Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 3ydd Ebrill, 2019 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:-

 

Bu’r Cynghorydd Richard O Jones ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.6.

 

Mrs Nia Jones, Rheolwr Datblygu Cynllunio mewn perthynas â cheisiadau 12.3, 12.4 a 12.5.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 394 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 6 Mawrth, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynlluno a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 15 KB

Cyflwyno cofnodion Ymweliad Safleoedd a gafwyd ar 20 Mawrth, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2019 fel cofnod cywir. 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 12.2 a 12.8.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 383 KB

6.1  FPL/2018/57 – Parc Tyddyn Bach, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  FPL/2018/57 – 6.1       FPL/208/57 – Cais llawn i godi 46 o anheddau ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi’i alw i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol. Penderfynodd y Pwyllgor, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2019 i gynnal ymweliad safle ac fe gynhaliwyd yr ymweliad safle ar 20 Mawrth, 2019. Mae cynlluniau diwygiedig bellach wedi eu derbyn sy’n cael eu hymgynghori arnynt a rhagwelir y bydd y cais yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Mai y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 315 KB

7.1  46C622/ENF – Y Borth, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  46C622/ENF – Cais llawn ar gyfer creu estyniad i’r cwrtil ynghyd â chadw’r adeilad fel garej ddomestig a swyddfa yn Y Borth, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Penderfynodd y Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2019 i gynnal ymweliad safle ac ymwelwyd â’r safle ar 20 Mawrth, 2019. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Lleol ei fod yn cynrychioli Cyngor Cymuned Bae Trearddur yn y cyfarfod hwn. Diolchodd i’r Pwyllgor am gynnal ymweliad safle a nododd y bydd Aelodau bellach yn ymwybodol o faint y datblygiad a’i sensitifrwydd o fewn yr ardal AHNE. Mynegodd y Cynghorydd Thomas fod adeilad ar y safle wedi ei ddymchwel ac i waith adeiladu gael ei wneud heb ganiatâd; felly mae’r cais yn un ôl-weithredol. Holodd pa neges mae hyn yn ei roi i’r cyhoedd bod pobl yn gallu adeiladu heb ganiatâd cynllunio a gofyn am ganiatâd ôl-weithredol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i ymestyn cwrtil preswyl Y Borth, Ffordd Porthdafarch ynghyd â chadw’r gwaith a wnaed ar yr hen adeilad allanol er mwyn codi garej a swyddfa. Mae’r safle wedi ei leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol mewn lleoliad yn y cefn gwlad

agored. Nododd fod yr adeilad yn strwythur un llawr a’i fod ar ôl troed yr adeilad blaenorol ac ystyrir bod dyluniad a graddfa’r adeilad yn dderbyniol yn y lleoliad hwn. Nodwyd fod cynllun tirlunio wedi’i gyflwyno gyda’r cais a bydd hyn yn galluogi sgrinio datblygedig o’r eiddo presennol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd bod amod ychwanegol wedi’i osod ar unrhyw ganiatâd ar gyfer y cais yn nodi mai defnydd preifat yn unig a ganiateir ar gyfer y garej/tŷ. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y sylwadau a wnaed gan yr Aelod Lleol o ran y cais cynllunio ôl-weithredol ond rhaid i’r Awdurdod Cynllunio ddelio â cheisiadau o’r fath yn unol â gweithdrefnau cynllunio ac ni ellir cosbi ymgeiswyr.

 

Bu’r Cynghorydd Vaughan Hughes gefnogi’r sylwadau a wnaed gan yr Aelod Lleol o ran ceisiadau ôl-weithredol a gofynnodd i’r Swyddogion Cynllunio ysgrifennu unwaith eto at Lywodraeth Cymru yn mynegi’n gryf iddynt fod angen newid mewn deddfwriaeth mewn perthynas â cheisiadau ôl-weithredol. Gofynnodd y Cynghorydd Robin Williams hefyd i’r Deilydd Portffolio Cynllunio ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r angen i newid y polisïau o ran ceisiadau ôl-weithredol.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dafydd Roberts at y ffaith fod y cais o fewn ardal AHNE a nododd gan fod yr adeilad blaenorol ar y safle wedi ei ddymchwel ei bod yn amlwg yn ystod yr ymweliad safle bod yr adeilad newydd ôl-weithredol yn fwy nag ôl-troed yr adeilad blaenorol a bod crib yr adeilad hefyd yn uwch. Mynegodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn ystyried y byddai datblygiad o’r fath yn cael effaith andwyol ar y tirlun. Holodd ymhellach a oes unrhyw ganllawiau er mwyn cyfyngu datblygiadau sy’n fwy na’r ôl-troed blaenorol o fewn ardal AHNE. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod angen  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  OP2018/1 – Penrhos Newydd, Llanfachraeth

12.2  30C225K/ECON – Treetops Country Club, Tynygongl

12.3  DIS/2019/18 – Cyffordd Star, Star

12.4  DIS/2019/19 – Cyffordd Star, Star

12.5  DIS/2019/21 – Cyffordd Star, Star

12.6  FPL/2019/13 – Mast Teleffon, Nebo

12.7  FPL/2019/6 – Ysgol Gynradd Llanfaethlu, Llanfwrog

12.8  42C267A – Clai Bungalow, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  OP/2018/1 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a gosodiad y tir ger Penrhos Newydd, Llanfachraeth.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais amlinellol yw hwn ar gyfer codi annedd ynghyd â manylion llawn y fynedfa i gerbydau a gosodiad y safle. Dywedodd bod gohebiaeth ychwanegol yn gwrthwynebu’r cais wedi’i dderbyn, a rannwyd gydag Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a bod y materion hynny eisoes wedi derbyn sylw yn yr adroddiad i’r Pwyllgor. Nododd fod y Gwasanaeth Tân hefyd wedi ymateb ond nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y cais. Nododd y Swyddog ymhellach fod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan drigolion lleol, sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad, yn amlygu effeithiau’r datblygiad arfaethedig hwn ar amwynderau lleol. Dywedodd fod gosodiad yr annedd bellach wedi’i gyflwyno gan yr ymgeisydd a’i fod yn cydymffurfio â’r dyluniad a’r canllawiau pellter oddi wrth eiddo cymdogion. Bydd y rhan o’r eiddo arfaethedig sydd agosaf i eiddo’r cymdogion yn adeilad un llawr heb ffenestri yn wynebu’r eiddo. Mae opsiynau sgrinio ychwanegol hefyd wedi eu cynnig er mwyn gwella tirlun y safle. Mae’r datblygiad ger ardal yr AHNE ond yn dilyn asesid o’r manylion, ystyrir na fydd yn cael effaith andwyol ar yr ardal. Nododd y Swyddog ymhellach bod sylwadau bellach wedi eu derbyn gan yr Adan Dai ac ystyrir bellach bod y materion technegol yn dderbyniol.      

 

Nodwyd y cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol o ganlyniad i bryderon am welededd o fynedfa’r safle. Mae’r gwrthwynebydd i’r cais wedi mynegi ei fod yn ystyried nad yw mesuriadau’r llain welededd wedi eu mesur o’r man cywir gan fod yr Awdurdod Priffyrdd yn mesur o’r gilfan o flaen y fynedfa i’r safle; mae’r gwrthwynebydd yn ystyried y dylid mesur o’r fynedfa ei hun. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais blaenorol ar y safle wedi’i wrthod am resymau priffyrdd, mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi ystyried y cais sydd gerbron y Pwyllgor ac mae’r Swyddogion Priffyrdd yn ystyried fod y mesur sydd wedi’i gymryd mewn perthynas â’r llain welededd yn dderbyniol. Dywedodd hefyd fod cytundeb cyfreithiol A106 wedi’i osod ar unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn nodi bod angen cael gwared ar y garafán statig sydd wedi’i lleoli ar y safle. Mae’r argymhelliad yn un o gymeradwyo’r cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith fod y gwrthwynebydd, yn ei ohebiaeth, wedi cyfeirio at achosion penodol: Donoghue v Stevenson 1932, Kane v New Forest District Council 2001, Confensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol. Holodd y Cynghorydd Griffith pa effaith mae achosion o’r fath yn eu cael ar y cais sydd gerbron y Pwyllgor. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad yw’r achosion y cyfeirir atynt yn creu unrhyw faterion penodol o ran y cais hwn ond eu bod yn rhai cyffredinol y cyfeirir atynt wrth asesu unrhyw gais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod wedi gofyn i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.