Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd pawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod rhithiol hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gofynnodd i bawb gyflwyno eu hunain.

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddodeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn -

 

Ar gyngor y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, datganodd y Cynghorwyr Bryan Owen a Vaughan Hughes ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.2 ar y rhaglen gan eu bod yn Llywodraethwyr Ysgol ar Ysgol Gyfun Llangefni ac ni chymerodd yr un o’r ddau ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem honno.

 

Datganodd y Cynghorydd Glyn Haynes ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.3 ar y rhaglen gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol ar Ysgol Llanfawr, Caergybi a ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem honno.

 

Eglurodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, mewn perthynas â chais 12.2, er bod cysylltiad teuluol gyda Phennaeth Ysgol Gyfun Llangefni ei fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol nad oedd angen iddo ddatgan diddordeb.

 

Mewn perthynas â chais 12.2, cynghorwyd y Cynghorydd Nicola Roberts gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y ffaith fod ei merch yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni yn creu diddordeb personol na diddordeb personol sy’n rhagfarnu gan nad oedd y berthynas yn arwain at unrhyw fantais mwy nag unrhyw un arall sydd yn gysylltiedig â’r mater.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 20 Mai 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle

Dim wedi’u cynnal ers y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 1 MB

6.1  FPL/2019/223 – Pen-Wal Bach, Pen Lon, Niwbwrch

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Jt1YBUAZ/fpl2019223?language=cy

 

6.2 19C1231 – Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1       FPL/2019/223 – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol yn faes gwersylla pebyll tymhorol ar dir ger Pen-Wal Bach, Pen Lon, Niwbwrch

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cynlluniau gwreiddiol yn cynnwys un fynedfa yn uniongyrchol i’r A4080 a bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu hynny. Erbyn hyn cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig sy’n cynnig mynedfa ychwanegol i gerbydau i’r briffordd gyhoeddus i’r gorllewin er mwyn goresgyn y gwrthwynebiad. Mae swyddogion angen cyfle i asesu oblygiadau’r newid hwn, ac mae hefyd angen ei ail hysbysebu. Mae cyfyngiadau cyfredol Covid-19 wedi oedi hyn. Felly, yr argymhelliad yw bod y cais yn cael ei ohirio.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhellion y swyddog am y rhesymau a nodwyd.

 

6.2       19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Lôn Porthdafarch, Caergybi

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Asesiad Trafnidiaeth o’r ardal wedi cael ei gomisiynu mewn ymateb i bryderon lleol am lif trafnidiaeth a chapasiti y rhwydwaith ffyrdd yng nghyffiniau’r cynnig i gymryd y traffig ychwanegol fyddai’n cael ei gynhyrchu. Erbyn hyn mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi dod i’r casgliad bod y cynnydd mewn traffig o’r datblygiad arfaethedig yn sylweddol ar briffordd lle mae perygl eisoes yn bodoli’n ac nad yw’n dderbyniol oni wneir gwelliannau i leihau’r perygl hwn. Mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais i ohirio er mwyn cael mwy o amser i gynnal trafodaethau pellach gan fod gwelliannau’n cael eu cynnig fel rhan o’r datblygiad arfaethedig, drwy ffurfioli’r mannau pasio ar ochr orllewinol Lôn Porthdafarch, ac y gellid cyflawni hynny drwy amod cynllunio. O’r herwydd, yr argymhelliad yw gohirio’r cais i ganiatáu cynnal trafodaeth bellach.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodwyd.

 

 

7.

Ceisiadau'n Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1    VAR / 2020/7 - Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd), amod (03) (Cynllun Rheoli a Chynnal a Chadw), amod (15) (Sgrin Derfyn) yng nghaniatâd cynllunio VAR / 2019/34 (Codi 4 fflat) er mwyn newid y cynllun draenio a darparu manylion y sgrin derfyn yn 8 Ger y Môr, Rhosneigr.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod egwyddor y datblygiad arfaethedig wedi cael ei sefydlu pan roddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar 16 Tachwedd 2015 ar gyfer pedwar fflat marchnad agored. Nodir y newidiadau arfaethedig yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog ac maent yn ymwneud â gosodiad y draeniau ac ystyrir eu bod yn dderbyniol. Darparwyd manylion am y sgrin derfyn hefyd yn unol ag amod (15) y caniatâd blaenorol, ac ystyrir eu bod yn dderbyniol hefyd. Fodd bynnag, ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, nodir Rhosneigr fel Canolfan Wasanaeth Leol dan Bolisi TAI 5 ac nid yw’n cefnogi darparu tai marchnad agored. Ond, gan fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle a gan fod y diwygiadau’n dderbyniol, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais gyda’r amodau cynllunio a restrir a hefyd newid y dyddiad a nodir yn amod (11) i ddarllen 1995 yn hytrach na 2013.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard O. Jones fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir ynddo ac yn amodol hefyd ar gywiro amod (11) fel yr amlinellwyd.

 

10.2    VAR / 2020/8 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) (Datganiad Madfallod Cribog), amod (04) (Goleuadau Allanol), amod (12) (Manylion Draenio), amod (13) (codi 3 annedd) er mwyn amrywio’r amodau trwy ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani ynghyd â newid dyluniad yr annedd ar dir yn Bryn y Felin, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle’r cais o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ond fod y rhan fwyaf o’r safle y tu allan i ffin ddatblygu Niwbwrch, fel y’i diffinnir o dan ddarpariaethau Polisi PCYFF 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC). Fodd bynnag, cymeradwywyd y cais gwreiddiol ym mis Ebrill 2017 cyn mabwysiadu’r CDLlC) ac mae’n ystyriaeth berthnasol wrth asesu’r cais presennol. Felly, o ystyried y caniatad cynllunio sydd eisoes yn bodoli, ac oherwydd mai mân newidiadau i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1  HHP/2020/37 – Y Bwthyn, Llanddaniel

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Izfh2UAB/hhp202037?language=cy

 

12.2  FPL/2020/71 – Ysgol Gyfun Llangefni, Ffordd Cildwrn, Llangefni

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffKUUAZ/fpl202071?language=cy

 

12.3  FPL/2020/70 – Ysgol Llanfawr, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffEMUAZ/fpl202070?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    HHP/2020/37 – Cais llawn i godi modurdy newydd i ddefnydd preifat yn Y Bwthyn, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am i Aelod Lleol ei alw i mewn i’r Pwyllgor ei ystyried gan y credir ei fod yn cydymffurfio â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod yn sylweddoli yn awr ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ac na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth nac yn pleidleisio ar y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais ôl-weithredol i gadw modurdy preifat yn Y Bwthyn, Llanddaniel. Mae’r ymgeisydd yn cadarnhau fod yr adeilad at ddefnydd preifat a bod ei angen i gadw cerbydau clasurol a fan wersylla fawr sy’n eiddo i’r ymgeisydd. Mae safle’r cais wedi’i leoli yn yr Ardal Tirwedd Arbennig; mae maint, uchder ac edrychiad yr adeilad dan sylw yn ddiwydiannol ac yn nodweddiadol o adeiladau y gellir eu gweld ar ystadau diwydiannol. Yn ogystal, mae’n uwch na’r prif annedd a elwir yn Y Bwthyn ac mae arwynebedd y llawr yn fwy. Er nad oes gwrthwynebiad i egwyddor y datblygiad, barn y Swyddog yw nad yw’n cyd-fynd â’i gyd-destun, oherwydd ei edrychiad diwydiannol, ei uchder a’i faint, ac nid yw’n cyd-fynd â chymeriad y safle nac yn ei wella,  felly mae’n groes i Bolisi Strategol PS5, Polisi PCYFF1 a Pholisi PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ar y sail honno, yr argymelliad yw gwrthod y cais. Derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu’r cynnig sydd yn nodi maint, edrychiad a lleoliad fel rhesymau dros wrthwynebu.

 

Siaradodd y Cynghorydd Eric Wyn Jones, Aelod Lleol, o blaid y cais a dywedodd mai’r mater allweddol yw a ydi’r cynnig yn cydymffurfio â pholisïau’r CDLlC. Roedd o’r farn fod y modurdy wedi ei leoli’n addas o fewn ac ymysg yr anheddau eraill ar y ddwy ochr ac, gan ei fod yn cael ei guddio’n dda gan goed a llwyni, nid oes modd ei weld o’r lôn. Mae busnes bysiau a thacsis masnachol yn cael ei redeg gerllaw sy’n â sied gynnal a chadw fawr ar gyfer cerbydau. Mae’r cais ar gyfer modurdy ac nid adeilad masnachol a bydd yn eistedd yn daclus yn ei gornel heb ymyrryd ag unrhyw un. Oherwydd bod gan yr ymgeisydd ddiddordeb mewn cerbydau clasurol mae’r lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol i’r cynnig ac mae’n cael ei gefnogi gan Bolisi PCYFF1. Cyfeiriodd y Cynghorydd Eric Jones hefyd at Bolisïau PCYFF2, PCYFF3, AMG2 a Pholisi Cynllunio Cymru ac esboniodd sut yr oedd yn credu bod y polisïau hynny’n cefnogi’r datblygiad arfaethedig o ran lleoliad, cynaliadwyedd a pharchu cymeriad yr ardal o’i amgylch. Oni bai ei fod yn credu hynny ni fyddai wedi galw’r cais i mewn, ac ni fyddai’n ei gefnogi. Mae’r cynnig yn cwrdd â’r gofynion angenrheidiol; mae angen y modurdy i warchod y cerbydau sydd â gwerth hanesyddol yn ogystal ag ariannol iddynt. O’r herwydd, cynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhellion y Swyddogion.

 

Roedd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1    LBC/2020/1 – Caniatad Adeilad Rhestredig ar gyfer mynedfa newydd, signal niwl newydd a phaneli solar newydd yng Ngoleudy Trwyn Du, Penmon

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth er mwyn adrodd ar gamgymeriad gweithdrefnol wrth benderfynu ar gais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer mynedfa newydd, signal niwl newydd a phaneli solar newydd yng Ngoleudy Trwyn Du, Penmon.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod cais Adeilad Rhestredig wedi cael ei gymeradwyo gan Swyddogion y Swyddogaeth Cynllunio o dan bwerau dirprwyedig er ei fod wedi cael ei alw i mewn gan ddau Aelod Lleol yn wreiddiol. Er bod un o’r Aelodau wedi cytuno i dynnu’r cais galw i mewn yn ôl, ni ofynnwyd i’r Aelod arall dynnu ei gais yn ôl a chafodd y cais ei gymeradwyo gan Swyddogion o dan bwerau dirprwyedig ar 15 Ebrill, 2020 a chyhoeddwyd yr hysbysiad o benderfyniad ar yr un diwrnod. Ar ôl darganfod y camgymeriad gwnaed cais ôl-weithredol ar 4 Mai, 2020 i’r Aelod Lleol arall ond cafodd ei wrthod. Cadarnhaodd cyngor cyfreithiol fod y penderfyniad yn sefyll oni bai ei fod yn cael ei herio a’i wrthdroi yn y Llys.

 

Yn dilyn hynny, cynhaliwyd adolygiad o weithdrefnau galw i mewn ac mae’r adroddiad yn cynnwys crynodeb o’r canfyddiadau. Cynhaliwyd archwiliad hefyd o geisiadau galw i mewn yn ystod y 12 mis diwethaf a ddatgelodd nad oedd unrhyw geisiadau eraill a alwyd i mewn wedi cael eu penderfynu o dan bwerau dirprwyedig heb gael trafodaeth ymlaen llaw gyda’r Aelodau Lleol a’u cytundeb. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn awgrymu bod y methiant i ymateb i gais galw i mewn yr Aelod Lleol wedi digwydd oherwydd camgymeriad dynol. Er mwyn gwella cadernid y prosesau fel nad yw hyn yn digwydd eto, gweithredwyd y camau a restrir yn y tabl a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’i gynnwys, er gwybodaeth.