodol, Llanedwen

12.5  39LPA1036/CC – Cronfa Ddŵr Porthaethwy, Porthaethwy

12.6  44C340 – Plas Main, Rhosybol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1      19LPA1025E/CC/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (02) (rhestr waith) a (04) (cynllun rheoli traffig) o ganiatâd cynllunio rhif 19LPA1025/CC (newid defnydd cyn neuadd y farchnad yn llyfrgell, swyddfa a siop goffi ategol) er mwyn gallu cyflwyno'r manylion yn raddol ar adegau y cytunwyd arnynt yn Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

12.2      31C79H – Cais llawn ar gyfer newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) yn siop prydau poeth parod (dosbarth defnydd A3) yn 3 Mulcair House, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R.Meirion Jones yn gallu bod yn bresennol i annerch y Pwyllgor ond ei fod wedi gofyn i’w sylwadau ar y cais gael eu hystyried. Roedd y Cynghorydd Jones o’r farn y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un ar gyfer newid defnydd y siop trin gwallt bresennol i fod yn Siop Pitsa Tecawê a bod y siop drws nesaf i siop hwylus Spar. Nododd bod 15 llythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn, ynghyd â deiseb yn cynnwys 30 o lofnodion yn erbyn y cais oherwydd rhesymau priffyrdd, aflonyddwch cyffredinol, bod nifer o gyfleusterau prydau parod eisoes yn bodoli yn yr ardal a bod angen system awyru ddigonol yn y cyfleuster. Mae oriau agor y siop wedi eu nodi fel 4.00pm – 11.00pm a gellid rhoi amod i’r perwyl hwn. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi argymell y dylid gwrthod y cais gan y byddai’n creu gweithgareddau llwytho ychwanegol a fyddai’n golygu fod cerbydau’n cael eu gorfodi i barcio ar y briffordd gan achosi problemau o ran diogelwch y briffordd a diogelwch cerddwyr.      

 

Dywedodd y Cynghorydd K.P Hughes fod ganddo ei amheuon am yr argymhelliad i wrthod y cais o ganlyniad i faterion parcio, nid oes cyfleusterau parcio addas ger nifer o gyfleusterau parcio eraill mewn ardaloedd fel Caergybi ac ardaloedd eraill ar yr Ynys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Lleol, ei fod ef hefyd wedi galw’r cais i mewn i’w benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y pryderon lleol. Roedd yn cefnogi argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gwrthod y cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.3  37C197B – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y cyfleusterau cyhoeddus yn gaffi yng Nghyfleusterau Cyhoeddus, Brynsiencyn. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais ar dir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 475 KB

13.1  15C30H/FR – Fferm Pen y Bont, Malltraeth

13.2  19LPA1025F/CC/VAR – Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi

13.3  23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1      15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi’i dynnu’n ôl gan yr Ymgeisydd. 

 

Nodi fod y cais wedi’i dynnu’n ôl.

 

13.2      19LPA1025F/CC/LB/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (03) (manylion y paneli arwyddion efydd), (04) (paneli solar) a (06) (manylion cerrig) o ganiatâd cynllunio rhif 19LPA1025A/LB/CC (newid

defnydd cyn neuadd y farchnad yn llyfrgell, swyddfa a siop goffi ategol) er mwyn gallu cyflwyno'r manylion yn raddol ar adegau y cytunwyd arnynt yn Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru ar gyfer ei benderfynu yn unol â Rheoliad 13 o Ddeddf 13 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Gwarchodaeth) 1990.   

 

Nodi y bydd y cais yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru ar gyfer ei benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Gwarchodaeth) 1990. 

 

13.3      23C280F – Cais ôl weithredol ar gyfer sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd â chreu pwll slyri, dau seilo a gwaith cysylltiedig yn Plas Llanfihangel, Capel Coch

 

Nododd y Rheolwr Cynllunio Datblygu y bu i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2017, wrthod cais cynllunio yn groes i argymhelliad y Swyddog Cynllunio. Mae apêl bellach wedi’i gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Nid yw’r Aelod a gynigiodd y dylid gwrthod y cais bellach yn Aelod Etholedig ac nid yw’r eilydd i’r cynnig bellach yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.    

 

Bu’r Cynghorydd John Griffith ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n

rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y

drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid enwebu Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i gynrychioli’r Cyngor yn yr apêl. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.  

 

PENDERFYNWYD enwebu Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i gynnal yr apêl ar ran y Cyngor.