Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 7.6 ond yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais i ddilyn.    

 

Gwnaeth y Cynghorydd K P Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 7.6 ond yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais i ddilyn.    

 

Gwnaeth y Cynghorydd R O Jones ddatganiad o diddordeb personol yng nghais 7.6 ond yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais i ddilyn.    

 

 

3.

Cais yn Codi - Wylfa Newydd, Cemaes pdf eicon PDF 1 MB

38C310F/EIA/ECON – Wylfa Newydd, Cemaes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.6  38C310F/EIA/ECON – Gwaith paratoi a chlirio’r safle ar gyfer datblygu gorsaf bŵer Wylfa Newydd, yn cynnwys y gweithgareddau canlynol: clirio'r safle (gan gynnwys clirio a rheoli llystyfiant, tynnu ffensys, waliau, giatiau, ffiniau caeau, strwythurau presennol (gan gynnwys adeiladau), prysg, coed a nodweddion eraill sydd ar y tir); gwaith sefydlu'r safle (gan gynnwys gosod croesfan newydd ar draws ffordd fynediad gorsaf bŵer bresennol Magnox, ffurfioli pwyntiau croesi presennol i gerbydau ar draws Ffordd Cemlyn, ffurfioli llwybrau i gerbydau, gosod ffens adeiladu o amgylch perimedr y safle, sefydlu ardaloedd gosod, compowndiau storio deunyddiau, compowndiau adeiladu ac adeiladau lles/swyddfa dros dro cysylltiedig, meysydd parcio, cyswllt llwybr troed cysylltiedig rhwng prif gompownd y safle a maes parcio cyn Glwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa, lle i storio tanwydd, ffensys diogelwch, a nodweddion diogelwch a draenio); gwaith gwella'r tir (gan gynnwys sefydlu compownd prosesau adfer a ffensys cysylltiedig, storio deunyddiau wedi'u prosesu/wedi'u trin, sefydlu traciau mynediad cysylltiedig, draenio, cloddio a thrin priddoedd sy'n debygol o fod yn halogedig, a thrin a thynnu rhywogaethau estron goresgynnol); dargyfeirio a/neu gau Ffordd

Cemlyn dros dro gyda mynediad at Dy Croes (Maes Parcio’r Pysgotwyr) yn cael ei reoli; gwaith cysylltiedig arall a chynllun adfer i ddychwelyd y safle i gyflwr derbyniol os na fydd datblygiad gorsaf bŵer Wylfa Newydd yn mynd rhagddo yn

Wylfa Newydd, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol wedi cael ei gyflwyno gyda’r cais ac o’r herwydd, caiff ei gyfeirio i’r Pwyllgor i’w benderfynu yn unol â pharagraff 3.5.3.10 y Cyfansoddiad. 

 

Dywedodd Mr Roger Dobson (gwrthwynebydd i’r cais) nad oedd yn gwrthwynebu’r prosiect Wylfa newydd arfaethedig ond ei fod yn erbyn y cais ar gyfer paratoi a chlirio’r safle. Dywedodd fod ardal datblygiad Wylfa newydd yn ffinio tair ochr o’i eiddo; mae’n Gynghorydd Cymuned ac yn cynrychioli ardal Llanbadrig ar Bartneriaeth Gogledd Ynys Môn. Er fod ganddo ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais, mae wedi derbyn caniatâd y Pwyllgor Safonau i siarad ar faterion sy’n gysylltiedig â Wylfa. 

 

Nododd ymhellach fod y datblygiad yn un sylweddol ac yn fwy nag unrhyw ddatblygiad a welwyd ar Ynys Môn ers adeiladu’r A55. Nododd y bydd 50 o beiriannau diesel trwm ac 80 o weithwyr ar y safle. Bydd 740 acer o arfordir yn dod yn dir gwastraff yn yr ardal. Mae’r datblygwr wedi tynnu’r gwelliannau ‘oddi ar-lein’ o’r cais; byddai hyn wedi elwa’r gymuned yn barhaol. Dywedodd Mr Dobson hefyd ei fod wedi siarad â’r datblygwr am oriau’r gweithwyr a fydd yn gweithio ar y safle; dywedodd nad ydynt yn gallu rhoi ateb plaen.  Roedd yn ystyried bod Horizon yn bwriadu i’r gweithwyr weithio oriau hir a fyddai’n debygol o fod yn fwy na 60 awr yr wythnos, sy’n cael ei ystyried yn anniogel; mae’n cynyddu’r risg o ddamweiniau a marwolaethau. Nododd fod ROSPA yn dweud bod 20% o ddamweiniau ffordd yn digwydd o ganlyniad i flinder a bod yn 50% yn fwy tebygol o arwain at farwolaethau neu anafiadau difrifol.     

 

Dywedodd Mr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.