Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 9fed Ionawr, 2019 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 94 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 5 Rhagfyr, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd

Ni gynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 5 Rhagfyr, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y 5ed o Ragfyr.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 184 KB

7.1  14C257 – Cefn Trefor, Trefor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1       14C257 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy yn cynnwys manylion llawn am y fynediad i gerbydau a draenio gyda'r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor.

 

Pwrpas yr adroddiad i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oedd awgrymu amodau i’w hatodi i’r rhybudd o benderfyniad mewn perthynas â’r cais a gymeradwywyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Rhagfyr 2018, yn amodol ar gytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau bod yr annedd yn cael ei ddatblygu fel annedd fforddiadwy, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod caniatâd gan fod y cais yn groes i Bolisi TAI6.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr amodau a amlinellir yn adroddiad y Swyddog sydd o flaen y Pwyllgor yn awr yn deillio o natur y cynnig a’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â’r cais. Fodd bynnag, mae cwestiwn wedi codi ynglŷn â’r diffiniad o “berson lleol” at ddibenion y cytundeb cyfreithiol sydd hefyd yn ofynnol fel rhan o’r caniatâd cynllunio. Gan fod adroddiad y Swyddog a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn delio â’r amodau cynllunio yn unig, yr argymhelliad yw gohirio ystyried y mater er mwyn caniatáu i adroddiad gael ei baratoi sydd yn rhoi sylw i’r amodau a’r diffiniad o berson lleol mewn perthynas â’r cytundeb cyfreithiol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y mater yn cael ei ohirio yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y mater yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 135 KB

11.1  48C182B/MIN – Bryn Twrog, Gwalchmai

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1    48C182B/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 48C182 er mwyn dileu amodau (12), (13) a (140) (cod cartrefi cynaliadwy) ynghyd â chreu amod newydd (rhaid ymgymryd â’r datblygiad a ganiateir gan y caniatâd hwn yn fanwl yn ôl y cynllun) o dan ganiatâd cynllunio 48C182A/DA ar dir ger Bryn Twrog, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Adolygwyd y ffeil gan y Swyddog Monitro.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei wneud o dan Adran 96A y Ddeddf Gynllunio sy’n ymwneud â diwygiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio a ganiatawyd yn flaenorol er mwyn cynnwys amod yn y caniatâd cynllunio am annedd a roddwyd yn 2014 i nodi bod rhaid ymgymryd â’r datblygiad yn fanwl yn ôl y cynlluniau a gymeradwywyd; pwrpas hyn yw caniatáu i’r ymgeisydd gyflwyno cais dan Adran 73 i amrywio’r dyluniad a gymeradwywyd. Mae’r newidiadau arfaethedig yn berthnasol i’r dyluniad ac nid oes modd ymdrin â nhw o dan y broses bresennol. Dywedodd y Swyddog bod rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol yn awr gynnwys amod o’r fath gyda’r caniatâd cynllunio a rhestru’r darluniau a gymeradwywyd fel rhan o’r penderfyniad. Felly mae’r diwygiad yn fân newid i’r rhybudd o benderfyniad ac nid yw’n golygu newid sylweddol i’r cais. Yn ogystal, yn dilyn cymeradwyo’r cais gwreiddiol yn 2014, ar 31 Gorffennaf, 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fod yn tynnu’n ôl y polisi oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys amodau cynllunio i gydymffurfio â’r Côd Cartrefi Cynaliadwy, a bod safonau adeiladu cynaliadwy yn rhan o Reoliadau Adeiladu erbyn hyn. Polisi Llywodraeth Cymru yw bod amodau o’r fath yn cael eu tynnu o ganiatâd cynllunio lle maent yn bodoli o hyd, felly mae’r cais hefyd yn gofyn am ddileu’r amodau Côd Tai Cynaliadwy sydd ynghlwm â’r caniatâd. Nid yw dileu’r amodau hyn yn effeithio ar gymeriad cyffredinol y cynllun. O ystyried yr uchod a’r holl ystyriaethau perthnasol eraill, argymhelliad y Swyddog yw caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 535 KB

12.1  32LPA1047/CC – Tre Ifan, Caergeiliog

12.2  FPL/2018/4 – Maes yr Ysgol, Caergybi

12.3  FPL/2018/24 – Adran 4 Ffordd Gyswllt Llangefni

12.4  39C597 – Chwarel Cambria, Ffordd Cambria, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    32LPA1047/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Tre Ifan, Caergeiliog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod rhan o’r cynnig yn golygu creu mynedfa newydd drwy Stad Tre Ifan yn ogystal â darparu llefydd parcio ar gyfer 12 o gerbydau. Oherwydd bod safle’r cais yn agos at safle Llu Awyr y Fali, cynhaliwyd asesiad sŵn ac mae Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor wedi cadarnhau ei fod yn dderbyniol. Os bydd y cais yn cael ei ganiatáu bydd rhaid gosod amodau fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgorffori mesurau lliniaru sŵn wrth adeiladu’r anheddau, a dyma sy’n cael ei gynnig. Ar hyn o bryd mae manylion draenio yn cael eu hasesu a chyflwynir amodau er mwyn sicrhau eu bod yn dderbyniol. Dywedodd y Swyddog bod y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes wedi cadarnhau, ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, nad oes angen cyfraniad tuag at addysg o ganlyniad i alw yn deillio o’r datblygiad arfaethedig. Fodd bynnag, mae’r amodau sy’n cael eu cynnig yn cynnwys amod i sicrhau fod y datblygiad yn darparu cyfran o dai fforddiadwy. Mae’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi ac ystyrir ei fod yn dderbyniol yn ei leoliad. O ganlyniad, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kenneth Hughes a fyddai’r datblygiad yn mynd yn ei flaen petai’r ysgol leol yn llawn ac yn methu derbyn unrhyw ddisgyblion ychwanegol.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymgynghorir â’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ynghylch ceisiadau tebyg i hwn er mwyn cael gwybod a yw’n ystyried bod angen cyfraniad ariannol tuag at ddarparu addysg yn yr ardal. Yn yr achos hwn, mae’r Gwasanaeth wedi cadarnhau nad yw’n gofyn am gyfraniad. Fodd bynnag, mae’r cais yn cael ei ystyried a gwneir penderfyniad ar sail cynllunio yn hytrach nac ar sail addysgol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, gan mai dyna oedd y sefyllfa, ei fod o’r farn fod gofyn i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a yw’n dymuno gofyn am gyfraniad ariannol yn ddiffyg yn y broses gan fod rhieni â’r hawl i ddewis i ba ysgol i anfon eu plant a bod ganddynt yr hawl i beidio ag anfon eu plant i’r ysgol o gwbl, ond yn hytrach eu haddysgu gartref. Gofynnodd y Cynghorydd Hughes, o ystyried hawliau rhieni, a ddylai’r Awdurdod Cynllunio ofyn y cwestiwn hwn i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gofyn am gyfraniad ariannol tuag at wasanaeth neu gyfleusterau, yn cynnwys addysg lle bernir bod hynny’n angenrheidiol, yn bolisi a fabwysiadwyd ac a weithredwyd gan y Cyngor fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sydd yn nodi’r gofynion ynghylch cyfraniadau gan y datblygwr. Os yw pryderon yr Aelod ynglŷn â’r polisi yn rhai cyffredinol yn hytrach nag yn ymwneud â’r cais penodol dan ystyriaeth, yna mae’r mater hwnnw tu hwnt i gyfrifoldeb y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.