Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddorb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 438 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 5 Awst, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Awst, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim ymweliadau safle wedi eu cynnal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd sylwadau gan yr asiant mewn perthynas ag eitem 7.1 ac fe’u darllenwyd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 643 KB

7.1 – 19C1231 - Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol. Yn y cyfarfod ar 8 Ionawr, 2020 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais cyn dod i benderfyniad ar y cais. Ymwelwyd â’r safle ar 22 Ionawr, 2020.

 

Adroddwyd fod Cadnant Planning, asiant yr ymgeisydd, wedi anfon llythyr. Darllenwyd y llythyr yn ystod y cyfarfod fel a ganlyn:-

 

‘Mae’r datblygiad arfaethedig ar gyfer codi tri deg chwech o dai, gan gynnwys pedwar tŷ fforddiadwy, ar safle a ddynodwyd ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLLC). Mae dynodiad yn y CDLLC ar gyfer 56 o dai ar y safle mewn gwirionedd. Mae gofynion Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS), gofynion mannau agored, yr angen am dirlunio strategol a gwelliannau biomrywiaeth, ynghyd â siâp afreolaidd y safle, yn golygu fod nifer y tai a gynigir wedi cael ei ostwng ac mae’n is na’r nifer a ragwelwyd yn y CDLLC. Wedi dweud hynny, mae’r safle’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r cyflenwad o dai yn ogystal â lleddfu pryderon am effaith traffig yn sylweddol.

 

Bu trafodaethau helaeth gyda swyddogion ac ymgyngoreion allanol i sicrhau fod holl agweddau’r datblygiad hwn yn dderbyniol. Fodd bynnag, hyd yn ddiweddar bu anghytundeb llwyr ynghylch effaith traffig. Mae eich adroddiad ysgrifenedig yn argymell gwrthod y cais fel y mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd ar y sail y “byddai’r datblygiad arfaethedig yn ychwanegu at yr oedi a’r tagfeydd sydd eisoes yn bodoli ar ran ogleddol Ffordd Porthdafarch rhwng cyffordd Tan yr Efail a Ffordd Kingsland, fyddai’n andwyol i lif rhydd cerbydau a diogelwch ffyrdd yn y lleoliad hwn.” Fodd bynnag, mae trafodaethau wedi parhau gyda’r ymgeisydd ac mae’n barod i weithio gyda’r Cyngor i geisio datrys y problemau presennol ynghylch diogelwch ffyrdd ac ymddengys fod gennym ddatrysiad sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr yn awr.

 

Byddai’r Cyngor wedi cynnal asesiad o ba mor debygol yw’r safle o gael ei gyflawni, capasiti’r rhwydwaith ffyrdd a materion ynghylch diogelwch ffyrdd cyn ei ddynodi yn y CDLLC ac ni chodwyd unrhyw bryderon bryd hynny. Cydnabyddir hyn yn yr adroddiad i’r pwyllgor cynllunio - yn amlwg penderfynwyd fod modd cyflawni’r safle pan gafodd ei gynnwys yn y CDLLC a chadarnhawyd y sefyllfa honno gan yr Archwiliad Cyhoeddus. Bryd hynny, fel yn awr, ni fyddai unrhyw ffordd arall o gael mynediad i’r safle heblaw am ar hyd Ffordd Kingsland a Ffordd Porthdafarch.

 

Ein barn ni, a barn yr Ymgynghorwyr Trafnidiaeth arbenigol yw y byddai’r datblygiad yn dderbyniol heb unrhyw fesurau lliniaru. Daw asesiad trafnidiaeth y Cyngor ei hun i’r casgliad na fyddai disgwyl i’r cynnydd a ragwelir mewn traffig o’r datblygiad arfaethedig greu problem diogelwch ffyrdd difrifol. Fodd bynnag, mae’r ymgeisydd wedi cytuno i ariannu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a rhai mesurau gwella i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 170 KB

10.1 –VAR/2020/43 – Tyddyn Llywarch, Llanddaniel

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MhDdFUAV/var202043?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 VAR/2020/43 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (08) (Cynllun draenio) (09) (Cynllun rheoli traffic adeiladu) (12) (Cofnod ffotograffig) (13) (Trwydded rhywogaeth a warchodir) o ganiatâd cynllunio rhif 21C171 (Trosi adeilad allanol fewn i 4 annedd) er mwyn galluogi cyflwyno manylion ar ôl i'r datblygiad gychwyn yn Nhyddyn Llywarch, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i’r polisi datblygu ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn groes i bolisi TAI 7 (Trosi Adeiladau Traddodiadol yng Nghefn Gwlad Agored i Ddefnydd Preswyl) y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae’r cais ar gyfer trosi’r adeilad yn 4 annedd marchnad agored, fel y cymeradwywyd yn 2016. Dywedodd fod gwaith wedi cychwyn ar y safle cyn cyflwyno gwybodaeth dan yr amodau a osodwyd ar y caniatâd. Fodd bynnag, mewn perthynas â’r cais hwn, derbyniwyd y wybodaeth angenrheidiol gan yr ymgeisydd erbyn hyn ynghylch draenio, cynllun rheoli traffig, cofnod ffotograffig a thrwydded rhywogaeth a warchodir. Nodwyd nad yw’r Adran Ddraenio wedi ymateb eto ond mae’r system ddraenio arfaethedig yn cysylltu â’r garthffos gyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi’r drwydded rhywogaeth a warchodir ac mae’r Adran Briffyrdd yn fodlon â’r cynllun rheoli traffig. Er na dderbyniwyd ymateb ynghylch y cofnod ffotograffig hyd yma, ni ragwelir y bydd unrhyw reswm dros wrthwynebu’r cofnod ffotograffig gan iddo gael ei greu cyn i unrhyw waith gychwyn ar y safle. Ychwanegodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, gan fod caniatâd cynllunio 21C171 wedi cael ei weithredu’n gyfreithlon a bod sefyllfa wrth gefn yn bodoli, ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol, er gwaethaf darpariaethau polisi TAI 7, ac yn amodol i dderbyn sylwadau gan yr ymgyngoreion statudol sydd eto i ymateb.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 HHP/2020/114 – Cais llawn ar gyfer dymchwel estyniad cefn presennol ac adeiladu estyniad cefn newydd ynghyd â gwaith addasu ac ehangu yn 23 Craig Y Don, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi cael ei gyflwyno gan yr awdurdod lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer dymchwel estyniad cefn presennol ac adeiladau allan er mwyn adeiladu estyniad cefn newydd i gynnwys ystafell wely ac ystafell ymolchi. Nid ystyrir y byddai effaith ar fwynderau eiddo cyfagos a’r argymhelliad oedd cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.