Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddrodeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 173 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Ebrill, 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Ymweliadau Safle Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim ymweliadau safle.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 7.1 FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newydd defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar tir yn Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran.
Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 10.1 Cais llawn i drosi 33 llain carafannau teithiol tymhorol i 18 o garafanau gwyliau deithiol i leoli 18 carafán statig, gosod pecyn trin carthffosiaeth ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Tŷ Hen Caravan Park, Rhosneigr
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
12.1 – FPL/2023/118 – Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy
12.2 – FPL/2023/328 – Capel Jerusalem, Llangoed
12.3 – FPL/2024/28 - Maes Chwarae Gwalchmai, Maes Meurig, Gwalchmai
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 12.1 FPL/2023/118 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i leoli 55 o garafanau/cabanau gwyliau sefydlog, newid defnydd yr adeilad allanol i lle golchi dillad, derbynfa a swyddfa ynghyd a adeiladu ffyrdd newydd ar y safle, codi adeilad trin carthffosiaeth, adeiladu maes parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled a gwaith cysylltiedig yn Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
12.2 FPL/2023/328 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y capel i fod yn 3 uned gwyliau ynghyd ag addasu ac ehangu yn Capel Jerusalem, Llangoed.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
12.3 FPL/2024/28 – Cais llawn i leoli dau gynhwysydd i'w defnyddio fel hwb cymunedol yn Maes Chwarae Gwalchmai, Maes Meurig, Gwalchmai
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 13.1 DAG/2024/4 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer storio peiriannau ar dir yn Marian, Llanddeusant
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd. |