Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd John Griffith ddatgan diddordeb personol yng nghais 6.1 a chais 11.1.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 478 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod rhithiol blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021 yn amodol ar y gwelliant ar dudalen 5 – cais 7.2 – cyfeiriodd y Cynghorydd  K P Hughes ....... Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gan y Cyngor hwn ac ni fydd cyfleoedd i adolygu'r cynllun yn bosibl am nifer o flynyddoedd …’:-

 

·         I ddileu'r geiriad '......... nifer o flynyddoedd'

·        I gynnwys '..... cyn belled â gwneud newidiadau i'r cynllun nid ydym wedi cyrraedd y cam i wneud hynny'.

 

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw ymweliadau safle yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus yn bresennol mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.3.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  FPL/2020/247 – Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Ystâd Y Bryn, Llanfaethlu

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol yn y cais hwn ni chymerodd y Cynghorydd John Griffith ran yn y drafodaeth na phleidleisio maes o law.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ar leoliad a natur y cais, argymhellwyd ymweld â safle'r cais.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â'r argymhelliad yn adroddiad y Swyddog.

7.

Cesiadau'n Codi pdf eicon PDF 916 KB

7.1 – FPL/2020/195 – Caffi Sea Shanty, Lon St Ffraid, Bae Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Mj7sXUAR/fpl2020195?language=cy

 

7.2 – FPL/2019/217 – Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000JsykpUAB/fpl2019217?language=cy

 

7.3 – VAR/2020/66 – Yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAksnUAD/var202066?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2020/195 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu gan gynnwys ardal wedi'i decio, gwaith cysylltiedig a mesurau lliniaru yng Nghaffi Sea Shanty, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir sy'n eiddo i'r Cyngor. 

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Philip Brown (ymgeisydd) mai’r elfen sydd ychydig yn ddadleuol ynglŷn â’r cynnig yw’r cais i ymestyn yr ardal awyr agored dri medr i'r gorllewin. Nododd y byddai'n canolbwyntio ar hynny a gobeithio y byddai'n rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor:-

 

1.            Bod yr ardal wedi’i decio sy’n cael ei hymestyn yn gymedrol ac yn rhesymegol, mae'n fater o gwblhau yn hytrach nag ymestyn. Mae'n golygu ein bod yn adfer rhywfaint (ond nid y cyfan o bell ffordd ) o'r capasiti rydym wedi'i golli drwy osod byrddau’n bellach oddi wrth ei gilydd.

2.            Mae'r rhan a ddefnyddir o'r twyni tywod mor fach fel ei fod yn dechnegol yn hytrach na ffisegol. Dim ond 2.8 metr ciwbig o dywod pridd y bydd angen ei dynnu â llaw a bydd yn cael ei adleoli ar ochr y twyni sydd wedi erydu.

3.            Mae'r gwaith adeiladu'n cael ei wneud yn gyfan gwbl o bren heb ei beintio. Ni ddefnyddir unrhyw goncrit na cherrig o unrhyw fath fel y bydd modd newid y cynllun i’r cyflwr gwreiddiol unrhyw bryd heb unrhyw effaith.

4.            Bydd modd gosod pum bwrdd newydd ar gyfer pedwar, ac un bwrdd newydd ar gyfer chwech yn yr ardal newydd. Ychwanegiad cymedrol ond defnyddiol iawn i'r cyfleusterau a gynigiwn a lle newydd pleserus a chysgodol i'n cwsmeriaid eistedd yn ddiogel.

5.            Bydd y cynllun yn defnyddio stribed 3m o dir blêr nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Bydd yn troi llwybr mynediad bengaead at wasanaeth yn ardal awyr agored daclus a chwaethus sy'n gweddu i'w hamgylchedd. Mae ein hadeilad presennol yn dangos ein harbenigedd yn hyn o beth.

6.            Yn olaf, rwy’n awyddus i’ch sicrhau NAD 'troed yn y drws' yw hwn. Ni fyddwn yn dod ar eich gofyn ymhen ychydig flynyddoedd yn chwilio am 3m arall. Byddai gwneud hynny'n amhriodol ym mhob agwedd. Nid oes neb yn deall hyn yn fwy na mi.

 

Nid oes rhaid i ni ddweud wrthych ba mor arw y mae ein diwydiant a'n gwlad wedi cael eu heffeithio gan Covid. Ers mis Mawrth y llynedd, bu’r Sea Shanty yn masnachu am saith wythnos yn unig. Rydym wedi benthyca'n helaeth i gadw i fynd a bydd yn rhaid inni barhau i gau am lawer hirach na'r disgwyl yn wreiddiol. Nid oes yr un o'n 71 aelod o staff wedi cael eu diswyddo a gyda'ch cymorth chi, ni fydd hynny’n digwydd. Bydd y cynigion hyn yn ein helpu i ad-dalu benthyciadau, cadw swyddi, dyma ein ffordd fach ni o helpu i ailadeiladu'r economi leol ac ail-lenwi’r coffrau cyhoeddus gwag. Mae'r cynllun o fudd i bawb ac am y rhesymau hyn, gofynnwn am eich cymeradwyaeth ar gyfer y cynllun datblygu economaidd mwyaf rhesymegol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a

Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a

Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w ystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  FPL/2021/7 – Cais llawn ar gyfer cadw a chwblhau’r sied amaethyddol ynghyd â gosod ffos gerrig ar dir yn Prysan Fawr, Bodedern

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 o'r Cyfansoddiad.  Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol yn y cais hwn ni chymerodd y CynghoryddJohn Griffith ran yn y drafodaeth na phleidleisio maes o law.

 

Gwnaed cais gan y Cynghorydd K P Hughes ac aelod lleol i ymweld â safle'r cais fel y gall y Pwyllgor weld y safle a'r effaith ar Adeiladau Rhestredig cyfagos gerllaw. Eiliodd y Cynghorydd  Robin Williams y cynnig i drefnu ymweliad safle.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau sydd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 682 KB

12.1 – FPL/2021/1- Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCVUsUAP/fpl20211?language=cy

 

12.2 – LBC/2021/1- Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCWppUAH/lbc20211?language=cy

 

12.3 – FPL/2020/164 – Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpVUAV/fpl2020164?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2021/1 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad rhestredig i fod yn 4 fflat llety cymdeithasol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau ym Mhlas Alltran, 3 Turkey Shore Road, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi'i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i adnewyddu'r adeilad presennol yn 4 fflat llety cymdeithasol mewn Adeilad Rhestredig Gradd II.  Mae'r adeilad wedi bod yn wag ac nid yw wedi cael ei ddefnyddio ers nifer o flynyddoedd.  Mae lleoliad yr adeilad o fewn safle amlwg ger porthladd Caergybi.  Nododd fod un llythyr yn gwrthwynebu'r cais wedi dod i lawr ond mae'n dderbyniol o fewn ei gyd-destun ac mae'n dderbyniol i Gyngor Tref Caergybi.  Fodd bynnag, mae'r safle yn rhannol o fewn parth C2 lle nad yw creu unedau preswyl newydd, neu gynnydd yn y ddarpariaeth o unedau preswyl, yn dderbyniol yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi gwrthwynebu'r cais ac mae trafodaethau'n parhau ynglŷn â’r cais. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach mai creu 4 fflat yw'r ddarpariaeth leiaf bosibl yn yr adeilad. Ystyrir bod hwn yn gyfle unigryw i adfer yr adeilad.  Ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol yn amodol ar drafodaethau ffafriol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn lliniaru cynigion cyn rhoi caniatâd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fod angen dod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd ond mae pryderon ynglŷn â thraffig trwm ger y safle. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes fod hwn yn adeilad unigryw a bod angen ei adnewyddu. Cynigiodd y Cynghorydd  Haynes y dylid caniatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau sydd yn yr adroddiad ysgrifenedig unwaith y cytunwyd ar fesurau lliniaru derbyniol i ddelio â gwrthwynebiad Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

12.2  LBC/2021/1 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer addasu adeilad rhestredig sydd wedi’i adael i fod yn 4 fflat llety cymdeithasol, dymchwel rhan o’r adeilad a chodi estyniad yn ei le ynghyd â gwaith allanol a mewnol ym Mhlas Alltran, 3 Turkey Shore Road, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi'i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig gan mai'r awdurdod lleol yw'r ymgeisydd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cyfeirio'r cais at Lywodraeth Cymru am Ganiatâd Adeilad Rhestredig.

 

12.3  FPL/2020/164 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau ynghyd ag addasu ac ehangu ym Mwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Rhys Davies (asiant yr ymgeisydd) fod y cais hwn yn ymwneud â newid defnydd ar gyfer addasu adeilad allanol yn uned wyliau ynghyd ag addasu ac ehangu yn Lleiniog, Penmon, Biwmares.

 

Dywed y pwyllgor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a

Gorchmynion.