Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Medi, 2019 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Bryan Owen ddatgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnus mewn perthynas â 7.1 ar yr agenda. 

 

Bu’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â 7.3 ar yr agenda. 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 192 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Awst, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 7 Awst, 2019 fel cofnod cywir yn amodol ar gynnwys enwau’r Cynghorwyr Eric W Jones a Robin Williams i’r rhestr ymddiheuriadau.  

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwr cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.2.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 443 KB

7.1  VAR/2019/14  - Cae Eithin, Malltraeth

 

7.2  FPL/2019/116 – St. David’s, Stryd Athol, Cemaes

 

7.3  HHP/2019/129 – Ty Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  VAR/2019/14 - Cais o dan Adran 73A ar gyfer dileu amod (08) (lefel llawr gorffenedig) ac amrywio amod (11) (cynlluniau a ganiatawyd dan gais am y materion a gadwyd yn ôl rhif 15C48J/FR/DA) o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 15C48H (cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn galluogi diwygio gosodiad a dyluniad yr annedd a’r modurdy a ganiatawyd gynt ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yn Cae Eithin, Malltraeth.

 

Roedd y Cynghorydd Bryan Owen wedi datgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelodau Lleol. 

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, 2019 fe benderfynwyd cynnal ymweliad safle ac fe wnaed hynny ar 17 Gorffennaf, 2019. Oherwydd nad oedd rhai Aelodau ar gael i fynychu’r ymweliad safle fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, yn ei gyfarfod 24 Gorffennaf 2019, ail ymweld â’r safle ac fe gynhaliwyd ymweliad pellach ar 7 Awst, 2019.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rogers, Aelod Lleol, at gau cwyn gorfodaeth mewn perthynas â mynediad i’r safle yn 2018 a hynny ar sail addasrwydd ond cododd bryderon fod 5 o'r 6 amod cynllunio wedi eu torri a bod yr annedd eisoes wedi ei hadeiladu ar y safle ac nad oedd mynediad cyfreithlon ar gyfer danfon deunyddiau adeiladu a pheiriannau adeiladu i’r safle. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rogers at y gwahaniaethau yn yr uchder, lefel terfynol y llawr a lleoliad yr annedd a’r amodau yn y caniatâd cynllunio gwreiddiol a oedd yn cael effaith ar amwynderau a phreifatrwydd eiddo cyfagos yn yr ardal leol. Cyfeiriodd at y ffaith bod anghysondebau yn adroddiad y Swyddog Cynllunio o ran cyflwyno Tystysgrif A a’i fod yn ystyried bod yr Adran Gynllunio wedi camarwain nifer o gyrff ar adeg cylchredeg y cais Tystysgrif A. Amlygodd y Cynghorydd Rogers fod nifer o gwestiynau, mewn perthynas â’r datblygiad hwn a thorri amodau cynllunio, yn parhau heb eu hateb a gofynnodd i’r Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais tan bod ymchwiliadau annibynnol mewn perthynas â’r cais hwn wedi eu cynnal.     

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i ddileu amodau i lefel gorffenedig y llawr, lleoliad yr annedd o fewn y plot, cynyddu hyd a lled yr annedd terfynol a chyfeiriadedd diwygiedig y garej ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yng Nghae Eithin, Malltraeth. Amlinellodd hanes cynllunio’r datblygiad a nododd y cyflwynwyd cais yn 2015 am fynediad preifat i’r safle a bu anghytundeb am berchnogaeth y tir ac yn dilyn hynny cafodd y cais ei ‘alw mewn’ am drafodaeth gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Cyfeiriodd at yr amrywiaeth o faterion gorfodi ynghlwm â’r cais hwn dros nifer o flynyddoedd a phryderon a fynegwyd nad yw’r Awdurdod Cynllunio wedi cymryd camau gorfodi; mae’r cais sydd gerbron y cyfarfod hwn yn ganlyniad i brosesau gorfodi yr ymgymerwyd â nhw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 71 KB

10.1  VAR/2019/9 – Neuadd, Cemaes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  VAR/2019/9 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 18C71E (Newid yr adeilad allanol i annedd ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth) fel y’i diwygiwyd dan gais cyfeirnod MAO/2018/2 fel y gellir gwneud newidiadau i ddyluniad yr addasiad o’r adeilad allanol ynghyd â rhyddhau amod (03) (Manylion Ffiniau) o gais cynllunio cyfeirnod 18C71E yn Neuadd, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol am ei gymeradwyo.   

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio amlinelliad o’r cais i’r Pwyllgor a dywedodd fod yr ymgeisydd hefyd wedi cyflwyno manylion ffiniau fel rhan o’r cais. Nododd fod y cais yn tynnu’n groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fodd bynnag y sefyllfa wrth gefn yw bod gan safle’r cais eisoes ganiatâd cynllunio ar gyfer trosi’r adeilad allanol yn annedd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 890 KB

12.1  FPL/2019/1 – Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch

 

12.2  DIS/2019/84 – Maes y Coed, Porthaethwy

 

12.3  FPL/2019/79 – Waun Dirion, Benllech

 

12.4  FPL/2018/55 – Penrhyn Owen, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2019/1 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn saith fflat ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelod Lleol wedi cyflwyno cais i ymweld â safle’r cais o ganlyniad i bryderon lleol mewn perthyna â dymchwel wal derfyn i greu mynedfa newydd i gerbydau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid ymweld â’r safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard O Jones.

 

Ar gais yr Aelod Lleol, PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

12.2 DIS/2019/84 – Cais i ryddhau amod (11) (Cynllun rheoli traffig adeiladwaith) o ganiatâd cynllunio FPL/2019/9 ym Maes y Coed, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn un a wneir gan y Cyngor ar dir sy’n berchen i’r Awdurdod Lleol.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn i ryddhau amod 11 o gais cynllunio FPL/2019/9 a oedd yn gofyn am fanylion cynllun rheoli traffig adeiladu. Mae’r cynllun rheoli traffig adeiladu bellach wedi’i dderbyn gan yr Awdurdod Lleol ac fe’i ystyrir yn dderbyniol gan yr Awdurdod Priffyrdd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  FPL/2019/79 – Cais llawn i newid defnydd ystafell gymunedol bresennol i annedd 1 ystafell wely yn Waun Dirion, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei ystyried yn dderbyniol ac nid yw’n cael ei ystyried fod y datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymeriad nac amwynderau’r ardal nac ar yr anheddau preswyl cyfagos na’r Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cais hwnnw gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4 FPL/2018/55 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn llety gwyliau ynghyd â gosod gwaith trin carthffosiaeth yn Penrhyn Owen, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais gwreiddiol wedi’i ddiwygio er mwyn lleihau graddfa’r datblygiad arfaethedig ac mae’r cais wedi’i gefnogi gan Gynllun Busnes er mwyn cydymffurfio â pholisïau cynllunio. Dywedodd hefyd na ystyrir y bydd y datblygiad yn cael effaith negyddol ar unrhyw annedd breswyl na’r ardal gyfagos. Bydd angen cysylltu costau ychwanegol ag unrhyw ganiatâd a roddir i’r cais o ran y gofynion i fanylion y gwaith i’w ymgymryd ag ef hyd at waliau terfyn a mannau pasio at y briffordd gyfagos. Er bod yr Aelod Lleol wedi mynegi pryderon bod y ffordd i safle’r cais yn gul, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y ffordd yn briffordd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 615 KB

13.1 – Adroddiad ar Siarad Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar y weithdrefn siarad cyhoeddus mewn perthynas â swyddogaethau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r protocol siarad cyhoeddus wedi’i adolygu ers ei gyflwyno yn 2010 a bod y protocol diwygiedig wedi’i ddiweddaru yn bennaf er mwyn adlewyrchu Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Protocol Siarad Cyhoeddus mewn perthynas â swyddogaethau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.