Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 2ail Mai, 2018 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem  6.2 – 41LPA1041/FR/TR/CC a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol - 4 Ebrill, 2018 pdf eicon PDF 100 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Ebrill, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Ebrill, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle -18 Ebrill, 2018 pdf eicon PDF 16 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas a cheisiadau 7.2, 7.3 and 12.1.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 276 KB

6.1  39C285D – Lôn y Gamfa, Porthaethwy

6.2  41LPA1041/FR/TR/CC – Star Crossroads, Star

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  39C285D Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Full application for  Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr argymhellir y dylid gohirio ystyried y cais tan y ceir yr adroddiad disgwyliedig yn dilyn achos o lifogydd yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.2  41LPA1041/FR/TR/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Gyffordd Star, Star

 

(Bu’r Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatgan diddordeb yn y mater hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem).

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod angen i’r Aelodau weld y cynnig a’i gyd-destun cyn ystyried y cais.  Nododd y disgwylir adroddiad effaith llifogydd mewn perthynas â safle’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod yn ystyried bod angen i’r Pwyllgor ystyried cynnwys yr adroddiad effaith llifogydd ynghyd â’r holl wybodaeth mewn perthynas â’r cais hwn cyn ystyried ymweld â’r safle.  Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gohirio ystyried y cais.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.                    

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ac na fyddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ar yr ymweliad safle tan y byddai adroddiad llawn wedi dod gerbron y Pwyllgor.

7.

Cesiadau'n Codi pdf eicon PDF 332 KB

7.1  14C47R/ENF – 19 Cae Bach Aur, Bodffordd

7.2  46C88K/AD – Canolfan Ymwelwyr RSPB, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

7.3  46C612A/AD – Elin’s Tower, Ynys Lawd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 14C47R/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi porth car yn 19 Cae Bach Aur, Bodffordd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ebrill, 2018 fe benderfynwyd ymweld â’r safle. Cynhaliwyd ymweliad safle ar 18 Ebrill, 2018. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol, fod cwynion mewn perthynas â’r porth car yn 19 Cae Bach Aur wedi eu derbyn oherwydd bod y strwythur yn eithafol ac nad yw’n cyd-fynd â’r hyn sydd o’i gwmpas o ran ei uchder a’i ymddangosiad ynghyd â’r ffaith bod y strwythur yn amharu ar olau naturiol eiddo’r cymdogion. Holodd ymhellach a fyddai caniatáu’r cais hwn yn gosod cynsail ar gyfer yr eiddo eraill yn y stad hon. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rees at adroddiad y Swyddog sy’n nodi ‘ Er ei fod yn wir nad yw'r strwythur yn ategu nac yn gwella cymeriad nac edrychiad yr ardal, ar ôl pwyso a mesur, ystyrir nad yw ei effaith mor andwyol fel y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais. Ond, roedd y Cynghorydd Rees yn anghytuno ac roedd o’r farn bod strwythur y porth ceir hwn yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos. Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y caniatâd cynllunio gan fod strwythur y porth ceir yn gwbl anghydnaws â gweddill Stad Cae Bach Aur. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn gais ôl-weithredol ar gyfer cadw’r porth car o flaen byngalo 19 Cae Bach Aur a bod yn rhaid ystyried y cais ar sail materion cynllunio. Dywedodd bod gwrthwynebiadau i strwythur y porth car wedi eu derbyn ond bod asesiad o’r cais wedi casglu bod y cais yn dderbyniol gan ei fod wedi’i gyfyngu i Stad Cae Bach Aur. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu’r cais.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y porth car hwn yn yr annedd yn gwbl anghydnaws â gweddill y stad. Cyfeiriodd at y ffaith bod hwn yn gais ôl-weithredol arall a’i bod yn ymddangos bod pobl o'r farn y gallant godi unrhyw estyniad ar eu heiddo heb ganiatâd cynllunio. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid gwrthod y cais. Eiliwyd y cynnig i wrthod gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Yn dilyn y bleidlais PENDERFYNWYD  gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog o ganlyniad i effeithiau ar eiddo cymdogion ac amwynderau’r ardal yn groes i Bolisi PCYFF3.

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).

 

 

7.2  46C88K/AD - Cais i leoli dau arwydd heb eu goleuo ynghyd â gosod dau fesurydd parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr yr RSPB, Ffordd South Stack Road, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ebrill, 2018  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 470 KB

10.1  30C755B/DEL – Min y Ffrwd, Brynteg

10.2  30C756B/DEL – Min y Ffrwd, Brynteg

10.3  35C280F/VAR – Pen y Waen, Llangoed

10.4  43C54G/VAR – Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 30C755B/DEL – Cais o dan Adran 73 i dynnu amodau (09), (10) a (11) (Côd am Cartrefi Cynaliadwy) ac i ddiwygio amod (08) (deunyddiau) o ganiatâd cynllunio rhif 30C755 (Cais amlinellol i codi annedd) ar dir yn Min y Ffrwd, Brynteg.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais presennol yn golygu tynnu amodau sy’n ymwneud â’r Cod Cartrefi Cynaliadwy. Gan nad yw materion perthnasol i’r dull o adeiladu o ran newid hinsawdd bellach yn cael eu llywodraethu gan y gyfundrefn gynllunio ond gan Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu, ystyrir nad yw’r amodau bellach yn angenrheidiol. Mae felly’n rhesymol eu tynnu yn unol â’r hyn a nodwyd yn llythyr Llywodraeth Cymru 016/2014. Mae’r cais hefyd yn gofyn am ganiatâd i amrywio amod (08) ar gyfer disgrifiad masnachol o’r deunyddiau arfaethedig ar gyfer wynebau allanol h.y. to llechi, cladin a rendro. Gan fod gan safle’r cais ganiatâd cynllunio eisoes, mae’r argymhelliad yn un o gymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

10.2 30C756B/DEL – Cais o dan Adran 73 i dynnu amodau (09), (10) a (11) (Côd am Cartrefi Cynaliadwy) ynghyd a diwygio amod (08) (deunyddiau) o ganiatâd cynllunio rhif 30C756 (codi annedd) ar dir yn Min y Ffrwd, Brynteg.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais y drws nesaf i’r cais blaenorol. Mae’r cais yn cynnwys tynnu amodau sy’n berthnasol i’r Cod Cartrefi Cynaliadwy. Mae’r cais hefyd yn gofyn am ganiatâd i amrywio amod (08) ar gyfer disgrifiad masnachol y deunyddiau arfaethedig ar gyfer wynebau allanol h.y. to llechi, cladio a rendro. Gan fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle mae’r argymhelliad yn un  o ganiatáu’r cais. Fodd bynnag, mae’r Cyngor Cymuned lleol wedi mynegi pryderon nad ydynt yn ystyried bod y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn cyd-fynd â’r ardal. Nododd fod y Swyddogion Cynllunio yn ystyried bod to llechi, rendro a ffenestri llwyd yn dderbyniol o ganlyniad i’r cymysgedd o anheddau yn yr ardal ac na fyddai’n cael effaith niweidiol ar yr ardal.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

10.3 35C280F/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (03) (cynllun draenio) o ganiatâd cynllunio rhif  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 154 KB

11.1  21C76H/VAR – 4 Maes y Coed, Llanddaniel

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 21C76H/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 21C76G (addasu ag ehangu) er mwyn diwygio y cynlluniau sydd wedi eu caniatáu yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i ‘swyddog perthnasol’ fel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae’r cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â’r gofyniad ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn golygu amrywiad i amod (02) o ganiatâd cynllunio 21C76G er mwyn diwygio’r cynllun sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer addasiadau ac estyniadau i’r annedd yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel. Nododd na fyddai cynnydd o 0.6 metr yn hyd yr estyniad yn cael effaith ar y cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol a bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 879 KB

12.1  19C1217 – 18 Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi

12.2  19LPA1043/CC –  Stryd Vulcan, Caergybi

12.3  20LPA1044/CC – Teilia, Cemaes

12.4  25C228A – 41 Stryd Fawr, Llannerchymedd

12.5  46C615/AD –  Canolfan Ymwelwyr, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

12.6  49C333A/FR – Capel Hermon, Stryd y Cae, Y Fali

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 19C1217 – Cais llawn i newid defnydd Annedd C3 yn Amlbreswyliaeth C4 yn 18 Lôn Maes Hyfryd Road, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd Mr Craig Stalman (yn siarad yn erbyn y cais) bod gan y stryd breswyl ym Maeshyfryd, Caergybi nifer o bobl oedrannus a theuluoedd o bob oed yn byw yno. Dywedodd y byddai cyflwyno Tŷ Amlbreswyliaeth (HMO) o bosib yn dod â’r bobl hyn i gysylltiad â phobl y byddent yn dewis eu hosgoi fel arfer. Gan fod Maeshyfryd yn cael ei ddefnyddio gan blant ar y ffordd i ac o’r ysgol. mae posibilrwydd y byddai’r plant hyn yn dod i gysylltiad â phobl na fyddai nhw na’u rhieni yn dymuno iddynt gael cyswllt â nhw. Mae problemau parcio eisoes yn bodoli ym Maeshyfryd ac yn ystod gyda’r nosau bydd cerbydau’n parcio ar ddwy ochr y ffordd sy’n stryd unffordd gul. Gyda chyflwyno HMO, mae posibilrwydd y byddai nifer uwch o gerbydau ar gyfer pob tŷ ac y byddai’r effaith ar y trigolion yn sylweddol. O ganlyniad i’r system unffordd, Maeshyfryd yw’r brif ffordd drwodd a ddefnyddir gan gerbydau masnachol a cherbydau brys er mwyn cyrraedd Kings Road a Tara Street. Mae trigolion eisoes wedi bod yn dyst i hyn wrth i fysiau orfod bagio i lawr stryd unffordd. Dywedodd Mr Stalman hefyd bod HMO yn cyflwyno’r  posibilrwydd y bydd nifer uwch o bobl yn cael eu cyfyngu i un annedd gan greu felly’r posibilrwydd o niwsans sŵn sy’n gysylltiedig â hynny. Gyda chynifer o drigolion mewn un tŷ gallai olygu cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig a thai HMO a gallai hynny gael effaith emosiynol a seicolegol ar y tai a’r teuluoedd cyfagos. Dywedodd hefyd y byddai cyflwyno HMO yn cael effaith negyddol at brisiau tai yn yr ardal, nid yn unig o ran prisiau tai yn gostwng ond hefyd amharodrwydd pobl eraill i brynu tŷ mor agos at HMO. Mae gan ardal Maeshyfryd eisoes broblemau amgylcheddol o ran casglu biniau a diffyg lle i storio biniau ailgylchu a biniau du/gwyrdd. Gyda chyflwyno HMO, gyda 6 ystafell o bosibl, gallai hyn olygu 24 bin ac nid oes gan yr eiddo penodol hwn le o flaen yr eiddo nac yng nghefn yr eiddo ar gyfer biniau o’r fath. Felly, mae’n anorfod y byddai’r lôn gefn i’r eiddo yn cael ei defnyddio i storio biniau gan achosi problemau llygod a glanweithdra eraill.           

 

Holodd y Cynghorydd R O Jones pwy fyddai’n byw yn yr annedd hon petai’r cais yn cael ei ganiatáu. Ymatebodd Mr Stalman ei fod wedi cael ar ddeall gan ddeiliad eiddo cyfagos a oedd wedi siarad â’r ymgeisydd mai ei fwriad oedd cael pobl broffesiynol i fyw yn yr ystafelloedd un llofft. Dywedodd nad oedd yn gwybod lle byddai’r holl bobl hyn yn parcio eu ceir gan fod potensial i gael 12 car yn parcio yn yr ardal. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i newid defnydd annedd tri  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.