Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Rhagfyr, 2019 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Bryan Owen ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.16 ar y rhaglen.  Datganodd y Cynghorydd Owen ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 7.1 ar y rhaglen hefyd.

 

Datganodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.1 ar y rhaglen.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 312 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 6 Tachwedd, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2019.

4.

Ymweliad Safleoedd

Ni chafwyd unrhyw ymweliad safle yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 6 Tachwedd, 2019.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.18.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu trafod yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 662 KB

7.1  - OP/2019/5 – Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni

7.2   - FPL/2019/226 – Fronwen, Newborugh

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 OP/2019/5 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni

 

Roedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts, wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus yn y cais ond siaradodd fel Aelod Lleol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd. Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd yn ystod yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais wedi’i leoli ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2019, penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac yn dilyn hynny ymwelwyd â’r safle ar 16 Hydref 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol, bod y tri aelod lleol wedi cynnal trafodaethau gyda phreswylwyr lleol a’r datblygwr ynghylch y cais hwn. Dywedodd fod cytundeb ynghylch yr angen am dai fforddiadwy yn yr ardal a gwnaethpwyd cytundeb llafar (gyda chadarnhad ysgrifenedig i ddilyn) y bydd y fynedfa i’r safle o Stryd y Bont ac na fydd mynedfa i’r safle drwy Stad Tan Capel. Bydd mynediad i gefn yr anheddau yn Stad Tan Capel yn cael ei gadw a chafwyd sicrwydd y bydd y cais cynllunio llawn, pan y’i cyflwynir i’r Awdurdod Cynllunio, yn cynnwys tai ger yr anheddau yn Stad Tan Capel ac nid fflatiau.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Jamie Brandshaw (o blaid y cais) fod y cais am 52 o anheddau fforddiadwy gyda 36 o dai a 16 o fflatiau ar dir segur o fewn ffin ddatblygu Llangefni a’i fod mewn lleoliad hynod o hygyrch. Nododd, er bod y Swyddogion Cynllunio’n cefnogi’r cais, mynegwyd pryderon yn lleol ynghylch diogelwch y briffordd. Fodd bynnag, roedd o’r farn bod mynediad digonol i’r safle o’r briffordd a chynigir gwneud gwelliannau i’r rhwydwaith priffyrdd lleol (cyflwynwyd tystiolaeth fanwl fel rhan o’r cais), ac mae’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda’r rhwydwaith priffyrdd a gynigir. Codwyd pryderon hefyd ynghylch materion edrych drosodd a allai gael effaith ar fwynderau preswylwyr lleol, ond mae’n amlwg o’r cynlluniau a gyflwynwyd bod digon o bellter i liniaru’r effaith andwyol ar breifatrwydd ac ni fyddai’r gweithgarwch ar y safle yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos. Cynhaliwyd Astudiaeth Ecoleg fanwl ar y safle a ddaeth i’r casgliad na fyddai unrhyw effaith niweidiol ar rywogaethau a warchodir ac y gellir rhoi sylw i unrhyw effaith ar rywogaethau eraill drwy gryfhau mesurau lliniaru. Dywedodd y byddai datblygu’r safle yn gwella’r tir segur; bydd cynllun plannu coed wedi’i ddylunio’n ofalus yn gwella’r safle. Mae’r Swyddog Ecoleg a CNC yn fodlon â’r cynllun. Cyfeiriodd at yr effaith yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad a nododd fod adroddiad y Swyddog yn cynnwys amod ynghylch yr amseroedd pryd y caniateir gwneud gwaith adeiladu a defnyddio peiriannau ar y safle. Ychwanegodd Mr Bradshaw fod y datblygwr wedi ceisio ymgysylltu gyda thrigolion lleol cyn ac ar ôl cyflwyno’r cais ac ystyrir bod hynny’n effeithiol ac yn deg. Mae’r datblygiad ar gyfer tai  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 494 KB

11.1 – FPL/2019/250 – Safle GD Jones, Stad Ddiwydiannol, Gaerwen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 11.1 FPL/2019/250 - Cais llawn ar gyfer cael gwared ag adeilad y swyddfa bresennol ynghyd â chodi swyddfa ac adeilad lles newydd yn GD Jones Fuel Oil, Stad Ddiwydiannol Gaerwen, Gaerwen.

 

Roedd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wedi datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog perthnasol yn y Gwasanaeth Cynllunio. Mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cynllunio’r cais i’r Pwyllgor a dywedodd bod y Cyngor Cymuned lleol wedi cadarnhau erbyn hyn nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig. Adroddodd bod safle’r cais wedi ei leoli yn barod ar Stad Ddiwydiannol Gaerwen ac ystyriwyd y byddai’r cynnig yn gwella ansawdd adeilad swyddfa a llety gweithwyr.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 –  DEM/2019/2 – Bryn Glas Close, Caergybi

12.2 –  DEM/2019/3 – Bryn Glas Close, Caergybi

12.3 –  DEM/2019/4 – Ffordd Corn Hir & Pennant, Llangefni

12.4 –  DEM/2019/5 – Ffordd Lligwy, Moelfre

12.5 –  DEM/2019/6 – Craig y Don, Amlwch

12.6 –  DEM/2019/7 – Hampton Way, Llanfaes

12.7 –  DEM/2019/8 – Maes Llwyn, Amlwch

12.8 –  DEM/2019/9 – Maes Hyfryd, Llangefni

12.9 –  DEM/2019/10 - New Street, Biwmares

12.10 – DEM/2019/11- Pencraig, Llangefni

12.11 – DEM/2019/12 – Tan yr Efail, Caergybi

12.12 – DEM/2019/13 – Thomas Close, Biwmares

12.13 – DEM/2019/15 – Maes yr Haf, Caergybi

12.14 – DEM/2019/16 – Pencraig Mansion, Llangefni

12.15 – FPL/2019/289 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

12.16 – FPL/2019/234 – Cae Eithin, Malltraeth

12.17 – TPO/2019/17 – Cronfa Ddŵr Porthaethwy

12.18 – FPL/2019/204 – Ponc y Rhedyn, Benllech

12.19 – FPL/2019/249 – Y Bedol, Tyn Rhos, Penysarn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  DEM/2019/2 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.   

 

Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu amlinelliad o’r cais i’r Pwyllgor a dywedodd fod y cais yn cael ei gyflwyno o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 ar gyfer dymchwel adeiladau. O dan y Gorchymyn, nid oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau (gwaith a elwir yn ddatblygiad a ganiateir) ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith i adfer y safle. Yn dilyn dymchwel y garejys, bydd y safle’n cael ei glirio a bydd unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei wneud ar y ffiniau. Mae angen i’r Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer y Gwaith Dymchwel a’r Cynllun Rheoli Traffig ar gyfer y Gwaith Dymchwel gynnwys mesurau er mwyn lleihau effeithiau’r gwaith dymchwel ar amwynderau trigolion lleol. Nodwyd bod angen Datganiad o fethodoleg ecolegol a ddylai nodi presenoldeb posib rhywogaethau anfrodorol ymledol ynghyd â rhaglen i'w symud os ydynt yn bresennol. Dylai'r datganiad methodoleg hefyd gynnwys manylion mesurau rhagofalol y dylid eu cymryd i ystyriaeth ar gyfer presenoldeb posib rhywogaethau a warchodir. Nododd fod Aelod Lleol, y Cynghorydd R Ll Jones wedi mynegi bod angen ymgynghori â thenantiaid y garejys cyn i’r holl garejys gael eu dymchwel.    

 

Holodd yr Is-gadeirydd a yw’r Rhybudd angenrheidiol wedi’i roi i denantiaid y garejys. Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, fel rhan o gais o'r fath, bod yn rhaid i’r ymgeisydd osod Rhybudd ar y safle yn hysbysu am y bwriad i ddymchwel y garejys ynghyd â rhybudd statudol fel rhan o’r broses gynllunio fel y gellir cyflwyno unrhyw sylwadau mewn perthynas â’r cais. Nododd fod yr Adran Eiddo wedi ymateb ac nad oes unrhyw ymgynghoriad ffurfiol wedi’i gynnal â thenantiaid y garejys; mae trafodaeth ar lafar wedi’i chynnal gyda thenantiaid garejys Caergybi.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais gan nad oes ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda thenantiaid y garejys. Dywedodd hefyd fod angen cynnal trafodaeth pam fod angen dymchwel y garejys hyn gan fod y tenantiaid yn talu rhent, sy’n incwm i’r Awdurdod. Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod adroddiad strwythurol wedi’i wneud gan yr Adran Eiddo fel rhan o’r cais hwn ac ystyrir mai’r opsiwn gorau yw dymchwel y garejys hyn gan eu bod mewn cyflwr gwael.   

 

Eiliodd y Cadeirydd y cynnig i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel y gellir ymgynghori’n ffurfiol â thenantiaid ac aelodau etholedig mewn perthynas â dymchwel y garejys.

 

Dywedodd y Cadeirydd hefyd bod angen hysbysu’r Deilydd Portffolio perthnasol a’r Adran Eiddo bod angen gwybodaeth bellach ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion o ran y broses yr ymgymerwyd â hi o ran y penderfyniad arfaethedig i ddymchwel y garejys cyn y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 398 KB

13.1 – FLP/2019/42 – Stâd Llain Delyn, Gwalchmai

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1      FPL/2018/42 - Cais llawn i godi 8 o anheddau marchnad a 2 o anheddau fforddiadwy, creu mynedfa newydd a ffordd i gerbydau ynghyd â gwaith thirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei gymeradwyo ym mis Mehefin 2019 ond, wrth baratoi’r cytundeb cyfreithiol A106, daeth i’r amlwg bod y cynllun gosodiad yn cynnwys tir nad oedd yn berchen i’r ymgeisydd a chyflwynwyd cynlluniau diwygiedig gyda’r tir hwn wedi’i dynnu allan. O ganlyniad mae gostyngiad yn arwynebedd y llecyn agored arfaethedig. Nododd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau y dylai’r llecyn agored ar gyfer y datblygiad arfaethedig fesur 429m2 a bod y cynllun newydd  29m2  yn brin o hynny. O  ystyried bod yr arwynebedd dan sylw yn fach a bod darpariaeth yn cael ei wneud ar y safle fel rhan o’r datblygiad, yn unol â darpariaethau Polisi ISA 5, nid oes unrhyw wrthwynebiad ar y sail hon. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen newid y cyfraniad tuag at addysg fel rhan o’r cynnig o ganlyniad i ymgynghoriad diweddar ychwanegol ar y cais. Dywedodd bod yr Adran Addysg yn meddwl y byddai’r anheddau yn dai 2 a 3 ystafell wely ond mae rhai o’r anheddau yn llety un ystafell wely. Yn dilyn ailasesu’r cais, £12k yw’r cyfraniad tuag at addysg erbyn hyn. Argymhellir caniatáu’r cais yn amodol ar gwblhau’r cytundeb cyfreithiol A106.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Eric Wyn Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â chytundeb Adran 106.