Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-

 

Mrs Nia Jones, Rheolwr Datblygu Cynllunio mewn perthynas â chais 7.2.

 

Mr John A Rowlands, Peiriannydd Rheoli Datblygiad mewn perthynas â cheisiadau 7.1 ac 11.1.

3.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel a ganlyn :-

 

·      Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 5 Medi, 2018 (a.m.)

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Medi, 2018 (p.m.)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir :-

 

·      Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 5 Medi, 2018 (bore);

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Medi, 2018 (prynhawn).

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 15 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 19 Medi, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd 19 Medi, 2018 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus yng nghyswllt ceisiadau 7.1, 7.3 and 7.4.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 540 KB

7.1 17C181C – Fferam Uchaf, Llansadwrn

 

7.2 41LPA1041/FR/TR/CC – Croesffordd Star, Star

 

7.3 42C6N – Tan y Graig, Pentraeth

 

7.4 42C188E/ENF – 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  17C181C – Cais llawn ar gyfer codi sied anifeiliaid, codi clamp silwair, gosod llecyn caled ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiedig, creu mynedfa gan gynnwys bwnd tirlunio yn Fferam Uchaf, Llansadwrn.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.  

 

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais, gadawodd y Peiriannydd Rheoli Datblygiad y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais a’r bleidlais ddilynol. 

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mrs Bethan Roberts (yn siarad yn erbyn y cais) fod yr ymgeiswyr yn byw ac yn rhedeg eu busnes o Plas Llandegfan lle nad oes unrhyw eiddo cyfagos. Nododd fod nifer o siediau ar gyfer da byw wedi eu hadeiladu ym Mhlas Llandegfan yn y gorffennol a bod y perchnogion yn rhedeg eu busnes amaethyddol o ddydd i ddydd o’r fferm hon. Mynegodd nad oes unrhyw un yn byw yn safle’r cais yn Fferam Uchaf a bod risg o fandaliaeth a pheryglon tân ar y safle gyda 200 o wartheg yn cael eu cadw yn y sied. Dywedodd Mrs Roberts ei bod yn siomedig nad oedd Aelodau’r Pwyllgor wedi gweld y fynedfa i bentref Llansadwrn yn ystod yr ymweliad safle gan ei bod yn ffordd beryglus. Mae cae chwarae i blant wedi ei leoli ar un ochr o’r ffordd sy’n arwain at Lansadwrn ac mae tro lle nad oes modd gweld o’i gwmpas ar yr ochr arall; does dim asesiad risg o’r ffordd fynediad wedi ei gynnal fel rhan o’r cais; bydd rhieni a phlant yn cerdded ar ochr y ffordd wrth fynd i’r cae chwarae. Does gan y briffordd ddim pafin a byddai adeiladu sied da byw fawr ar safle’r cais yn achosi pryder gan y bydd traffig trwm ar y ffordd gul hon wrth i’r sied gael ei hadeiladu ac yn dilyn hynny wrth i beiriannau gario porthiant ac offer amaethyddol i’r fferm ac oddi yno.      

 

Nododd Mrs Roberts ymhellach fod y sied arfaethedig yn siŵr o achosi llygredd ac arogl drwg ynghyd â photensial am bla llygod a phryfaid; does dim prawf mandylledd pridd ynghlwm â’r cais. Nododd y bydd yr eiddo cyfagos yn gorfod dioddef peiriannau trwm yn cludo slyri o’r fferm a gallai achosi llanast ar y ffordd. Cyfeiriodd ymhellach at BS5502 sy’n nodi na ddylai siediau amaethyddol o’r maint yma gael eu hadeiladu o fewn 400m i eiddo preswyl.  

 

Dywedodd Ms Sioned Edwards (yn siarad o blaid y cais) fod yr ymgeiswyr yn dymuno ehangu eu menter cig eidion o fewn y busnes ffermio. Ar hyn o bryd, mae’r ymgeiswyr yn berchen ar 700 o wartheg mewn pum gwahanol lleoliad a’r bwriad ganddynt yw ail-drefnu eu busnes amaethyddol i fod yn dair uned ffermio lle cedwir gwartheg cig eidion gan rhyddhau’r ddau leoliad arall i storio offer a chynnyrch amaethyddol. Mae’r cais cynllunio yn un ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer 200 o wartheg cig eidion dros fisoedd y gaeaf. Mae’r ymgeiswyr am i’r fenter busnes sydd ganddynt weithio mewn ffordd fwy effeithiol. Dywedodd Ms Edwards fod yr ymgeiswyr wedi cydweithio’n  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 164 KB

11.1 13C183G/RUR – Bodlas, Bodedern

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  13C183G/RUR – Cais llawn ar gyfer codi annedd amaethyddol yn Bodlas, Bodedern

 

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais, gadawodd y Peiriannydd Rheoli Datblygiad y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn Swyddog perthnasol. Mae’r cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â pharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad. 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais llawn ar gyfer codi annedd amaethyddol ar gyfer busnes menter wledig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 267 KB

12.1 19LPA1043A/CC – Stryd Vulcan, Caergybi

 

12.2 24LPA791F/CC – Canolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  19LPA1043A/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd fforddiadwy, creu mynedfa i gerddwyr, creu 8 llecyn parcio ynghyd a dymchwel ac adleoli postiau giat ar dir ger Stryd Vulcan, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol hefyd. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Chynllunio fod y safle wedi’i leoli ar groesffordd Stryd Seiriol a Stryd Vulcan. I’r gorllewin o safle’r cais mae Ysgol Gynradd Ysgol Cybi sydd â ffordd wasanaeth sy’n rhannu safle’r cais. Mae’r cais cynllunio yn un ar gyfer 6 annedd fforddiadwy mewn dau floc. 

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, Aelod Lleol bod pryderon yn lleol am ddiogelwch y ffordd ger y safle arfaethedig. Nododd bod dwy ysgol yn yr ardal hon sef Ysgol Uwchradd Caergybi a’r Ysgol Gynradd newydd sef Ysgol Cybi a oedd yn gwneud cyfanswm o dros 1,000 o ddisgyblion. Mae gan y Cynghorydd Hughes hefyd bryderon am yr angen i gau’r llwybr troed presennol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cynnal ymweliad safle oherwydd y pryderon lleol am faterion traffig. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen. 

 

PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais oherwydd pryderon yn lleol ynghylch materion traffig.

 

EITEM YCHWANEGOL – CADEIRYDD WEDI CANIATÁU I’R EITEM AEL EI THRAFOD

 

12.2  34LPA791F/CC – Cais llawn ar gyfer gwaith tirlunio ynghyd â chreu 4 llecyn parcio ychwanegol yng Nghanolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd a’r perchennog tir. Fel eitem hwyr, cytunodd y Cadeirydd i’r eitem gael ei hychwanegu i’r agenda ar sail brys ac oherwydd nad yw cyllid ar gyfer y datblygiad ond ar gael am gyfnod byr. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer creu 4 llecyn parcio a gwneud gwaith tirlunio yn ogystal ag ail-drefnu’r safle’n gyffredinol. Nododd fod Cyngor Tref Llangefni yn cefnodi’r cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw fater arall yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.