Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb y cyfeirir ato uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn -

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.2 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Bryan Owen ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.4 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Peter Rogers (sydd ddim yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, ond a oedd yn bresennol fel Aelod Lleol) ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.1 ar y rhaglen ac nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y cais.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mehefin, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mehefin, 2019 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

4.

Ymweliad Safle pdf eicon PDF 14 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle cynllunio a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2019 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.1.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 279 KB

6.1 FPL/2019/116 – St David’s, Stryd Athol, Cemaes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1       FPL/2019/116 – Cais llawn i newid defnydd hen eglwys i fod yn ddwy uned wyliau ynghyd ag addasiadau ac estyniadau yn St David’s, Stryd Athol, Cemaes

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd pryderon lleol am ddiogelwch ffyrdd, dyluniad y datblygiad arfaethedig a pherchnogaeth tir. Yn ogystal, derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau i’r cais. O ganlyniad, roedd y Swyddog o’r farn y byddai’n fuddiol i aelodau’r Pwyllgor weld y safle cyn ystyried y cais. Yn ychwanegol, pe bai’r Pwyllgor yn penderfynu ymweld â safle’r cais, mae preswylwyr dau eiddo cyfagos wedi gofyn i’r Pwyllgor gymryd y cyfle i edrych ar safle’r cais o’u heiddo nhw er mwyn deall yn well eu pryderon ynghylch y cynnig.

 

Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd ac er mwyn edrych ar y safle o gyfeiriad y ddau eiddo cyfagos, yn unol â’r cais.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 502 KB

7.1 FPL/2018/42 – Stâd Llain Delyn, Gwalchmai

 

7.2 FPL/2019/31 – Tŷ Mawr, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1       FPL/2018/42 –  Cais llawn i godi 8 o anheddau marchnad agored a 2 o anheddau fforddiadwy, creu mynedfa newydd a ffordd i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Mehefin, penderfynwyd cynnal ymweliad safle a chynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 19 Mehefin, 2019.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Amlinellodd Sioned Edwards (o blaid y cais) natur y cais a, gan fod hwn yn gais am 10 uned, dywedodd fod ymgynghoriad cyn cyflwyno cais wedi’i gynnal a oedd yn cynnwys Aelodau Lleol, Cyngor Cymuned Trewalchmai, y cyhoedd, ac ymgyngoreion statudol. Codwyd pryderon am fynediad i safle’r cais drwy Stad Llain Delyn ac am yr effaith bosib ar breswylwyr eiddo cyfagos yn ystod y cyfnod adeiladu, yn arbennig mewn perthynas â cherbydau adeiladu yn defnyddio’r lôn breifat sy’n cysylltu safle’r cais â Stryd y Goron. Pwysleisiodd Ms Edwards fod Adran Briffyrdd y Cyngor wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r cynnig mewn perthynas â’r fynedfa â chydymffurfiaeth â safonau parcio a bod y swyddogion yn argymell fod Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu yn cael ei gyflwyno er mwyn cytuno ar lwybrau i’w ddilyn a threfniadau parcio. Yn dilyn hynny, bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu yn unol â’r manylion y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn dderbyniol i’r ymgeisydd a byddai hefyd yn sicrhau fod trefniadau mewn lle mewn perthynas â’r llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg ar hyd y lôn breifat. Fel rhan o’r cynnig, bydd cyfraniad ariannol yn cael ei wneud tuag at ddarpariaeth addysg gynradd yn yr ardal a bydd 2 dŷ fforddiadwy yn cael eu darparu, ynghyd â llecyn agored a fydd hefyd yn rhan o’r datblygiad. Mae’r cynnig yn dderbyniol i Swyddogion Cynllunio, gydag amodau, a’r gobaith yw y bydd y Pwyllgor yn ei gefnogi.

 

Siaradodd y Cynghorydd R. G. Parry, OBE, FRAgS fel Aelod Lleol i gadarnhau, er nad oedd ganddo ef na’r Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig, eu bod yn pryderu am yr effeithiau posib yn ystod y cyfnod adeiladau ac ynghylch mynediad i’r safle. Yn ystod yr ymweliad safle, byddai’r Pwyllgor wedi gweld bod dwy lôn wahanol yn rhoi mynediad i’r safle - y gyntaf drwy stad Llain Delyn a’r ail ar hyd y lôn o’r feddygfa. Roedd ef a’r Cyngor Cymuned yn gofyn am osod amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio i gyfyngu mynediad i’r safle ar hyd y lôn yn arwain o’r feddygfa yn unig yn ystod y cyfnod adeiladu er mwyn osgoi unrhyw effaith neu beryglon posib o ganlyniad i gerbydau adeiladu’n teithio drwy stad dai Llain Delyn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor Cymuned, yn ogystal â mynegi pryder am y fynedfa, wedi cwestiynu’r angen am ddatblygiad tai yn y lleoliad hwn a’r effaith bosibl ar seilwaith lleol drwy roi mwy o bwysau ar yr ysgol leol a’r feddygfa. Mae safle’r cais o fewn y ffin ddatblygu ac mae Gwalchmai yn ganolfan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 450 KB

10.1 VAR/2019/5 – Tyn Pwll, Benllech

 

10.2 VAR/2019/30 – Min y Ffrwd, Minffrwd, Brynteg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1    VAR/2019/5 – Cais dan Adran 73A i amrywio amodau (09), (10) a (11) o gais cynllunio 30C246K/VAR (cais dan Adran 73 i amrywio amodau er mwyn symud lleoliad un annedd) fel y gellir cyflwyno manylion ynglŷn â draenio dŵr wyneb, cynllun rheoli traffig, a manylion ar gyfer cynnal a chadw’r system ddraenio yn dilyn cychwyn y datblygiad ar dir ger Tŷ’n Pwll, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd ar gyfer tair annedd wedi ei roi ar y safle o dan y Cynllun Datblygu blaenorol a chaniatawyd cais i ail-leoli’r un o’r anheddau yn gymharol ddiweddar, gydag amodau mewn perthynas â draenio dŵr wyneb, cynllun rheoli traffig a manylion cynnal a chadw system ddraenio. Mae gwaith wedi cychwyn ar y safle cyn i’r amodau gael eu rhyddhau felly mae’r cais presennol yn ceisio amrywio’r amodau hynny er mwyn caniatáu i’r manylion gael eu cyflwyno a’u cymeradwyo ar ôl i’r gwaith gychwyn. Dywedodd y Swyddog bod y manylion y gofynnir amdanynt o dan yr amodau uchod wedi cael eu darparu a’u hasesu fel rhan o’r cais a’u bod yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â gofynion yr amodau yn ôl-weithredol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2    Cais dan Adran 73A i ddiwygio amod (04) (cynlluniau a gymeradwywyd) o gais cynllunio rhif 30C755B/DEL (Cais i dynnu amodau (09), (10), ac (11) (Côd ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy) ac amrywio amod (08) (deunyddiau) o gais cynllunio 30C755 (Cais amlinellol i godi annedd) er mwyn ail-leoli’r annedd, diwygio’r dyluniad ac ychwanegu ystafell haul ym Min y Ffrwd, Minffrwd, Brynteg

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr egwyddor o annedd wedi cael ei sefydlu yn y lleoliad hwn eisoes o dan y Cynllun Datblygu blaenorol a bod y cais hwn ar gyfer dileu’r amodau uchod er mwyn gwneud newidiadau i’r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol, gan gynnwys ail-leoli’r annedd 6m i’r Gogledd Ddwyrain, newidiadau i’r drysau a’r ffenestri, yn cynnwys ffenestri dormer a ffenestri to, ac ychwanegu ystafell haul ar y drychiad De Orllewin yn wynebu’r briffordd. Mae’r newidiadau arfaethedig yn dderbyniol ac ystyrir eu bod yn welliant cyffredinol ar y cynlluniau a ganiatawyd eisoes. Er bod y cais yn groes i Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, o ystyried y caniatâd cynllunio sy’n bodoli’n barod a’r gwelliant a ddeuai yn sgil y newidiadau arfaethedig, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen argymhelliad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 262 KB

11.1 FPL/2019/145 – Fferm Cefn Dderwen, Brynsiencyn

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1    FPL/2019/145 – Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid yn Fferm Cefn Dderwen, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofyn o dan y paragraff dywededig.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynllun arfaethedig ar gyfer codi sied amaethyddol newydd a fydd yn ffurfio estyniad i’r sied bresennol ar y safle. Yn ogystal, mae’r ymgeisydd yn cynnig gostwng lefel y llawr er mwyn iddo fod yn gyson ar hyd y sied newydd. Gan y byddai’r cynnig yn cael ei leoli mewn ardal sydd yn gyfoethog o ran hanes, cynigir amod yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal asesiad archeolegol yn ystod y cyfnod adeiladu; yn ogystal, mae’r Adran Briffyrdd yn argymell amod yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu cyn cychwyn y gwaith. Gan fod lleoliad y cynnig yn agos i’r AHNE ac y byddai’r cynnig i’w weld o’r llwybr cyhoeddus yn erbyn y siediau presennol am gyfnod byr, argymhellir cynnwys amod ychwanegol i liniaru unrhyw effaith tymor byr a allai godi o ganlyniad i hynny. Dywedodd y Swyddog fod y Cyngor Cymuned wedi cadarnhau erbyn hyn nad oes ganddo sylwadau ar y cais ac argymhelliad y Swyddog yw caniatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â thirlunio.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 582 KB

12.1 VAR/2019/14 – Cae Eithin, Malltraeth

 

12.2 FPL/2019/98 – Warden House, Awel y Môr, Rhosneigr

 

12.3 HHP/2019/129 – Tŷ Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll

 

12.4 FPL/2019/146 – Parc Peibio, Morawelon, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    VAR/2019/14 –  Cais dan Adran 73A i ddileu amod (08) (lefel llawr gorffenedig) ac amrywio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd dan gais am y materion a gadwyd yn ôl rhif 15C48J/FR/DA) o gais cynllunio amlinellol rhif 15C48H (cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn galluogi diwygio gosodiad a dyluniad yr annedd a’r modurdy ar wahân a gymeradwywyd yn flaenorol, ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yn Cae Eithin, Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch mynediad a materion yn ymwneud â pherchnogaeth tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod ymweliad safle’n cael ei gynnal oherwydd y pryderon ynghylch y fynedfa a pherchnogaeth tir. Esboniodd y Cynghorydd Owen ei fod yn credu bod y cais hwn yn gynamserol gan nad oes gan yr ymgeisydd fynediad i’r annedd ar hyn o bryd ac y dylai’r Pwyllgor weld safle’r cais yn gyntaf cyn dod i benderfyniad arno.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais hwn ar gyfer diwygio’r caniatâd amlinellol a’r caniatâd materion a gadwyd yn ôl am annedd lle’r oedd y fynedfa yn cael ei rhannu â Pen Parc, yr eiddo drws nesaf. Rhoddwyd caniatâd ar wahân am fynedfa a dreif breifat ar wahân i Cae Eithin fel rhan o gais annibynnol diweddarach. Fodd bynnag, mae’r cais a gyflwynwyd ar gyfer amrywio amodau’r caniatâd yn ymwneud â’r annedd yn unig ac nid yw’n ymwneud â’r fynedfa breifat. O ganlyniad, nid yw’r rheswm a roddwyd ar gyfer cynnal ymweliad safle, h.y. materion yn ymwneud â’r fynedfa, yn rheswm cynllunio dilyn ar gyfer y cais hwn gan ei fod yn ymwneud â newidiadau i’r annedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen fod yr ail fynedfa y cyfeiriwyd ati wedi cael ei chreu ar dir nad yw’r ymgeisydd yn berchennog arno ac nad oes cytundeb rhwng yr ymgeisydd a’r cymydog drws nesaf ynghylch prynu’r tir. Dywedodd y Cynghorydd Owen y dylai’r mater yn ymwneud â’r fynedfa gael ei ddatrys yn gyntaf cyn bod modd dod i benderfyniad ar y cais hwn gan nad oes modd defnyddio’r eiddo heb fynediad cyfreithiol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ychydig o wybodaeth gefndirol am y cais a’i gyd-destun i’r Pwyllgor ac, wrth gyfeirio at fap o’r safle, dangosodd y tir yr oedd y fynedfa ar wahân wedi’i lleoli arno mewn perthynas â’r tir y mae’r annedd sy’n destun y cais hwn wedi’i leoli arno. Cymeradwywyd y fynedfa ar wahân fel caniatâd annibynnol a bu’n destun ymchwiliad gorfodaeth mewn perthynas â thorri amodau. Eglurodd y swyddog hefyd, fel rhan o’r cais hwn ar gyfer newid y caniatâd amlinellol gwreiddiol a oedd yn cynnwys mynediad, fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno rhybudd i’r tirfeddiannwr ac o ganlyniad bod modd delio gyda’r cais hwn. Ar wahân i hynny, nid yw perchnogaeth tir yn fater cynllunio.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Dafydd Jones Russell Hughes (o blaid y cais) mai’r unig faterion sy’n berthnasol i’r cais yw bod lefel orffenedig y llawr, mân newidiadau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.