Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Yn absenoldeb yr Is-Gadeirydd, etholwyd y Cynghorydd Robin Williams i wasanaethu fel Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor yn unig.

 

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Richard Owain Jones, Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd John Griffith  mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.3 a 12.2 ar y rhaglen.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Kenneth Hughes mewn perthynas â chais 12.2 ar y rhaglen.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 520 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 244 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymwelidau safle rhithiol a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau rhithwir â safleoedd a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar ddiwygio'r rhestr o'r rheini a oedd yn bresennol  i gynnwys y Cynghorydd Eric Jones.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd dau o siaradwyr cyhoeddus a oedd wedi cofrestru i siarad mewn perthynas â chais  12.1.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd yr un cais o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 753 KB

7.1  FPL/2021/7 – Prysan Fawr, Bodedern

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCZRtUAP/fpl20217?language=cy

 

7.2  FPL/2020/164 – Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpVUAV/fpl2020164?language=cy

 

7.3  FPL/2020/247 – Stad Y Bryn, Llanfaethlu

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NB0iuUAD/fpl2020247?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/7 – Cais llawn i gadw a chwblhau'r sied amaethyddol ynghyd â gosod ffos gerrig ar dir yn Prysan Fawr, Bodedern.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” fel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 17 Mawrth, 2021.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, nid oedd y Cynghorydd John Griffith yn bresennol ar gyfer y drafodaeth na'r bleidleisio arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn gais ôl-weithredol i gadw a chwblhau'r sied amaethyddol sydd wedi'i chodi ar y tir, ynghyd â gosod ffos gerrig. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, roedd un llythyr gyda sylwadau wedi'i dderbyn sy'n codi'r materion sydd yn cael sylw yn yr adroddiad. Mae'r adeilad sy'n destun y cais wedi'i godi’n rhannol y tu ôl i'r Adeiladau Rhestredig Gradd II sy'n rhan o grŵp fferm cyflawn gyda'r eiddo, ac er gwaethaf pryderon cychwynnol am yr effaith ar yr adeiladau rhestredig oherwydd lliw'r cladin ar yr adeilad, mae Ymgynghorydd Treftadaeth y Cyngor wedi cadarnhau ers hynny bod y cynllun yn dderbyniol yn dilyn diwygiadau a fydd yn gweld yr adeilad yn cael ei orffen mewn cladin allanol llwyd yn hytrach na gwyrdd a fydd yn lleihau ei effaith yn erbyn yr adeilad rhestredig. Nid yw'r Ymgynghorydd Tirwedd wedi codi unrhyw wrthwynebiadau gan ei fod yn ystyried y bydd lleoliad a maint yr adeilad, ynghyd â'r defnyddiau i'w adeiladu, yn sicrhau math o ddatblygiad sy'n cydweddu'n dda â'r dirwedd tra hefyd yn gydnaws â'r adeiladau rhestredig sydd gyferbyn â safle'r cais. Yn amodol ar ddefnyddio'r deunydd cladin allanol fel yr argymhellwyd gan yr Ymgynghorydd Treftadaeth, mae'r argymhelliad felly yn un o gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cysylltwyd ag ef mewn perthynas â phryderon ynghylch agosrwydd y sied amaethyddol at yr adeiladau rhestredig a'i fod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor am gytuno i'r cais am ymweliad rhithwir â'r safle gan ei fod yn credu ei fod yn briodol - oherwydd bod hwn yn gais ôl-weithredol a bod y sied wedi'i chodi'n rhannol - i'r Aelodau gael golwg ar safle'r cais drostynt eu hunain. Ar ôl gweld y safle a'r cynnig yn yr ymweliad rhithwir, 'roedd yn cytuno ag asesiad y Swyddog, ac er bod y sied yn agosach at yr adeiladau rhestredig nag y byddai wedi bod efallai pe dilynwyd  y broses gynllunio gywir, nid oedd yn credu bod ei heffeithiau yn cyfiawnhau gwrthod y cais ac felly roedd yn hapus i gynnig cymeradwyo'r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

 

7.2 FPL/2020/164 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd yr un cais o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd yr un cais o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 681 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1    VAR/2020/57 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (06) (Manylion Draenio), amod (09)(Newidiadau Strwythurol) ac amod (10) (Datblygiad i'w wneud yn gwbl unol â'r cynlluniau / dogfennau a dderbyniwyd) o ganiatâd cynllunio rhif 28C202C: Cais llawn i newid defnydd stabl i annedd, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc carthion er mwyn cyflwyno gwybodaeth draenio ar ôl cychwyn gwaith a newidiadau i'r cynlluniau oedd eisoes wedi eu caniatáu yn Newydd Bach, Llanfaelog, Croes

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i newid amodau caniatâd a roddwyd eisoes i drosi stabl yn annedd er mwyn caniatáu cyflwyno manylion draenio ar ôl i'r gwaith ddechrau, newidiadau strwythurol pellach a diwygiadau i'r estyniad. Mae gwaith ailadeiladu ychwanegol wedi'i wneud o amgylch rhai o'r agoriadau ffenestri na chawsant eu nodi o'r blaen fel rhai i'w hailadeiladu yn yr arolwg strwythurol gwreiddiol; diweddarwyd yr arolwg strwythurol i adlewyrchu'r adeilad fel y mae ar hyn o bryd. Mae'r estyniad sydd wedi'i adeiladu hefyd yn wahanol i'r un a gymeradwywyd fel y mae'r adroddiad yn ei nodi. Fodd bynnag, ystyrir bod y newidiadau yn dderbyniol ac na fyddent yn cael dim mwy o effaith ar eiddo preswyl cyfagos na'r cynllun a gymeradwywyd. Er bod y cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu ar y Cyd Lleol, y sefyllfa wrth gefn yw bod gwaith wedi cychwyn dan y caniatâd a roddwyd eisoes a bod hynny felly wedi  diogelu'r caniatâd ac, o gofio bod y diwygiadau i'r cynllun yn dderbyniol, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

 

10.2    VAR/2021/8 – Cais o dan Adran 73a i ddiwygio amod (16) (Cynlluniau wedi’u cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 45C133B (codi 3 annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau) er mwyn diwygio'r cynlluniau ar dir ger Bryn Felin, Niwbwrch. 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu'n groes i'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y  mae swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei  gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i amrywio'r amodau cynllunio er mwyn diwygio'r cynlluniau ar gyfer plot 3 i droi'r garej ar y llawr gwaelod yn ystafell wely a gosod 2 ffenestr ychwanegol i astudfa ar y llawr gwaelod ac ystafell wely ar y llawr cyntaf. Mae'r rhan fwyaf o safle'r cais y tu allan i ffin anheddiad Niwbwrch ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 314 KB

11.1 HHP/2021/12 – Llain Farged, Ffordd Eleth, Moelfre

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCX1UUAX/hhp202112?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1    HHP/2021/12 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Llain Farged, Ffordd Eleth, Moelfre

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan swyddog perthnasol sy'n gweithio yn yr Awdurdod Lleol. Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i godi estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo i ddarparu lle ar gyfer ystafell haul ynghyd â chodi estyniad ochr deulawr. Mae'r safle wedi'i leoli yng nghefn gwlad agored a chan ei fod yn gymharol ynysig ei natur nid ystyrir y bydd y cynnig yn cael unrhyw effaith ar fwynderau preswyl na'r ardal ehangach. Fel rhan o ddatblygiad y safle bydd y llwybr troed cyhoeddus yn cael ei wyro ac er bod deiseb yn gwrthwynebu ac arni 5 llofnod wedi'i derbyn sy'n gwrthwynebu'r cynllun ar y sail hon, nid yw gwyro'r llwybr troed yn rhan o'r cais cynllunio a rhoddwyd caniatâd eisoes i'r gwyriad gan yr Awdurdod Priffyrdd o dan drefn ar wahân. Gan na chodwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r estyniadau arfaethedig, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 FPL/2021/10 – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl i Aelod Lleol ei alw i mewn oherwydd pryderon yn y gymuned leol ynghylch maint, lleoliad a dyluniad y garej.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi, Aelod Lleol, i'r Pwyllgor gynnal ymweliad rhithwir o safle'r cais i gael gwell syniad o'r datblygiad yn ei gyd-destun.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad rhithwir â'r safle.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 MAO/2021/1 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 34C304K/1/EIA/ECON er mwyn galluogi cychwyn gwaith ar blotiau ar wahân yn Safle B ar dir yng Ngholeg Menai, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan y bu  cais 35C304K/1/ EIA/ ECON yn destun Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ac fe'i penderfynwyd gan y Pwyllgor.

 

Gan eu bod wedi datgan diddordeb yn y cais, nid oedd y Cynghorwyr John Griffith a Kenneth Hughes yn bresennol ar gyfer y drafodaeth na'r bleidlais arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y rhoddwyd caniatâd amlinellol yn 2017 ar gyfer 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod, ynghyd â pharcio a gwaith cysylltiedig, a chaniatâd llawn ar gyfer canolfan beirianneg newydd, maes parcio, a man chwarae i blant a gwaith cysylltiedig fel rhan o gais hybrid. Dynodwyd y rhan honno o'r safle y rhoddwyd caniatâd amlinellol iddi fel Safle B ac roedd yn cynnwys pum plot  ar wahân fel rhan o'r uwchgynllun. Mae'r ganolfan beirianneg newydd wedi'i chwblhau ers hynny ac mae dau gais materion a gadwyd yn ôl sy'n ymwneud ag elfen breswyl y caniatâd amlinellol wedi'u cyflwyno ac yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Mae geiriad yr amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd gwreiddiol yn cyplysu'r holl blotiau ar Safle B a thrwy hynny'n cyfyngu ar y gallu symud ymlaen i wneud gwaith ar rai plotiau cyn gwneud gwaith ar blotiau eraill neu I wneud gwaith ar y plotiau ar wahanol adegau.  Ers rhoi'r caniatâd mae gan y plotiau bellach wahanol berchnogion ac mae datblygwyr eisiau dechrau gweithio ar wahanol adegau. Mae'r cais yn ceisio newid geiriad rhai o'r amodau ar y caniatâd amlinellol er mwyn iddynt fod yn berthnasol i blotiau penodol ac I ganiatáu i waith symud ymlaen ar rai plotiau ar adegau gwahanol i waith ar blotiau eraill. Nid yw'r diwygiadau yn golygu unrhyw newidiadau i sylwedd yr amodau nac i'r manylion y mae'n ofynnol eu cyflwyno ac felly fe'u hystyrir yn welliannau ansylweddol.

 

Amlygodd y Swyddog y cynigir mân newid pellach i eiriad amod (37) sef disodli'r cyfeiriad at “bob plot" a rhoi "plot perthnasolyn ei le.  Gyda'r newid ychwanegol hwn, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd yr un cais o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.