Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 5ed Mehefin, 2019 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganid o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd datganiadau o ddiddordeb eu gwneud fel a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorydd Richard O Jones ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1, gan ddatgan y byddai’n aros yn y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar y cais er mwyn siarad fel Aelod Lleol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.4 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Datganodd Mr John A P Rowlands, Peiriannydd Rheoli Datblygu, ddiddordeb yng nghais 7.3 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion:-

 

·      1 Mai, 2019

·      14 Mai, 2019 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel a ganlyn:-

 

·      1 Mai, 2019

·      14 Mai, 2019 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd)

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 34 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gafwyd ar 15 Mai, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Mai, 2019.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.3.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1  FPL/2019/13 –  Mast Teleffon,Nebo

7.2  FPL/2018/57 – Parc Tyddyn Bach, Caergybi

7.3  FPL/2018/52 – Clwb Rygbi Caergybi, Ffordd Bryn y Mor, Y Fali

7.4  FPL/2019/31 – Ty Mawr, Pentraeth

7.5  FPL/2019/51 – Preswylfa, Y Fali

7.6  14C257 – Cefn Trefor, Trefor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2019/13 – Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a storio peiriannau a bwyd ynghyd ag adeiladu trac mynediad llain caled ar dir ger Mast Teleffon, Nebo

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ebrill, 2019, penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac ymwelwyd â’r safle ar 17 Ebrill, 2019. Penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Mai, 2019 gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Oherwydd iddo ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, safodd y Cynghorydd Richard O Jones i lawr fel Is-gadeirydd ond arhosodd yn y cyfarfod er mwyn cyflwyno sylwadau fel Aelod Lleol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Dangosodd y Cynghorydd Richard O Jones fapiau o hanes cynllunio’r safle i’r Pwyllgor. Dywedodd fod y mast teleffon wedi cael ei ddymchwel ond fod y sylfaeni blociau concrit yn dal i fod yno. Dywedodd ei fod yn ystyried bod safle’r cais yn cydymffurfio â pholisi AMG2. Roedd yn amlwg o’r ymweliad safle a gynhaliwyd na fyddai’r sied amaethyddol arfaethedig i’w gweld o’r briffordd gyfagos os bydd y gwrychyn yn tyfu’n uwch ac y byddai’n cydymffurfio â Pholisi PCYFF 4 a PCYFF 3.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio'r prif fater cynllunio mewn perthynas â’r cais hwn. Nododd fod y safle wedi’i leoli o fewn Ardal Tirwedd Arbennig Mynydd Parys a’r AHNE cyfagos a’r argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes bod digon o gyfiawnhad dros gymeradwyo’r cais gan ei fod yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes fod penderfyniad y pwyllgor blaenorol i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog yn cael ei ail-gadarnhau.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith fod argymhelliad y Swyddog Cynllunio i wrthod y cais yn glir, yn arbennig y sylwadau mewn perthynas â’r effaith ar y dirwedd. Cynigiodd y Cynghorydd John Griffiths fod y cais yn cael ei wrthod. Ni chafodd y cynnig i wrthod y cais ei eilio.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r cais i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ac i roi’r awdurdod i’r Swyddog lunio amodau o ran tirlunio’r safle a’r fynedfa iddo.

 

7.2  FPL/2018/57 – Cais llawn ar gyfer codi 46 o anheddau ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon yn lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2019, penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac ymwelwyd â’r safle ar 20 Mawrth, 2019.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio'r prif fater cynllunio mewn perthynas â’r cais. Dywedodd fod manylion am y system ddraenio a’r gymysgedd o unedau tai wedi dod i law a bod Dŵr Cymru yn fodlon gyda manylion draenio’r safle a bod yr Adran Dai yn fodlon gyda’r gymysgedd o unedau tai. Disgwylir ymateb gan yr Adain Ddraenio a’r Uned Polisi Cynllunio Lleol ar y Cyd. Ychwanegodd fod pryderon yn bodoli yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am dy fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 641 KB

10.1  FPL/2019/70 – Glyndaf, Rhoscefnhir

10.2  FPL/2019/43 – Tyn Lon, Llangwyllog

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  FPL/2019/70 – Cais llawn ar gyfer codi annedd sy’n cynnwys balconi ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Glyndaf, Rhoscefnhir

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygu amlinelliad o’r prif faterion cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  FPL/2019/43 – Cais llawn ar gyfer codi annedd a garej ynghyd â gosod tanc septig yn Tyn Lôn, Llangwyllog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygu amlinelliad o’r prif faterion cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard O Jones y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 644 KB

11.1  HHP/2019/116 – Plas Newydd, Llanddeusant

11.2  HHP/2019/121 – Ty Rhos, Llanfaethlu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  HHP/2019/116 – Cais llawn ar gyfer codi garej yn Plas Newydd, Llanddeusant

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai perthynas agos i Swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10 y Cyfansoddiad yw’r ymgeisydd. Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi archwilio’r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod ben tan 10 Mehefin, 2019 a gofynnodd i’r Swyddogion gael hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau wedi’u derbyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

11.2  HHP/2019/121 – Cais llawn ar gyfer altro ac ehangu Tŷ Rhos, Llanfaethlu

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10 y Cyfansoddiad yw’r ymgeisydd. Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi archwilio’r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod ben tan 10 Mehefin, 2019 a gofynnodd i’r Swyddogion gael hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau wedi’u derbyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  FPL/2019/40 – Clwb Golff, Llangefni

12.2  FPL/2018/42 – Stâd Llain Delyn, Gwalchmai

12.3  25C121H – Safle Maryfore, Llannerchymedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2019/40 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd siop golff (Dosbarth Defnydd A1) yn fwyty (Dosbarth Defnydd A3) ynghyd â gosod simnai allanol a ffliw echdynnu a chreu ardal decin y tu allan yng Nghlwb Golff Llangefni, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i leoli ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.

 

Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygiad amlinelliad o’r prif fater cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais fel y’i  nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod rhan o’r cais yn un ôl-weithredol oherwydd mae drysau wedi cael eu gosod yn lle ffenestr fel y gellir cael mynediad i’r decin ac mae simnai allanol hefyd wedi cael ei hychwanegu at yr adeilad. Bydd angen i’r ymgeisydd gyflwyno manylion am y ffliw allanol cyn y gellir cymeradwyo’r cais. Gwnaed newid i adroddiad y swyddog – y dyddiad hwyraf ar gyfer derbyn sylwadau ydi 12 Mehefin, 2019. Dywedodd y swyddog ymhellach bod y cais yn cael ei gefnogi gan bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol, yn enwedig polisi MAN 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 

 

Holodd y Pwyllgor am y cyfleusterau parcio ar y safle. Dywedodd y Swyddog Priffyrdd y bydd maes parcio cyhoeddus Oriel Ynys Môn ar gael fel y mae yn awr i’r sawl sy’n defnyddio’r Llain Ymarfer Golff. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid gwrthod y cais oherwydd ei effaith ar yr ardal leol. Fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

Yn dilyn y bleidlais:-

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

12.2  FPL/2018/42 – Cais llawn ar gyfer codi 8 o anheddau pris marchnad a 2 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a lôn newydd ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS, Aelod Lleol, am ymweliad safle oherwydd pryderon ynghylch y fynedfa i’r safle.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3  25C121H – Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd a mynedfa i gerbydau yn Safle Maryfore, Llanerchymedd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o safle’r cais wedi’i leoli ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.

 

Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygiad amlinelliad o’r prif fater cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais. Dywedodd y bydd angen cytundeb cyfreithiol adran 106 mewn perthynas â chais y Gwasanaeth Addysg am gyfraniad tuag at ddarparu ar gyfer y disgyblion ychwanegol a bod angen un tŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad arfaethedig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau sydd wedi’i cynnwys  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.