Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 5ed Rhagfyr, 2018 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 423 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Tachwedd, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2018 fel rhai cywir.

4.

Ymweliad Safleoedd

Ni gynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Tachwedd, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni gynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Tachwedd, 2018.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â Chais 12.3.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 273 KB

7.1  14C257 – Cefn Trefor, Trefor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy yn cynnwys manylion llawn am y fynediad i gerbydau a draenio gyda’r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor

 

Cafodd y cais ei gyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol ar sail agosrwydd i’r Clwstwr ac angen lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2018 fe benderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS bod yr ymgeiswyr wedi byw yn ardal Canolbarth Môn am y rhan fwyaf o’u bywydau. Cyfeiriodd at ddyluniad yr eiddo yn Trefor ac nid oedd o’r farn y byddai caniatáu’r cais hwn yn fewnwthiol yn y gymuned. Dywedodd y Cynghorydd Parry fod yr ymgeiswyr yn dymuno adeiladu cartref ar gyfer eu teulu ifanc o bedwar o blant a gofynnodd i’r Pwyllgor gadarnhau ei benderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer annedd fforddiadwy ar dir ger Cefn Trefor, Trefor. Cafodd y cais ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd fod yr annedd yn cyd-fynd â’r ardal ac na fyddai’n edrych allan o le a gan fod yr ymgeiswyr yn lleol i’r ardal gan fod safle’r cais wedi’i leoli o fewn Canolbarth Môn lle cawsant eu magu ac felly bod y cais yn Cydymffurfio â Maen Prawf 4 y Polisi. Dywedodd, fel y tynnwyd sylw ato yn y cyfarfod diwethaf, nad yw’r diffiniad o leol i Canolbarth Môn yn cydymffurfio â’r diffiniad o fewn y polisi o fod yn ‘lleol’. Mae’r polisi yn cefnogi cynigion ar gyfer anheddau fforddiadwy ar gyfer angen lleol ar yr amod fod yr holl feini prawf yn cael eu bodloni. Mae’r polisi yn diffinio angen lleol fel ‘pobl sydd angen tŷ fforddiadwy ac pobl sydd angen tŷ fforddiadwy ac sydd wedi bod yn byw yn y clwstwr neu yn yr ardal wledig gyfagos am gyfnod di-dor o 5 mlynedd neu ragor, naill ai’n union cyn cyflwyno’r cais neu yn y gorffennol’. Roedd yr ymgeiswyr yn byd yn Llanfihangel yn Nhowyn (RAF Y Fali) cyn gwerthu eu cartref. Nid yw’r polisi yn caniatáu unigolion i symud allan o bentrefi eraill i glystyrau er mwyn sicrhau annedd fforddiadwy; mae’r polisi ar gyfer pobl sy’n byw mewn clystyrau i allu cyflwyno ceisiadau am anheddau fforddiadwy. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, tra’n derbyn fod gan yr ymgeiswyr ‘angen am dŷ fforddiadwy’, nid yw’r cais yn cydymffurfio â meini prawf penodol o fewn polisïau cynllunio. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric W Jones fod y safle ger adeilad lliw ar y map mewnosodiad ac ei fod o fewn cwrtil yr eiddo o’i flaen ac felly ei fod yn cydymffurfio â pholisi 6.2 o'r cynllun datblygu ar y cyd. Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.   

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, fel y nodwyd yn adroddiad blaenorol y Swyddog i’r Pwyllgor,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 390 KB

10.1  43C182F/VAR – Troiad y Llanw, Rhoscolyn

10.2  49C308A/DEL – Capel Hermon, Llanynghenedl

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  43C182F/VAR - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (10)          (cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 43C182A (codi annedd gyda balconi ynghyd â chodi modurdy ar wahân) fel y gellir gwneud newidiadau i ddyluniad y modurdy wedi i’r gwaith gychwyn ar       y safle ar dir ger Troiad y Llanw, Rhoscolyn. 

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y caniatâd cynllunio gwreiddiol a roddwyd i’r safle hwn wedi’i gymeradwyo ym 1961; roedd y caniatâd ar gyfer codi 14 o anheddau ar y safle. Rhoddwyd caniatâd yn 2015 i godi annedd a garej yn Nhroiad y Llanw, Rhoscolyn ac mae’r cais sydd gerbron y Pwyllgor hwn yn un i amrywio amod 10 er mwyn galluogi addasiadau i ddyluniad y garej. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

            PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y           Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  49C308A/DEL – Cais o dan Adran 73a i dynnu amod (03) (mynedfa a lle parcio) o ganiatâd cynllunio rhif 49C308 (Cais ôl-weithredol i gadw newid defnydd y capel i annedd ynghyd a chreu mynedfa newydd i 3 o gerbydau) yn Capel Hermon, Llanynghenedl.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Chynllunio fod gan safle’r cais ganiatâd cynllunio sydd eisoes yn bodoli ar y safle ac a ganiatawyd yn Rhagfyr 2012 er mwyn newid defnydd y capel i fod yn annedd. Y cais sydd gerbron y Pwyllgor hwn yw i ddiwygio amod 3 mewn perthynas â’r fynedfa a’r maes parcio. Mae’r ymgeiswyr yn ystyried bod lle parcio digonol yn bodoli o flaen y safle. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i ddileu’r amod.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 704 KB

12.1 19C411N/1/ENF – 20 Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi

12.2 19C448B – Mountain View, Greenfield Terrace, Caergybi

12.3  39C589A/VAR/ENF – 1 Tros y Môr, Ffordd Cynan, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  19C411N/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer rhannu’r annedd i ffurfio dwy annedd ar wahân yn 20 Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond, Aelod Lleol, bod caniatâd Cynllunio wedi’i roi yn 2009 ar gyfer estyniad i 20 Parc Felin Ddŵr. Dywedodd fod y perchennog wedi cymryd mantais wrth ymestyn yr annedd er mwyn ffurfio dau annedd ar wahân heb ganiatâd gynllunio gan dorri polisïau cynllunio mewn modd sylweddol. Holodd y Cynghorydd Redmond a fyddai cais cynllunio a gyflwynwyd er mwyn trosi annedd ym Mharc Felin Ddŵr i ffurfio dwy annedd ar wahân yn cael ei gymeradwyo. Dywedodd fod angen ymyrraeth cyfreithiol er mwyn atal achosion o’r fath o dorri polisïau cynllunio. Dywedodd hefyd nad oedd yn derbyn na fyddai rhannu’r annedd yn cael unrhyw effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos, dywedodd y bydd problemau parcio yn codi ac y bydd cerbydau’n cael eu hychwanegu i’r eiddo.       

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gwrthwynebiadau lleol i’r cais fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod caniatâd cynllunio wedi ei gymeradwyo ar gyfer codi estyniad i’r annedd ym Mharc Felin Ddŵr ond yn dilyn ymweliadau gorfodi i’r eiddo ei bod hi’n amlwg bod yr annedd wedi ei rannu yn ddau eiddo. Mae gan Stad Parc Felin Ddŵr 18 annedd sy’n rhannu mynedfa i’r stad. Ni fydd y cais arfaethedig yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos o ganlyniad i’r defnydd presennol o’r safle fel annedd preswyl. Gan gydnabod y rhoddwyd caniatâd yn wreiddiol ar gyfer addasiadau ac estyniadau, mae’r ymgeisydd wedi mynd ati i rannu’r annedd yn dilyn ymestyn yr eiddo. Mae’r cais yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel cais ôl-weithredol. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y prif ystyriaethau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Swyddog a cyfeiriodd at Baragraff 14.2.3 o Lawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru sy’n nodi:-  

  

Dylid sicrhau mai’r bwriad yw cywiro effeithiau’r datblygiad anawdurdodedig, nid cosbi’r person(au) sy’n cyflawni’r gweithrediad neu’r defnydd. Ni ddylid cymryd camau gorfodi ychwaith dim ond er mwyn unioni datblygiad na ofynnwyd am ganiatâd ar ei gyfer ond sy’n dderbyniol fel arall”.

 

Dywedodd hefyd fod yr Awdurdod Cynllunio yn delio â cheisiadau ôl-weithredol yn yr un modd ag unrhyw geisiadau Cynllunio newydd y bydd yn eu derbyn; bydd ceisiadau’n cael eu delio a nhw yn unol â’r polisïau cynllunio presennol er mwyn gallu penderfynu a ydynt yn dderbyniol.  

 

Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor bryderon am y ceisiadau ôl-weithredol sy’n parhau i gael eu cyflwyno i’r Awdurdod Lleol. Awgrymwyd bod angen i’r Cyngor anfon mwy o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru am y ceisiadau ôl-weithredol parhaus sy’n cael eu derbyn a bod angen adolygu polisïau mewn perthynas â cheisiadau o’r fath. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac           adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.