Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Mehefin, 2018 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb ac fe’i nodwyd.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 6.3 ar yr rhaglen.

3.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 131 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –

 

·         2 Mai, 2018

·         15 Mai, 2018 (ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod, ac fe gadarnhawyd eu bod yn gywir:

 

• 2 Mai, 2018

• 15 Mai, 2018 (ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd)

 

4.

Ymweliadau Safle 16 Mai 2018 pdf eicon PDF 177 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 16 Mai, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Mai, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar nodi fod y Cynghorydd Robin Williams wedi mynychu’r ymweliad safle cyntaf â Chapel Hermon, Y Fali ond nad oedd wedi mynychu’r ail ymweliad safle â Chanolfan Ymwelwyr, Ynys Lawd, Caergybi.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas a cheisiadau 7.4, 7.5 and 12.2.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 424 KB

6.1 27C106E/FR/ECON – A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bŵer yng Nghemaes

 

6.2 39C285D – Lôn y Gamfa, Porthaethwy

 

6.3 41LPA1041/FR/TR/CC – Star Crossroads, Star

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 27C106E/FR/ECON – Cais llawn i wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio (Caniatadau Mawr) fod y Swyddog o’r farn bod angen i Aelodau’r Pwyllgor weld y cais a’i gyd-destun cyn ystyried y cais; yr argymhelliad felly yw y dylid ymweld â’r safle.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd. (Bu’r Cynghorydd Robin Williams atal ei bleidlais).

 

6.2 39C285D – Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio eu bod yn dal i ddisgwyl adroddiad yn dilyn achos diweddar o lifogydd; roedd hi’n deall bod cais am gyllid wedi’i wneud i Lywodraeth Cymru er mwyn gallu ymgymryd â gwaith ymchwil a modelu yn yr ardal er mwyn gall cael gwell dealltwriaeth o natur y llifogydd a’r mesurau lliniaru y gellir eu cymryd. Dywedodd y Swyddog fod y gwaith hwn yn debygol o gymryd rhai misoedd i’w gwblhau a’r argymhelliad yw y dylid gohirio’r cais ond hefyd y dylid tynnu’r eitem oddi ar agenda’r Pwyllgor yn y cyfamser.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd ac hefyd i dynnu’r eitem oddi ar yr agenda.

 

6.3 41LPA1041/FR/TR/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Groesffordd Star, Star.

 

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Amgylchedd Adeiledig a Naturiol fod y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol wedi gwrthod argymhelliad y Swyddog y dylid cynnal ymweliad safle ar y sail nad oedd wedi’i derbyn adroddiad llawn ar y cais. Dywedodd y Swyddog y derbyniwyd yr adroddiad asesu llifogydd ar 11 Mai a’i fod wedi bod yn destun ymgynghoriad a ddaeth i ben yr wythnos diwethaf. Cafwyd sylwadau gan Gyfoeth Naturiol Cymru'r wythnos diwethaf ac maent wedi eu hanfon ymlaen i’r ymgynghorwyr allanol sy’n paratoi’r adroddiad. Mae hwn eto i’w gwblhau’n derfynol a bydd y Prif Swyddog Cynllunio yn cyfarfod â’r ymgynghorwyr yr wythnos nesaf er mwyn trafod materion. Argymhellir felly  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 563 KB

7.1 14C47R/ENF – 19 Cae Bach Aur, Bodffordd

 

7.2 46C88K/AD – Canolfan Ymwelwyr RSPB, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

 

7.3 46C612A/AD – Elin’s Tower, Ynys Lawd

 

7.4 46C615/AD – Canolfan Ymwelwyr, Ynys Lawd, Caergybi

 

7.5 49C333A/FR – Capel Hermon, Field Street, Y Fali

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 7.1 14C47R/ENF – Cais ôl-weithredol i godi porth car yn 19 Cae Bach Aur, Bodffordd.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2018, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan ei fod yn ystyried bod y datblygiad yn groes i Bolisi PCYFF3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd o ran ei ddyluniad, ei edrychiad a’i effaith ar gymeriad ac amwynderau’r ardal.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dylan Rees, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, at y materion allweddol o ran y cais sef a yw’r datblygiad yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol ac a yw’n dderbyniol o ran ei leoliad a’i ddyluniad a’i effaith ar gymeriad ac edrychiad yr ardal ac amwynderau’r eiddo cyfagos. Y polisi perthnasol yn yr achos hwn yw Polisi PCYFF 3 y CDLlC sy’n cyfeirio ar Ddylunio a Siapio Lle; mae hyn yn rhoi gofyniad ar ddatblygiadau i arddangos dyluniadau o safon uchel sy’n rhoi ystyriaeth lawn i gyd-destun naturiol a hanesyddol a’r cyd-destun amgylchedd adeiledig ac sy’n cyfrannu at greu mannau deniadol, cynaliadwy. Dywedodd yr Aelod Lleol ei bod hi’n glir o’r llun a ddangoswyd nad yw’r datblygiad presennol yn cydymffurfio â’r gofynion polisi a’i fod mewn gwirionedd yn adeilad hyll ac yn ddolur llygad ar y tirlun. Mae adroddiad y Swyddog yn nodi, tra efallai nad ystyrir bod y datblygiad yn ategu neu’n gwella cymeriad ac edrychiad y safle, o bwyso a mesur, nid ystyrir bod ei effaith yn achosi niwed o’r fath i’r graddau y gellid ei wrthod. Fodd bynnag, mae defnydd y swyddog o’r ymadrodd “o bwyso a mesur” yn awgrymu nad yw’r dehongliad o’r polisi yn fater du a gwyn a bod sgôp am farn wahanol. Dywedodd y Cynghorydd Rees fod Aelodau wedi ymweld â’r safle ac wedi gweld sut mae’r porth ceir yn edrych ac yn ei farn ef fe ddaethant i’r penderfyniad cywir o ran penderfynu, o bwyso a mesur, fod y datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr ardal. Gofynnodd i’r Pwyllgor gadw at ei benderfyniad o wrthod y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod gohebiaeth wedi’i derbyn gan yr ymgeisydd yn cadarnhau ei barodrwydd i leihau maint y porth ceir petai hyn yn bodloni’r gwrthwynebiadau i’r cais. Mae adroddiad y Swyddog yn ailadrodd, o bwyso a mesur, bod y cais yn dderbyniol gan fod yr effaith weledol wedi’i chyfyngu i’r ardal benodol ac mai ychydig iawn o effaith ar amwynderau'r ardal ehangach. Mae’r argymhelliad felly’n parhau yn un o ganiatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robon Williams fod y Pwyllgor yn cadarnhau ei gynnig i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail nad yw’n cydymffurfio â Pholisi PCYFF 3, yn enwedig y rhan honno o’r polisi sy’n nodi fod angen i ddatblygiadau gyfrannu at greu man deniadol, rhywbeth nad yw’r cais hwn yn ei wneud. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 158 KB

10.1 12C161J – Fair Linden, Llanfaes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 12C161J – Cais llawn ar gyfer codi annedd a modurdy ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Fair Linden, Llanfaes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwyro oddi wrth y cynllun polisi y mae’r Swyddogion yn argymell ar gyfer caniatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i newid dyluniad yr annedd a gymeradwywyd yn flaenorol, caniatâd cynllunio sy’n ddilys tan 2021. Mae’r Swyddog o’r farn fod y cais presennol yn cynnig gwelliannau sylweddol o gymharu â’r caniatâd cynllunio sydd eisoes yn bodoli. Mae’r raddfa a’r maint wedi eu lleihau yn sylweddol ac mae dyluniad mwy traddodiadol bellach wedi’i gyflwyno. Dywedodd y Swyddog fod y coed sy’n destun Gorchymyn Diogelu Coed hefyd yn ffurfio rhan o safle’r cais. Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth Priffyrdd yn argymell lleiniau gwelededd o 2m x 120m ac nid y 2.4m x 120m a nodwyd yn amod (04). Petai’r cais yn cael ei ganiatáu, cynigir amod pellach i’r perwyl y bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau yn unol ag arolwg coed a gyflwynwyd fel rhan o’r cais. Er bod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r cais ac yn ei ystyried yn or-ddatblygiad, mae argymhelliad y Swyddog yn un o ganiatáu ar y sail bod y cynllun presennol yn cynnig gwelliannau o gymharu â’r caniatâd cynllunio sydd eisoes yn bodoli ac y gellir ei weithredu’n gyfreithiol. O ganlyniad, mae rhesymau dilys pam y gellir cymeradwyo’r gwyriad hwn oddi wrth y Cynllun Datblygu.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynghylch sefyllfa’r adran briffyrdd o ran sylwadau’r Cyngor Tref am faterion sydd, yn eu barn nhw, yn gwneud y fynedfa i’r eiddo yn beryglus. Dywedodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu fod y lleiniau gwelededd wedi eu dylunio er mwyn cydymffurfio â safonau cenedlaethol; mae gan safle’r cais eisoes ganiatâd cynllunio a does gan yr Awdurdod Priffyrdd ddim gwrthwynebiadau i’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a nodir ynghyd â’r gwelliant i amod (04) ac amod ychwanegol sy’n gofyn i’r datblygiad gael ei gyflawni yn unol â’r arolwg coed a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Aelodau a Swyddogion

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 355 KB

12.1 34LPA1015E/DIS/CC – Cyn Safle Hyfforddiant Môn, Llangefni

 

12.2 39C355B – Cyn Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 34LPA1015E/DIS/CC – Cais i ddileu amodau(02) (dŵr wyneb) a (03) (cynllun draenio) o ganiatâd cynllunio 34LPA1015B/CC yn yr hen safle Hyfforddiant Môn Training, Llangefni

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Adain Dechnegol (Draenio) y Cyngor yn ystyried y cynlluniau draenio a gyflwynwyd yn foddhaol ac fe gadarnhaodd Dŵr Cymru nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r amod gael ei ddileu. Mae argymhelliad y Swyddog felly’n un o gymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog.

 

12.2 39C355B – Cais ôl-weithredol i godi 8 o fflatiau ynghyd â maes parcio a gwaith cysylltiedig ar dir yn yr hen Ysgol Gynradd, Lôn Pentraeth, Porthaethwy.

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o’r cais wedi’i leoli ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Amlinellodd Mr Jamie Bradshaw (a oedd yn siarad o blaid y cais) ei fod yn ystyried bod y cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a lleol o ran ei fod ar safle tir llwyd sydd wedi’i leoli o fewn fin datblygu Porthaethwy. Y rhagdybiaeth mewn polisïau cenedlaethol a lleol yw bod y safle yn addas ar gyfer datblygu mewn egwyddor ac y dylid annog y defnydd ohono fel y nodir yn adroddiad y Swyddog. Mewn ymateb i bryderon y Swyddog o ran dwysedd y datblygiad a’i addasrwydd ar gyfer y lleoliad, mae’r cais yn bodloni polisïau lleol a chenedlaethol o ran defnyddio safleoedd fel hwn sydd mewn lleoliadau hawdd cael mynediad iddynt, sy’n agos at lwybrau trafnidiaeth, ar gyfer datblygiadau dwyster uchel. Byddai’r cais yn bodloni’r amcan hwn drwy wneud y defnydd gorau o’r tir er mwyn sicrhau dwyster uwch ond ei fod yn dal i fod yn ddatblygiad priodol ar gyfer y safle a’i leoliad gan felly leihau’r pwysau ar safleoedd tir llwyd er mwyn bodloni anghenion tai. Er bod yr adeilad arfaethedig yn dri llawr o uchder, mae’r lefelau tir a’r dyluniad gofalus yn golygu y byddai uchder yr adeilad yn adlewyrchu’r eiddo o’i gwmpas ac y bydd 2.5 metr yn is na’r annedd tri llawr sydd wedi’i ganiatáu i’r gogledd. Dywedodd Mr Bradshaw nad oedd yn meddwl bod y datblygiad yn rhy gywasgedig gan y byddai’r datblygiad ond yn cymryd 30% o ardal y safle a byddai digon o le o amgylch yr adeilad ac mae hynny’n cydymffurfio â phellteroedd gwahaniad y Cyngor ei hun sy’n caniatáu ar gyfer tirlunio. Mae’r pryderon fod gan yr adeilad nifer o ffenestri lefel uchel a gwydrau aneglur yn yr ystafelloedd gwely a’r ardaloedd byw, y mae’r Swyddog o’r farn sy’n creu golygfa ormesol ar gyfer y rhai a fydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.