Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 10.2 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb yng nghais 7.1 oherwydd ei fod yn aelod o Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd K P Hughes ddatganiad o ddiddordeb yng nghais 7.1 oherwydd ei fod yn aelod o Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R O Jones ddatganiad o ddiddordeb yng nghais 7.1 oherwydd ei fod yn aelod o Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Cynghorydd John Griffith, K P Hughes ac R O Jones wedi cadarnhau nad ydynt wedi cael unrhyw drafodaeth yn y Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd mewn perthynas â’r gwaith y mae angen ei wneud ar yr A5025 fel rhan o’r Prosiect Wylfa Newydd ac o’r herwydd, ystyriwyd bod modd iddynt gymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais a oedd gerbron y Pwyllgor a phleidleisio arno.

 

Gwnaeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 6.2 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 159 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnoidon cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 6 Mehefin, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Mehefin, 2018 fel rhai cywir ar yr amod ei fod yn cael ei gynnwys bod y Cynghorwyr John Grffith a Robin Williams, ar eitem 7.4, wedi atal eu pleidlais ar y sail nad oeddent yn cytuno â’r egwyddor o godi tâl, er bod y cais yn dderbyniol yn nhermau polisi cynllunio.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 33 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion yr Ymweliad Safleoedd a gafwyd ar 20 Mehefin, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2018 fel rhai cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim siaradwyr cyhoeddus.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 208 KB

6.1  34C304Z/1/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

6.2  41LPA1041/FR/TR/CC – Star Crossroads, Star

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  34C304Z/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi chwech o adeiladau, newid defnydd cae yn  ardal hyfforddiant peiriannau trwm a chreu maes parcio newydd yng Ngholeg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyriwyd bod angen i’r aelodau weld y cynnig a’i gyd-destun cyn gwneud ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

6.2  Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio

fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Gyffordd  Star, Star

 

Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio allano’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai’r argymhelliad oedd gohirio’r cais ac y caiff ei drafod yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 25 Gorffennaf, 2018.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 755 KB

7.1  27C106E/FR/ECON – A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes

7.2  46C615/AD – Canolfan Ymwelwyr, Ynys Lawd, Caergybi

7.3  49C333A/FR – Capel Hermon, Field Street, Y Fali

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  27C106E/FR/ECON – Cais llawn i wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bŵer yng Nghemaes.

 

(Roedd y Cynghorwyr John Griffith, K P Hughes ac R O Jones wedi datgan diddordeb yn y cais hwn).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn ymwneud â thir sydd ym mherchenogaeth Cyngor Sir Ynys Môn. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin, 2018, penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y swyddog. Fe ymwelwyd â’r safle ar 20 Mehefin, 2018.

 

Darllenodd y Rheolwr Cynllunio (Caniatadau Mawr) lythyr o wrthwynebiad yn y lle cyntaf nad oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad i’r Pwyllgor. Dywedwyd yn benodol yn y llythyr ‘the improvement to the A5025 should be an opportunity to bury power cables to the Grid and ideally removing the existing pylons within that process then thereafter to follow the A55 over the new bridge’.  Rhoes sicrwydd i’r Pwyllgor y rhoddwyd ystyriaeth ddyledus i’r mater ond roedd y Swyddogion o’r farn na fyddai modd gorfodi’r gwrthwynebiad gydag amod cynllunio. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio (Caniatadau Mawr) bod y cais i wella priffordd yr A5025 yn gysylltiedig â’r prosiect arfaethedig i adeiladu ac i weithredu Gorsaf Bŵer Niwclear Wylfa Newydd. Mae’n cynnwys gwaith ar hyd 8 rhan o’r ffordd ar hyd, ac yn gyfagos i’r briffordd gyfredol, sef:-

 

·      Mae rhan 2 yn rhedeg o’r gogledd o gyffordd yr A5025 a’r A5 yn Y Fali i ogledd Llanynghenedl;

·      Rhan 4 i’r gogledd o Lanfachraeth ac i’r de o Lanfaethlu;

·      Rhan 6 i’r gogledd o Lanfaethlu i’r gogledd o Lanrhuddlad;

·      Rhan 8 i’r gogledd o Gefn Goch i gyffordd y ffordd fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig.

 

Gyda’i gilydd, byddai’r rhannau hyn yn 16.19km o hyd a byddai’r gwaith wedi ei gyfyngu i ffin y briffordd bresennol i raddau helaeth.

 

Cynigir gwneud gwaith gwella pellach ar wahân ar rannau 1, 3 5 a 7 yr A5025 Further a bydd yn golygu gwneud gwaith ‘chip a tar’ ar y rhannau perthnasol a bydd y gwaith yn cymryd llawer iawn llai o amser na’r gwaith ar rannau 2, 4, 6 ac 8. 

 

Byddai gwaith ategol i wella’r briffordd dan y cais hwn yn cynnwys creu pyllau teneuo a mynedfeydd i bwrpas cynnal a chadw, creu llwybrau beicio, gwaith draenio, plannu, arwyddion newydd a marciau ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hytyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hytyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 314 KB

10.1  33C284B/DEL – Holland Arms, Pentre Berw

10.2  49C289K/VAR – Cleifiog Fawr, Ffordd Gorad, Y Fali

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  33C284B/DEL – Cais dan Adran 73 i gael gwared ar amodau (10) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (11) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (12) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (20) (troedffordd) ynghyd â rhyddhau amodau (07) (disgrifiadau masnach a deunyddiau), (08) (dull amgáu) a (09) (manylion draenio), er mwyn darparu disgrifiadau masnach o’r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio ar arwynebeddau allanol, manylion llawn am y dulliau amgáu y bwriedir eu defnyddio o fewn ac o gwmpas y safle a’r manylion draenio fel rhan o’r cais Cynllunio gyfredol. Amrywio amodau (13) (ffenestri) a (21) (yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd mewn perthynas â chaniatâd Cynllunio 33C284A (codi 3 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau) ar dir gyferbyn â Holland Arms, Pentre Berw

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod y cynnig yn groes i bolisïau y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i gael gwared ag amodau fel rhan o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 33C284A a gymeradwywyd yn 2013.  Nododd fod y 3 annedd bellach o faint a chyd-destun tebyg o gymharu â’r cais blaenorol a ganiatawyd ble yr oedd un annedd yn fwy na’r ddwy arall. Oherwydd y gostyniad ym maint yr anheddau, mae safle’r cais yn llai o ran cyd-destun, nid oes angen bellach i ddymchwel y wal gerrig bresennol i’r de orllewin o safle’r cais nac ychwaith i wyro’r droedffordd ger y safle. Ymhellach, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Pentre Berw yn awr, dan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, wedi’i ddifinio fel clwstwr lle na fedrir ond cefnogi cynigion i godi tai os ydynt yn cwrdd ag anghenion lleol ac yn cael eu codi rhwng neu gerllaw adeiladau eraill. Nid yw’r cais hwn yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi TAI6 oherwydd mae’r anheddau yn rhai marchnad agored.  Fodd bynnag, oherwydd fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar safle’r cais, mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.1      10.2  49C289K/VAR – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (02) er mwyn caniatáu diwygiadau i gosodiad y safle a dyluniad o unedau 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9 a 12, (06) er mwyn caniatáu i’r rhaglen o waith archeolegol cael ei gyflwyno a’i ryddhau wedi i’r gwaith gychwyn, (09) er mwyn caniatáu diwygiadau i’r darpariaethau parcio moduron ynghyd â dileu amod (11) (lefelau llawr gorffenedig) o ganiatâd cynllunio rhif 49C289 (newid adeiladau allanol yn 12 annedd) yn Cleifiog Fawr, Lôn Gorad, Y Fali

 

(Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts allan o’r cyfarfod yn ystody drafodaeth a’r penderfyniad arno).

 

Aeth yr Is-Gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 376 KB

12.1  19C251U/FR/TR – Tir gyferbyn a Travel Lodge, Ffordd Kingsland, Caergybi

12.2  39C18C/2/VAR – Plot 10 Ty Mawr, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  19C251U/FR/TR – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir gwag yn safle rhentu ceir gan gynnwys swyddfa ar dir gyferbyn â Travel Lodge, Ffordd Kinsgland, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i newid defnydd y safle yn fusnes rhentio ceir gyda swyddfa gysylltiedig mewn porta-cabin a chanopi ‘valet’ lle byddai’r cerbydau’n cael eu glanhau. Mae’r cynnig yn golygu creu compownd wedi ei darmacio lle gellir parcio 22 o gerbydau ar gyfer eu llogi a 7 o lecynnau parcio i gwsmeriaid. Rhagwelir y bydd 5 o bobl yn cael eu cyflogi yn safle’r cais. Nododd bod y cais wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor gan Aelod Lleol oherwydd materion traffig a pharcio ger y safle a phryderon ynghylch lleoliad y safle sydd ger yr A55.  Dywedodd y Swyddog nad yw’r Awdurdod Priffyrdd nag Asiantaeth Briffyrdd Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu’r cais ond bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi mynnu ar gynllun rheoli adeiladu a fydd yn rhoi sylw i faterion adeiladu a gweithredu mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig. Disgwylir am sylwadau ynghylch draenio a dŵr wyneb ar gyfer y cais. Nododd ymhellach fod manylion am yr offer y bwriedir ei ddefnyddio, oriau gweithredu a lefelau sŵn o’r datblygiad arfaethedig wedi cael eu cyflwyno i’r Gwasanaeth Amgylchedd sydd wrthi ar hyn o bryd yn asesu’r materion hyn.   Mae’r safle’r cais mewn parth llifogydd C2 ond mae’r cais wedi cael ei gategoreiddo fel un llai bregus dan ddarpariaethau polisi TAN 15 yn y CDLlC.     

 

Dywedodd y Swyddog fod safle’r cais eisoes yn cynnwys unedau siopio ond bod y safle wedi cael ei glirio ac wedi bod yn wag am flynyddoedd lawer ac o’r herwydd, nid oes unrhyw ddefnydd cynllunio dilys yn bodoli ar y safle. Oherwydd nad oes unrhyw ddefnydd cynllunio dilys, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd nad oedd yr Asesiadau Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio wedi arddangos cydymffurfiaeth gyda TAN 15.  Oherwydd bod y datblygiad yn un i sefydlu cyfleuster llogi ceir gyda phorta cabin ar y safle, tybir bod lefel y risg llifogydd yn isel. Yn ychwanegol at hyn, gellir priodoli pwysau cadarnhau sylweddol i’r ffactorau datblygu economaidd oherwydd bydd 5 o swyddi’n cael eu creu a bydd yn cyfrannu at adfywiad trefol ac at wella mwyderau gweledol y safle. Mae’r argymhelliad yn un i ganiatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fel Aelod Lleol, er y derbynnir bod safle’r cais wedi bod yn wag ers blynyddoed a bod angen ei ddatblygu, roedd yn cwestiynu a oedd cyfleuster llogi ceir yn briodol ar y safle hwn. Dywedodd fod ganddo bryderon yn barod ynghylch lefel y traffig ger y safle hwn. Nododd bod y safle yn ymyl yr Orsaf Dân, yr A55 a chilfannau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer parcio. Dywedodd hefyd y cafwyd problemau gyda llifogydd yn y rhan hon o safle’r cais. 

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio sylw i’r materion a godwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.