Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd K P Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 7.1 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 7.1 ond yn dilyn cyngor cyfreithiol, roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghais 12.2 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.

 

Gwnaeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 7.3 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 110 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Gorffennaf, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf, 2018 fel rhai cywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 32 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 18 Gorffennaf, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2018 fel rhai cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus yn bresennol ar gyfer cais 7.2.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 834 KB

6.1  17C181C – Fferam Uchaf, Llansadwrn

6.2  19C232E/FR – 55 Stryd y Farchnad, Caergybi

6.3  38C310F/EIA/ECON – Wylfa Newydd, Cemaes

6.4  39LPA1046/CC – Tŷ Tafarn Four Crosses, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  17C181C – 17C181C - Cais llawn ar gyfer codi sied anifeiliaid, codi clamp silwair, gosod llecyn caled ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiedig gan gynnwys bwnd tirlunio yn Fferam Uchaf, Llansadwrn

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyriwyd bod angen i’r aelodau weld y cynnig a’i gyd-destun cyn ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

6.2  19C232E/FR – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi gwesty ag uned defnydd masnachol (Dosbarth A3) newydd yn ei le yn 55 Stryd y Farchnad

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyriwyd bod angen i’r aelodau weld y cynnig a’i gyd-destun cyn ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

6.3  38C310F/EIA/ECON – Gwaith paratoi a chlirio’r safle ar gyfer datblygu gorsaf bŵer Wylfa Newydd, yn cynnwys y gweithgareddau canlynol: clirio'r safle (gan gynnwys clirio a rheoli llystyfiant, tynnu ffensys, waliau, giatiau, ffiniau caeau, strwythurau presennol (gan gynnwys adeiladau), prysg, coed a nodweddion eraill sydd ar y tir); gwaith sefydlu'r safle (gan gynnwys gosod croesfan newydd ar draws ffordd fynediad gorsaf bŵer bresennol Magnox, ffurfioli pwyntiau croesi presennol i gerbydau ar draws Ffordd Cemlyn, ffurfioli llwybrau i gerbydau, gosod ffens adeiladu o amgylch perimedr y safle, sefydlu ardaloedd gosod, compowndiau storio deunyddiau, compowndiau adeiladu ac adeiladau lles/swyddfa dros dro cysylltiedig, meysydd parcio, cyswllt llwybr troed cysylltiedig rhwng prif gompownd y safle a maes parcio cyn Glwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa, lle i storio tanwydd, ffensys diogelwch, a nodweddion diogelwch a draenio); gwaith gwella'r tir (gan gynnwys sefydlu Compownd prosesau adfer a ffensys cysylltiedig, storio deunyddiau wedi'u prosesu/wedi'u trin, sefydlu traciau mynediad cysylltiedig, draenio, cloddio a thrin pridd sy'n debygol o fod yn halogedig, a thrin a thynnu rhywogaethau estron goresgynnol); dargyfeirio a/neu gau Ffordd Cemlyn dros dro gyda mynediad at Dŷ Croes (Maes Parcio’r Pysgotwyr) yn cael ei reoli; gwaith cysylltiedig arall a chynllun adfer i ddychwelyd y safle i gyflwr derbyniol os na fydd datblygiad gorsaf bŵer Wylfa Newydd yn mynd rhagddo yn Wylfa Newydd, Cemaes

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio (Datblygiadau Mawr) yr ystyriwyd bod angen i’r aelodau weld y cynnig a’i gyd-destun cyn ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

6.4  39LPA1046/CC – Cais llawn ar gyfer creu cyfleuster Parcio a Theithio ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau â datblygiad cysylltiedig ar dir ger Tŷ Tafarn Four Crosses, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyriwyd bod angen i’r aelodau weld y cynnig a’i gyd-destun cyn ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

 

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1  34C304Z/1/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

7.2  39C18C/2/VAR – Plot 10, Ty Mawr, Porthaethwy

7.3  41LPA1041/FR/TR/CC – Star Crossroads, Star

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  34C304Z/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi chwech o adeiladau, newid defnydd cae yn ardal hyfforddiant peiriannau trwm ynghyd a chreu maes parcio newydd yn Coleg Menai, Ffordd Y Coleg, Llangefni

 

(Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd K P Hughes allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Roedd y Cynghorydd John Griffith wedi datgan diddordeb personol yn y cais ond yn dilyn cyngor cyfreithiol, fe gymerodd ran yn y drafodaeth a’r bleidlais arno.)

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cais mawr ac yn ffurfio rhan o’r cynllun meistr tymor hir ar gyfer y campws a thref Llangefni. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf, 2018, penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y swyddog. Fe gynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 18 Gorffennaf, 2018.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygiad arfaethedig yn cynnwys 6 adeilad sef (1) Storfa offer gweithredol ar gyfer gwaith adeiladu cyffredinol (2) Storfa sgaffaldiau (3) Canolfan hyfforddiant ar gyfer gwneud casmentau a chaeadau (‘shuttering’) ac adeilad hyfforddi gweithredol cyffredinol  (5) Adeilad hyfforddiant sgaffaldiau a (6) Storfa ar gyfer peiriannau trwm.  Yn ychwanegol at hyn, bydd newid defnydd o dir amaethyddol yn ardal hyfforddiant peiriannau trwm ynghyd â chreu maes parcio ar gyfer 41 o gerbydau a’r gwaith tirlunio cysylltiedig. Mae’r cais yn gais llawn ar gyfer creu Canolfan ar gyfer Hyfforddiant Sgiliau Seilwaith a bydd yn darparu sgiliau sy’n gysylltiedig â chyfnodau adeiladu prosiectau seilwaith mawr. Nodwyd y bydd y datblygiad yn creu 20 o swyddi newydd ac y bydd y ganolfan â’r capasiti i hyfforddi rhwng 800 a 1,000 o unigolion bob blwyddyn.    

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch mesurau lliniaru ar gyfer ystlumod ac y disgwylir hefyd am sylwadau gan yr Adain Ddraenio a chan Asiantaeth Briffyrdd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r datblygiad. Nododd fod sylwadau wedi dod i law gan Dŵr Cymru, Gwasanaethau Cynllunio Archeolegol Gwynedd (GAPS), yr Awdurdod Priffyrdd a’r Swyddog Iaith Gymraeg a oeddynt oll yn fodlon gyda’r datblygiad. 

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith am lefel y niwsans sŵn i anheddau cyfagos yn sgil y peiriannau trwm a ddefnyddir yn ystod rhaglenni hyfforddiant y myfyrwyr. Nododd fod adroddiad y Swyddog yn dweud na fydd hyn yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar eiddo cyfagos. Dywedodd ymhellach nad oes unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at yr 153 eiddo a’r gwesty sydd wedi cael eu cymeradwyo’n ddiweddar fel rhan o’r datblygiadau yng Ngholeg Menai.  Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod cais amlinellol blaenorol a gymeradwywyd ar gyfer codi adeiladau ar gyfer hyfforddiant peiriannau trwm yn agosach at yr eiddo. Nododd fod y cais wedi cael ei ddiwygio a bod yr adeiladau yn awr ymhellach i ffwrdd o’r eiddo. Gofynnodd y Cynghorydd Griffith am eglurhad ynghylch a fydd modd rhoi amod ynghylch lefelau sŵn ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd a hynny o ran symudiadau peiriannau trwm ar y safle. Dywedodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 385 KB

10.1  14C245B/VAR – Bodwrog, Tyn Lon

10.2  42C135F/VAR – Coch y Meiri, Wern y Wylan, Llanddona

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  14C245B/VAR – Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amodau (04) (mannau pasio) a (07) (cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 14C245A (newid defnydd adeilad allanol i annedd) er mwyn diwygio’r dyluniad a gymeradwywyd a lleihau nifer y mannau pasio o ddau i un ynghyd â thynnu amod (06) (cofnod ffotograffig) ar dir i’r gogledd o Bodwrog, Tyn Lon

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar argymell penderfyniad rhanedig, gan gymeradwyo rhan o’r cais a gwrthod y llall. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi’i leoli mewn cefn gwlad agored. Mae’r egwyddor o ddatblygu’r safle eisoes wedi ei sefydlu pan roddwyd y caniatâd. Nodwyd bod y cynnig sydd gerbron y Pwyllgor yn un i ddiwygio Amod (07) ar gyfer estyniad i greu ystafell wely ar y llawr cyntaf a fyddai’n cyfateb i newid dyluniad yr adeilad sy’n groes i bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sy’n dweud y dylai unrhyw waith addasu gadw cymeriad yr adeilad a lleihau effaith unrhyw waith newydd.    

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y cynnig i ddiwygio Amod (04) a oedd yn ymwneud â newid i leihau nifer y llefydd pasio o 2 i 1. Roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau fod hynny’n dderbyniol a’u bod yn fodlon i’r amod gael ei amrywio’n unol â hynny.   

 

Cyfeiriodd ymhellach at y ffaith fod yr ymgeisydd wedi gofyn am gael dileu Amod (06) (Cofnod Ffotograffig) o’r cais a gymeradwywyd ond ystyriwyd y dylid gollwng yr amod hwn yn hytrach na’i ddileu. Cyflwynwyd tystiolaeth ffotograffig gyda’r cais cynllunio ac roedd Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r dystiolaeth ffotograffig a gyflwynwyd gyda’r cais.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid caniatáu amrywio Amod (04) (lleoedd pasio) a dileu Amod (06) (Cofnod Ffotograffig) ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid gwrthod y cais i amrywio Amod (07) (cynlluniau a gymeradwywyd) yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      cymeradwyo’r cais mewn perthynas ag amrywio amod (04) (mannau pasio) a dileu amod (06) (Cofnod Ffotograffig) yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

·      Gwrthod yr amrywiad i amod (07) (cynlluniau wedi’u cymeradwyo) yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

10.2  42C135F/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 42C135C (Cais cynllunio hybrid: Cais amlinellol gyda'r holl wybodaeth o fynedfa, edrychiad, tirlunio, gosodiad a graddfa ar gyfer codi bloc stablau. Cais llawn ar gyfer gosod 4 pod gwyliau a man parcio) er mwyn diwygio dyluniad y podiau a gosodiad y maes parcio ynghyd a rhyddhau amod (09) (cynllun tirlunio) yn Coch y Meiri, Wern y Wylan, Llanddona

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd fod y cynnig yn groes i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 335 KB

11.1 49C175C – Bron y Môr, Y Fali

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  49C175C – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y modurdy dwbl presennol yn anecs hunangynhaliol yn Bryn Y Môr, Y Fali.

 

Nodwyd bod y cais wedi cael ei dynnu’n ôl.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 487 KB

12.1  23C301C – Pen y Garreg, Talwrn

12.2  36C193P/ENF – Cefn Uchaf, Rhostrehwfa

12.3  45LPA1029D/CC/DIS – Ysgol Santes Dwynwen, Safle’r Ysgol Newydd,  Lôn Twnti, Newborough

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  23C301C – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol yn anecs ar gyfer gofalwr ym Mhen y Garreg, Talwrn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE, Aelod Lleol, bod y cynnig yn ymwneud â defnyddio adeilad ategol fel llety ar gyfer gofalwr fel y gellir helpu’r bobl oedrannus sy’n byw ym Mhen y Garreg, Talwrn.  Gofynnodd am ymweliad safle fel y gellir ystyried y defnydd o’r tir ac unrhyw effeithiau ar ddeiliaid eiddo cyfagos. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid ymweld â’r safle ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2  36C193P/ENF – Cais llawn ar gyfer cadw dau o gynwysyddion storio ynghyd â lleoli 10 o gynwysyddion storio ar dir yn Cefn Uchaf, Rhostrehwfa

 

(Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, fe aeth y Cynghorydd Bryan Owen allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid ymweld â’r safle er mwyn asesu’r effaith ar fwynderau eiddo cyfagos. Fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3  45LPA1029D/CC/DIS – Cais i ryddhau amod (10) (goleuadau gweithredol) o ganiatâd cynllunio45LPA1029A/CC/ECON yn Ysgol Santes Dwynwen, Safle’r Ysgol Newydd, Lôn Twnti, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i ollwng amod (10) (goleuadau gweithredol) oddi ar y cais a gymeradwywyd eisoes yn Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch. Mae manylion llawn am y goleuadau allanol bellach wedi cael eu cyflwyno i’w hystyried dan y cais hwn ar gyfer 14 o golofnau goleuo ynghyd â goleuadau ar adeilad yr ysgol. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu ond mae Ymgynghorydd Ecolegol y Cyngor wedi gofyn am fwy o fanylion ynghylch y mesurau lliniaru ar gyfer ystlumod. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar ôl derbyn manylion boddhaol ar liniaru effeithiau ar ystlumod.

 

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw faterion eraill eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.