Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel a nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddidordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 319 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Mawrth, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020, fel cofnod cywir.

 

4.

I Ddirprwyo i'r Prif Swyddog Cynllunio hawliau'r Pwyllgor i wneud penderfyniad dros gyfnod Pla Covid-19 pdf eicon PDF 53 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn sgîl yr argyfwng iechyd cyhoeddus a achosir gan y coronafeirws a’r cyfyngiadau ar gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, mae dal yr angen i geisio cynnal y gwasanaeth cynllunio a gwneud penderfyniadau ar faterion cynllunio. Mae angen sefydlu dirprwyaeth er mwyn rhoi pwerau’r Pwyllgor i’r Prif Swyddog Cynllunio er mwyn gallu gwneud penderfyniadau yn ystod cyfnod y pandemig hwn ac yn ystod unrhyw ail don o’r pandemig yn y dyfodol, gyda’r posibilrwydd o salwch neu adleoli staff allweddol o’r Gwasanaeth Cynllunio, a fyddai’n ei gwneud yn anodd cynnal gwasanaeth cynllunio llawn yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y ddirprwyaeth a gynigir yn galluogi Swyddogion i wneud penderyniadau ar geisiadau cynllunio y byddai’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi eu penderfynu yn y gorffennol. Byddai hyn hefyd yn cynnwys adegau pan na fyddai’n bosibl galw cyfarfod o’r Pwyllgor h.y. o ganlyniad i fethu â chael cworwm oherwydd salwch neu ddiffyg argaeledd Aelodau’r pwyllgor. Nododd hefyd y byddai’r ddirprwyaeth arfaethedig yn cael ei adolygu yn fisol gan y Prif Swyddog Cynllunio mewn ymgynghoriad â’r Arweinyddion Grwpiau ac Uwch Swyddogion er mwyn sicrhau bod y ddirprwyaeth yn cael ei defnyddio’n rhesymol ac er mwyn gweld sut mae’n cael ei weinyddu a pha mor effeithiol ydyw. Mae’r ddirprwyaeth arfaethedig hefyd yn amddiffyn hawliau aelodau lleol, sydd wedi galw cais i mewn i Bwyllgor, o ran eu bod yn cael cyfle rhesymol i wneud sylwadau penodol yn ysgrifenedig erbyn dyddiad penodol cyn y gall y Prif Swyddog Cynllunio wneud penderfyniad ar y cais hwnnw.  

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ymhellach yn lle siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor bydd y Prif Swyddog Cynllunio yn hysbysu’r aelodau o’r cyhoedd sydd wedi gwneud sylwadau ar gais o’i fwriad i’w ddyfarnu o dan yr hawl hwn ac yn gwahodd yr aelodau hynny o’r cyhoedd i wneud sylwadau ysgrifenedig pellach cyn y gwneir penderfyniad. Er bod hynny eisoes o fewn Cyfansoddiad y Cyngor, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, lle mae gan y Prif Swyddog Cynllunio yr hawl i ddyfarnu cais o dan y dirprwyiaeth yma fe all, fodd bynnag ag am unrhyw reswm, ddewis peidio ag ymarfer yr hawl yna ac mewn achosion o’r fath bydd rhaid dyfarnu’r cais gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Tra nad yw’r ddirprwyaeth arfaethedig yn atal y pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion rhag cyfarfod, mae’n rhoi hyblygrwydd er mwyn sicrhau bod darpariaeth yn ei lle er mwyn galluogi’r Gwasanaeth Cynllunio i barhau i brosesu ceisiadau cynllunio pan efallai y bydd y gwasanaeth o dan bwysau neu os nad yw’n bosibl trefnu cyfarfod o’r pwyllgor am ba bynnag reswm. Nodwyd ymhellach y byddai Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor yn cael eu hysbysu mewn modd amserol o unrhyw benderfyniadau a wneir o dan y ddirprwyaeth yma.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafyd Roeberts ei fod yn gwerthfawrogi ei bod wedi bod yn bosibl trefnu’r cyfarfod hwn yn rhithiol a holodd a oedd modd i gyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gael eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.