Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Datganodd y Cynghorydd Eric W Jones ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.1 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.2 ar y rhaglen.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 322 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 3 Gorffennaf, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwyno, gofnodion yr ymweliadau safle a gafwyd ar 17 Gorffennaf, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2019, fodd bynnag PENDERFYNWYD ail-ymweld â safle’r 3 chais oherwydd nad oedd mwyafrif aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn gallu bod yn bresennol ar yr ymweliadau safle.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw siaradwyr cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 282 KB

6.1  HHP/2019/129 – Ty Arfon, Lon Refail, Llanfairpwll

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 HHP/2019/129 – Cais llawn i godi garej ar wahân yn Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am iddo gael ei alw i mewn gan Aelod Lleol. Yn y cyfarfod ar 3 Gorffennaf, 2019 penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac, yn dilyn hynny, ymwelwyd â’r safle ar 17 Gorffennaf, 2019.

 

PENDERFYNWYD ail ymweld â safle’r cais.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 859 KB

7.1  FPL/2019/116 – St David’s, Stryd Athol, Cemaes

7.2  VAR/2019/14 – Cae Eithin, Malltraeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2019/116 – Cais llawn i newid defnydd hen eglwys i fod yn ddwy uned wyliau ynghyd ag addasiadau ac estyniadau yn St. Davids, Stryd Athol, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod Aelod Lleol wedi’i alw i mewn.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, 2019 penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac, yn dilyn hynny, ymwelwyd â’r safle ar 17 Gorffennaf, 2019.

 

PENDERFYNWYD ail ymweld â safle’r cais. 

 

7.2  VAR/2019/14 – Cais o dan Adran 73A ar gyfer dileu amod (08) (lefel llawr gorffenedig) ac amrywio amod (11) (cynlluniau a ganiatawyd dan cais am y materion a gadwyd yn ôl rhif 15C48J/FR/DA) o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 15C48H (cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd a creu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn galluogi diwygio gosodiad a dyluniad yr annedd a’r modurdy a ganiatawyd gynt ynghyd a codi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yn Cae Eithin, Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod wedi cael ei alw i mewn gan Aelodau Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, 2019 penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac, yn dilyn hynny, ymwelwyd â’r safle ar 17 Gorffennaf, 2019

 

Roedd y Cynghorydd Bryan Owen wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

 

PENDERFYNWYD ail ymweld â safle’r cais.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau am dai fforddiadwy yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 587 KB

10.1  VAR/2019/34 – 8 Ger y Môr, Rhosneigr

10.2  VAR/2019/32 – Yr Erw, Llansadwrn

10.3  VAR/2019/42 – Fferm Garreg Fawr, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 10.1  VAR/2019/34 - Cais dan Adran 73 i amrywio amodau (13) (mynediad) a (15) (cyfleuster parcio ceir) o ganiatâd cynllunio amlinellol 28C511 (cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi 4 o fflatiau) ac amodau (02) (tirlunio), (03) (mynediad), (07) (cyfleuster parcio ceir) a (08) (cynlluniau a gymeradwywyd) o’r materion cysylltiedig a gadwyd yn ôl ar gais 28C511A/DA (cais mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 4 fflat) er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd fel y gellir altro’r fynedfa i’r safle, parcio a thirlunio yn 8 Ger y Môr, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod egwyddor y cais hwn eisoes wedi’i barod yn y lleoliad hwn o dan y Cynllun Datblygu blaenorol a bod y cais ar gyfer amrywio’r amodau a nodir uchod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  VAR/2019/32 – Cais dan Adran 73A i amrywio amod (02) (manylion draenio) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 17C126F/DA (cais mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd) er mwyn galluogi cyflwyno’r manylion yn dilyn cychwyn gwaith yn Yr Erw, Llansadwrn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod egwyddor y cais eisoes wedi’i sefydlu yn y lleoliad hwn o dan y Cynllun Datblygu blaenorol. Nododd fod Tystysgrif Cyfreithlondeb wedi’i rhoi ar y sail fod gwaith wedi cael ei wneud ar fynedfa i’r safle. Fodd bynnag, gwnaed y gwaith heb yn gyntaf gyflawni amod (02) cais cynllunio rhif 17C126F/DA a oedd yn gofyn i fanylion gael eu cyflwyno, cyn i waith ddechrau ar y datblygiad, yn dangos sut y byddai dŵr wyneb o’r fynedfa i gerbydau a’r ardal barcio yn cael ei reoli a’i gadw o fewn cwrtil y safle. O ganlyniad, mae’r cais hwn ar gyfer rheoleiddio’r sefyllfa drwy wneud cais o dan Adran 73A er mwyn amrywio gofynion yr amod. Nodwyd fod yr ymgyngoreion statudol yn fodlon rhyddhau’r amod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.3  VAR/2019/42 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 46C410F (codi 13 o dai) er mwyn galluogi cyflwyno manylion terfynau ar ôl i’r gwaith gychwyn ynghyd â dileu amod (07) (ecoleg) yn Garreg Fawr Farm, Bae Trearddur  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 352 KB

11.1  OP/2019/8 – Tyn Pwll, Brynsiencyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 11.1  OP/2019/8 – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi annedd ar dir yn Tyn Pwll, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod etholedig o’r Cyngor. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais.

 

Datganodd y Cynghorydd Eric W Jones ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais ac ychwanegodd nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 24 Gorffennaf, 2019 a gofynnwyd i Swyddogion gael hawl i weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben, os na dderbynnir unrhyw sylwadau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais ac i roi hawl gweithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 968 KB

12.1  FPL/2019/162 – Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi

12.2  FPL/2019/161 – Ysgol Gynradd Pencarnisiog, Pencarnisiog

12.3  FPL/2019/171 – Maes Awyr Môn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog

12.4  FPL/2019/50 – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

12.5  OP/2019/6 – Hen Safle Peboc, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2019/162 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn gae chwarae ar gyfer yr ysgol, codi ystafell ddosbarth symudol, codi ffensys a waliau terfyn ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled yn Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais i’r Pwyllgor ac ychwanegodd nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 24 Gorffennaf, 2019 a gofynnodd i Swyddogion gael hawl i weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben os na dderbynnir unrhyw sylwadau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

12.2  FPL/2019/161 – Cais llawn ar gyfer codi ystafell ddosbarth symudol yn Ysgol Gynradd Pencarnisiog, Pencarnisiog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais ac ychwanegodd fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am amod ychwanegol er mwyn cyflwyno Cynllun Rheoli Traffig yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol yn cael ei osod bod Cynllun Rheoli Traffig yn cael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod adeiladu.

 

12.3  FLP/2019/171 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y ffens bresennol ynghyd â chodi ffens newydd ym Maes Awyr Môn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod y cais wedi’i gyflwyno gan y Cyngor.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais a dywedodd ei bod yn dymuno diwygio adroddiad y Swyddog gan mai 3.15 metr yw uchder y ffens newydd. Nododd fod cais tebyg wedi’i ganiatáu’n ddiweddar ar y safle hwn ond bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwrthwynebu gan fod y safle o fewn ardal lle cyfyngir ar ddatblygiad er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith ar awyrennau; nid oedd uchder y ffens yn dderbyniol i’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae uchder y ffens ddiogelwch arfaethedig wedi gostwng ychydig, ynghyd â’i dyluniad, ac mae bellach yn dderbyniol i’r weinyddiaeth amddiffyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2019/50 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd â chreu lle chwarae treftadaeth a thirlunio cysylltiedig ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais a nododd y bydd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 1 MB

Gorchymyn Rheoleiddio TraffigAmlwch

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig - Amlwch

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro ynglŷn â Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Priffyrdd ynghylch parcio’n creu rhwystr, tagfeydd traffig a materion diogelwch ffyrdd yn Amlwch. Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r gwahanol strydoedd sydd yn rhan o’r Gorchymyn arfaethedig.

 

Dywedodd yr uwch Reolwr Prosiect (Prosiectau Mawr) y derbyniwyd un gwrthwynebiad i’r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud â’r bwriad i gyflwyno llinellau melyn dwbl ar hyd rhan o Ffordd Tan y Bryn, Amlwch. Mae’r gwrthwynebydd yn gweithredu 2 fusnes o’i eiddo ac ar brydiau mae o angen parcio ar y briffordd. Nododd fod yr Awdurdod Priffyrdd yn ystyried fod y Gorchymyn arfaethedig yn hanfodol er lles diogelwch y ffordd ac i sicrhau fod traffig a cherddwyr yn symud yn rhwyddach. Yn dilyn cyflwyno’r llinellau melyn bydd Swyddogion Gorfodaeth yn cynnal arolwg o barcio ar wahanol strydoedd yn Amlwch.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd ac Aelod Lleol fod nifer o bryderon yn lleol ynghylch problemau parcio yn Amlwch, yn arbennig ar Ffordd Tan y Bryn, gan fod ceir yn parcio ar ddwy ochr y palmant. Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones yr argymhellion yn yr adroddiad. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol â’r Gorchymyn a’r cynlluniau a hysbysebwyd.