Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 17 Chwefror, 2021. Cofnodion: Cadarnhawyd bod confodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror, 2021 yn gywir. |
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyflwynwyd 1 ymgeisydd ar y rhestr fer i’w ystyried gan y Pwyllgor Penodi fel unigolyn a allai gael ei benodi i rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cafwyd cyflwyniad gan yr ymgeisydd, ac atebodd gwestiynau ar y cyflwyniad ac wedyn gyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Darparwyd atborth gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar y broses asesu a oedd yn cynnwys profion seicometrig a chyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Fôn Roberts i’r swydd uchod. |