Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Virtual Meeting (at present members of the public are unable to attend)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd fel a ganlyn :-
· Cofnodion diwygiedig a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2020. · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol ar gyfer eu cadarnhau:-
· Cadarnhawyd cofnodion diwygiedig y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2020.
· Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2021 yn amodol ar y canlynol:-
Holodd y Cynghorydd K P Hughes am ganlyniad ei ymholiad mewn perthynas â chofnodion. Ymatebodd y Cadeirydd gan nodi ei fod wedi trafod y mater â’r Prif Weithredwr, y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a'i fod wedi’i gynghori y dylai’r Pwyllgor drafod y materion sydd ar yr Agenda a bod cofnodion yn adlewyrchu’r gweithredoedd sy’n codi.
Roedd y Cynghorydd Aled M Jones yn ystyried y dylid hefyd cofnodi’r materion mwyaf sylweddol.
Nododd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, os oes gan unrhyw Aelod o’r Pwyllgor unrhyw bryderon mewn perthynas â’r cofnodion y dylent gysylltu â’r Cadeirydd yn y lle cyntaf er mwyn mynegi unrhyw bryderon o’r fath a hynny cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard A Dew fod y cofnodion yn gofnod cywir ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgs.
Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor drwy bleidlais mwyafrif y Pwyllgor fod y cofnodion yn gofnod cywir.
Nododd y Cynghorydd Aled M Jones a K P Hughes nad oeddent yn cytuno â barn y mwyafrif mewn perthynas â’r cofnodion.
|
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.
Cofnodion: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Adroddodd y Prif Weithredwr, yn unol ag Argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2021, yr hysbysebwyd y swydd hon ar sail barhaol.
Adroddodd y Prif Weithredwr, o ganlyniad i ddadansoddiad rhestr fer annibynnol, ei fod yn cael ei argymell bod cam nesaf y broses recriwtio yn mynd rhagddo a bod rhestr fer yn cael ei llunio. Cafodd ei argymell i’r Pwyllgor Penodiadau y dylid dilyn yr un broses a gafodd ei dilyn â nifer o benodiadau eraill diweddar sef proses tri cham o:-
• Gynnal cyfweliad proffesiynol rhwng y Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol. • Cyfweliad allanol gyda Gatenby Sanderson yn seiliedig ar broses brofi seicometrig • Cyfweliad Pwyllgor Penodiadau er mwyn gallu gwneud dewis yn dilyn rhoi ystyriaeth i adroddiad llafar ar y cyfweliad proffesiynol a’r broses brofi seicometrig.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gefnogi argymhelliad y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r rhestr fer ac i ddilyn y broses tri cham fel y nodwyd yn yr adroddiad i’r Pwyllgor mewn perthynas â’r mater.
|