Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn

 

Y Cynghorydd Bryan Owen yng nghyswllt cais 7.3

Mr. John R.P.Rowlands, Peiriannydd Rheoli Datblygu yng nghyswllt cais 6.1

Mrs Nia Jones, Rheolwr Datblygu Cynllunio yng nghyswllt cais 7.5

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 413 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 25 Gorffennaf, 2018 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

4.

Ymweliadau Safle 22 Awst, 2018 pdf eicon PDF 213 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 22 Awst, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd 22 Awst, 2018 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus yng nghyswllt ceisiadau 7.1, 7.2, 7.3, a 7.5.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 136 KB

6.1 17C181C – Fferam Uchaf, Llansadwrn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1       17C181C – Cais llawn ar gyfer codi sied anifeiliaid, codi clamp silwair, gosod llecyn caled ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiedig, creu mynedfa gan gynnwys bwnd tirlunio yn Fferam Uchaf, Llansadwrn

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais, nid oedd y Peiriannydd Rheoli Datblygu’n bresennol pan ystyriwyd y cais a phenderfynu arno.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Adran Gynllunio wedi bod yn disgwyl gwybodaeth gan yr ymgeisydd ynglŷn â manylion tirlunio. Mae hon wedi'i derbyn erbyn hyn ac argymhellir gohirio ystyried y cais fel bod modd i'r Swyddogion ystyried y wybodaeth a chael asesiad llawn o'r achos gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad i'r cyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog am y rhesymau a roddwyd.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 923 KB

7.1 19C232E/FR – 55 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

7.2 23C301C – Pen y Garreg, Talwrn

 

7.3 36C193P/ENF – Cefn Uchaf, Rhostrehwfa

 

7.4 39LPA1046/CC – Tŷ Tafarn Four Crosses, Porthaethwy

 

7.5 41LPA1041/FR/TR/CC – Croesffordd Star, Star

 

7.6 38C310F/EIA/ECON – Wylfa Newydd, Cemaes. Noder os gwelwch yn dda bod y cais hwn yn cael ei ystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhelir yn y bore am 10:30. Gweler y rhaglen sydd ar wahân ar wefan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1       19C232E/FR – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi gwesty ac uned defnydd masnachol (Dosbarth A3) newydd yn ei le yn 55 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd 25 Gorffennaf, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle a chynhaliwyd yr ymweliad hwn 22 Awst, 2018.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Damian McGann (ar ran y bwriad) y byddai'r adeilad arfaethedig o ddyluniad gwych ac ansawdd uchel ac y byddai enw brand blaenllaw yn ei gefnogi. Byddai’n trawsnewid Stryd y Farchnad a'r olygfa o'r Porthladd. O ran manylebau, byddai gan bob ystafell deledu sgrîn wastad, system wresogi a thymheru aer a chyfleusterau en-suite. Nid oes dim gwirionedd i'r honiadau mwy dychmygus a wnaed mai sefydliad a gefnogir gan y DHSS fyddai hwn. Nid oedd ffenestri mewn rhai ystafelloedd oherwydd dyfnder yr adeilad ac roedd hyn yn nodwedd eithaf safonol o le mewn gwesty pris is. Roedd gan gwsmeriaid ddewis a gallent benderfynu pa fath o ystafell yr oedd yn well ganddynt dalu amdani. Roedd  y datblygwr yn awyddus i gefnogi'r gymuned leol yn y cyfnod adeiladu a thu draw i hynny yn ogystal â chefnogi sefydliadau lleol. Aeth Mr McGann ymlaen i ddweud ei fod ef a'i gyd-gyfarwyddwr ar ôl clywed rhai o'r sibrydion am y datblygiad arfaethedig,  wedi trafod cyfarfod cyhoeddus i egluro'r bwriad a, phe câi ei gymeradwyo, eu bwriad oedd rhoi gwybodaeth i’r gymuned leol yn rheolaidd wrth i’r datblygiad fynd rhagddo. Roedd y datblygwr wedi cymryd amser maith i ystyried y defnydd gorau ar gyfer y lle hwn ac, ar ôl cymryd cyngor proffesiynol sylweddol, y gred oedd mai'r hyn a gynigir oedd yr unig ddefnydd ymarferol ar gyfer y lle.

 

Holwyd Mr McGann gan y Pwyllgor ynghylch y trefniadau parcio arfaethedig gan nad oedd parcio oddi ar y stryd wedi'i fwriadu fel rhan o'r bwriad. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am eglurhad pellach o'r ystafelloedd heb ffenestri. Dywedodd Mr McGann y ceid lleoedd parcio trwy fynd i feysydd parcio talu ac arddangos yn y cyffiniau ac i lawr ar hyd cefn Stryd y Farchnad, y credai’r datblygwr oedd â’r capasiti i ddarparu ar gyfer cerbydau ymwelwyr. O ran ystafelloedd heb ffenestri, tra bod hyn yn rhannol oherwydd dyfnder yr adeilad, mae hefyd yn gwneud y mwyaf o le ac mae’n safonol mewn llety pris isel.

 

Mynegodd y Cynghorydd Shaun Redmond, Aelod Lleol, bryderon ynghylch y cais ar y sail bod Stryd Fawr Caergybi, fel craidd manwerthu’r dref, dan fygythiad o golli ei hunedau manwerthu Dosbarth A1. Nododd mai dim ond 36% o siopau’r dref oedd bellach yn rhai Dosbarth A1 oherwydd eu bod wedi dirywio yn y blynyddoedd diwethaf am nifer o resymau. Dywedodd y Cynghorydd Redmond fod 128 o siopau manwerthu yng Nghaergybi, y mae 46 ohonynt yn ddefnydd Dosbarth A1; roedd 39 o'r siopau hynny'n siopau bwyd. Nid yn unig y byddai'r bwriad dan ystyriaeth yn cyfrannu at y dirywiad yn y defnydd a wneir o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gais economaidd ei ystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gais am dŷ fforddiadwy ei ystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 257 KB

10.1 21C38H/VAR – Canolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel

 

10.2 28C257D/VAR – Bryn Maelog, Llanfaelog

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1    21C38H/VAR – Cais dan Adran 73A i ddiwygio amodau (10) (dŵr budr a dŵr wyneb) a (11) (Cynllun Rheoli a Chynnal a Chadw) caniatâd cynllunio rhif 21C38G/VAR (codi pedair annedd) er mwyn cyflwyno gwybodaeth o fewn tri mis yn lle dau fis yn hen safle Canolfan Busnes Daniel, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y bwriad yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond roedd yn un yr oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol o blaid ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio llawn wedi'i roi ar y safle dan gais blaenorol a gymeradwywyd yn 2010. Ers hynny roedd llwybr troed wedi'i gwblhau'n rhannol ac roedd dwy o'r pedair annedd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Ym mis Chwefror 2018, cymeradwywyd cais i amrywio amod mewn perthynas â'r cynlluniau a gymeradwywyd er mwyn diwygio dyluniad y pedair annedd. Fel rhan o'r amodau a roddwyd ar y caniatâd bryd hynny, roedd yn ofynnol i'r datblygwr gyflwyno o fewn dau fis i’r caniatâd, fanylion dylunio ac adeiladu'r systemau draenio dŵr budr a dŵr wyneb arfaethedig a sut y byddai'r rhain yn cael eu rheoli a'u cynnal. Roedd y datblygwr nawr yn gwneud cais i ymestyn yr amserlen i dri mis ond hefyd i gyflwyno'r manylion gofynnol yr un pryd â'r cais. Cyflwynwyd y manylion hynny ac asesodd yr asiantaethau perthnasol eu bod yn dderbyniol.

Eglurodd y Swyddog y câi’r adroddiad ei gyflwyno i'r Pwyllgor oherwydd fel cais Adran 73 roedd, mewn gwirionedd, yn gais newydd ac roedd y bwriad i godi annedd yn y lleoliad hwn, sef yn rhannol y tu allan i'r ffin ddatblygu, yn groes i'r polisïau cynllunio cyfredol. Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa wrth gefn a ddarparwyd gan y caniatâd cynllunio oedd eisoes yn bodoli, sefyllfa oedd yn y broses o gael ei gweithredu, yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ganiatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

10.2    28C257D/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd) caniatâd cynllunio rhif 28C257C (dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi annedd newydd) fel y gellir diwygio dyluniad yr annedd ynghyd â newid amodau (02) (system ffosydd cerrig dŵr wyneb), (09) (dim dŵr wyneb i ddraenio i’r briffordd) a (10) (Cynllun Rheoli Traffig) fel y gellir ystyried y wybodaeth fel rhan o'r cais yma ar dir ger Bryn Maelog, Llanfaelog

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y bwriad yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond roedd yn un yr oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol o blaid  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datbygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw fwriad datblygu ei ystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 540 KB

12.1 12LPA1003F/FR/CC – Lawnt Bowlio, Biwmares

 

12.2 42C6N – Tan y Graig, Pentraeth

 

12.3 42C188E/ENF - 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir

 

12.4 45C489/LB – Ynys Llanddwyn, Niwbwrch

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    12LPA1003F/FR/CC – Cais llawn ar gyfer gosod dwy bibell mewn cysylltiad â gwaith lliniaru llifogydd Biwmares yn y Lawnt Fowlio, Biwmares

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan iddo gael ei wneud gan y Cyngor a’i fod yn dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais i osod dwy bibell mewn cysylltiad â'r gwaith lliniaru llifogydd ym Miwmares oedd hwn. Tua 380 metr oedd cyfanswm hyd y ceuffosydd a byddent yn cael eu claddu mewn dyfnder o rhwng dau a thri medr islaw lefel y tir presennol. Byddai’r mwyafrif o'r gwaith dan y ddaear ac, felly, nid oedd yn weladwy. O’r herwydd, nid ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith ar gadwraeth harddwch naturiol, nodweddion na rhinweddau arbennig yr AHNE oedd yn gysylltiedig ag effeithiau gweledol. Ystyriwyd bod y cynllun diwygiedig yn welliant sylweddol ar fwriad a gymeradwywyd yn flaenorol am waith lliniaru llifogydd ym Miwmares. Roedd arbenigwyr mewnol ac allanol yr ymgynghorwyd â nhw wedi asesu'r datblygiad arfaethedig mewn perthynas â'r Ardal Gadwraeth Arbennig, y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac ni fyddai unrhyw wrthwynebiadau pe ceid amodau. Yr argymhelliad, felly, oedd cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

12.2    42C6N – Cais llawn ar gyfer gosod 15 bwthyn gwyliau, creu mynedfa newydd i gerbydau a llwybr cerdded ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Nhan y Graig, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Margaret M. Roberts, yn gofyn am gael ymweld â safle'r cais oherwydd effeithiau posib y datblygiad arfaethedig ar yr ardal, yr iaith a hefyd ar draffig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ymweld â’r safle. Eiliodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes y cynnig.

 

Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3       42C188E/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi uned llety gwyliau newydd yn 4 Tai Hirion, Rhoscefnir

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Ieuan Williams, yn gofyn am gael ymweld â safle'r cais ar y sail bod yr adroddiad yn nodi bod y cynllun yn dderbyniol yn ei leoliad, er bod argymhelliad i’w wrthod ac nad yw’n arwain at unrhyw niwed i fwynderau preswylwyr yr eiddo cyfagos ar hyn o bryd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones ymweld â’r safle. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig.

 

Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.4      45C489/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw fater arall ei ystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.