Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Chwefror, 2019 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ymddiheuriad.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 9 Ionawr, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 9 Ionawr, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd

Ni gynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 9 Ionawr, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni fu unrhyw ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 9 Ionawr, 2019.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â chais 12.1.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 190 KB

7.1  14C257 – Cefn Trefor, Trefor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 14C257 – Cais amlinellol i godi annedd fforddiadwy ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a’r system ddraenio gyda’r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor

 

Pwrpas yr adroddiad yw diffinio’r term ‘Angen Lleol’ ac awgrymu amodau i’w gosod ar yr hysbysiad penderfyniad mewn perthynas â’r cais a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2018 yn amodol ar gytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr annedd yn cael ei datblygu fel annedd fforddiadwy, yn groes i argymhelliad Swyddogion y dylid gwrthod rhoi caniatâd gan fod y cais yn groes i bolisi TAI 6.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Asiant yr ymgeisydd wedi awgrymu y dylai ‘lleol’ fod wedi’i ddiffinio yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) ac y dylai ‘lleol’ olygu Ynys Môn a Gwynedd. Cynigiwyd mapiau lliw i’r Pwyllgor a oedd yn dangos beth a olygir gan yr ardal o amgylch clystyrau fel rhan o’r cytundeb Adran 106 petai’r ymgeiswyr yn dymuno gwerthu’r annedd yn y dyfodol. Dywedodd y Swyddog fod y mapiau’n cael eu cynnig i gydymffurfio â’r polisi sef i gynnig anheddau i bobl leol gan fod rhaid iddynt fod wedi byw yn y pentref neu’r ardal sydd yn union gerllaw am 5 mlynedd.

 

Holodd yr Aelodau a oedd y trefi a’r pentrefi wedi cael eu tynnu oddi ar y mapiau lliw a gynigwyd i’r cyfarfod. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai nod y polisi yw cynnig tai lleol; nid nod y polisi yw tynnu pobl o’r trefi a’r pentrefi i fyw yn y wlad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric W Jones ei fod yn ystyried bod holl drigolion yr Ynys yn bobl leol i Ynys Môn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes fod y canllawiau yn rhwystro yn hytrach na hwyluso’r mater o berson lleol. Mynegodd ei bod yn bwysig gadael i bobl ifanc sy’n dymuno aros yn eu cynefin eu hunain gael adeiladu tai ac aros ar yr Ynys. Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylai ‘person lleol’ gynnwys Ynys Môn gyfan. Eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig. 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn ystyried bod diffyg yn y polisi mewn perthynas â’r diffiniad o ‘berson lleol’. Er tegwch i’r cais hwn ac i unrhyw geisiadau yn y dyfodol a ddaw gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, cynigiodd y Cadeirydd y dylid gohirio’r cais a chyfeirio’r diffiniad o ‘berson lleol’ i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am drafodaeth ac eglurhad rhag ofn i’r Awdurdod hwn wynebu her neu apêl gan yr Uchel Lys yn y dyfodol. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig. 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y cais hwn wedi’i gymeradwyo o dan Bolisi TAI 6 ac mae’r polisi hwn yn glir fod rhaid i ddeiliaid yr annedd fyw yn y clwstwr neu fod wedi byw yn yr ardal wledig. Dywedodd ei bod yn dderbyniol bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 256 KB

10.1  VAR/2018/4 – Ger y Mynydd, Brynrefail, Dulas

10.2  FPL/2018/21 – Bronallt, Gaerwen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  VAR/2018/4 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (10) (Llwybr troed) o benderfyniad apêl rhif APP/L6805/A/15/3132036 (Codi annedd, gosod gwaith trin carthion ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau) fel y gellir cyflwyno cynllun ar gyfer darparu llwybr troed i gerddwyr ar ôl i’r cyfnod 4 mis ddod i ben yn Ger y Mynydd, Brynrefail, Dulas

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dymuno ei gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, yn siarad fel Aelod Lleol fod y cais hwn wedi cael ei gymeradwyo gydag amod bod rhaid i’r llwybr troed fod mewn lle cyn i unrhyw un symud i mewn i’r annedd. Fodd bynnag, ar ôl symud i mewn i’r annedd fe gyflwynodd yr ymgeisydd gais i gael tynnu’r amod a chafodd hwn ei gymeradwyo wedyn trwy broses apêl, ond gosodwyd amodau mwy caeth ar gyfer darparu’r droedffordd i gerddwyr. Holodd y Cynghorydd Roberts a yw’r amodau hyn dal yn ddilys.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr egwyddor o annedd yn y lleoliad hwn eisoes wedi’i sefydlu a’i fod wedi cael caniatâd ar apêl ym mis Rhagfyr 2015, a bod y caniatâd dal yn bodoli. Ymhellach i hyn, mae’r annedd wedi cael ei adeiladu eisoes ac mae rhywun yn byw yno. Fel rhan o’r caniatâd gwreiddiol roedd amod yn mynnu bod troedffordd i gerddwyr yn cael ei darparu o’r safle ac wedi hynny ceisiodd yr ymgeisydd gael dileu’r amod, ond gwrthodwyd y cais hwnnw. Fodd bynnag, caniatawyd y cais ar apêl ym mis Mehefin 2018 gydag amodau diwygiedig, ac roedd y rhain wedi’u nodi yn adroddiad y Swyddog Cynllunio. Yn unol ag amodau’r apêl fe ddylai’r ymgeisydd fod wedi cyflwyno cynllun i’r Awdurdod Cynllunio Lleol erbyn 20 Hydref, 2018 ond ni chyflwynwyd unrhyw fanylion o’r fath ac o ganlyniad mae Tor Amod wedi digwydd. Felly, fe ysgrifennodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol at yr ymgeisydd ar 22 Tachwedd, 2018 ynglŷn â’r tor-amod yn rhoi gwybod iddynt fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried cyflwyno Rhybudd o Dor Amod er mwyn delio â materion. Er hynny, daeth i’r amlwg oherwydd cam-gyfathrebu rhwng yr ymgeisydd â’r Swyddog Priffyrdd, fod cynllun wedi cael ei gytuno’n uniongyrchol gyda’r Adran Briffyrdd mewn gwirionedd ond nid oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi bod yn ymwybodol ohono, ac roedd y gwaith wedi’i drefnu i ddigwydd yn fuan ym mis Rhagfyr. Ymddengys nawr fod rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno cais cynllunio o dan Adran 73A i ddiwygio’r amod.

 

Mynegodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bryderon am y diffyg cyfathrebu rhwng yr Adran Briffyrdd a’r Awdurdod Cynllunio Lleol ynglŷn â’r cais hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  FPL/2018/21 – Cais llawn i godi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 141 KB

12.1  41C137A/DA – Afallon, Penmynydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  41C137A/DA – Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd, adeiladu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod system trin carthion yn  Afallon, Penmynydd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Aled Jones (yn cefnogi’r cais) fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i gymeradwyo yn 2016 ynghyd â’r fynedfa i’r safle. Dywedodd ymhellach fod lleoliad yr annedd wedi cael ei symud i ganol y plot a bod uchder y to wedi’i ostwng hefyd yn unol ag argymhellion y Swyddogion Cynllunio. Dywedodd Mr Jones fod trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt gyda’r Adain Ddraenio ynglŷn â’r system ddraenio; roedd ar ddeall fod Swyddogion yr Adain Ddraenio wedi ymateb heddiw yn dweud bod y system ddraenio yn dderbyniol. Nododd fod preswylwyr yr eiddo sydd drws nesaf i Afallon wedi mynegi pryderon ynglŷn ag edrych drosodd â’r lefelau sŵn o’r safle ond bydd ffens acwstig yn cael ei chodi i leddfu unrhyw niwed i fwynderau’r eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, yn siarad fel Aelod Lleol, ei fod wedi galw’r cais i mewn oherwydd pryderon gan drigolion lleol. Darllenodd e-bost a dderbyniwyd ym mis Medi 2018 gan Swyddogion Cynllunio yn datgan nad oedd y cais yn cydymffurfio â’r cais amlinellol a gymeradwywyd oherwydd ei uchder a’i leoliad ar y safle. Dywedodd y Cynghorydd Mummery fod yr adroddiad ar gyfer y pwyllgor heddiw bellach yn datgan bod uchder a lleoliad yr annedd yn dderbyniol ac mae’r Adain Ddraenio hefyd wedi cadarnhau bod y system ddraenio yn dderbyniol. Holodd a oedd yn rhywbeth arferol i roi caniatâd i geisiadau cynllunio tra bod materion statudol heb gael sylw. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai diben y cais gerbron y Pwyllgor oedd cyflwyno materion a gadwyd yn ôl a manylion am y cais. Dywedodd yr Aelod Lleol ymhellach fod Cyngor Cymuned Penmynydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r mynediad i’r safle o’r briffordd ac ystyriwyd y dylai’r Adran Briffyrdd ystyried torri’r gordyfiant o’r gwrychoedd yn ystod misoedd yr haf wrth y gyffordd yn ymyl safle’r cais. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y mynediad i’r safle hefyd wedi’i gynnwys yn y cais amlinellol a gymeradwywyd yn 2016.  Nododd fod llythyr gan Gyngor Cymuned Penmynydd yn mynegi pryderon ynglŷn â’r mynediad i safle’r cais wedi’i dderbyn. Dywedodd y Swyddog eu bod wedi ymdrin â’r manylion ynglŷn â’r mynediad i’r safle yn ystod y broses cais amlinellol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais materion a gadwyd yn ôl yw’r cais hwn a’i fod yn cydymffurfio â’r caniatâd cynllunio amlinellol sy’n bodoli ac a gymeradwywyd yn flaenorol ym mis Mai 2016 o dan yr hen Gynllun Lleol Ynys Môn ac o dan ddarpariaethau Polisi 50. Nodwyd fod llythyr pellach o wrthwynebiad wedi’i dderbyn ynglŷn â’r cais. Dywedodd fod lleoliad yr annedd wysg ei ochr o fewn y plot er mwyn lleddfu’r mater edrych drosodd ar eiddo cyfagos. Bydd ffens acwstig yn cael ei chodi gyda’r ffin sydd gyfagos ag Afallon, yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw rai gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.