Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 7fed Tachwedd, 2018 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ddiddordeb personol sydd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais rhif 12.2 ar y rhaglen.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 128 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safle 17 Hydref, 2018 pdf eicon PDF 14 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 10.4, 12.1 a 12.4.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 326 KB

7.1 19LPA1043A/CC – Stryd Vulcan, Caergybi

 

7.2 42C188E/ENF – 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1       19LPA1043A/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd fforddiadwy, creu mynedfa i gerddwyr, creu 8 llecyn parcio ynghyd â dymchwel ac adleoli pyst giât ar dir ger Stryd Vulcan, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir. Yn ei gyfarfod ar 3 Hydref penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle; ac yn dilyn hynny ymwelwyd â’r safle ar 17 Hydref, 2018.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi cael ei alw i mewn yn wreiddiol gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes – Aelod Lleol – oherwydd pryderon am barcio ger yr ysgol newydd, Ysgol Cybi, ac mae’r pryderon hynny’n cael eu hategu yn y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan un preswylydd lleol. Ym marn y Swyddog, bydd y cynnig i ddymchwel adeilad yr hen neuadd snwcer a’r eiddo preswyl sydd yn sownd iddo ac adeiladu fflatiau a thai cyfoes yn eu lle ar safle tir llwyd hynod o gynaliadwy sydd o fewn cyrraedd ysgolion ac amwynderau’r dref yn gwella edrychiad yr ardal yn ogystal â chymeriad adeilad Cybi gerllaw, sydd yn adeilad Rhestredig Gradd II. Bydd mynedfa’r ysgol yn cael ei chadw a bydd y pileri giât ar lôn wasanaeth Ysgol Cybi yn cael eu symud. Er bod rhan o safle’r cais yn cael ei ddefnyddio’n anffurfiol ar hyn o bryd fel lle parcio ceir gan breswylwyr ac eraill, y Cyngor sydd berchen ar yr ardal dan sylw ac nid oes hawl cyfreithiol i barcio ar y safle hwnnw na gofyniad i gadw’r ardal fel ardal parcio.

 

Dywedodd y Swyddog fod y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes wedi cyflwyno ymddiheuriad ar gyfer y cyfarfod hwn ond ei fod wedi rhoi ei sylwadau ar y cais a darllenodd y Swyddog y sylwadau hynny. Roedd y sylwadau yn ategu ei bryderon ynglŷn â phroblemau parcio a thraffig, yn arbennig o ystyried bod 900 o ddisgyblion y ddwy ysgol yn defnyddio’r ardal. Mae ychwanegu chwe annedd, gyda’r posibilrwydd y bydd 2 gerbyd ym mhob annedd, yn amlygu problemau parcio, nid yn unig yn Stryd Vulcan ond yng Nghaergybi yn gyffredinol. Mae’r Cynghorydd Hughes yn awgrymu bod angen edrych ar barcio fel mater o bolisi cyffredinol ac y dylai fod yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau er nad dyna’r achos ar hyn o bryd. Dylai’r ymgeisydd ysgwyddo unrhyw gostau’n ymwneud â phriffyrdd mewn perthynas â’r cais. Hefyd, gwerthfawrogir pe bai’r ymgeisydd yn darparu llwybr troed wrth ochr y tai newydd arfaethedig er mwyn ymuno â’r llwybr troed presennol yn y cefn.

 

Cadarnhaodd y Swyddog nad oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig fod 8 lle parcio oddi ar y stryd yn cael eu darparu fel rhan o’r datblygiad. Mewn perthynas â chais yr Aelod Lleol am ddarparu llwybr troed newydd, ar hyn o bryd mae llwybr troed yn bodoli tu cefn i’r eiddo i’r gogledd orllewin o Stryd Vulcan ac er y bydd y datblygiad arfaethedig yn cyfyngu mynediad i ochr ogleddol y llwybr troed tu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 305 KB

8.1 34C262H/FR/ECON – Cig Môn, Stâd Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1       34C262H/FR/ECON – Cais llawn i godi adeilad yn cynnwys 8 o unedau ar wahân (i’w defnyddio i ddibenion diwydiannol ysgafn dan ddosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8) ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir ar hen safle Cig Môn, Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod rhan o safle’r cais wedi ei leoli ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai’r unedau arfaethedig yn cael eu lleoli yn gyffredinol yng nghanol y safle gyda’r ffordd fynediad yn rhedeg mewn patrwm cylchol gwrth-glocwedd. Er bod safle’r cais gerllaw Afon Cefni ac mewn ardal Parth Llifogydd C2, gan ei fod ar gyfer dosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8 mae’n cael ei gategoreiddio fel datblygiad llai bregus dan Nodyn Cyngor Technegol 15 ac felly ystyrir ei fod yn risg isel. Hefyd, bydd lefelau lloriau gorffenedig yr unedau uwchlaw lefelau llifogydd eithafol yr afon gyfagos. Cadarnhaodd y Swyddog bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi asesu’r cais ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig. Bydd y cynnig yn dod â safle nad yw’n cael ei ddefnyddio erbyn hyn ôl i ddefnydd cyflogaeth cynaliadwy ac felly'r argymhelliad yw caniatáu’r cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 622 KB

10.1 28C477B – Fferm Pencarnisiog, Pencarnisiog

 

10.2 33C182E/VAR – Berw Uchaf, Gaerwen

 

10.3 36C344C/VAR – Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

10.4 46C410H – Garreg Fawr, Lôn Garreg Fawr, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 28C477B – Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd (1 fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau a cherddwyr ar dir yn Pencarnisiog Farm, Pencarnisiog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod rhan o safle’r cais tu allan i ffin ddatblygu Pencarnisiog - ac o’r herwydd mae’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cydond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod cynllun y safle’n dangos, er bod ôl-troed a chwrtil yr anheddau arfaethedig yn gorwedd o fewn y ffin ddatblygu, mae rhan o’r ffordd fynediad a’r trefniadau draenio tu allan i’r ffin ddatblygu. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer codi dau annedd gyda’r lle parcio a’r trefniadau draenio mewn safle tebyg o dan bolisïau'r Cynllun Datblygu blaenorol felly o ran gosodiad y cynnig nid yw’n annhebyg i’r hyn y mae caniatâd yn bodoli ar ei gyfer yn barod ynghyd â 2 annedd ychwanegol. Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol yn ei leoliad o ran ei osodiad, ymddangosiad a graddfa ac nid yw’n cael unrhyw effaith negyddol ar amwynderau eiddo preswyl sy’n bodoli eisoes nac ar yr ardal ehangach. Fel rhan o’r cynnig, mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau y bydd 7 o lefydd parcio ar gael yn nhu blaen safle’r cais yn ogystal â llefydd parcio yn y cefn - bydd y llefydd parcio hyn ar gael er mwyn i rieni allu gollwng a chodi eu plant o’r ysgol gynradd gyfagos. Fel rhan o’r cynnig, bydd cyfraniad o £11,024.79 yn cael ei wneud i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.

 

Darllenodd y Swyddog sylwadau'r Cynghorydd Richard Dew, Aelod Lleol (a oedd, oherwydd ymrwymiad arall, wedi gadael y cyfarfod cyn i’r cais hwn gael ei ystyried) yn cadarnhau nad oedd ganddo ef nac Ysgol Pencarnisiog unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad a’i fod yn croesawu’r ddarpariaeth tai fforddiadwy fel rhan o’r cynnig.

 

Gorffennodd y Swyddog drwy ddweud, gan mai darn bach yn unig o safle’r cais sydd tu allan i’r ffin ddatblygu ac o ystyried manteision y cynnig o safbwynt darparu fforddiadwy a chyfraniad i addysg, yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol Adran 106 ar gyfer un annedd fforddiadwy a thalu’r cyfraniad angenrheidiol i addysg. 

 

10.2            3C182E/VAR – Cais dan Adran 73A i amrywio amodau (03) (gwaith lliniaru), (08) (cau’r fynedfa gyfredol) a (09) (cynlluniau) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 33C182D (addasu adeilad allanol yn annedd ynghyd â chreu mynedfa) er mwyn newid y gorffenwaith ynghyd â chyflwyno manylion am ecoleg, trwydded liniaru a chau’r fynedfa wedi i’r gwaith gychwyn yn Berw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 424 KB

11.1 11C73F/VAR – Lastra Farm, Amlwch

 

11.2 34C734 – 18 Nant y Pandy, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1    11C73F/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 11C73E (troi ystafell weithgareddau yn bedair uned hunangynhaliol ac ystafelloedd gwesty ychwanegol) er mwyn creu dwy uned hunangynhaliol a chynyddu nifer yr ystafelloedd gwesty i 8 yn Lastra Farm, Amlwch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod swyddog perthnasol yn unol â diffiniad paragraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad sydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r broses gynllunio wedi datgan diddordeb yn y cais. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofyn o dan y cyfryw baragraff.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer newid gosodiad a dyluniad y caniatâd cynllunio a roddwyd yn 2017 i droi ystafell weithgareddau bresennol yn bedair uned hunangynhaliol a dwy ystafell westy ychwanegol, er mwyn lleihau nifer yr unedau hunangynhaliol o 4 i 2 a chynyddu nifer yr ystafelloedd gwely o 4 i 8. Ni fydd y cynllun diwygiedig yn cynyddu ôl-troed presennol y cynlluniau a ganiatawyd eisoes ac ni fydd yn cael unrhyw effaith niweidiol ar fwynderau eiddo preswyl cyfagos a gan fod y newidiadau yn rhai mân, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.

 

11.1    34C734 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd ac ymestyn y cwrtil yn 18 Nant y Pandy, Llangefni.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn cael ei wneud gan swyddog perthnasol yn unol â diffiniad Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi adolygu’r cais.

 

Adroddodd y Swyddog Datblygu Cynllunio bod y cais yn cynnwys estyniad ar ddrychiad gogleddol/ochr yr annedd. Gan nad yw’r estyniad yn fawr iawn ni fyddai crynswth yr adeilad yn anghydnaws â’r ardal gyffredin o ystyried maint yr eiddo preswyl sydd o gwmpas y safle. Oherwydd lleoliad yr estyniad, ni fydd y cynnig yn effeithio ar amwynderau’r stad yn gyffredinol ac er y bydd y cynnig yn wynebu gardd eiddo sy’n bodoli’n barod, oherwydd ei ogwydd ni fydd effaith digonol oherwydd goredrych i gyfiawnhau gwrthod y cais. Dywedodd y Swyddog bod y cynnig yn golygu ymestyn y cwrtil i gyfeiriad y gogledd er mwyn gwneud lle ar gyfer y datblygiad. Ni fydd yr estyniad i’r cwrtil yn ymestyn i Warchodfa Natur Nant y Pandy a’r safle bywyd gwyllt a leolir tu ôl i’r annedd; y bwriad yw codi ffens bren ar hyd y cwrtil newydd er mwyn cyfateb i’r hyn sy’n bodoli eisoes. Mae Swyddog Ecoleg y Cyngor yn cadarnhau na fydd y cynnig yn cael unrhyw effaith ecolegol ar Safle Natur Nant y Pandy. O ganlyniad, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

Cynigiodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 999 KB

12.1 14C257 – Cefn Trefor, Trefor

 

12.2 18C117C – Swtan, Porth Swtan

 

12.3 19C1111B – Bodowen, Pentre Fferam Gorniog, Caergybi

 

12.4 39C601 – Cartrefle, Porthaethwy

 

12.5 40LPA356/CC – Ffordd Lligwy, Moelfre

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    14C257 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a draeniad gyda'r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn ar sail ei agosrwydd at y clwstwr ac angen lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Gavin Evans o blaid y cais a phwysleisiodd gysylltiadau lleol y teulu gan ddweud ei fod o a’i wraig wedi cael eu magu yn Llangefni – ei wraig yng Nghorn Hir ac yntau yn Rhostrehwfa sydd ddim ond 7 milltir o Drefor. Dywedodd Mr Evans ei fod ef a’i wraig yn gweithio yn Llangefni a’u bod yn siarad Cymraeg fel teulu. Prynwyd y tir dan sylw gan y Cyngor y llynedd gyda’r bwriad o adeiladu tŷ fforddiadwy 4 ystafell wely ar gyfer y teulu - roedd cartref y teulu yn Llanfihangel yn Nhowyn (RAF Valley) yn rhy fach ac ni fyddai’n bosib ei ymestyn. Rhoddwyd y tŷ ar y farchnad a chafodd ei werthu’n gyflym iawn gan olygu fod y teulu yn byw yn Llynfaes gyda’i frawd dros dro, sefyllfa sydd ddim yn ddelfrydol. Dywedodd Mr Evans ei fod yn dymuno i’w blant gael yr un rhyddid a’r un fagwraeth yng nghefn gwlad ag a gafodd yntau. Ni fyddai’n bosib iddynt brynu tŷ mewn lleoliad o’r fath ar y farchnad agored felly’r unig opsiwn yw adeiladau ar eu tir eu hunain. Y pwynt yw bod y teulu mor agos â phosib at Trefor a’u bod angen tŷ fforddiadwy.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. G. Parry, OBC, FRAgS, Aelod Lleol, mai bwriad y teulu oedd gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar y plot o dir y gwnaethon nhw ei brynu gan y Cyngor. Dywedodd nad oedd yn ystyried bod y cynnig yn ymwthiol gan fod 10 tŷ deulawr yn Nhrefor, tua 7 bwthyn a chapel. Mewn perthynas â bod yn lleol, dywedodd y Cynghorydd Parry fod Ynys Môn yn “lleol” iddo ef yn bersonol, er nad dyna ddiffiniad y polisi o “lleol”. Ar hyn o bryd mae’r ymgeiswyr yn byw yn Llynfaes sydd, fel Trefor, yn ward Canolbarth Môn. Hefyd, mae’r Gwasanaeth Tai wedi cadarnhau bod yr ymgeiswyr angen tŷ fforddiadwy. Gofynnodd y Cynghorydd Parry i’r Pwyllgor roi cyfle i’r ymgeiswyr.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Trefor yn cael ei nodi fel clwstwr o dan Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Cynllunio ar y Cyd. Mae’r polisi’n cefnogi cynigion ar gyfer tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ar yr amod bod yr holl feini prawf yn cael eu bodloni. Mae’r polisi yn diffinio angen lleol fel “pobl mewn angen tŷ fforddiadwy sydd wedi byw o fewn y clwstwr neu yn yr ardal wledig o gwmpas am 5 mlynedd neu fwy yn olynol, naill ai yn union cyn cyflwyno cais neu yn y gorffennol”. Mae’r cartref a werthwyd yn Llanfihangel yn Nhowyn yn ardal ward Llifon. Nid yw’r polisi’n caniatáu i unigolion symud allan o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.