Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-
· 10 Mawrth, 2021 · 17 Mawrth, 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir:-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth, 2021. · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2021.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.
|
|
Apwyntio Staff Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd
Cyflwynwyd 3 ymgeisydd oddi ar y rhestr fer ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Penodiadau fel ymgeiswyr posibl ar gyfer y swydd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd. Tynnodd 1 ymgeisydd ei gais yn ôl cyn y cyfweliad.
Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad, fe wnaethant ateb cwestiynau ar y cyflwyniad ac yna buont ateb cyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Rhoddwyd adborth gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar y broses asesu a oedd yn cynnwys prawf seicometrig a chyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gan y Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Christian Branch i’r swydd uchod.
|