Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Mawrth, 2019 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 65 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2019.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 445 KB

6.1 FPL/2018/57 – Parc Tyddyn Bach, Caergybi

 

6.2 14C257 – Cefn Trefor, Trefor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1       FPL/2018/57 – Cais llawn i godi 46 o anheddau ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi’i alw i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol o ganlyniad i bryderon am berthynas y datblygiad ag eiddo preswyl cyfagos. Mae Aelodau Lleol hefyd wedi ceisio trefnu cyfarfod ag Asiant yr Ymgeisydd er mwyn trafod y pryderon sydd wedi codi’n lleol. Roedd y Swyddog o’r farn felly y byddai’n fanteisiol i aelodau’r Pwyllgor weld safle’r cais cyn ystyried y cais.  

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.2       14C257 – Cais amlinellol i godi annedd fforddiadwy ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a threfniadau draenio gyda’r holl faterion eraill wedi eu cadw’n ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2019, benderfynu gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn gallu cyfeirio’r penderfyniad am ddiffiniad o “berson lleol” a “chefnwlad wledig o glystyrau” o fewn ystyr Polisi Tai 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd at y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ac i ail-ystyried y cais pan fydd diffiniad wedi’i gytuno arno. Dywedodd y Swyddog na fydd y Panel Polisi ar y Cyd yn cyfarfod tan 22 Mawrth, 2019 ac na fydd y Pwyllgor ar y Cyd yn cyfarfod cyn Ebrill, 2019, yr argymhelliad yw y dylid gohirio ystyried y cais ac y dylid tynnu’r eitem oddi ar yr agenda a’i hail-gyflwyno unwaith y mae diffiniadau wedi eu cytuno arnynt gan y Panel.   

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

7.

Ceisiadau'n Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 384 KB

10.1 VAR/2018/14 – Plotiau 8, 9 a 10, Yr Herb Garden, Llain Capelulo, Pentre Berw, Gaerwen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1    VAR/2018/14 – Cais o dan Adran 73A i amrywio amod (07) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o gais cynllunio cyfeirnod 33C102G (Codi 3 annedd ar blot 8, 9 a 10) er mwyn cynyddu eu maint a newid cyfeiriadedd y safle i fod yn anheddau 4 ystafell wely ynghyd ag addasu gosodiad y llefydd parcio ym Mhlotiau 8, 9 a 10, The Herb Garden, Llain Capelulo, Pentre Berw, Gaerwen

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod yn dymuno ei ganiatáu. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cynnwys lleihau maint dwy annedd a chynyddu maint un annedd a gafodd ei chymeradwyo’n flaenorol ar y safle ynghyd â symud yr annedd o fewn y plot. Rhoddwyd caniatâd cynllunio am stad o dai ar y safle yn wreiddiol yn 2006 gyda chaniatâd pellach ar gyfer anheddau ar Blotiau 8, 9 a 10 yn cael eu rhoi yn 2008. Nid yw’r cais yn cydymffurfio â gofynion Polisi TAI 6 o ran bod ar gael fel tai marchnad agored pan o dan Bolisi TAI6. Mae Pentre Berw wedi ei adnabod fel clwstwr lle mae ceisiadau yn gallu cael eu cefnogi fel tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Fodd bynnag, mae darpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy yn ffurfio rhan o’r stad bresennol. Mae un llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn ar y sail a amlinellwyd yn yr adroddiad. Gan fod y safle eisoes â chaniatâd cynllunio a gan na ystyrir fod y newidiadau yn ddirywiad o’r dyluniad a’r gosodiad a gafodd ei gymeradwyo o dan y caniatâd blaenorol ac nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar yr eiddo preswyl cyfagos, y tu hwnt i’r hyn sydd wedi’i ganiatáu yn flaenorol ar y safle, mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu’r cais. Dywedodd y Swyddog na fyddai’r caniatâd cynllunio, petai’n cael ei roi, yn cael ei ryddhau tan ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ddiwedd heddiw, 6 Mawrth, 2019. 

   

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwnnw, ac ar yr amod na chaiff unrhyw faterion newydd eu codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar ddiwedd 6 Mawrth, 2019.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 406 KB

11.1 MAO/2019/3 – Bryntwrog, Gwalchmai

 

11.2 HHP/2019/39 – Gardd y Plas, Llanddeusant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1    48C182B/MIN – Mân newidiadau i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 48C182A/DA er mwyn addasu’r dyluniad ar dir ger Bryntwrog, Gwalchmai

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Mae’r ffeil wedi ei hadolygu gan y Swyddog Monitro. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un sy’n dilyn cais diweddar a gafodd ei gymeradwyo’n ddiweddar gan y Pwyllgor i dynnu unrhyw amodau cynllunio perthnasol i’r Cod Tai Cynaliadwy ac i ychwanegu amod sydd angen i’r datblygiad gael ei ymgymryd ag ef yn unol â’r cynlluniau sydd wedi’u cymeradwyo er mwyn galluogi’r ymgeisydd i gyflwyno cais o dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref i amrywio dyluniad y cynllun. Mae cynllun diwygiedig wedi’r dderbyn a safbwynt y Swyddog yw nad yw’r newidiadau sydd wedi eu hargymell yn rhai sylweddol ac o ganlyniad y gellir delio â nhw o dan Adran 96A o’r Ddeddf. Ni ragwelir y bydd y newidiadau, fel y’u nodir yn yr adroddiad, yn cael effaith andwyol ar yr amwynderau y mae deiliaid eiddo cyfagos yn eu mwynhau ar hyn o bryd, mwy na’r rheiny a gymeradwywyd eisoes. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáucais.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amod yn yr adroddiad hwnnw.

 

11.2    HHP/2019/39 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau ynghyd â chodi garej ar wahân yng Ngardd y Plas, Llanddeusant

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud gan berthynas agos i swyddog perthnasol. Mae’r cais wedi’i adolygu gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fo yn cais yn cynnwys codi garej un llawr ar ei phen ei hun â chanddi do ar ongl a fydd wedi’i lleoli ar ddrychiad ochr yr annedd. Bydd y garej bresennol yn cael ei newid yn le byw er mwyn darparu ystafell wely ychwanegol ac ystafell aml-bwrpas. Dywedodd y Swyddog bod y cynllun yn dderbyniol o fewn ei leoliad ac na fydd yn golygu dirywiad yn amwynder preswyl unrhyw eiddo cyfagos. Gan nad yw’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben tan 8 Mawrth 2019, ni fydd y caniatâd cynllunio os y’i rhoddir, yn cael ei ryddhau tan ar ôl y dyddiad hwnnw. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ac ar yr amod na chaiff unrhyw faterion newydd eu codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar ddiwedd 8 Mawrth, 2019.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 FPL/2019/7 – Bryn Meurig, Llangefni

 

12.2 19C779N/VAR – Uned 1 ac Uned 2, Parc Busnes Penrhos, Caergybi

 

12.3 FPL/2019/16 – Maes Awyr Môn, Caergeiliog

 

12.4 46C622/ENF – Y Borth, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

12.5 FPL/2018/30 – Cyffordd 7, Gaerwen

 

12.6 DIS/2019/7 – Castle Meadow, Biwmares

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    FPL/2019/7 – Cais Llawn i godi ysgol gynradd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau i’r B5109 ar dir gyferbyn â Bryn Meurig, Llangefni

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud ar ran Cyngor Sir Ynys Môn. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod saith ymateb wedi eu derbyn gan y cyhoedd fel rhan o’r broses ymgynghori statudol gyhoeddus a bod y manylion wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Gwnaed nifer o sylwadau hefyd fel rhan o’r ymgynghoriad 28 diwrnod statudol cyn gwneud cais. Mae Cyngor Tref Llangefni bellach wedi cyflwyno sylwadau manwl ac wedi gofyn fel rhan o’r cais am gael creu parth 20 mya yn ardal yr ysgol newydd, i groesfan i gerddwyr gael ei gosod ger y gylchfan, i lwybr troed gael ei chreu ger safle’r hen siop yn Rhostrehwfa ac i oleuadau stryd digonol gael eu darparu. Gan fod Ffordd Cae Garw hefyd yn dueddol o ddioddef llifogydd, dylid hefyd rhoi sylw i gynnal a chadw ffosydd a dylid sicrhau bod y cae chwarae ar gael at ddefnydd y gymuned y tu allan i oriau ysgol. Dywedodd y Swyddog, tra bo’r cais eisoes yn cynnwys croesfan i gerddwyr a goleuadau stryd, nid yw’r Awdurdod Priffyrdfd o’r farn bod gostyngiad yn y cyfyngiad cyflymder o 30 i 20 mya yn ardal uniongyrchol yr ysgol yn angenrheidiol oherwydd y mesurau arafu traffig a’r mesurau lliniaru sydd wedi eu hargymell fel rhan o’r datblygiad. Derbynnir yr angen i gynnal ffosydd ac fe gadarnheir y bydd y cae chwarae, o dan reolaeth yr ysgol, ar gael i’r gymuned leol ei ddefnyddio y tu allan i oriau’r ysgol.  

 

Mae’r angen am ysgol newydd a'r lleoliad sydd wedi’i argymell wedi eu cadarnhau a’u cyfiawnhau gan yr asesiadau a’r ymgynghoriadau helaeth sydd wedi eu hymgymryd â nhw gan y Gwasanaeth Dysgu cyn cyflwyno’r cais cynllunio. O ran yr effeithiau posibl, mae’r adroddiad ysgrifenedig yn delio â’r meysydd lle mae’r cais yn debygol o gael yr effaith mwyaf sylweddol, yn enwedig o ran traffig, sef yr hyn y mae’r rhan fwyaf o bryderon a godwyd yn lleol yn cyfeirio atynt. Mae Asesiad Effaith Traffig wedi ei gyflwyno sy’n dderbyniol i’r Awdurdod Priffyrdd ac mae mesurau lliniaru traffig wedi eu cynnig. Gall effeithiau ar fioamrywiaeth lleol mewn perthynas ag amddiffyn ystlumod a’r madfall gribog hefyd gael eu bodloni drwy weithredu mesurau lliniaru a argymhellir drwy’r arolygon perthnasol a gyflwynir fel rhan o’r cais. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd angen amod ychwanegol mewn perthynas â goleuo’r safle er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau posibl ar ystlumod. Ystyrir bod y dyluniad, y gwaith tirlunio a’r effeithiau ar amwynderau’r eiddo cyfagos yn foddhaol yn amodol ar weithredu’r mesurau a amlinellir yn yr adroddiad. Mae’r cais fel y’i cyflwynir yn ystyried sylwadau a wnaed gan ymgyngoreion gan gynnwys y pryderon a godwyd yn lleol yn ystod y cyfnod cyn y cais a’r prosesau ymgynghori statudol. Mae’r argymhelliad felly yn un o ganiatáu’r cais.   

    

Wrth ystyried y cais, cyfeiriodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.